Gwnaed
6 Medi 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Medi 2007
Yn dod i rym
28 Medi 2007
At ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) i'r graddau y maent yn ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr, mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(2) mewn perthynas â chamau sy'n gysylltiedig â'r gofyniad am asesu'r effaith ar yr amgylchedd a gaiff prosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd, ac mewn perthynas â chamau sy'n berthnasol i gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a chan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(3).
Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud fel sy'n ofynnol gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.
1.–(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol a Chynefinoedd Naturiol (Echdynnu Mwynau drwy Dreillio Gwely'r Môr) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 28 Medi 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dyfroedd Cymru fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1).
2.–(1) Yn y Rheoliadau hyn–
mae i "yr Alban" yr ystyr a roddir i "Scotland" ac i "parth Albanaidd" yr ystyr a roddir i "Scottish zone" gan adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998(4);
ystyr "ceisydd arfaethedig" ("prospective applicant") yw person sy'n bwriadu gwneud cais o dan reoliad 10 neu o dan reoliad18;
ystyr "cychwyn" ("commencement") yw'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym;
mae i "Cymru" yr ystyr a roddir i "Wales" gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(5);
ystyr "y cyrff ymgynghori priodol" ("the appropriate consultation bodies") yw–
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a allai fod yn brosiect neu ran o brosiect at ddibenion amddiffyn gwladol, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn nyfroedd Lloegr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas ag unrhyw dreillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon;
Cyngor Cefn Gwlad Cymru; a
y cyrff hynny sydd â buddiant mewn prosiect perthnasol, ym marn Gweinidogion Cymru, oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol;
mae i'r ymadrodd "datganiad amgylcheddol" ("environmental statement") yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1);
ystyr "y deiliad" ("the holder"), mewn cysylltiad â chaniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yw unrhyw berson y mae'r caniatâd wedi ei drosglwyddo iddo, tra bydd y caniatâd wedi ei freinio yn y person hwnnw;
ystyr "drwy hysbysebu'n gyhoeddus" ("by public advertisement"), mewn perthynas â hysbysiad yw–
drwy gyhoeddi'r hysbysiad mewn cyhoeddiad cenedlaethol a phapur newydd lleol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol; a
os yw Gweinidogion Cymru yn cynnal gwefan at ddiben hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi'r hysbysiad ar y wefan;
ystyr "dyfroedd Cymru" ("Welsh waters") yw dyfroedd llanw a rhannau o'r môr sy'n gyfagos â Chymru o'r ffynhonnau penllanw cymedrig i'r terfynau dyfroedd tiriogaethol allan i'r môr;
ystyr "dyfroedd Lloegr" ("English waters") yw –
ac eithrio, mewn perthynas â pharagraffau (a) a (b),–
dyfroedd cyfagos â Gogledd Iwerddon,
dyfroedd cyfagos â'r Alban,
y parth Albanaidd, a
dyfroedd Cymru;
ystyr "dyfroedd sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon" ("waters adjacent to Northern Ireland") yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â Gogledd Iwerddon, fel y dyfernir o dan adran 98(8) o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998(8);
ystyr "dyfroedd sy'n gyfagos â'r Alban" ("waters adjacent to Scotland") yw hynny o ddyfroedd mewndirol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig ag sy'n gyfagos â'r Alban, fel y dyfernir o dan adran 126(2) o Ddeddf yr Alban 1998(9);
mae i "Gogledd Iwerddon" yr ystyr a roddir i "Northern Ireland" gan Ddeddf Gogleddd Iwerddon 1998(10)
ystyr "y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt" ("the Wild Birds Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC(11) ar gadwraeth adar gwyllt;
ystyr "y Gyfarwyddeb Cynefinoedd" ("the Habitats Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(12) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt;
ystyr "y Gyfarwyddeb EIA" ("the EIA Directive") yw Cyfarwyddeb 85/337/EEC(13) ar asesu effeithiau prosiectau penodol ar yr amgylchedd, boed y prosiectau'n rhai cyhoeddus neu'n rhai preifat;
ystyr "hysbysiad" ("notice") yw hysbysiad ysgrifenedig, a dehonglir "hysbysu" ac ymadroddion cytras yn unol â hynny;
ystyr "y meini prawf dethol" ("the selection criteria") yw'r meini prawf a geir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;
ystyr "perchennog" ("owner")
mewn perthynas â mwynau a geir yn nyfroedd Cymru y mae gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant ynddynt (fel y'i diffinnir yn adran 293 (diffiniadau rhagarweiniol) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(14)), sef–
ystad mewn ffi syml, neu
buddiant sydd gyfwerth, ym marn Gweinidogion Cymru, ag ystad o'r fath,
yw'r awdurdod priodol fel y'i diffinnir yn yr adran honno;
mewn perthynas â mwynau nad oes gan y Goron neu Ddugiaeth fuddiant o'r fath ynddynt neu nad ydynt yn perthyn i ystad y Goron, yw'r person y breinir y mwynau ynddo mewn ffi syml neu berson sydd â buddiant yn y mwynau sy'n gyfwerth ag ystad mewn ffi syml, ym marn Gweinidogion Cymru;
ystyr "prosiect cynefinoedd" ("habitats project") yw prosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli safle Ewropeaidd neu'n angenrheidiol i hynny ac sy'n debygol o gael effaith sylweddol (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar safle Ewropeaidd;
ystyr "prosiect perthnasol" ("relevant project") yw unrhyw brosiect ar gyfer gwneud gwaith treillio yn nyfroedd Cymru a fyddai'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y gwaith treillio;
ystyr "safle Ewropeaidd" ("European site") yw unrhyw un neu rai o'r canlynol a leolir yn nyfroedd Cymru–
ardal cadwraeth arbennig;
safle o bwys Cymunedol sydd wedi ei roi ar y rhestr y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd;
ardal a gaiff ei dosbarthu'n ardal gwarchodaeth arbennig o dan Erthygl 4(1) neu (2) o'r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt;
safle y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gynnig yn safle cymwys ar gyfer ei ddynodi'n ardal cadwraeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd–
hyd oni chaiff ei gynnwys yn y rhestr o safleoedd o bwys Cymunedol y cyfeirir ati yn nhrydydd is-baragraff Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, neu
hyd oni chytunir o dan Erthygl 4(2) o'r Gyfarwyddeb honno i beidio â chynnwys y safle yn y rhestr honno; ac
ystyr "treillio" ("dredging") yw echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru, ond nid yw'n cynnwys–
echdynnu y mae unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad a geir mewn Deddf neu is-ddeddfwriaeth leol) yn awdurdodi'n benodol ei wneud, ac nid yw'n cynnwys yn benodol echdynnu a awdurdodir gan orchymyn o dan adran 3 (gorchmynion o ran dyfrffyrdd mewndirol etc.) o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992(15);
treillio mewn unrhyw ddyfroedd o fewn awdurdodaeth awdurdod porthladd, fel y'i diffinnir yn adran 57 o Ddeddf Porthladdoedd 1964(16); neu
echdynnu y mae unrhyw un neu rai o'r Rheoliadau canlynol yn gymwys iddo–
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(17),
Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999(18),
Rheoliadau Gwaith Piblinell Cludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(19),
Rheoliadau Cynhyrchu Petrolewm Alltraeth a Phiblinellau Petrolewm Alltraeth (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(20),
Rheoliadau Gwaith Piblinellau (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2000(21), ac
os yw'r cyd-destun yn gwneud hynny'n ofynnol, mae'n cynnwys treillio a gynigir.
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb EIA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yr un ystyr at ddibenion y Rheoliadau hyn â'r ystyr a roddir i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Cyfarwyddebau hynny.
(3) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at –
(a) cais neu archiad y caiff unrhyw berson ei wneud; neu
(b) cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn i'w dyroddi neu i'w ddyroddi gan Weinidogion Cymru;
rhaid i unrhyw gais neu archiad o'r fath gael ei wneud yn ysgrifenedig, a rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn o'r fath gael ei dyroddi neu ei ddyroddi'n ysgrifenedig.
3.–(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn rhwymo'r Goron.
(2) Ni chaniateir gwneud y Goron yn droseddol atebol am dorri unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, er bod hynny'n dramgwydd troseddol, ond caiff yr Uchel Lys, ar gais unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r Llys fod ganddo fuddiant, ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred gan y Goron sy'n torri darpariaeth yn y modd hwnnw yn anghyfreithlon.
(3) Er gwaethaf unrhyw beth ym mharagraff (2), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i bersonau yng ngwasanaeth cyhoeddus y Goron fel y maent yn gymwys i unrhyw berson arall.
4. Mae i unrhyw berson wneud gwaith treillio yn dramgwydd, ac eithrio pan fo'r treillio –
(a) yn dod o fewn un o'r achosion a ddisgrifir yn rheoliad 5 (pan na fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r treillio ond i'r graddau a bennir yn y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r achos penodol); neu
(b) yn cael ei wneud o dan ganiatâd a roddir o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn ac yn unol ag ef.
5.–(1) Yr achosion a grybwyllir yn rheoliad 4(a) yw'r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (2), (6) a (7) o'r rheoliad hwn.
(2) Yr achos cyntaf yw pan fo Gweinidogion Cymru yn cael dyfarniad ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud–
(a) bod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol; a
(b) y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ac eithrio i'r graddau a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6) neu (7) o'r rheoliad hwn, yn ôl y digwydd, yn effeithio'n andwyol ar y dibenion hynny ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) y byddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys–
(a) Rhannau 1 a 2;
(b) rheoliad 10;
(c) rheoliadau 13 ac 14;
(ch) rheoliadau 16 i 24 ac Atodlen 3;
(d) rheoliadau 25 i 30; ac
(dd) rheoliad 32.
