Gwnaed
23 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2008
Yn dod i rym
31 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 31 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall –
ystyr "defnydd cymunedol" ("community use") yw'r defnydd ar fangre ysgol (pan nad oes ei hangen ar yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol) at ddibenion elusennol gan ddisgyblion yn yr ysgol neu eu teuluoedd, neu bobl sy'n byw neu'n gweithio yn y gymdogaeth y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysg 2002;
ystyr "oriau ysgol" ("school hours") yw unrhyw bryd yn ystod sesiwn ysgol neu yn ystod toriad rhwng sesiynau ysgol ar yr un diwrnod;
ystyr "sesiwn ysgol" ("school session"), mewn perthynas ag unrhyw ysgol, yw sesiwn ysgol sy'n dechrau ac yn gorffen ar yr adegau y penderfynir arnynt o dro i dro yn yr ysgol honno yn unol ag adran 32 o'r Ddeddf.
3.–(1) Mae meddiannu a defnyddio mangre ysgol gymunedol neu fangre ysgol arbennig gymunedol neu fangre ysgol feithrin a gynhelir (yn ystod oriau ysgol a'r tu allan iddynt) o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn ddarostyngedig–
(a) i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod lleol o dan baragraff (2);
(b) i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth yr ymrwymwyd iddo gan y corff llywodraethu o dan reoliad 4; ac
(c) i unrhyw ofynion deddfiad ac eithrio'r Ddeddf neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf.
(2) Caiff yr awdurdod lleol roi unrhyw gyfarwyddiadau y gwelant yn dda ynghylch meddiannu a defnyddio mangre ysgol gymunedol neu fangre ysgol arbennig gymunedol neu fangre ysgol feithrin a gynhelir.
(3) Wrth reoli'r feddiannaeth a'r defnydd ar fangre'r ysgol y tu allan i oriau ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre honno ar gael at ddefnydd cymunedol.
4.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff corff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol neu unrhyw ysgol gymunedol arbennig neu unrhyw ysgol feithrin a gynhelir ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth ag unrhyw gorff neu berson os bwriad y corff neu'r person (neu un o'i fwriadau) wrth wneud hynny yw hyrwyddo defnydd cymunedol ar y cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol.
(2) Ni chaiff y corff llywodraethu ymrwymo i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth sy'n gwneud neu'n cynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol yn ystod oriau ysgol onid yw wedi sicrhau'n gyntaf gydsyniad yr awdurdod lleol â'r cytundeb i'r graddau y mae'n gwneud darpariaeth o'r fath.
(3) Cymerir bod cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn cynnwys y telerau canlynol, sef –
(a) bod rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r corff rheoli o unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i'r corff llywodraethu o dan reoliad 3(2);
(b) bod rhaid i'r corff rheoli, wrth arfer rheolaeth ar y defnydd o unrhyw fangre sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb –
(i) gwneud hynny'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau yr hysbysir y corff hwnnw ohonynt o dro i dro yn unol ag is-baragraff (a);
(ii) rhoi sylw i'r mater o ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre ar gael at ddefnydd cymunedol; ac
(c) os rhoddir hysbysiad rhesymol mewn ysgrifen gan y corff llywodraethu i'r corff rheoli bod angen rhesymol i'r fangre honno sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb ac sydd wedi'i phennu yn yr hysbysiad gael ei defnyddio gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol ar yr adegau a bennir felly, yna –
(i) bydd y defnydd ar y fangre benodedig ar yr adegau hynny o dan reolaeth y corff llywodraethu, a
(ii) yn unol â hynny, caniateir i'r fangre honno gael ei defnyddio ar yr adegau hynny gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad,
er y byddai'r defnydd ar y fangre honno ar yr adegau hynny, oni bai am y paragraff hwn, o dan reolaeth y corff rheoli.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn gwneud darpariaeth bendant i'r defnydd ar unrhyw fangre ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb fod yn achlysurol o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn hytrach na'r corff rheoli, o dan yr amgylchiadau, ar yr adegau neu at y dibenion y darperir ar eu cyfer gan neu o dan y cytundeb.
