Gwnaed
4 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r cyngor ar gyfer y brif ardal y mae rhan ohoni'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chan arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy (2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.–(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn –
ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru)1995(3).
3.–(1) Diwygir y prif Orchymyn yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle–
"Pembrokeshire Coast National Park Authority | |
Local authority members | 10 |
Secretary of State members | 5 |
Total number of members | 15" |
rhodder
"Pembrokeshire Coast National Park Authority | |
Local authority members | 12 |
Members appointed by the Welsh Ministers | 6 |
Total number of members | 18" |
(3) Yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle "Pembrokeshire County Council 10" rhodder "Pembrokeshire County Council 12".
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2007, yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (y prif Orchymyn).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau I a II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn fel bod nifer aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn codi o 15 i 18. Cyfanswm nifer yr aelodau yw 12 o aelodau awdurdod lleol a 6 aelod a benodir gan Weinidogion Cymru.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1995 p.25. Gweler adran 79(1) am y diffiniad o 'prif ardal'. Back [1]
Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru. Back [2]
O.S. 1995/2803 Back [3]