(5) Pan fo paragraff (2) yn gymwys a bod Gweinidogion Cymru'n dyfarnu o dan baragraff (3) na fyddai'r prosiect yn brosiect cynefinoedd, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys–
(a) Rhannau 1 a 2;
(b) rheoliad 26; ac
(c) rheoliad 30.
(6) Yr ail achos yw pan fo Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu o dan reoliad 6–
(a) nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol; a
(b) nad yw'r treillio'n brosiect cynefinoedd;
ac, mewn achos o'r fath, dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys–
(i) Rhannau 1 a 2,
(ii) rheoliad 26, a
(iii) rheoliad 30.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), y trydydd achos yw pan fo'r treillio'n parhau i gael ei wneud yn unol â chytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn, ac mewn achos o'r fath dim ond darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn fydd yn gymwys–
(a) Rhannau 1 a 2;
(b) rheoliad 24 ac Atodlen 3;
(c) rheoliad 26;
(ch) rheoliad 29; a
(d) rheoliad 30.
(8) Pan fo cytundeb ysgrifenedig a wnaed gan y perchennog cyn cychwyn yn cael ei amrywio wrth gychwyn neu ar ôl cychwyn, dim ond pan fo Gweinidogion Cymru, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol, wedi dyfarnu nad yw treillio o dan y cytundeb fel y'i hamrywir felly yn brosiect perthnasol y bydd y treillio'n dod o dan y trydydd achos (a bydd Atodlen 2 yn effeithiol i bennu'r meini prawf dethol ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn).
6.–(1) Caiff person sy'n cynnig gwneud gwaith treillio ofyn am ddyfarniad rhagarweiniol gan Weinidogion Cymru o ran–
(a) p'un a fyddai'r treillio'n brosiect perthnasol ai peidio; a
(b) p'un a fyddai'r treillio'n brosiect cynefinoedd ai peidio.
(2) Cyn gwneud dyfarniad mewn ymateb i archiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori–
(a) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r person sy'n gofyn am y dyfarniad); a
(b) â'r cyrff ymgynghori priodol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) ddarparu'r cyfryw wybodaeth bellach o fewn y cyfryw gyfnod penodedig ac ar y cyfryw ffurf ag sy'n rhesymol ofynnol.
(4) Os bydd y person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) yn methu â darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani cyn pen y cyfnod penodedig neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach ag y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, bernir y bydd yr archiad wedi ei dynnu'n ôl.
(5) Wrth wneud dyfarniad rhagarweiniol mewn ymateb i gais o dan baragraff (1)(a) rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol yn yr achos penodol.
(6) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad rhagarweiniol, rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) anfon copi ohono i'r person sy'n gwneud yr archiad o dan baragraff (1) ac i unrhyw bersonau yr ymgynghorir â hwy o dan baragraff (2); a
(b) cymryd y camau y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol i sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd o dan sylw(22).
7.–(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "datganiad amgylcheddol" ("environmental statement") yw datganiad sy'n cynnwys –
(a) o leiaf yr wybodaeth a geir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a
(b) hynny o'r wybodaeth, a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno, ag sy'n rhesymol ofynnol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect perthnasol ac, o ystyried yn benodol wybodaeth a dulliau asesu cyfredol, ag y mae'n rhesymol gofyn i'r ceisydd ei llunio;
ac mae Atodlen 1 yn effeithiol at y dibenion hyn.
(2) Pan fydd ceisydd arfaethedig yn gofyn iddynt wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru roi barn ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy ddatganiad amgylcheddol.
(3) Cyn rhoi barn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori–
(a) â'r ceisydd arfaethedig;
(b) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r person sy'n gofyn am y farn); ac
(c) â'r cyrff ymgynghori priodol,
ynghylch yr wybodaeth i'w darparu drwy'r datganiad amgylcheddol.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o farn a roddir o dan y rheoliad hwn i unrhyw berson yr ymgynghorwyd ag ef o dan baragraff (3).
8.–(1) Pan fo'r cais a gynigir yn gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol, caiff ceisydd arfaethedig roi hysbysiad o fwriad i gyflwyno cais i Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy'n angenrheidiol i nodi lleoliad a natur y treillio, a rhaid iddo nodi prif ganlyniadau amgylcheddol y treillio y cyfeirir atynt yn natganiad amgylcheddol y ceisydd arfaethedig.
(3) Cyn gynted ag y bydd cais o dan baragraff (1) yn dod i law, rhaid i Weinidogion Cymru –
(a) hysbysu'r cyrff ymgynghori priodol am enw a chyfeiriad y ceisydd arfaethedig ac am y ddyletswydd a roddir ar y cyrff ymgynghori hynny gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r person hwnnw;
(b) hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enwau a chyfeiriadau'r cyrff a hysbysir o dan is-baragraff (a); ac
(c) hysbysu'r ceisydd arfaethedig am enw a chyfeiriad pob un o adrannau'r llywodraeth a gaiff ddal gwybodaeth a all fod yn berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i unrhyw gorff a hysbysir o dan baragraff (3)(a) neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth y rhoddir gwybod amdani i'r ceisydd arfaethedig o dan baragraff (3)(c), neu Weinidogion Cymru, os gofynnir iddynt wneud hynny gan y ceisydd arfaethedig, ddyfarnu p'un a oes ganddo yn ei feddiant, ganddi yn ei meddiant neu ganddynt yn eu meddiant unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i baratoi'r datganiad amgylcheddol ai peidio ac, os oes ganddo, ganddi neu ganddynt wybodaeth, rhaid i'r corff, yr adran neu Weinidogion Cymru sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i'r ceisydd arfaethedig.
(5) Nid yw paragraff (4) yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth–
(a) y mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(23) yn gymwys iddi, os byddai gan y person sy'n dal yr wybodaeth yr hawl i'w hatal mewn ymateb i archiad a wneir yn unol â'r Rheoliadau hynny; neu
(b) a fyddai, mewn unrhyw achos arall, yn wybodaeth esempt pe gofynnid am iddi gael ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(24).
(6) Caiff corff neu unrhyw un o adrannau'r llywodraeth sy'n sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn unol â pharagraff (4) (ac eithrio Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais) godi tâl rhesymol sy'n adlewyrchu'r gost o sicrhau bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.
9.–(1) Pan fo archiad yn cael ei wneud o dan reoliad 7(2), neu pan fo hysbysiad yn cael ei roi o dan reoliad 8(1), rhaid i'r ceisydd arfaethedig dalu i Weinidogion Cymru y ffi a ddyfernir yn unol â rheoliad 25, ond pan fo archiad yn cael ei wneud a hysbysiad yn cael ei roi mewn cysylltiad â'r un cais, dim ond un ffi o'r fath sy'n daladwy.
(2) Ni oes rheidrwydd ar Weinidogion Cymru i gyflawni unrhyw weithred mewn ymateb i archiad neu hysbysiad hyd oni fydd y ffi wedi ei thalu.
10.–(1) O ran cais am ganiatâd i dreillio–
(a) rhaid ei wneud i Weinidogion Cymru;
(b) rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani;
(c) onid yw'r treillio'n dod o fewn un o'r achosion a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3), rhaid iddo gynnwys datganiad amgylcheddol;
(ch) pan fo paragraff (2) yn gymwys, a phan fo dyfarniad yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â rhan yn unig o'r treillio, rhaid iddo gynnwys datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag unrhyw ran o'r treillio nad yw'r dyfarniad yn gymwys iddo; a
(d) rhaid amgáu gyda'r cais ffi a ddyfernir yn unol â rheoliad 25.
(2) Yr achos cyntaf yw os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu o dan reoliad 5(2) fod y treillio'n brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol ac y byddai cymhwyso'r Rheoliadau hyn, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cael effaith andwyol ar y dibenion hynny.
(3) Yr ail achos yw os bydd Gweinidogion Cymru, cyn pen 12 mis cyn dyddiad y cais, wedi dyfarnu mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(a) nad yw'r treillio'n brosiect perthnasol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gyflenwi, o fewn y cyfnod y gellir yn rhesymol ei bennu, y nifer o gopïau o'r cais a all fod yn rhesymol ofynnol.
(5) Os bydd y ceisydd, o fewn y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y rheoliad hwn, tybir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfryw gyfnod, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru erbyn hynny wedi cyhoeddi hysbysiad o dan reoliad 12(1).
(6) Caniateir tynnu'n ôl gais o dan y rheoliad hwn ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Weinidogion Cymru, ac ad-delir y ffi os nad yw Gweinidogion Cymru, ar yr adeg pryd y mae hysbysiad tynnu'n ôl yn dod i law, wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).
(7) Pan fo cais o dan y rheoliad hwn yn dod i law, a hwnnw'n gais a all fod yn brosiect neu ran o brosiect sy'n bodloni dibenion amddiffyn gwladol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o'r cais hwnnw ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol.
11.–(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn–
(a) bod y datganiad amgylcheddol yn methu â chynnwys digon o wybodaeth o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw un neu rai o'r paragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 i alluogi rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau amgylcheddol y treillio; a
(b) o ystyried yn benodol wybodaeth a dulliau asesu cyfredol, y gellir yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth bellach o'r cyfryw ddisgrifiad.