(5) Mewn achos o'r fath, nid oes gan is-baragraff (c) o baragraff (3) effaith mewn perthynas â'r cytundeb i drosglwyddo rheolaeth os oedd y corff llywodraethu, ar yr adeg yr ymrwymodd i'r cytundeb hwnnw, o'r farn y byddai'r ddarpariaeth bendant yn fwy ffafriol i fuddiannau'r ysgol na'r teler a fyddai fel arall wedi'i gynnwys yn rhinwedd yr is-baragraff hwnnw.
(6) Pan fo'r corff llywodraethu yn ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth, rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, fod y corff rheoli yn arfer rheolaeth yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau yr hysbysir y corff hwnnw ohonynt yn unol â pharagraff (3)(a).
(7) Yn y rheoliad hwn –
ystyr "y corff rheoli" ("the controlling body") yw'r corff neu'r personau (ac eithrio'r corff llywodraethu) sydd â rheolaeth ar y defnydd o'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol o dan y cytundeb i drosglwyddo rheolaeth sydd o dan sylw; ac
ystyr "cytundeb i drosglwyddo rheolaeth" ("transfer of control agreement") yw cytundeb sydd (yn ddarostyngedig i baragraff (3)) yn darparu bod y defnydd ar gymaint o fangre'r ysgol ag a bennir yn y cytundeb i fod o dan reolaeth y corff neu'r person a bennir felly ac ar yr adegau a bennir felly.
5.–(1) Mae meddiannu a defnyddio mangre ysgol sefydledig neu fangre ysgol arbennig sefydledig (yn ystod oriau ysgol a'r tu allan iddynt) o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn ddarostyngedig –
(a) i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth yr ymrwymwyd iddo gan y corff llywodraethu o dan reoliad 6;
(b) i unrhyw ofynion deddfiad ac eithrio'r Ddeddf neu reoliadau a wnaed odani.
(2) Wrth reoli'r feddiannaeth a'r defnydd ar fangre'r ysgol y tu allan i oriau'r ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre honno ar gael at ddefnydd cymunedol.
(3) Pan fo gan yr ysgol weithred ymddiriedaeth sy'n darparu i unrhyw berson ac eithrio'r corff llywodraethu gael hawl i reoli'r feddiannaeth a'r defnydd ar fangre'r ysgol i unrhyw raddau, yna, os yw'r defnydd ar y fangre honno, neu os byddai'r defnydd arno, o dan reolaeth person o'r fath ac i'r graddau y mae neu y byddai o dan ei reolaeth (gan anwybyddu unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth a wnaed o dan reoliad 6), bydd –
(a) y rheoliad hwn, a
(b) rheoliad 6,
yn cael effaith mewn perthynas â'r ysgol drwy roi cyfeiriadau at y person hwnnw yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu.
6.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff corff llywodraethu unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth ag unrhyw gorff neu berson os bwriad y corff neu'r person (neu os un o'i fwriadau) wrth wneud hynny yw hyrwyddo defnydd cymunedol ar y cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys hyd yn oed pan fo gan yr ysgol weithred ymddiriedaeth a fyddai (oni bai am y paragraff hwn) yn bendant neu'n ymhlyg yn rhagwahardd y corff llywodraethu rhag ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth â'r corff neu'r person o dan sylw neu rhag rhoi rheolaeth i'r corff rheoli o dan sylw.
(3) Serch hynny, ni chaiff y corff llywodraethu ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth onid yw'r defnydd y caniateir ei wneud o'r fangre o dan y cytundeb yn cydymffurfio ym mhob ffordd arall ag unrhyw ofynion, gwaharddiadau neu gyfyngiadau a osodir gan unrhyw weithred ymddiriedaeth a fyddai'n gymwys pe bai rheolaeth yn cael ei harfer gan y corff llywodraethu.
