Gwnaed
21 Ionawr 2008
Yn dod i rym
22 Ionawr 2008
Tynnu neu gyfnewid marciau adnabod
17. Cyfnewid y marc adnabod â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau dwbl sydd wedi colli un marc adnabod
18. Cyfnewid y marc adnabod â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau dwbl sydd wedi colli'r ddau farc adnabod
19. Cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn â chod gwahanol ar gyfer anifeiliaid â thagiau sengl
ATODLENNI
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008, mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 22 Ionawr 2008.
2.–(1) Yn y Gorchymyn hwn–
ystyr "anifail" ("animal") yw unrhyw anifail o rywogaeth y ddafad neu'r afr;
ystyr "allforio" ("export") yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr "canolfan ymgynnull" ("assembly centre") yw unrhyw ddaliad, canolfan gasglu neu farchnad lle y mae defaid neu eifr sy'n tarddu o wahanol ddaliadau wedi'u grwpio ynghyd i ffurfio llwythi o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu hallforio neu a ddefnyddir yn ystod allforio;
mae i "ceidwad" yr ystyr a roddir i "keeper" yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr "cod adnabod" ("identification code") yw'r cod a osodir ar fodd adnabod fel sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn;
ystyr "cofrestr" ("register") yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor ac sydd yn y ffurf a osodir y Atodlen 1;
ystyr "colofn 1 o adran 2 o'r gofrestr" ("column 1 of section 2 of the register") yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd "Dyddiad gosod y tag cyfnewid" yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr "colofn 2 o adran 2 o'r gofrestr" ("column 2 of section 2 of the register") yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd "Rhif Tag Cyfnewid (R)" yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr "colofn 3 o adran 2 o'r gofrestr" ("column 3 of section 2 of the register") yw'r golofn sy'n dwyn y pennawd "Llythrennau a Rhif Blaenorol Diadell neu Eifre (os yw'n hysbys)" yn y Cofnod Tag Cyfnewid (tag R yn unig) yn Atodlen 2;
ystyr "CPH" ("CPH") yn y ffurfiau yn Atodlenni 1 a 2, yw Rhif y daliad ym mhlwyf y sir, a neilltuir i unrhyw fangre neu ran o fangre gan Weinidogion Cymru;
ystyr "Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC" ("Council Directive 92/102/EEC") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ynglŷn ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(3);
mae i "daliad" yr ystyr a roddir i "holding" yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;
ystyr "y daliad tarddu" ("holding of origin") yw'r daliad lle yr oedd yr anifail yn bresennol arno yn union cyn symud i ganolfan ymgynnull neu, os traddodir anifail ar gyfer ei allforio heblaw drwy ganolfan ymgynnull, y daliad lle y mae anifail yn bresennol arno yn union cyn ei allforio;
ystyr "dogfen symud" ("movement document") yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;
ystyr "dull adnabod" ("method of identification") yw tag clust neu datŵa osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd gwlad;
ystyr "y Gorchmynion blaenorol" ("the previous Orders") yw –
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(4);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) (Diwygio) 2002(5);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(6);
Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(7);
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(8);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(9);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(10);
Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(11);
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(12);
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(13));
Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(14));
Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod a Gallu Olrhain) (Yr Alban) 2006(15));
Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(16)); neu
Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(17);
ystyr "gweithredydd lladd-dy" ("slaughterhouse operator") yw person sy'n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr "gweithredydd marchnad" ("market operator") yw person sy'n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;
ystyr "marc adnabod" ("identification mark") yw dull adnabod a osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd hŷn o adnabod;
ystyr "modd adnabod" ("means of identification") yw tag adnabod neu datŵadnabod;
ystyr "modd adnabod o'r newydd" ("replacement means of identification") yw tag cyfnewid neu datŵcyfnewid;
ystyr "modd hŷn o adnabod" ("older means of identification") yw tag clust neu datŵa osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol;
ystyr "nod y ddiadell" ("flockmark") yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;
ystyr "nod yr eifre" ("herdmark") yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran geifre ar ddaliad;
ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC(18);
ystyr "Rhif unigryw" ("unique number") yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw'n cynnwys mwy na 6 digid;
ystyr "tag adnabod" ("identification tag") yw tag clust a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 sy'n dwyn yr wybodaeth a roddir yn is-baragraffau (a) i (c) yn erthygl 5(5);
ystyr "tag cyfnewid" ("replacement tag") yw tag clust coch a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 11 gyda chod yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn–
y llythrennau "UK";
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tag adnabod;
Rhif unigryw; ac
y llythyren "R";
ystyr "tatŵcyfnewid" ("replacement tattoo") yw tatŵsy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn sy'n dilyn–
y llythrennau "UK";
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y tatŵ;
Rhif unigryw; ac
y llythyren "R".