(2) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd gyflenwi'r wybodaeth bellach honno y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod ei hangen a rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd–
(a) am y nifer o gopïau o'r wybodaeth bellach honno y mae'n ofynnol i'r ceisydd eu cyflenwi; a
(b) cyn pen pa gyfnod y mae'n rhaid cyflenwi'r wybodaeth bellach honno.
(3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen y cyfnod y mae Gweinidogion Cymru wedi ei bennu, neu'r cyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi os na fydd Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi erbyn hynny hysbysiad o dan reoliad 12(1).
12.–(1) Pan fo'r canlynol yn dod i law–
(a) cais a wneir o dan reoliad 10 sy'n cynnwys datganiad amgylcheddol; neu
(b) gwybodaeth bellach a gyflenwir o dan reoliad 11 neu wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd,
rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi drwy hysbysebu'n gyhoeddus, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysiad yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
(2) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol –
(a) enw'r ceisydd;
(b) datganiad bod y ceisydd wedi gwneud cais neu, yn ôl y digwydd, wedi cyflenwi gwybodaeth bellach neu wybodaeth arall, i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn;
(c) datganiad bod y cais yn ddarostyngedig i asesiad o'i effeithiau ar yr amgylchedd o dan y Rheoliadau hyn;
(ch) y bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud penderfyniad ar y cais o dan y Rheoliadau hyn a datganiad y gall y cais naill ai gael ei ganiatáu, p'un ai'n ddarostyngedig i amodau ai peidio, neu ei wrthod;
(d) cyfeiriad y man yng Nghymru lle y caniateir edrych ar gopïau o'r cais ac o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru ar yr adeg honno, yn ôl y digwydd;
(dd) datganiad y caniateir edrych ar y cais, unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall, ac unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru, yn y man hwnnw, yn ddi-dâl, ac ar unrhyw adeg resymol yn ystod cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai nag wyth wythnos yn cychwyn ar ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad;
(e) o ba gyfeiriad y gellir caffael copïau o'r cais ac o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru ac, os codir tâl o dan baragraff (3) am gyflenwi copïau, swm y tâl;
(f) datganiad y caiff unrhyw berson sy'n dymuno cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cais neu ynghylch unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall neu unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru wneud hynny'n ysgrifenedig cyn pen y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (dd); ac
(ff) i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir anfon sylwadau.
(3) Caniateir codi tâl rhesymol, ar unrhyw berson sy'n gofyn amdanynt, am ddarparu copïau o'r cais neu o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall neu o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y cyrff ymgynghori priodol ac at y perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd)–
(a) copi o'r cais a, chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ac o unrhyw adroddiadau neu gyngor sydd wedi eu dyroddi neu ei ddyroddi i Weinidogion Cymru, a
(b) datganiad–
(i) y caniateir cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru ynghylch y cais,
(ii) yn datgan i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir anfon y sylwadau, a
(iii) yn datgan cyn pen pa gyfnod, nad yw'n llai nag wyth wythnos yn cychwyn ar y dyddiad pryd y cyhoeddir gyntaf hysbysiad yn unol â pharagraff (1), y caniateir cyflwyno sylwadau.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol o unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hybu diogelu'r amgylchedd mewn dyfroedd morol) sy'n debygol o fod â diddordeb yn y cais, ond sy'n annhebygol o ddod i wybod amdano drwy gyfrwng yr hysbysebu cyhoeddus, rhaid i Weinidogion Cymru anfon i'r person hwnnw hysbysiad yn cynnwys y manylion a nodir ym mharagraff (2).
13.–(1) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i gais o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu a yw'r cais yn ymwneud â phrosiect sy'n brosiect cynefinoedd onid oes dyfarniad rhagarweiniol wedi ei wneud, cyn pen y 12 mis cyn cyflwyno'r cais, mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1)(b) na fyddai'r un prosiect yn brosiect cynefinoedd.
(2) Rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth y y mae'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud dyfarniad o dan baragraff (1).
(3) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd i brosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu y byddai'n brosiect cynefinoedd (p'un ai o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 6(1)(b)), rhaid i Weinidogion Cymru wneud asesiad priodol o'r goblygiadau ar gyfer y safle Ewropeaidd yr effeithir arno, yng ngoleuni ei amcanion cadwraeth; ac mae paragraff 2 o Atodlen 3 yn gymwys at y diben hwnnw.
(4) Cyn penderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd caiff Gweinidogion Cymru roi'r cyfle i gyflwyno sylwadau (yn bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylent gael cyfle o'r fath.
(5) Wrth benderfynu p'un ai i roi neu i wrthod caniatâd, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried–
(a) yr wybodaeth a ddarperir yn y cais;
(b) y datganiad amgylcheddol, pan fo un wedi ei ddarparu;
(c) unrhyw wybodaeth bellach a gyflenwir o dan reoliad 11 ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gan y ceisydd;
(ch) unrhyw sylwadau perthnasol a wneir mewn ymateb i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1), neu gan unrhyw un yr anfonwyd ato gopi o'r cais o dan reoliad 12(4) neu yr anfonwyd ato hysbysiad o dan reoliad 12(5);
(d) unrhyw farn a anfonwyd ymlaen at Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(4);
(dd) unrhyw adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru;
(e) adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff (4); ac
(f) unrhyw bolisi Gweinidogion Cymru sydd wedi ei gyhoeddi mewn perthynas ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.
(6) Ni chaiff Gweinidogion Cymru roi caniatâd ond –
(a) os bydd canlyniadau asesiad a wneir o dan baragraff (3) yn cadarnhau na fydd y prosiect perthnasol, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill, yn effeithio ar integriti'r safle Ewropeaidd; neu
(b) os ceir asesiad negyddol o'r goblygiadau ar gyfer y safle, os bydd y darpariaethau a geir ym mharagraff 2(7), neu 2(8) a (9) o Atodlen 3 yn gymwys.
(7) O ran rhoi caniatâd –
(a) caiff fod yn ddarostyngedig i'r amodau hynny sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru; gan gynnwys–
(i) amodau a fwriedir i weithredu unrhyw bolisi a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff (5)(f) sy'n cynnwys terfynau rhanbarthol ar faint o dunelli o fwynau y caniateir eu treillio, a
(ii) amodau o ran y ffioedd, a ddyfernir yn unol â rheoliad 25, i'w talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth asesu a dehongli canlyniadau unrhyw fonitro, a wneir yn unol â'r amodau hynny, i weld i ba raddau y cydymffurfir â'r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd;
a
(b) bydd yn cael ei wneud i'r perchennog ac, yn ddarostyngedig i unrhyw drosglwyddiad o dan reoliad 16, yn dod yn weithredol er budd y perchennog.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad at–
(a) y ceisydd;
(b) y perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd);
(c) unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â'r cais; ac
(ch) y cyrff ymgynghori priodol yr ymgynghorwyd â hwy o dan reoliad 12(4)
a rhaid i'r hysbysiad ddatgan –
(i) y prif resymau dros y penderfyniad,
(ii) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw'n berthnasol, wybodaeth am broses cyfranogiad y cyhoedd,
(iii) pan fo caniatâd yn cael ei roi, unrhyw amodau a osodir o dan baragraff (7)(a), ac, a phan fo'n briodol, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol, a
(iv) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(9) Cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dechrau ar ddyddiad y penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, yn yr un dull ag y cyhoeddwyd hysbysiad sy'n berthnasol i'r cais o dan reoliad 12 neu mewn dull tebyg iddo, hysbysiad yn cynnwys–
(a) datganiad bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi caniatâd neu, yn ôl y digwydd, wedi ei wrthod;
(b) disgrifiad o'r treillio y mae caniatâd wedi ei roi iddo neu, yn ôl y digwydd, wedi ei wrthod ar ei gyfer; ac
(c) y cyfeiriad yng Nghymru lle y caiff unrhyw berson edrych ar gopi o'r hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (8).
14.–(1) Mae person sydd yn gwneud y canlynol at ddibenion cael caniatâd o dan reoliad 13 (p'un ai ar ei gyfer ef ei hun neu ar gyfer rhywun arall) yn tramgwyddo,–
(a) gwneud datganiad neu sylw, neu gyflenwi dogfen neu wybodaeth, y mae'r person yn gwybod ei fod neu ei bod yn anwir mewn manylyn perthnasol; neu
(b) gwneud datganiad neu sylw yn ddi-hid, neu gyflenwi dogfen neu wybodaeth, sy'n anwir mewn manylyn perthnasol.
(2) Mae i berson fethu â chydymffurfio ag amod y mae caniatâd yn ddarostyngedig iddo yn dramgwydd.
15.–(1) Pan fo–
(a) yn hysbys i Weinidogion Cymru fod prosiect perthnasol yn debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd mewn gwladwriaeth AEE arall; neu
(b) gwladwriaeth AEE arall, y mae prosiect perthnasol o'r fath yn debygol o effeithio'n sylweddol ar ei thiriogaeth, yn gofyn,
rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl a heb fod yn hwyrach na dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 12(1), gymryd y camau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) anfon i'r wladwriaeth yr effeithir arni –
(i) manylion am leoliad a natur y treillio,
(ii) unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar effaith posibl y treillio ar yr amgylchedd yn y wladwriaeth yr effeithir arni, a
(iii) disgrifiad o natur y penderfyniad y gellir ei wneud o dan y Rheoliadau hyn;
(b) rhoi i'r wladwriaeth yr effeithir arni amser rhesymol er mwyn iddi, cyn i'r amser ddod i ben, ddweud a yw'n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer; ac
(c) cyhoeddi yn y London Gazette hysbysiad yn cynnwys y manylion a grybwyllir yn is-baragraff (a) ac yn nodi'r cyfeiriad o ble y gellir caffael gwybodaeth ychwanegol.