(4) Ni chaiff y corff llywodraethu ymrwymo i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth a hwnnw'n gytundeb sy'n gwneud neu sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol yn ystod oriau ysgol onid yw wedi sicrhau'n gyntaf gydsyniad Gweinidogion Cymru â'r cytundeb i'r graddau y mae'n gwneud darpariaeth o'r fath.
(5) Cymerir bod cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn cynnwys y telerau canlynol, sef –
(a) bod rhaid i'r corff rheoli, wrth arfer rheolaeth ar y defnydd o unrhyw fangre sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb, roi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre ar gael at ddefnydd cymunedol; a
(b) os rhoddir hysbysiad rhesymol mewn ysgrifen gan y corff llywodraethu i'r corff rheoli bod angen rhesymol i'r fangre honno sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb ac sydd wedi'i phennu yn yr hysbysiad gael ei defnyddio gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol ar yr adegau a bennir felly, yna –
(i) bydd y defnydd ar y fangre benodedig ar yr adegau hynny o dan reolaeth y corff llywodraethu, a
(ii) yn unol â hynny, caniateir i'r fangre honno gael ei defnyddio ar yr adegau hynny gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad,
er y byddai'r defnydd ar y fangre honno ar yr adegau hynny (oni bai am y paragraff hwn), o dan reolaeth y corff rheoli.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn gwneud darpariaeth bendant i'r defnydd ar unrhyw fangre ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb fod yn achlysurol o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn hytrach na'r corff rheoli, o dan yr amgylchiadau, ar yr adegau ac at y dibenion y darperir ar eu cyfer gan neu o dan y cytundeb.
(7) Mewn achos o'r fath, nid oes gan is-baragraff (b) o baragraff (5) effaith mewn perthynas â'r cytundeb i drosglwyddo rheolaeth os oedd y corff llywodraethu, ar yr adeg yr ymrwymodd i'r cytundeb hwnnw, o'r farn y byddai'r ddarpariaeth bendant yn fwy ffafriol i fuddiannau'r ysgol na'r teler a fyddai fel arall wedi'i gynnwys yn rhinwedd yr is-baragraff hwnnw.
(8) Yn y rheoliad hwn –
ystyr "y corff rheoli" ("the controlling body") yw'r corff neu'r person (ac eithrio'r corff llywodraethu) sydd â rheolaeth ar y defnydd o'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol o dan y cytundeb o dan sylw i drosglwyddo rheolaeth;
ystyr "cytundeb i drosglwyddo rheolaeth" ("transfer of control agreement") yw cytundeb sydd (yn ddarostyngedig i baragraff (5)) yn darparu bod y defnydd ar gymaint o fangre'r ysgol ag a bennir yn y cytundeb i fod o dan reolaeth y corff neu'r person a bennir felly ac ar yr adegau a bennir felly.
7.–(1) Mae meddiannu a defnyddio mangre ysgol wirfoddol (yn ystod oriau ysgol a'r tu allan iddynt) o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn ddarostyngedig –
(a) i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod lleol –
(i) (yn achos ysgol wirfoddol a reolir) o dan baragraff (2), neu
(ii) (yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir) o dan reoliad 9(3);
(b) i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth yr ymrwymwyd iddo gan y corff llywodraethu o dan reoliad 8; ac
(c) i unrhyw ofynion deddfiad ac eithrio'r Ddeddf neu reoliadau a wnaed odani.
(2) Caiff yr awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau ynghylch meddiannu a defnyddio mangre ysgol wirfoddol a reolir yn ôl yr hyn y gwelant yn dda (yn ddarostyngedig i reoliad 9(1) a (2)).
(3) Pan fo'r weithred ymddiriedaeth ar gyfer ysgol wirfoddol yn darparu i unrhyw berson ac eithrio'r corff llywodraethu gael hawl i reoli'r feddiannaeth a'r defnydd ar fangre'r ysgol i unrhyw raddau, yna, os yw'r defnydd ar y fangre honno, neu os byddai'r defnydd arno, o dan reolaeth person o'r fath ac i'r graddau y mae neu y byddai o dan ei reolaeth (gan anwybyddu unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth a wnaed o dan reoliad 8), bydd –
(a) y rheoliad hwn, a
(b) rheoliadau 8 a 9,
yn cael effaith mewn perthynas â'r ysgol drwy roi cyfeiriadau at y person hwnnw yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu.