(2) Mae gan yr ymadroddion nas diffinnir ym mharagraff (1) ac mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.
3. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.
4. Rhaid i unrhyw awdurdodi neu gymeradwyo a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gall fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu trwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
5.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i–
(a) anifeiliaid a anwyd cyn 22 Ionawr 2008 na chafodd eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad geni; a
(b) anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 22 Ionawr 2008.
(2) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon onis awdurdodir y dull adnabod amgen a osodir yn erthygl 6.
(3) At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw–
(a) 9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu
(b) 6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.
(4) Caniateir i dag clust a osodir fel y modd adnabod cyntaf neu'r ail fodd adnabod fod mewn unrhyw liw heblaw coch.
(5) Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn–
(a) y llythrennau "UK";
(b) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei eni; ac
(c) Rhif unigryw;
a rhaid iddynt fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.
6.–(1) Ar gyfer anifeiliaid a fwriadwyd ar gyfer eu cigydda cyn 12 mis oed ac nas bwriadwyd ar gyfer eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen i'r modd adnabod y cyfeirir ato yn erthygl 4(2) o'r Rheoliad hwnnw.
(2) Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yn union yr un fath â'r hyn a osodir yn is-baragraffau (a) i (c) o erthygl 5(5).
(3) Rhaid i unrhyw anifail sy'n cael ei adnabod drwy'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ("y tag adnabod cyntaf"), gael ei adnabod drwy ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)–
(a) os na chafodd ei gigydda cyn ei fod yn 12 mis oed; neu
(b) os traddodwyd ef ar gyfer ei allforio.
(4) Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai–
(a) yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, gyda'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu
(b) yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn–
(i) y llythrennau "UK";
(ii) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y mae'r anifail pan osodir y modd adnabod ychwanegol; a
(iii) Rhif unigryw.
(5) Os gosodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad–
(a) beidio â thynnu na difwyno'r tag adnabod cyntaf;
(b) cofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.
(6) Yn achos anifeiliaid a draddodir ar gyfer eu hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad tarddu.
7.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid sy'n cael eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008.
(2) Dim ond y modd adnabod cyntaf, fel a osodir yn erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor, sy'n ofynnol ar gyfer anifeiliaid a gafodd eu hadnabod â Rhif unigryw cyn 22 Ionawr 2008.
(3) Yn achos anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008, ond pan nad yw'r marc adnabod presennol yn cynnwys Rhif unigryw, rhaid i geidwad ailadnabod yr anifeiliaid hynny cyn eu symud o ddaliad fel eu bod yn dwyn dau fodd adnabod–
(a) yn achos anifail sydd ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn unol â'r darpariaethau yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor; neu
(b) yn achos anifail nad yw ar ei ddaliad geni, rhaid iddynt fod yn ddau dag cyfnewid, ac yn yr achos hwnnw rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod yn llawn ar y tagiau cyfnewid a llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod blaenorol yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.