(3) Os yw gwladwriaeth yr effeithir arni'n mynegi dymuniad i gymryd rhan yn y weithdrefn y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted â phosibl, anfon i'r wladwriaeth honno yr effeithir arni hynny o'r wybodaeth ganlynol nad yw wedi ei darparu eisoes ar ei chyfer yn unol â pharagraff (2)–
(a) copi o unrhyw gais a wneir o dan reoliad 10;
(b) copi o unrhyw wybodaeth bellach a roddir o dan baragraff 11 neu wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd;
(c) copi o unrhyw hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1);
(ch) copïau o unrhyw adroddiadau a chyngor a ddyroddir i Weinidogion Cymru; a
(d) gwybodaeth berthnasol ynghylch y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau hefyd y rhoddir y cyfle i unrhyw gyrff a chanddynt gyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae'r wladwriaeth yr effeithir arni wedi ymgynghori â hwy a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle, cyn y penderfynir ar unrhyw gais, i anfon ymlaen i Weinidogion Cymru, cyn pen cyfnod rhesymol, eu barn ar y manylion a'r wybodaeth a ddarparwyd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) ymgynghori â'r wladwriaeth yr effeithir arni ynghylch, ymhlith materion eraill, effeithiau posibl y treillio ar amgylchedd y wladwriaeth honno yr effeithir arni a'r camau yr arfaethir eu cymryd i leihau neu i ddileu'r effeithiau hynny; a
(b) gyda chytundeb y wladwriaeth yr effeithir arni, ddyfarnu cyfnod rhesymol o amser i'r cyfnod ymgynghori barhau.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â gwladwriaeth yr effeithir arni yn unol â pharagraff (5) ynghylch y penderfyniad i'w wneud ar unrhyw gais o dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r wladwriaeth honno yr effeithir arni am y penderfyniad a rhaid iddynt anfon iddi hysbysiad o'r penderfyniad; a rhaid i'r hysbysiad ddatgan–
(a) y prif resymau am y penderfyniad;
(b) y prif ystyriaethau y seilir y penderfyniad arnynt, gan gynnwys, os yn berthnasol, wybodaeth am broses cyfranogi y cyhoedd; ac
(c) os rhoddir y caniatâd–
(i) unrhyw amodau a osodir o dan reoliad 13(7)(a), a
(ii) pan fo'n gymwys, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.
16.–(1) Rhaid i ganiatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn beidio â chael ei drosglwyddo naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol i berson arall heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ymlaen llaw ac os ymhonnir i unrhyw drosglwyddiad gael ei wneud heb gymeradwyaeth o'r fath bydd y trosglwyddiad yn ddi-rym.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, pan ddaw cais i law oddi wrth y perchennog neu'r deiliad, gymeradwyo trosglwyddo naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i amodau trosglwyddo y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol.
(3) Pan fo caniatâd yn cael ei drosglwyddo, bydd y perchennog –
(a) yn parhau'n atebol am dorri unrhyw amod y bydd y caniatâd yn ddarostyngedig iddo, pryd bynnag y bydd y tor-amod yn digwydd;
(b) yn parhau i fod a'r cyfryw hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â'r caniatâd ag y mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer.
(4) Ni fydd unrhyw ddeiliad caniatâd yn atebol am dorri amodau, sy'n cynnwys unrhyw amodau trosglwyddo, y mae'r caniatâd yn ddarostyngedig iddynt, ond pan dorrir hwynt tra bydd y deiliad yn ddeiliad y caniatâd.
(5) Ni fydd deiliad caniatâd yn atebol am dorri unrhyw amodau a osodir er mwyn gweithredu terfynau rhanbarthol ar faint o dunelli y caniateir eu treillio.
(6) Pan fo caniatâd wedi ei drosglwyddo gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o dan baragraff (2), bydd y trosglwyddiad yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau yn dechrau ar y dyddiad trosglwyddo, neu unrhyw gyfnod pellach y gall Gweinidogion Cymru gytuno iddo, onid yw'r trosglwyddai'n hysbysu Gweinidogion Cymru cyn pen y cyfnod hwnnw–
(a) bod y cyfan o'r caniatâd wedi ei drosglwyddo neu fod rhan o'r caniatâd wedi ei throsglwyddo, yn ôl y digwydd, i'r trosglwyddai;
(b) os trosglwyddo rhan yn unig a wneir, am hyd a lled y rhan a drosglwyddir; ac
(c) am y dyddiad trosglwyddo.
17.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu amrywio caniatâd a roddir o dan y Rheoliadau hyn, yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud hynny naill ai –
(a) ar gais person a grybwyllir yn rheoliad 18(1); neu
(b) ar gynnig Gweinidogion Cymru eu hunain, yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 21(1).
(3) Caiff unrhyw amrywiad ei wneud nid yn unig i'r caniatâd ei hun ond hefyd i unrhyw amod yr oedd y caniatâd yn ddarostyngedig iddo cyn ei amrywio.
18.–(1) Caniateir gwneud cais am amrywio i Weinidogion Cymru –
(a) os trosglwyddwyd y cyfan o'r caniatâd o dan reoliad 16, gan y deiliad;
(b) os trosglwyddwyd rhan o'r caniatâd o dan reoliad 16, ac os trosglwyddiad mewn cysylltiad â'r rhan honno yw'r trosglwyddiad a gynigir, gan y deiliad;
(c) os bydd–
(i) person ("trosglwyddai arfaethedig") yn ystyried dod i gytundeb â'r perchennog neu'r deiliad ar gyfer trosglwyddo caniatâd o dan reoliad 16, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, a
(ii) yr amrywiad a gynigir yn gysylltiedig â rhan neu â'r cyfan o'r caniatâd y bwriedir ei drosglwyddo,
gan y trosglwyddai arfaethedig; ac
(ch) mewn unrhyw achos arall, gan y perchennog.
(2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) ("cais amrywio"), os y ceisydd yw'r deiliad neu os yw'n drosglwyddai arfaethedig (p'un ai o'r cyfan neu o ran o'r caniatâd), gael dogfen yn mynd gydag ef yn dynodi cydsyniad ysgrifenedig y perchennog i'r cais.
(3) Cyn penderfynu p'un ai i ganiatáu cais amrywio ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) oni phenderfynwyd bod y treillio'n brosiect amddiffyn gwladol pan roddwyd caniatâd ar gyfer y treillio, benderfynu, o ystyried y meini prawf dethol hynny sy'n berthnasol i'r amrywiad a gynigir, p'un a fyddai'r amrywiad yn brosiect perthnasol ai peidio; a
(b) p'un a fyddai'r amrywiad yn brosiect cynefinoedd ai peidio.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru, er mwyn iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3), o'r farn bod hynny'n angenrheidiol, cânt ofyn i'r person sy'n gwneud y cais amrywio gyflenwi unrhyw wybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod penodedig ac mewn unrhyw ddull sy'n rhesymol ofynnol.
(5) Os yw'r ceisydd yn methu â chyflenwi'r wybodaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (4) cyn pen y cyfnod penodedig neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais wedi ei dynnu'n ôl.
(6) Cyn gwneud dyfarniad o dan baragraff (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori–
(a) â'r perchennog (os nad y perchennog yw'r ceisydd);
(b) â'r ceisydd; a
(c) â'r cyrff ymgynghori priodol.
(7) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddynt wneud dyfarniad o dan baragraff (3);
(a) anfon copi ohono i'r ceisydd, ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y caniateir herio'r penderfyniad;
(b) anfon copi ohono i unrhyw bersonau eraill yr ymgynghorir â hwy o dan baragraff (6); ac
(c) cymryd y camau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol i sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd o dan sylw.
(8) Ar yr adeg yr anfonir i'r ceisydd y copi o'r dyfarniad o dan baragraff (7) rhaid i Weinidogion Cymru ofyn am i'r ffi briodol a ddyfernir o dan reoliad 25 gael ei thalu.
(9) Os na thelir y ffi o fewn y cyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru, neu'r cyfnod pellach y mae Gweinidogion Cymru ei ganiatáu, bernir y bydd y cais amrywio wedi ei dynnu'n ôl.
19.–(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(a) y byddai amrywiad yn brosiect perthnasol –
(a) rhaid i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu datganiad amgylcheddol cyn pen cyfnod penodedig a rhaid iddynt beidio â phenderfynu'r cais amrywio hyd nes y bydd y ceisydd wedi'i ddarparu; a
(b) bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gais o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18–
(i) rheoliadau 7 ac 8,
(ii) paragraffau (4), (5) a (6) o reoliad 10,
(iii) rheoliadau 11 a 12,
(iv) ac eithrio paragraff 7(b), rheoliad 13,
(v) rheoliadau 14 a 15,
(vi) rheoliad 23,
(vii) rheoliadau 25 i 27, ac
(viii) rheoliadau 29 a 30.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am ddatganiad amgylcheddol o dan baragraff (1)(a) ac nad yw wedi'i ddarparu cyn pen y cyfnod penodedig, neu unrhyw gyfnod pellach a ganiateir ganddynt, bernir bod y cais wedi'i dynnu'n ôl ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd unrhyw hysbyseb o dan reoliad 12(1), fel y'i cymhwysir gan baragraff 1(b), wedi'i chyhoeddi ar y dyddiad y tynnir y cais yn ôl.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3)(b) y byddai amrywiad yn brosiect cynefinoedd, bydd darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r cais amrywio yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas â chais a wnaed o dan reoliad 10, fel petai cyfeiriadau at benderfynu cais o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac ymadroddion cytras yn gyfeiriadau at benderfynu cais o dan reoliad 18–
(a) rheoliadau 13 a 14;
(b) rheoliadau 23 i 30.