8.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff corff llywodraethu unrhyw ysgol wirfoddol ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth ag unrhyw gorff neu berson os bwriad y corff neu'r person (neu os un o'i fwriadau) wrth wneud hynny yw hyrwyddo defnydd cymunedol ar y cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys hyd yn oed pe bai gweithred ymddiriedaeth yr ysgol (oni bai am y paragraff hwn) yn bendant neu'n ymhlyg yn rhagwahardd y corff llywodraethu rhag ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth â'r corff neu'r person o dan sylw neu rhag rhoi rheolaeth i'r corff rheoli o dan sylw.
(3) Serch hynny, ni chaiff y corff llywodraethu ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth onid yw'r defnydd y caniateir ei wneud o'r fangre o dan y cytundeb yn cydymffurfio ym mhob ffordd arall ag unrhyw ofynion, gwaharddiadau neu gyfyngiadau a osodir gan y weithred ymddiriedaeth a fyddai'n gymwys pe bai rheolaeth yn cael ei harfer gan y corff llywodraethu.
(4) Ni chaiff y corff llywodraethu ymrwymo i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth a hwnnw'n gytundeb sy'n gwneud neu'n cynnwys darpariaeth ar gyfer defnyddio'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol yn ystod oriau ysgol onid yw wedi sicrhau'n gyntaf gydsyniad yr awdurdod lleol â'r cytundeb i'r graddau y mae'n gwneud darpariaeth o'r fath.
(5) Cymerir bod cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn cynnwys y telerau canlynol, sef –
(a) bod rhaid i'r corff llywodraethu hysbysu'r corff rheoli –
(i) o unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd i'r corff llywodraethu o dan reoliad 7(2) (yn achos ysgol wirfoddol a reolir) neu reoliad 9(3) (yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir); a
(ii) o unrhyw benderfyniad a wnaed gan y llywodraethwyr sefydledig o dan reoliad 9(2) (yn achos ysgol wirfoddol a reolir);
(b) bod rhaid i'r corff rheoli, wrth arfer rheolaeth ar y defnydd o unrhyw fangre sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb –
(i) gwneud hynny'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau neu benderfyniadau yr hysbysir y corff hwnnw ohonynt o bryd i'w gilydd yn unol ag is-baragraff (a); a
(ii) rhoi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre ar gael at ddefnydd cymunedol;
(c) os rhoddir hysbysiad rhesymol mewn ysgrifen gan y corff llywodraethu i'r corff rheoli bod angen rhesymol i'r fangre honno sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb ac sydd wedi'i phennu yn yr hysbysiad gael ei defnyddio gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol ar yr adegau a bennir felly, yna –
(i) bydd y defnydd ar y fangre benodedig ar yr adegau hynny o dan reolaeth y corff llywodraethu, a
(ii) yn unol â hynny, caniateir i'r fangre honno gael ei defnyddio ar yr adegau hynny gan yr ysgol neu mewn cysylltiad â'r ysgol at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad,
er y byddai'r defnydd ar y fangre honno ar yr adegau hynny, oni bai am y paragraff hwn, o dan reolaeth y corff rheoli.
(6) Mae paragraff (7) yn gymwys pan fo cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn gwneud darpariaeth bendant i'r defnydd ar unrhyw fangre ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cytundeb fod yn achlysurol o dan reolaeth y corff llywodraethu, yn hytrach na'r corff rheoli, o dan yr amgylchiadau, ar yr adegau ac at y dibenion y darperir ar eu cyfer gan neu o dan y cytundeb.
(7) Mewn achos o'r fath, nid oes gan is-baragraff (c) o baragraff (5) effaith mewn perthynas â'r cytundeb i drosglwyddo rheolaeth os oedd y corff llywodraethu, ar yr adeg yr ymrwymodd i'r cytundeb hwnnw, o'r farn y byddai'r ddarpariaeth bendant yn fwy ffafriol i fuddiannau'r ysgol na'r teler a fyddai fel arall wedi'i gynnwys yn rhinwedd yr is-baragraff hwnnw.