8. Rhaid i'r ceidwad adnabod anifeiliaid na chawsant eu hadnabod cyn 22 Ionawr 2008 nad ydynt mwyach ar eu daliad geni gyda dau dag cyfnewid cyn i'r anifeiliaid adael daliad.
9.–(1) Rhaid i geidwad adnabod pob anifail ar gyfer ei allforio drwy'r modd adnabod cyntaf a'r ail fodd adnabod fel a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor neu erthygl 6(4)(b), ac eithrio bod yn rhaid i'r ail fodd adnabod fod yn dag adnabod ac nid yn datw.
(2) Ni chaiff neb draddodi anifail af gyfer ei allforio-
(a) os cafodd ei dagio yn unol ag erthygl 8;
(b) os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 7(3)(b), 18(3)(a), 18(4)(a) 19(5)(a) neu 19(6)(a); neu
(c) os cafodd ei aildagio yn unol ag erthygl 17(4) ac o ganlyniad caiff ei adnabod drwy ddau fodd adnabod o'r newydd.
10.–(1) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2) At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.
(3) Rhaid i fodd adnabod ar gyfer anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd fod yr un fath â'r hyn a osodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad yw–
(a) y llythrennau "UK";
(b) nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y cafodd yr anifail ei fewnforio iddi;
(c) Rhif unigryw.
(4) Os cafodd anifail ei fewnforio o drydedd gwlad a chael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon, rhaid i'r ceidwad gofnodi ychwanegu modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod newydd a'r cod adnabod llawn ar y dull adnabod a osodir yn y drydedd gwlad yng ngholofnau 1, 2 a 3 o'r gofrestr.
11. Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo tagiau clust at ddibenion y Gorchymyn hwn.
12.–(1) Ar gais ceidwad, caiff gweithgynhyrchydd tagiau adnabod ychwanegu gwybodaeth atodol at dag adnabod neu dag cyfnewid ar yr amod–
(a) bod yr wybodaeth atodol yn gwbl wahanol i'r cod adnabod; a
(b) bod y cod adnabod yn parhau'n ddarllenadwy ac y gellir ei weld yn eglur bob amser.
(2) Caiff ceidwad osod tag ychwanegol ar anifail ond rhaid iddo beidio â chynnwys y llythrennau "UK" na dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre, onis awdurdodir gan Weinidogion Cymru.
13. Ni chaiff neb osod tag clust coch ar unrhyw anifail, ar wahân i dag cyfnewid.
14.–(1) Ni chaiff neb dynnu neu gyfnewid dull adnabod gwreiddiol anifail sy'n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.
(2) Ni chaiff neb fynd yn groes i neu fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, onid yw'n unol ag erthyglau 16 i 19.
(3) Rhaid i geidwad gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 15 i 19, cyn gynted â phosibl ar ôl tynnu'r marc adnabod neu ddarganfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, ond beth bynnag a ddigwyddo–
(a) dim hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl ei dynnu neu ddarganfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, a
(b) cyn bod yr anifail yn cael ei symud o'r daliad.
(4) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o dramgwydd iddo fynd yn groes i groes i baragraffau (1) neu (2) neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy brofi bod–
(a) y marc adnabod wedi cael ei dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a
(b) y gosodwyd modd adnabod o'r newydd sy'n dwyn yr un cod adnabod ar yr anifail cyn gynted â phosibl.
15. Os yw'n ofynnol i geidwad yn ôl erthygl 14(3) i gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy caiff wneud hynny gyda modd adnabod sydd â chod adnabod yn union yr un fath ac yn yr achos hwnnw rhaid iddo gofnodi'r wybodaeth am y cyfnewid yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
16.–(1) Caiff ceidwad, fel dewis amgen i'r dull cyfnewid a ddisgrifir yn erthygl 15, yn lle hynny gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod sy'n dwyn cod adnabod gwahanol i'r marc adnabod gwreiddiol yn unol ag erthyglau 17 i 19, ar yr amod na chyfaddawdir yr amcan o allu olrhain.
