Gwnaed
13 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
17 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
9 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli sŵn amgylcheddol.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Nodi Ffynonellau Sŵn) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ionawr 2008.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.–(1) Ystyr "map a adneuwyd" ("deposited map") yw map sydd wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn eu swyddfeydd.
(2) ystyr "Rheoliadau 2006" ("the 2006 Regulations") yw Rheoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006(3).
(3) Mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2006 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2006.
3. Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn nodi crynodrefi cylch cyntaf, prif ffyrdd cylch cyntaf a phrif reilffyrdd cylch cyntaf at ddibenion rheoliad 3(1) o Reoliadau 2006.
4. Crynodrefi cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir–
(a) ar y map a adneuwyd o'r enw "Cardiff – First Round Agglomeration – Caerdydd – Cylch Cyntaf, Crynodref", dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRCardiff; a
(b) ar y map a adneuwyd o'r enw "Swansea/Neath/Port Talbot – First Round Agglomeration – Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot – Cylch Cyntaf, Crynodref", dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRSwansea/Neath/Port Talbot.
5. Prif ffyrdd cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir–
(a) ar y map a adneuwyd o'r enw "Wales (North) – First Round Major Roads – Cymru (Gogledd) – Cylch Cyntaf, Prif Ffyrdd", dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRNRoads; a
(b) ar y map a adneuwyd o'r enw "Wales (South) – First Round Major Roads – Cymru (De) – Cylch Cyntaf, Prif Ffyrdd", dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRSRoads.
6. Prif reilffyrdd cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir ar y map a adneuwyd o'r enw "Wales – First Round Major Railways – Cymru – Cylch Cyntaf, Prif Reilffyrdd", dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRRail.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, wedi'u gwneud yn unol â'r ddyletswydd yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2629 (Cy.225)) i nodi'r ffynonellau sŵn y mae'n rhaid eu mapio yn unol â pharagraff cyntaf Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 ynghylch asesu a thrafod sŵn amgylcheddol (O.J. Rhif L 189, 18.07.2002, t. 12).
Crynodrefi, prif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr yw'r ffynonellau sŵn sydd i'w nodi. Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2006 yn pennu meini prawf y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru eu cymhwyso wrth wneud y nodi mewn perthynas â Chymru.
Y maen prawf i'w gymhwyso i brif feysydd awyr yw bod y maes awyr yn faes awyr sifil lle y mae mwy na 50,000 o symudiadau y flwyddyn (ac mae symudiad yn golygu awyren yn codi neu'n glanio), heb gynnwys symudiadau at ddibenion hyfforddiant yn unig ar awyrennau ysgafn. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nad oes unrhyw faes awyr yng Nghymru yn bodloni'r maen prawf hwn: felly nid oes unrhyw brif faes awyr wedi'i nodi yn y Rheoliadau hyn.
Mae'r nodi wedi'i wneud drwy gyfeirio at fapiau: mae'r rhain wedi'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ lle gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa. Mae'r mapiau ar gael hefyd yn y cyfeiriad canlynol ar y we: http://new.wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/?lang=cy
Nid oes asesiad effaith reoleiddiol wedi'i gynnal mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Er hynny, mae asesiad effaith reoleiddiol o'r effaith a fydd gan Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y cyfeiriad a nodwyd uchod.
Gweler O.S. 2004/706. Mae'r swyddogaethau sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ganlyniad i'r dynodiad a wnaed gan yr offeryn hwn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru: gweler paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [1]
1972 p.68. Back [2]
O.S. 2006/2629 (Cy.225). Back [3]