(8) Pan fo'r corff llywodraethu yn ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth, rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, fod y corff rheoli yn arfer rheolaeth yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau neu benderfyniadau yr hysbysir y corff hwnnw ohonynt yn unol â pharagraff (5)(a).
(9) Yn y rheoliad hwn –
ystyr "y corff rheoli" ("the controlling body") yw'r corff neu'r person (ac eithrio'r corff llywodraethu) sydd â rheolaeth ar y defnydd o'r cyfan neu unrhyw ran o fangre'r ysgol o dan y cytundeb o dan sylw i drosglwyddo rheolaeth;
ystyr "cytundeb i drosglwyddo rheolaeth" ("transfer of control agreement") yw cytundeb sydd (yn ddarostyngedig i baragraff (5)) yn darparu bod y defnydd ar gymaint o fangre'r ysgol ag a bennir yn y cytundeb i fod o dan reolaeth y corff neu'r person a bennir felly ac ar yr adegau a bennir felly.
9.–(1) Caiff y corff llywodraethu benderfynu'r defnydd a wneir o fangre ysgol wirfoddol a reolir (neu unrhyw ran o'r fangre honno) ar Sadyrnau pan nad oes ei hangen –
(a) at ddibenion yr ysgol, neu
(b) at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig ag addysg neu â lles pobl ifanc a hwnnw'n ddiben y mae'r awdurdod lleol yn dymuno darparu llety ar ei gyfer yn y fangre (neu yn y rhan o dan sylw).
(2) Caiff y llywodraethwyr sefydledig benderfynu'r defnydd a wneir o fangre ysgol wirfoddol a reolir (neu unrhyw ran o'r fangre honno) ar ddyddiau Sul.
(3) Os yw'r awdurdod lleol –
(a) yn dymuno darparu llety at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig ag addysg neu â lles pobl ifanc, a
(b) wedi'i fodloni nad oes unrhyw lety amgen addas yn ei ardal at y diben hwnnw,
cânt gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ddarparu llety di-dâl at y diben hwnnw ar fangre'r ysgol (neu unrhyw ran o'r fangre honno) ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos pan nad oes ei hangen at ddibenion yr ysgol.
(4) Ni chaiff yr awdurdod lleol arfer ei bwer o dan baragraff (3) yn y fath fodd ag i gyfarwyddo'r corff llywodraethu i ddarparu llety ar fwy na thri diwrnod mewn unrhyw wythnos.
(5) Wrth arfer rheolaeth ar feddiannu a defnyddio mangre ysgol wirfoddol y tu allan i oriau ysgol, rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i ba mor ddymunol y byddai trefnu bod y fangre honno ar gael at ddefnydd cymunedol.
10. Mae pwer corff llywodraethu ysgol a gynhelir i reoli'r feddiannaeth a'r defnydd ar fangre'r ysgol yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a wneir o dan neu yn rhinwedd –
(a) unrhyw gytundeb a wneir o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(2) neu benderfyniad a wneir yn unol â pharagraff 62 neu 63 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3); neu
(b) cytundeb a wnaed o dan baragraff 1 neu 2(4) o Atodlen 5 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 neu benderfyniad a wnaed yn unol â pharagraff 3 neu 4(5) o'r Atodlen honno.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch rheolaeth cyrff llywodraethu ar feddiannu a defnyddio mangreoedd ysgol. Maent yn ail-wneud y ddarpariaeth a wnaed yn Atodlen 13 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysg 2002.
Mae rheoliad 3 yn darparu mai corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol ac ysgol feithrin a gynhelir sy'n gyfrifol am feddiannu a defnyddio mangre'r ysgol, yn ystod oriau ysgol a'r tu allan iddynt. Mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau gan yr awdurdod lleol ynghylch sut mae'n rhaid i'r fangre gael ei meddiannu a'i defnyddio, i unrhyw gytundeb i drosglwyddo rheolaeth ac i unrhyw ofynion cyfreithiol eraill. Rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y mangreoedd ar gael i'w defnyddio gan y gymuned.