17.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo un marc adnabod gan anifail â ffurf adnabod dwbl ar goll neu'n annarllenadwy ond bod un marc adnabod yn parhau.
(2) Yn yr erthygl hon ac yn erthygl 18 ystyr "anifail â ffurf adnabod dwbl" yw anifail sy'n cael ei adnabod â dau farc adnabod.
(3) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad gyfnewid modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod arall ac–
(a) sicrhau bod o leiaf un modd adnabod neu fodd adnabod hŷn ar anifail yn dag clust; a
(b) cofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod yn llawn ar y tagiau cyfnewid yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
(4) Os nad yw'r anifail bellach ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad gyfnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd ac–
(a) sicrhau bod o leiaf un marc adnabod ar anifail yn dag clust; a
(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
(c) cofnodi llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod sy'n dal yno neu'r modd adnabod hyn, neu'r cod llawn ar ddull adnabod yng ngholofn 3 o adran 2 o'r gofrestr.
18.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo'r ddau farc adnabod gan anifail â ffurf adnabod dwbl ar goll neu'n annarllenadwy.
(2) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad–
(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag adnabod newydd neu dag adnabod a thatŵ; a
(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1, 2 a 3 o adran 2 o'r gofrestr.
(3) Os bydd nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre ar anifail neu'r cod ar fodd adnabod o'r newydd ar goll neu'n annarllenadwy yn hysbys ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad geni, rhaid i'r ceidwad naill ai–
(a) cyfnewid y marciau adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag cyfnewid neu â thag cyfnewid a thatŵcyfnewid ac–
(i) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofnau 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr; a
(ii) cofnodi yng ngholofn 3 o adran 2 o'r gofrestr
(aa) os yw'n hysbys, llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod neu'r modd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy, neu'r cod llawn ar ddull adnabod; neu
(bb) os nad yw'r pethau hyn yn hysbys, llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod o'r newydd sydd ar goll neu'n annarllenadwy; neu
(b) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag adnabod sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre o ddaliad geni'r anifail.
(4) Os nad yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys, rhaid i'r ceidwad:
(a) cyfnewid y marciau adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy â dau dag cyfnewid neu â thag cyfnewid a thatw cyfnewid; a
(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
19.–(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo modd adnabod neu fodd adnabod hŷn gan anifail â ffurf adnabod sengl ar goll neu'n annarllenadwy.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr "anifail â ffurf adnabod sengl" yw–
(a) anifail sy'n cael ei adnabod yn unol â pharagraffau (1) a (2) neu erthygl 6 o ddarpariaethau tebyg sy'n rhoi effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon; neu
(b) anifail sy'n cael ei adnabod gydag un modd adnabod hyn yn unig a osodwyd o dan Orchmynion blaenorol.
(3) Os bydd ceidwad yn cyfnewid tag sydd ar goll neu'n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod o'r newydd fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.
(4) Os yw'r anifail ar ei ddaliad geni rhaid i'r ceidwad–
(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod newydd; a
(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
(5) Os yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad geni, rhaid i'r ceidwad naill ai–
(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd a–
(i) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod o'r newydd yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o gofrestr y daliad; a
(ii) cofnodi llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol neu'r modd adnabod hŷn, yng ngholofn 3 o'r gofrestr; neu
(b) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hyn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â thag adnabod sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre o ddaliad geni'r anifail.
(6) Os nad yw nod gwreiddiol y ddiadell neu nod gwreiddiol yr eifre yn hysbys, rhaid i'r ceidwad–
(a) cyfnewid y modd adnabod neu fodd adnabod hŷn sydd ar goll neu'n annarllenadwy â modd adnabod o'r newydd; a
(b) cofnodi gwybodaeth am y cyfnewid yng ngholofn 1 a 2 o adran 2 o'r gofrestr.
