Gwnaed
24 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
19 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(2) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 19 Rhagfyr 2007.
2.–(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" rhodder_
""ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(4) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynhyrchion indrawn(5).".
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/840 Cy. 73) ("Rheoliadau 2007"). Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynhyrchion indrawn (OJ Rhif L255,29.9.2007, t.14).
2. Mae'r Rheoliadau'n diwygio'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" yn Rheoliadau 2007 er mwyn cynnwys y diwygiadau y rhoddwyd effaith iddynt gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 (rheoliad 2).
3. Nid oes asesiad rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd swyddogaethau i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Back [1]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3). Back [2]
O.S. 2007/840 Cy. 73 Back [3]
OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5. Back [4]
OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14. Back [5]