Mae rheoliad 4 yn galluogi'r corff llywodraethu i ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth os diben y cytundeb yw hyrwyddo defnydd cymunedol ar fangre'r ysgol. Dim ond os yw'r corff llywodraethu wedi sicrhau cydsyniad yr awdurdod lleol y caiff y cytundeb wneud darpariaeth ar gyfer defnyddio mangre'r ysgol yn ystod oriau ysgol. Cymerir bod pob cytundeb i drosglwyddo rheolaeth yn cynnwys telerau penodol megis y gofyniad bod y corff y mae rheolaeth ar y fangre wedi'i throsglwyddo iddo yn gweithredu'n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau awdurdod lleol, y bydd yn rhoi sylw i ba mor ddymunol fyddai trefnu bod y fangre ar gael at ddefnydd cymunedol, ac y caiff y corff llywodraethu adfeddiannu rheolaeth ar y fangre drwy roi hysbysiad ysgrifenedig rhesymol.
Mae rheoliadau 5 a 6 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig, ac eithrio yn y ffyrdd canlynol. Nid oes unrhyw ddarpariaeth i awdurdod lleol wneud cyfarwyddiadau. Mae rheoliad 5(3) yn darparu, pan fo gweithred ymddiriedaeth yr ysgol yn rhoi rheolaeth i berson ac eithrio'r corff llywodraethu, bod cyfeiriadau at y person hwnnw yn cael eu rhoi yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu at ddibenion rheoliadau 5 a 6. O dan reoliad 6(2) a (3), caiff y corff llywodraethu ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth er gwaethaf unrhyw beth sy'n groes i hynny yng ngweithred ymddiriedaeth yr ysgol, ond ym mhob ffordd arall rhaid i ofynion y weithred ymddiriedaeth gael eu bodloni. Mae rheoliad 6(4) yn darparu bod rhaid i'r corff llywodraethu, os yw'n dymuno ymrwymo i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio mangre'r ysgol yn ystod oriau ysgol, sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyntaf.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas ag ysgolion gwirfoddol i'r un a wnaed mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ac eithrio yn y ffyrdd canlynol. Yn achos ysgol wirfoddol a reolir, mae rheolaeth y corff llywodraethu ar y fangre yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod lleol ynghylch sut y mae'n rhaid i fangre'r ysgol gael ei meddiannu a'i defnyddio, ac yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, mae'n ddarostyngedig i gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod lleol i'r corff llywodraethu i ddarparu llety di-dâl yn yr ysgol at ddiben sy'n gysylltiedig ag addysg neu â lles pobl ifanc. Mae rheoliad 7(3) yn gwneud darpariaeth sy'n debyg i'r un yn rheoliad 5(3) ac mae rheoliad 8(2) a (3) yn gwneud darpariaeth sy'n debyg i'r un yn rheoliad 6(2) a (3).
Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoli mangreoedd ysgolion gwirfoddol y tu allan i oriau ysgol. Mae corff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir yn rheoli'r defnydd ar y fangre ar Sadyrnau os nad oes ei hangen ar gyfer yr ysgol na'i hangen ar yr awdurdod lleol at y dibenion sy'n gysylltiedig ag addysg neu â lles pobl ifanc. Mae llywodraethwyr sefydledig ysgolion gwirfoddol a reolir yn rheoli'r defnydd ar y mangreoedd ar ddyddiau Sul.
Mae rheoliad 10 yn darparu bod rheolaeth corff llywodraethu ar fangre ysgol yn ddarostyngedig i drefniadau a wnaed o dan ddarpariaethau yn Neddf Diwygio Addysg 1988 neu Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
1988 (p.40), a amnewidiwyd gan baragraffau 3 a 4 o Atodlen 29 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Back [2]
1992 p.13. Back [3]
Diwygiwyd gan adran 136(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [4]
Diwygiwyd gan adran 136(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Back [5]