20.–(1) Nid yw gofynion erthyglau 14 i 19 i gyfnewid marc adnabod yn gymwys i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy.
(2) Os caiff marc adnabod ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bod anifail yn y farchnad, rhaid i'r ceidwad sy'n prynu'r anifail yn y farchnad osod marc adnabod o'r newydd yn unol â darpariaethau erthyglau 14 i 19.
21. Os caiff anifail ei fewnforio o drydedd gwlad a'i aildagio yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw'n ofynnol i'r ceidwad gyfnewid dull adnabod a osodwyd mewn trydedd gwlad os yw wedyn yn mynd ar goll neu'n annarllenadwy.
22. Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi ei osod ar anifail o dan–
(a) Rheoliad y Cyngor;
(b) y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(c) y Gorchmynion blaenorol; neu
(ch) Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.
23.–(1) Rhaid i bob ceidwad, heblaw cludwr, gydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.
(2) Pan gaiff anifail ei symud i'w ddaliad neu ohono, rhaid i'r ceidwad gofnodi–
(a) yr wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a
(b) nifer yr anifeiliaid a symudwyd.
(3) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir i ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.
(4) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir o ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.
(5) Os yw anifail wedi'i draddodi ar gyfer ei allforio rhaid i geidwad y daliad tarddu, yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), gofnodi Rhif unigryw yr anifail hwnnw wrth gofnodi ei symud i'r daliad tarddu ac ohono, drwy'r dulliau a osodir ym mharagraffau (3) a (4) yn eu trefn.
(6) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1.
(7) Rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr–
(a) yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, neu o un lleoliad ar ddaliad i un arall, o fewn 36 awr i'r symud;
(b) yn achos cyfnewid marc adnabod, o fewn 36 awr i'r cyfnewid.
(8) Os yw'r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ond mae'n parhau i fod yn geidwad iddynt, nid oes raid i'r ceidwad gadw'r gofrestr ar y daliad hwnnw ond rhaid iddo allu ei dangos o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.
(9) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid sicrhau bod y gofrestr ar gael yw 3 blynedd o'r adeg pan wnaed y cofnod olaf.
24.–(1) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud yn unol â'r erthygl hon.
(2) Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor ac at ddibenion yr Erthygl honno y cyfnod lleiaf y mae'n rhaid i'r ceidwad ar y daliad cyrchu gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i'w ddaliad ef.
(3) Rhaid i'r ddogfen symud–
(a) bod ar y ffurf a osodir yn Atodlen 2;
(b) cael ei llenwi'n gyflawn gan y ceidwad priodol fel a bennir yn y ffurf honno; ac
(c) yn ogystal â chynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, rhaid i'r ddogfen gael ei llenwi gan y ceidwad gyda'r wybodaeth yn Atodlen 2, gan gynnwys nifer yr anifeiliaid a symudwyd; ac
(ch) cael ei chadw yn ôl trefn gronolegol gydag unrhyw ddogfennau symud eraill a gedwir gan y ceidwad yn y daliad cyrchu.
(4) Caiff gweithredydd marchnad lenwi dogfen symud a gynhyrchwyd yn electronig ar ffurf wahanol i'r hyn a osodir yn Atodlen 2, ar yr amod ei bod–
(a) yn cynnwys yr wybodaeth yn Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor a pharagraff (3)(c) o'r erthygl hon;
(b) yn cynnwys cyfeiriad at y Gorchymyn hwn ar ddechrau'r ddogfen; ac
(c) wedi ei hargraffu a'i llofnodi gan weithredydd y farchnad.
25.–(1) Yn achos anifail a symudwyd i ddaliad arall–
(a) ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a
(b) rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.
(2) Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad i borthladd i'w draddodi'r tu allan i Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.
26.–(1) At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr bob blwyddyn.
