Gwnaed
7 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Ionawr 2008
Yn dod i rym
2 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(3) a (4A) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi(1) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(3).
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 2 Chwefror 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd "Unoccupied Property Rating", yn lle "50 per cent", rhodder "100 per cent".
(3) Ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 2, yn y nodyn sy'n dwyn y pennawd "Ardrethu Eiddo Di-ddeiliad", yn lle "50 y cant", rhodder "100 y cant".
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn cysylltiad ag unrhyw swm sy'n daladwy ar gyfer unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2008.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) ("Rheoliadau 1993") yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu, a ddyroddir gan awdurdodau bilio (cynghorau bwrdeistref a chynghorau sir) yng Nghymru, ac ar gyfer yr wybodaeth sydd i'w darparu pan fo hysbysiadau o'r fath yn cael eu cyflwyno ganddynt.
Disodlodd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2007 (OS 2007/3343 (Cy.295)) Atodlen 2 i Reoliadau 1993 sy'n pennu'r wybodaeth sydd i'w darparu pan fo hysbysiadau galw am dalu yn cael eu hanfon gan awdurdodau bilio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr wybodaeth benodedig i adlewyrchu'r newid a wnaed i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p.41) gan Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p.9) sy'n darparu, oni fydd Gweinidogion Cymru yn gorchymyn fel arall, y byddai'r atebolrwydd normal ar gyfer hereditament heb ei feddiannu yr un fath â'r un ar gyfer hereditament wedi'i feddiannu.
Dim ond mewn perthynas ag ardrethi sy'n daladwy ar ôl 31 Mawrth 2008 y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
1988 p.41. Back [1]
1993 p.38. Back [2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Back [3]
O.S. 1993/252, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/284, 1996/311, 1996/1880, 1997/356, 1998/155, 2000/793 (Cy.30), 2003/414 (Cy.59), 2005/256 (Cy.22), 2006/3392 (Cy.311) a 2007/3343 (Cy.295). Back [4]