20.–(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn dyfarnu o dan reoliad 18(3) na fyddai amrywiad yn brosiect perthnasol na phrosiect cynefinoedd, mae'r rheoliad hwn yn gymwys–
(a) i'r cais mewn cysylltiad â'r amrywiad hwnnw; a
(b) i unrhyw gais dilynol, mewn cysylltiad â'r un amrywiad, a gyflwynir i Weinidogion Cymru o fewn 12 mis i ddyddiad y dyfarniad.
(2) Pan fo'n rhesymol angenrheidiol, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach cyn pen unrhyw gyfnod ac ar unrhyw ffurf a bennir yn rhesymol.
(3) Pan fo'r ceisydd, cyn pen unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru wedi'i bennu, neu unrhyw gyfnod pellach y byddant yn ei ganiatáu, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw archiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2), bernir bod y cais amrywio wedi'i dynnu'n ôl ac ad-delir y ffi, ar yr amod na fydd Gweinidogion Cymru, ar ddyddiad ei dynnu'n ôl, wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (4).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon –
(a) copi o'r cais amrywio ac o unrhyw wybodaeth bellach a ddarparwyd o dan baragraff (2); a
(b) datganiad yn dweud y caniateir i sylwadau ynglyn â'r cais gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru, ac yn nodi i ba gyfeiriad yng Nghymru y caniateir i'r sylwadau gael eu hanfon, a chyn pen pa gyfnod y caniateir i'r sylwadau gael eu cyflwyno, sef cyfnod na fydd yn llai nag wyth wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y caiff y datganiad ei anfon,
at y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5).
(5) Dyma'r personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (4)–
(a) y cyrff ymgynghori priodol;
(b) y perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog); ac
(c) unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hyrwyddo gwaith diogelu'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru) y mae'n debyg bod ganddo fuddiant yn y cais neu y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai'r cais yn debyg o effeithio arno.
(6) Cyn penderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, i'r ceisydd, i'r perchennog (os nad y ceisydd yw'r perchennog) ac i unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn credu y dylid rhoi cyfle o'r fath iddo.
(7) Wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod cais amrywio y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i ystyriaeth –
(a) yr wybodaeth a ddarperir yn y cais amrywio;
(b) unrhyw wybodaeth bellach a ddarperir o dan baragraff (2) ac unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gan y ceisydd;
(c) unrhyw sylwadau perthnasol a gyflwynir mewn ymateb i'r copïau o'r cais a ddarperir o dan baragraff (4);
(ch) adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff (6); a
(d) unrhyw un o bolisïau cyhoeddedig Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.
(8) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu'r cais amrywio naill ai drwy roi neu wrthod caniatâd ar gyfer yr amrywiad.
(9) Caiff penderfyniad i roi caniatâd ar gyfer yr amrywio fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol, gan gynnwys –
(a) amodau sydd wedi'u bwriadu i roi ar waith unrhyw bolisi a gymerir i ystyriaeth o dan baragraff (7)(d) ac sy'n cynnwys terfynau rhanbarthol ar dunelledd y mwynau y caniateir treillio amdanynt, a
(b) amodau ynglyn â'r ffioedd, y dyfernir arnynt yn unol â rheoliad 25, ac sydd i'w talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth ddehongli ac asesu canlyniadau unrhyw waith i fonitro cydymffurfedd â'r amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd a hwnnw'n fonitro a wnaed yn unol â'r amodau hynny.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (8) at y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (5), a rhaid i'r hysbysiad ddatgan –
(a) y prif resymau dros y penderfyniad;
(b) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arno gan gynnwys, os yw'n berthnasol, gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd;
(c) pan fo caniatâd yn cael ei roi –
(i) unrhyw amodau a osodir o dan baragraff (9), a
(ii) pan fo'n gymwys, y prif gamau i'w cymryd i osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol; ac
(ch) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
21.–(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys–
(a) pan ddigwydd toriad sylweddol o unrhyw amod sy'n gysylltiedig â'r caniatâd neu â throsglwyddiad o'r caniatâd; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, pan fo Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwn, er mwyn diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau andwyol arwyddocaol a achosir gan y treillio a awdurdodir drwy'r caniatâd.
(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru–
(a) dirymu'r caniatâd; neu
(b) ei amrywio'n barhaol p'un ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol.
(3) Cyn dirymu neu amrywio'n barhaol ganiatâd o dan baragraff (2)–
(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig–
(i) i'r personau a restrir ym mharagraff (4), a
(ii) yn unol â darpariaethau paragraff (5);
a
(b) caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, neu'r rhan o'r caniatâd yr effeithir arni, yn ôl y digwydd, ddarparu erbyn dyddiad penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen, er mwyn i Weinidogion Cymru gadarnhau i ba raddau y mae'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig yn debygol o fod yn effeithiol i ddiogelu'r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol a achosir fel arall gan y treillio a awdurdodir drwy'r caniatâd ("yr wybodaeth ychwanegol").
(4) Y personau a grybwyllir ym mharagraff (3)(a)(i) yw–
(a) perchennog ac unrhyw ddeiliad y caniatâd neu'r rhan yr effeithir arni, yn ôl y digwydd;
(b) y cyrff ymgynghori priodol; ac
(c) unrhyw berson arall (gan gynnwys unrhyw gorff anllywodraethol sy'n hybu gwaith diogelu'r amgylchedd yn nyfroedd Cymru) sy'n debyg o fod â buddiant yn y cais neu y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddai'r dirymiad neu'r amrywiad yn debyg o effeithio arno.
(5) Rhaid i'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a)–
(a) hysbysu'r derbynwyr o'r dyddiad y bwriedir i'r dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig ddod yn weithredol o dan reoliad 22;
(b) pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad ("y cyfnod penodedig"), y caniateir i sylwadau gael eu cyflwyno am y dirymiad neu'r amrywiad arfaethedig; ac
(c) hysbysu'r derbynwyr o ganlyniadau methu â chydymffurfio ag archiad am wybodaeth ychwanegol a wnaed o dan baragraff 3(b), fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8).
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a) drwy hysbyseb gyhoeddus.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol i'r treillio beidio neu i'r caniatâd gael ei amrywio cyn gynted â phosibl –
(a) caiff y caniatâd ei atal dros dro neu daw'r amrywiad arfaethedig, yn ôl y digwydd, yn weithredol (am y tro ac wrth aros am benderfyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (11)) o'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (3)(a) i–
(i) deiliad y caniatâd, os oes un, neu,
(ii) os nad oes un, y perchennog; a
(b) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff 3(a) hysbysu'r derbynwyr o'r penderfyniad o dan y paragraff hwn a rhaid iddo ddatgan –
(i) y prif resymau dros y penderfyniad;
(ii) y prif ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt; a
(iii) y caniateir herio'r penderfyniad gael ei herio a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff (3)(b), ond nad yw'r wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu erbyn y dyddiad a bennwyd neu cyn pen unrhyw gyfnod pellach a ganiateir gan Weinidogion Cymru, ac nad yw'r caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (7), caiff y caniatâd ei atal dros dro.
(9) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan baragraff (8) –
(a) os yw'r wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu er bodlonrwydd Gweinidogion Cymru cyn pen chwe mis i'r ataliad dros dro, bydd yr ataliad dros dro yn peidio a bydd y caniatâd yn parhau i fod yn effeithiol;
(b) os na chaiff yr wybodaeth ychwanegol ei darparu felly, rhaid i'r caniatâd gael ei ddirymu gan Weinidogion Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru anfon hysbysiad o'r dirymiad at y personau a restrwyd ym mharagraff (4).
(10) Os, cyn pen y cyfnod penodedig, bydd person y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan baragraff (3)(a), neu berson sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (3)(a), yn gofyn amdano, caiff Gweinidogion Cymru roi–
(a) i'r person hwnnw; a
(b) i unrhyw berson arall y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3)(a), neu sydd wedi cyflwyno sylwadau mewn ymateb i'r hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6),
gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(11) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid dirymu'r caniatâd neu ei amrywio'n barhaol gan roi sylw, yn benodol–
(a) i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (3)(a) neu hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6); a
(b) os yw'n gymwys, i adroddiad unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (10).
(12) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o'r penderfyniad o dan baragraff (11) i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (3)(a) ac i unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn ymateb i hysbyseb a gyhoeddwyd o dan baragraff (6); a rhaid i'r hysbysiad ddatgan–
(a) y prif resymau dros y penderfyniad;
(b) y prif ystyriaethau y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt, gan gynnwys, os yw'n berthnasol, gwybodaeth am y broses o gyfranogi gan y cyhoedd; ac
(c) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
22.–(1) Daw dirymiad neu amrywiad o dan reoliad 21(2) yn weithredol, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar y dyddiad y caiff hysbysiad ei gyflwyno o dan reoliad 21(12).
