Gwnaed
17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
14 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004(3) yn unol â pharagraffau (2) i (6) isod.
(2) Yn rheoliad 2(3) dileer is-baragraff (b).
(3) Yn lle rheoliad 7 a'i bennawd rhodder y canlynol –
Ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd, rhaid i'r awdurdod ddarparu bob blwyddyn i Weinidogion Cymru yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r holl ysgolion y mae'n eu cynnal ac y mae ganddynt ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i gael asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.".
(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1, rhodder y paragraff canlynol –
"O ran pob disgybl o'r fath, canlyniadau ei asesiadau statudol ac, os nad yw rhai o'r canlyniadau hynny neu'r cyfan ohonynt ar gael, a oedd y disgybl wedi'i esemptio o'r asesiadau o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu a yw'r ffaith nad yw canlyniadau ei asesiadau statudol ar gael oherwydd rhesymau gwahanol i'w esemptiad o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002.".
(5) Ym mharagraff 1 yn Rhan 1 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
(6) Ym mharagraff 2 yn Rhan 2 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân newidiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2004 gyda'r canlyniad na fydd yn bosibl mwyach i gorff llywodraethu gofnodi absenoldeb disgybl fel y rheswm dros beidio â darparu canlyniadau'r cyfan neu ran o'u hasesiadau statudol. Yn lle hynny, mae paragraff 2 diwygiedig Atodlen 1 i Reoliadau 2004 yn darparu y caiff corff llywodraethu gofnodi nad yw asesiadau statudol disgybl ar gael neu eu bod ar gael yn rhannol yn unig am resymau ac eithrio bod y disgybl wedi'i esemptio o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf Addysg 2002.
1996 p.56. Cafodd adran 29(3) ei disodli gan baragraff 67 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). Diwygiwyd adran 537 gan baragraff 37 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997, paragraffau 57 a 152 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 60 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Cafodd Adran 537A ei disodli gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. I gael gweld ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996. Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32). Back [2]
"2004/1025 (Cy.122), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253), O.S. 2005/1396 (Cy.110) ac O.S. 2005/3239 (Cy.244).. Back [3]
Amended by correction slip on 01 January 2008