(2) Rhaid i geidwad ddarparu canlyniad y stocrestr flynyddol i Weinidogion Cymru erbyn 1 Chwefror bob blwyddyn.
27.–(1) Ar ôl derbyn hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor bod person wedi dod yn geidwad ar ddaliad, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn perthynas â phob geifre ar y daliad.
(2) Lle bo'r daliad yn lladd-dy neu'n farchnad, rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre ond dim ond os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.
(3) Rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod i unrhyw newid o'r fath.
28.–(1) Rhaid i weithredydd marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.
(2) Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot cyfan o'r farchnad i'r un daliad.
(3) Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.
(4) Ni chaiff gweithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai–
(a) ei fod wedi'i adnabod yn unol â Rhan 2; a
(b) bod dogfen symud gyda'r anifail a gwblhawyd yn unol â Rhan 6.
29. Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall oni bai ei fod wedi ei adnabod yn unol â–
(a) Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
30. Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon oni bai bod yr anifail wedi ei adnabod a'i dagio a bod dogfen symud gydag ef yn unol â–
(a) yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu
(b) yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005, unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol sydd wedi eu gosod mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor o ran y cyfryw anifail.
31. Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi ei gyhuddo o fynd yn groes i, neu beidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb roi neu osod arno y modd adnabod sy'n ofynnol i brofi bod yr anifail wedi cael ei symud o'r daliad er mwyn cael triniaeth frys gan filfeddyg.
32.–(1) Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn–
(a) casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a'i gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;
(c) symud neu gadw unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch) cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;
(d) os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei ddangos ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith;
(dd) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau adnabod nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos;
(e) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol.
(2) Os yw'n ofynnol i berson wneud unrhyw beth i arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) rhaid iddo, oni fydd ganddo achos rhesymol, wneud hynny'n ddi–oed.
33.–(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud diadell o ddefaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran y ddiadell honno.
(2) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifre i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol ar gyfer gorfodi'n briodol y Gorchymyn hwn o ran yr eifre honno.
(3) Caniateir diwygio neu ddirymu hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.
34. Rhaid i berson beidio â rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.
35.–(1) Os dangosir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gan gorff corfforaethol–
(a) gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b) os priodolir ef i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn eu herbyn a'u cosbi yn unol â hynny.
(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol.
(3) ystyr "swyddog", o ran corff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu berson sy'n cymryd arno ei fod yn gweithredu yn y cyfryw swydd.
36.–(1) Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod gorfodi dyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
37. Dirymir y canlynol–
(1) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(19); a
(2) Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Cymru) 2006(20).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2008
Erthygl 23(6)
Erthygl 24(3)(a)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr a diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006, O.S. 2006/1036 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2926), gan newid gofynion adnabod domestig i adlewyrchu'r ffaith na fydd y DU bellach yn manteisio ar ran-ddirymiad o'r brif drefn dagio dwbl o dan Reoliad y Cyngor 21/2004.
Mae Rhan 2 o'r Gorchymyn yn ymdrin ag adnabod anifeiliaid. Mae'n ei gwneud yn ofynnol gosod dau fodd adnabod ar gyfer anifail a gafodd ei adnabod neu ei fewnforio ar neu ar ôl 22 Ionawr 2008 ac y bwriedir ei allforio (erthyglau 5 a 9). Mae'n darparu ar gyfer anifeiliaid nas bwriadwyd eu hallforio ac y bwriadwyd eu cigydda o fewn 12 mis o'u genedigaeth i gael eu hadnabod â thag adnabod sengl (erthygl 6). Gellir parhau i adnabod anifeiliaid hŷn a gafodd eu hadnabod yn unigol â thag sengl cyn 22 Ionawr 2008 â thag sengl, ond ar y llaw arall rhaid aildagio'r rhai na chawsant hynny â dau dag adnabod (erthyglau 7 ac 8).