(2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan reoliad 21(12) mewn cysylltiad â'r un dirymiad neu amrywiad a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar wahanol ddiwrnodau, daw'r dirymiad neu'r amrywiad yn weithredol ar y dyddiad y caiff yr olaf ohonynt ei gyflwyno.
(3) Pan fo caniatâd wedi'i atal dros dro neu fod amrywiad wedi dod yn weithredol dros dro, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 21(7), ond bod penderfyniad terfynol Gweinidogion Cymru o dan reoliad 21(11) yn benderfyniad i beidio â dirymu'r caniatâd nac i'w amrywio'n barhaol, bydd y caniatâd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith yn ôl y telerau a oedd yn effeithiol cyn yr amrywiad dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd o dan reoliad 21(12).
(4) Mewn perthynas â chaniatâd sydd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), sy'n parhau i gael effaith o dan reoliad 21(9)(a) neu y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i ddirymu –
(a) ymdrinnir ag unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau ac sy'n dirwyn i ben ar y dyddiad yr ataliwyd y caniatâd dros dro, fel cyfnod sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro; a
(b) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw beth gael ei wneud erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei atal dros dro, caiff y dyddiad penodedig hwnnw ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro.
(5) Mewn perthynas â chaniatâd a gafodd ei amrywio dros dro o dan reoliad 21(8) ond y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 21(11) i beidio â'i amrywio'n barhaol–
(a) bydd unrhyw gyfnod a bennwyd yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau ac sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio dros dro o dan baragraff (b), os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio; a
(b) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad pryd y cafodd y caniatâd ei amrywio dros dro, bydd y dyddiad penodedig, os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio.
(6) Ni fydd dirymu neu amrywio caniatâd o dan reoliad 21(2), atal caniatâd dros dro o dan reoliad 21(7) neu 21(8), neu amrywio dros dro ganiatâd o dan reoliad 21(7), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad y cafodd y caniatâd ei ddirymu, ei amrywio, ei atal dros dro neu ei amrywio dros dro, yn ôl y digwydd.
23.–(1) Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw, er mwyn sicrhau (p'un ai iddo'i hun neu i rywun arall) drosglwyddiad o ganiatâd o dan reoliad 16 neu amrywiad o ganiatâd o dan reoliad 17, neu mewn ymateb i archiad o dan reoliad 21(3)(b) –
(a) yn gwneud datganiad neu'n cyflwyno sylw, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth, y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn anwir mewn manylyn perthnasol; neu
(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad neu'n cyflwyno sylw, neu'n darparu dogfen neu wybodaeth, sy'n anwir mewn perthnasol.
(2) Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod trosglwyddo.
(3) Tra bo caniatâd wedi'i atal dros dro o dan reoliad 21(7) neu reoliad 21(8), bydd unrhyw dreillio parhaol neu unrhyw dreillio pellach o dan y cytundeb yn dramgwydd.
24. Mae Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â threillio yn nyfroedd Cymru.
25. Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae Gweinidogion Cymru i ddyfarnu'r ffioedd sydd i'w talu –
(a) gan geisydd arfaethedig mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran cyflawni naill neu'r llall o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff neu'r ddau ohonynt (2);
(b) gan geisydd mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran ystyried unrhyw gais o dan reoliad 10(1) neu reoliad 18(1), rhoi cyhoeddusrwydd i'r cais hwnnw a phenderfynu a ddylid ei ganiatáu neu ei wrthod;
(c) gan berchennog neu ddeiliad unrhyw ganiatâd mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru o ran dehongli ac asesu canlyniadau unrhyw fonitro y darperir ar ei gyfer gan yr amodau sy'n gysylltiedig â'r caniatâd, sef monitro–
(i) y modd y mae'r treillio a ganiateir gan y caniatâd hwnnw yn cael neu wedi cael ei gyflawni, a
(ii) effeithiau'r treillio hwnnw,
drwy graffu'n benodol ar wybodaeth electronig neu ysgrifenedig gan gynnwys arolygon.
(2) Y gweithgareddau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1(a) yw–
(a) rhoi barn o dan reoliad 7(2); a
(b) darparu'r wybodaeth sy'n berthnasol i'r broses o baratoi'r datganiad amgylcheddol yn unol â rheoliadau 8(3) a (4).
(3) Mae ffioedd o dan yr adran hon i'w dyfarnu gan Weinidogion Cymru gyda chydsyniad y Trysorlys, ar ôl ymgynghori, ynghylch yr egwyddorion sydd i'w cymhwyso wrth ddyfarnu'r ffioedd a symiau'r ffioedd, â chyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli personau sy'n debyg o wneud cais am ganiatâd.
26.–(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofrestr sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys copi, naill ai ar ffurf ffotograffig neu ar ffurf electronig neu'r ddwy, o'r canlynol–
(a) pob dyfarniad a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 5(2);
(b) pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5(4);
(c) pob cais am ddyfarniad cychwynnol o dan reoliad 6(1);
(ch) pob dyfarniad cychwynnol a wneir gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i gais o dan reoliad 6(1);
(d) pob barn a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(2);
(dd) pob cais am ganiatâd i dreillio a wneir i Weinidogion Cymru o dan reoliad 10(1), gan gynnwys unrhyw ddatganiad amgylcheddol, ac unrhyw blaniau a lluniadau sy'n dod gyda'r ceisiadau hynny;
(e) unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarperir o dan reoliad 11(2), neu unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd;
(f) pob hysbysiad a gyhoeddir o dan reoliad 12(1);
(ff) unrhyw adroddiadau a ddyroddir ac unrhyw gyngor a roddir i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn;
(g) pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13(1);
(ng) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd o dan reoliad 13(2);
(h) pob penderfyniad gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 13(7), gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 13(4) mewn cysylltiad â'r cais, manylion unrhyw amodau y rhoddwyd y caniatâd yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad;
(i) pob cymeradwyaeth o drosglwyddiad a roddir o dan reoliad 16(2), gan gynnwys copi o unrhyw amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt;
(j) pob cais am amrywio caniatâd a wneir o dan reoliad 18(1);
(l) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd neu unrhyw benderfyniad, dyfarniad neu farn gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chais am amrywio caniatâd i dreillio, o dan unrhyw reoliad a gymhwysir i gais o dan reoliad 18(1) gan reoliad 19(1)(b) neu reoliad 19(3);
(ll) pob dyfarniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 18(3);
(m) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd ar gyfer amrywiad o dan reoliad 20(2);
(n) pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 20(8) mewn perthynas ag amrywiad arfaethedig, gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 20(6) mewn cysylltiad â'r cais, manylion unrhyw amodau y rhoddwyd yr amrywiad yn ddarostyngedig iddynt a dyddiad y penderfyniad;
(o) pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(3)(a);
(p) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan berchennog neu ddeiliad caniatâd mewn ymateb i archiad o dan reoliad 21(3)(b);
(ph) adroddiad unrhyw berson a benodir o dan reoliad 21(10);
(r) pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(11);
(rh) pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 21(12);
(s) gorchymyn unrhyw lys mewn unrhyw achos cyfreithiol mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn;
(t) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan geisydd o dan baragraff 2(2) o Atodlen 3;
(th) unrhyw wybodaeth a ddarperir gan berchennog neu ddeiliaid caniatâd o dan baragraff 3(4) o Atodlen 3;
(u) pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru i gadarnhau, dirymu neu amrywio caniatâd o dan baragraff 3(5) o Atodlen 3;
(w) pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 4(1) o Atodlen 3;
(y) pob hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5(1) neu (5) o Atodlen 3;
(a2) pob penderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adolygiad o dan baragraff 5(4) o Atodlen 3, gan gynnwys copi o adroddiad unrhyw berson a benodir o dan baragraff 5(3) o'r Atodlen honno mewn cysylltiad â'r adolygiad, a dyddiad y penderfyniad;
(b2) unrhyw ddatganiad o'r rhesymau sy'n dod gydag unrhyw un o'r uchod;
(c2) unrhyw gynllun monitro, adroddiad neu wybodaeth arall a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan amod y gwnaed y caniatâd i dreillio, neu gydsyniad i drosglwyddo caniatâd o dan reoliad 16, yn ddarostyngedig iddo;
(ch2) unrhyw sylw a gyflwynir neu wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru gan unrhyw berson neu gorff, ac yn enwedig yr Ysgrifennydd Gwladol, Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon neu wladwriaeth AEE, mewn cysylltiad ag unrhyw swyddogaeth a gyflawnwyd neu sydd i'w chyflawni gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn; a
(d2) gorchymyn unrhyw lys mewn unrhyw achos cyfreithiol pan gwestiynwyd dilysrwydd unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, barn neu weithred arall gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn wedi'i amau.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys mynegai.
(4) Rhaid i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol, drwy apwyntiad ymlaen llaw.
(5) Pan fo'r gofrestr yn cael ei chadw gan ddefnyddio dull storio electronig, caiff Gweinidogion Cymru drefnu i'r gofrestr fod ar gael i'r cyhoedd gael edrych arni ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(6) Pan fo unrhyw aelod o'r cyhoedd yn gofyn iddynt wneud hynny ac wedi iddo dalu ffi resymol, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu copi o unrhyw ddogfen a gofnodwyd ar y gofrestr.
(7) Ac eithrio pan fo paragraff (8) yn gymwys, rhaid i gofnod yn y gofrestr gael ei gwneud cyn pen 28 o ddiwrnodau –
(a) ar ôl y dyddiad y daw unrhyw gais, sylw, gwybodaeth, cynllun, adroddiad neu orchymyn i law Gweinidogion Cymru;
(b) ar ôl dyddiad rhoi'r gymeradwyaeth neu farn berthnasol, neu wneud y penderfyniad neu ddyfarniad perthnasol, neu ddyroddi'r hysbysiad perthnasol.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn y gallai gwneud cofnod yn y gofrestr yn unol â pharagraff (7) beryglu tegwch neu gyflymder y broses o roi unrhyw gymeradwyaeth neu farn, neu wneud unrhyw benderfyniad neu ddyfarniad, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r cofnod gael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r gymeradwyaeth neu'r farn gael ei rhoi neu ar ôl i'r penderfyniad neu'r dyfarniad gael ei wneud.
27.–(1) Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored–
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Pan fo wedi'i phrofi bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu y gellid ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "swyddog" ("officer"), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r corff neu berson sy'n ymhonni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y swydd honno.
(4) At ddibenion paragraff (3), ystyr "cyfarwyddwr" ("director"), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
(5) Mae achos am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni o dan y Rheoliadau hyn gan gorff anghorfforaethol i'w ddwyn yn enw'r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un o'i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o'r fath, mae unrhyw reolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel petai'r corff hwnnw'n gorfforaeth.
(6) Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y rheoliad hwn, a chaniateir ymdrin â'r tramgwydd at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni yn unrhyw le yng Nghymru.
(7) Caniateir dwyn achos i gael datganiad o dan reoliad 3(2), a chaniateir ymdrin â'r tor rheoliad y cwynir amdano at bob diben atodol fel petai wedi'i gyflawni mewn unrhyw ran o Gymru.
28. Nid yw Adran 3 o Ddeddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878(25) (cydsyniadau ag erlyniadau am dramgwyddau a gyflawnwyd ar y môr agored gan bersonau nad ydynt yn ddinasyddion Prydeinig) yn gymwys i unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
29.–(1) Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal er mwyn arfer unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mewn perthynas ag ymchwiliad lleol a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn, mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 (pwer i gyfarwyddo bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(26) yn gymwys–
(a) fel y bônt yn gymwys i ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y Ddeddf honno;
(b) o ddileu'r geiriau "local authority or" o is-adran (4) (darpariaethau ynghylch costau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran cynnal ymchwiliadau); ac
(c) fel petai cyfeiriadau yn isadrannau (4) a (5) (darpariaethau ynghylch gorchmynion ar gyfer talu costau partïon mewn ymchwiliadau) at "the Minister", yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.
30.–(1) Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw gais, cymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad, hysbysiad, barn neu archiad fod yn ysgrifenedig pan fo'r derbynnydd yn cydsynio â'i dderbyn neu ei derbyn yn electronig a bod y ddogfen yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4) ac mae "ysgrifenedig" i'w ddehongli'n unol â hynny.
(2) Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am unrhyw gymeradwyaeth, penderfyniad, dyfarniad neu farn, o dan y Rheoliadau hyn gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, bernir bod y person sy'n gwneud y cais wedi cytuno –
(a) i ddefnyddio'r cyfathrebiadau hynny at bob diben sy'n ymwneud â'r cais y mae modd eu cyflawni'n electronig;
(b) mai'r cyfeiriad at ddibenion y cyfathrebiadau hynny yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn y cais neu sydd wedi'i gysylltu fel arall yn rhesymegol â'r cais hwnnw; ac
(c) y bydd y cytundeb tybiedig o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes y bydd y person hwnnw'n hysbysu ei fod am ddirymu'r cytundeb.
(3) Pan na fo person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebiadau electronig mwyach mewn perthynas ag unrhyw gais o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru a bydd y dirymu hwnnw'n derfynol ac yn dod yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(4) Y meini prawf y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y ddogfen a drosglwyddir drwy'r cyfathrebiadau electronig–
(a) yn un y gellir ei chyrchu gan y derbynnydd;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol; ac
(c) yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati wedi hynny.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn perthnasol" yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbynnydd i raddau nad ydynt yn llai â phe câi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag ei gwneud yn ofynnol i geisydd am ganiatâd o dan reoliad 10 neu'r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw gais o dan reoliad 6(1), 7(2), 16(2) neu 18(1) neu berchennog neu ddeiliad caniatâd yn achos dirymiad neu amrywiad arfaethedig o dan reoliad 21, ddarparu'r nifer o gopïau printiedig o unrhyw ddogfen y bydd ar Weinidogion Cymru angen rhesymol amdanynt, er gwaethaf y ffaith bod y ddogfen eisoes wedi'i throsglwyddo'n electronig i Weinidogion Cymru.
(7) Pan fo'r cyfathrebiad electronig yn dod i law'r derbynnydd y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Wyl Banc nac yn wyl gyhoeddus arall.
(8) Yn y rheoliad hwn–
(a) mae'r term "cyfeiriad" ("address") yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion y cyfathrebiadau hynny neu'r storio hwnnw; a
(b) mae i "cyfathrebiad electronig" yr ystyr a roddir i ("electronic communication") gan adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(27).
31.–(1) Caiff cais o dan y naill neu'r llall o'r gweithdrefnau a grybwyllir ym mharagraff (3) sy'n aros yn gais heb ei ddyfarnu ar y cychwyn, ac a fyddai, petai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn, yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau, ei drin (oni chaiff ei dynnu'n ôl) fel cais am ganiatâd neu, yn ôl y digwydd, amrywiad a wneir yn briodol o dan y Rheoliadau hyn os yw'n cynnwys datganiad amgylcheddol.
(2) Caiff camau a gymerwyd yn unol â'r gweithdrefnau hynny mewn perthynas â chais sy'n cael ei drin yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (1) eu trin fel camau a gymerwyd o dan reoliad 12, i'r graddau y caiff Gweinidogion Cymru eu bodloni bod y camau fel y'u cymerwyd gan y ceisydd yn rhoi i raddau helaeth yr un faint o gyhoeddusrwydd i'r cais hwnnw â'r cyhoeddusrwydd ag y byddai cais wedi'i gael gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 12.
(3) Y gweithdrefnau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw'r rhai a ddisgrifir –
(a) yn y ddogfen o'r enw "Offshore Dredging for Sand, Gravel and other Minerals", a ddyddiwyd Ebrill 1989, ac a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gymreig ac Adran yr Amgylchedd; a
(b) yn y ddogfen o'r enw "Government View: New Arrangements for the Licensing of Minerals Dredging", a ddyddiwyd Mai 1998, ac a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gymreig ac Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau.
(4) Pan fo caniatâd yn cael ei roi neu ei amrywio o ganlyniad i unrhyw gais y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ganiatadau a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10.
32.–(1) Yn Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(28), yng ngholofn 1 o'r tabl, ym mharagraff 2(c), ar ôl "fluvial" mewnosoder "or marine".
(2) Nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â'r canlynol–
(a) unrhyw gais am ganiatâd cynllunio, neu am ddiwygio caniatâd cynllunio sy'n bodoli eisoes ac a gofnodwyd neu a gafwyd gan awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad cychwyn;
(b) unrhyw apêl mewn perthynas â'r cais hwnnw;
(c) unrhyw fater y mae awdurdod cynllunio lleol, cyn cychwyn, wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 (dyroddi hysbysiad gorfodi) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(29); neu
(ch) unrhyw ddatblygiad a ddechreuwyd cyn y cychwyn gan ddibynnu ar ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(30).
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
6 Medi 2007
Rheoliadau 7(1) ac 11(1)
1. Disgrifiad o'r prosiect, sef gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.
2. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir er mwyn osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, unioni unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.
3. Y data y mae eu hangen i adnabod ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
4. Braslun o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol–
(a) disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion o ran defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu a'r cyfnod gweithredol;
(b) disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur y deunyddiau a ddefnyddir a pha faint ohonynt a ddefnyddir;
(c) amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) a fyddai'n deillio o weithredu'r prosiect arfaethedig.
2. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros y dewis hwn, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a rhyngberthynas y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd, a hwnnw'n ddisgrifiad a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fyddai'n deillio o:
(a) bodolaeth y prosiect;
(b) y defnydd o adnoddau naturiol;
(c) allyriant llygrwyr, creu niwsansau a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth ymarferol) y daethpwyd ar eu traws gan y ceisydd wrth grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol.
Rheoliad 5(8)
1. Rhaid ystyried nodweddion y prosiectau, gan roi sylw, yn benodol, i–
(a) maint y prosiect;
(b) sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;
(c) y defnydd o adnoddau naturiol;
(ch) cynhyrchu gwastraff;
(d) llygredd a niwsansau;
(dd) y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw, yn benodol, i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol, i –
(a) y defnydd presennol o'r tir;
(b) digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal;
(c) gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, o roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol–
(i) gwlyptiroedd,
(ii) parthau arfordirol,
(iii) ardaloedd mynyddig a fforestydd,
(iv) gwarchodfeydd natur a pharciau,
(v) ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth y gwladwriaethau AEE; ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd gan Aelod-wladwriaethau o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd,
(vi) ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn deddfwriaeth Gymunedol,
(vii) ardaloedd dwys eu poblogaeth,
(viii) tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw, yn benodol, i–
(a) hyd a lled yr effaith (yr ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b) natur drawsffiniol yr effaith;
(c) graddfa a chymhlethdod yr effaith;
(ch) tebygolrwydd yr effaith;
(d) hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.