Mae Rhan 3 o'r Gorchymyn yn ymdrin â thagiau adnabod (diffinnir y term "tag adnabod" yn erthygl 2(1)) ac yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo tagiau adnabod (erthygl 11).
Mae Rhan 4 o'r Gorchymyn yn ymdrin â thynnu neu gyfnewid marciau adnabod. Mae'n gwahardd tynnu tagiau adnabod onid yw'n angenrheidiol am resymau lles (erthygl 14) ac addasu marciau adnabod (erthygl 22). Mae'n darparu ar gyfer cyfnewid marc adnabod a gafodd ei golli, ei dynnu neu sy'n annarllenadwy naill ai â modd adnabod yr un fath (erthygl 15) neu gyfnewid â modd adnabod sydd â chod gwahanol (erthyglau 16 i 19).
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth i bob ceidwad gynnal cofrestr daliad gyfoes, ac mae'n gosod yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi yn y gofrestr a pha bryd (erthygl 23 ac Atodlen 1).
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dogfen symud i fynd gyda phob anifail pan fydd yn symud rhwng daliadau (erthygl 24 ac Atodlen 2) ac mae'n pennu pa bryd ac i bwy y mae'n rhaid rhoi'r ddogfen iddo (erthygl 25).
Mae Rhan 7 yn gosod y gofyniad i geidwaid gadw stocrestr flynyddol (erthygl 26) a rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch ei ddaliad (erthygl 27) a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.
Mae Rhan 8 yn darparu ar gyfer dyrannu Rhif au lotiau i anifeiliaid mewn marchnad ac mae'n gwahardd prynu neu werthu anifeiliaid oni chaiff pob anifail o lot ei brynu neu ei werthu (erthygl 28).
Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion adnabod anifeiliaid a ddygir i Gymru o Aelod-wladwriaethau eraill neu o wledydd eraill yn y Deyrnas Unedig (erthyglau 29 a 30).
Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau amrywiol a darpariaethau gorfodi. Mae erthygl 31 yn gosod amddiffyniad i'r methiant i adnabod anifail yn gywir mewn achos o driniaeth filfeddygol frys. Mae erthygl 32 yn rhoi pwerau amrywiol i arolygwyr ac mae erthygl 33 yn galluogi arolygwyr i wahardd symud diadell o ddefaid neu yr o eifr i ddaliad neu ohono. Mae erthyglau 34 a 35 yn ymwneud â darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ac â thramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol. Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn, neu Weinidogion Cymru os cyfarwyddir hynny (erthygl 36).
Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, a gellir cosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.
1981. p.22 y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn. Back [1]
Gweler adran 86(1) i gael y diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi. Back [2]
OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.32. Back [3]
O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987. Back [4]
O.S. 2002/2153, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/29, O.S. 2003/502 ac O.S. 2003/1728. Back [5]
O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 ac O.S. 2002/1349. Back [6]
O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281. Back [7]
O.S. 2006/1036 (Cy. 106) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2926 (Cy. 261). Back [8]
O.S. 2002/2302 (Cy. 227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27), O.S. 2003/946 (Cy. 127) ac O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [9]
O.S. 2002/1357 (Cy. 133). Back [10]
O.S. 2002/274 (Cy.30), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/811 (Cy.91). Back [11]
Rh.St. 2005/535 (GI) a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 2006/508. Back [12]
Rh.St. (GI) 2004 Rhif 491. Back [13]
Rh.St. (GI) 1997 Rhif 173, a ddiwygiwyd gan Rh.St. (GI) 1998 Rhif 393. Back [14]
O.S.A. 2006/73 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2006/594. Back [15]
O.S.A 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221. Back [16]
O.S.A. 2000/418, a ddiwygiwyd gan O.S.A 2002/531 ac O.S.A. 2002/39. Back [17]
OJ Rhif L 5, 9.1.04, t. 8 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn. Back [18]
O.S. 2005/1036 a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2926. Back [19]
O.S. 2006/2926. Back [20]