Rheoliadau 13(3) a 24
1.–(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr "Natura 2000" yw'r rhwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd cadwraeth arbennig, ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt, y darparwyd ar eu cyfer gan Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
(2) At ddibenion paragraffau 3 a 4 o'r Atodlen hon, estynnir y diffiniad o "safle Ewropeaidd" yn rheoliad 2 drwy fewnosod y paragraff canlynol–
"(d) safle sy'n lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth y mae ymgynghoriad wedi'i gychwyn mewn cysylltiad ag ef neu hi o dan Erthygl 5(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yn ystod y cyfnod ymgynghori neu wrth aros am benderfyniad y Cyngor o dan Erthygl 5(3)."
2.–(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran pob prosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 6, 13(1) neu 18(3) y byddai'n brosiect cynefinoedd.
(2) Rhaid i berson sy'n gwneud cais o dan reoliad 10, neu o dan reoliad 18, ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru at ddibenion yr asesiad o dan reoliad 13(3) neu'r rheoliad hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 19(3).
(3) At ddibenion yr asesiad, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gwyddonol priodol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd camau priodol hefyd i gael barn y cyhoedd at ddibenion yr asesiad.
(5) Yng ngoleuni'r casgliad y daethpwyd iddo yn yr asesiad, ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) isod, dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru ganfod na fydd y prosiect, naill ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd y cânt roi caniatâd ar gyfer y prosiect hwnnw.
(6) Wrth bwyso a mesur a fyddai'r prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw–
(a) i'r modd y bwriedir cyflawni'r prosiect; a
(b) i unrhyw amodau neu gyfyngiadau y bwriedir i'r caniatâd a roddir fod yn ddarostyngedig iddynt.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu y câi unrhyw effeithiau andwyol y prosiect ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd eu hosgoi pe bai'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, dim ond yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall caniatâd gael ei roi.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt, yn ddarostyngedig i baragraff (9) isod, fod o natur gymdeithasol neu economaidd), caiff caniatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai–
(a) yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu
(b) rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.
3.–(1) Pan fo–
(a) Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad y daw safle yn safle Ewropeaidd, wedi rhoi caniatâd o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn credu a fyddai wedi bod yn brosiect cynefinoedd pe bai'r safle Ewropeaidd wedi'i ddynodi ar y dyddiad y dyfarnwyd ar y cais am y caniatâd; a
(b) dim un o'r amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn gymwys,
rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r safle yn safle Ewropeaidd, adolygu'r caniatâd.
(2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b) yw–
(a) bod y treillio y mae'r caniatâd yn ymwneud ag ef wedi'i gwblhau cyn i'r safle ddod yn safle Ewropeaidd;
(b) bod y caniatâd wedi'i roi yn ddarostyngedig i amod ynglyn â'r cyfnod yr oedd y treillio y mae'n ymwneud ag ef i'w ddechrau a bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben heb fod y treillio wedi'i ddechrau, a bod dim modd i'r caniatâd gael ei weithredu mwyach heb gael ei amrywio gan Weinidogion Cymru; ac
(c) bod y caniatâd wedi'i roi am gyfnod penodedig a bod y cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adolygu'r caniatâd, wneud asesiad priodol o oblygiadau'r treillio i'r safle oherwydd ei amcanion cadwraeth; a bydd darpariaethau is-baragraffau (3), (4), (5) a (6) o baragraff 2 yn gymwys, gydag addasiadau priodol, mewn perthynas ag adolygiad o'r fath.
(4) Pan fo caniatâd yn cael ei adolygu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, yn ôl y digwydd, ddarparu, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ar Weinidogion Cymru ei hangen er mwyn cynnal yr adolygiad ac, os na ddarperir yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennwyd, neu unrhyw gyfnod pellach y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r caniatâd heb gwblhau'r adolygiad.
(5) Wedi iddynt adolygu caniatâd o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru–
(a) ei gadarnhau neu ei amrywio yn unol ag is-baragraff (6), (7) neu (8); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, ei ddirymu.
(6) Caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd.
(7) Caniateir i'r caniatâd gael ei amrywio os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y câi unrhyw effeithiau andwyol gwaith i gyflawni neu, yn ôl y digwydd, parhau â'r prosiect, eu hosgoi drwy amrywio'r caniatâd.
(8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt fod o natur gymdeithasol neu economaidd, ac eithrio mewn achosion y mae is-baragraff (9) yn gymwys iddynt), caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai –
(a) yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd; neu
(b) yn rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau caniatâd o dan is-baragraff (8) mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (6) neu (7) yn gymwys.
(11) Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n effeithio ar unrhyw beth a wneir o dan y caniatâd cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.
4.–(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cychwyn, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb ysgrifenedig –
(a) y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a
(b) y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i safle ddod yn safle Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb –
(a) y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a
(b) y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd yn sgil –
(i) dynodi'r safle Ewropeaidd, neu
(ii) cynnig gan Weinidogion Cymru i safle gael ei ddynodi'r ardal gwarchodaeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
(5) Ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (3), bydd y cytundeb yn cael effaith i bob pwrpas fel caniatâd a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10 ac y mae'n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i'w adolygu o dan baragraff 3.
5.–(1) Pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl adolygiad o dan baragraff 3 neu 4, yn bwriadu dirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad–
(a) i'r perchennog;
(b) i unrhyw ddeiliaid y caniatâd, neu'r rhan yr effeithir arni, yn ôl y digwydd; ac
(c) i unrhyw berson arall yr effeithir arno, ym marn Gweinidogion Cymru, gan y dirymu neu'r amrywio,
yn eu hysbysu o'r penderfyniad ac yn pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad ("y cyfnod penodedig"), y caniateir i sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw gael eu cyflwyno ynddo.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad hefyd i unrhyw berson neu gorff y cafwyd cyngor gwyddonol oddi wrtho, yn ei hysbysu o'r penderfyniad ac yn ei wahodd i gyflwyno ei sylwadau o fewn y cyfnod penodedig.
(3) Os bydd angen hynny, o fewn y cyfnod penodedig, ar berson y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r dirymu neu'r amrywio, roi–
(a) i'r person hwnnw; a
(b) i unrhyw berson neu gorff arall y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan yr is-baragraff hwnnw neu is-baragraff (2),
gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, gan roi sylw, yn benodol–
(a) i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn ymateb i hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) neu (2); a
(b) os yw'n gymwys, i adroddiad unrhyw berson a benodir o dan is-baragraff (3),
a ddylid bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan–
(a) is-baragraff (1); neu
(b) is-baragraff (2),
hysbysiad o'r penderfyniad o dan is-baragraff (4) yn datgan –
(i) y prif resymau dros y penderfyniad,
(ii) y prif ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, a
(iii) y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
6.–(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu, o dan baragraff 5(1), ddirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, caiff y caniatâd ei atal dros dro neu bydd yr amrywio'n dod yn weithredol dros dro, yn ôl y digwydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff 5(1).
(2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff 5(1) mewn cysylltiad â'r un dirymu neu amrywio, a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar ddiwrnodau gwahanol, daw'r ataliad dros dro neu'r amrywiad dros dro'n weithredol ar y dyddiad y cyflwynir yr olaf ohonynt.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd o dan baragraff 5(4), bydd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith ar y telerau yr oedd y caniatâd hwnnw'n effeithiol arnynt cyn yr amrywio dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â bwrw ymlaen.
(4) Mewn perthynas â chaniatâd y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo–
(a) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â dirymu'r caniatâd –
(i) bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad yr ataliwyd y caniatâd dros dro o dan is-baragraff (1) neu is-baragraff (2), yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro, a
(ii) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw beth gael ei wneud erbyn dyddiad penodedig, sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei atal dros dro, caiff y dyddiad penodedig ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro.
(b) pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio ag amrywio'r caniatâd–
(i) bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro o dan is-baragraff (1) neu (2), os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio; a
(ii) pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro, caiff y dyddiad penodedig, os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio.
(5) Ni fydd dirymu neu amrywio o dan baragraff 5(1), neu atal caniatâd dros dro neu ei amrywio dros dro o dan is-baragraff (1), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad a ddyfarnwyd yn unol â'r is-baragraff hwnnw neu, yn ôl y digwydd, is-baragraff (2).
7. Pan fo–
(a) caniatâd yn cael ei roi ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd; neu
(b) caniatâd yn cael ei gadarnhau ar ôl adolygiad, er gwaethaf asesiad o'r fath,
rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 yn cael ei ddiogelu a rhaid iddynt sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei hysbysu o'r mesurau digolledu a gymerwyd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r canlynol mewn dyfroedd o amgylch Cymru y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau fel "dyfroedd Cymru":
Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 05.07.85, t.40) ar asesu effeithiau prosiectau penodol, boed yn rhai cyhoeddus neu'n rhai preifat, ar yr amgylchedd (fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a chan Gyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17), a
Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn,
i'r graddau y maent yn berthnasol i'r gwaith o echdynnu mwynau drwy dreillio gwely'r môr.
Yn ddarostyngedig i eithriadau sy'n bodoli ar gyfer treillio at ddibenion amddiffyn gwladol ac ar gyfer treillio a wneir o dan gytundebau penodol a oedd yn bodoli cyn i'r Rheoliadau ddod i rym, gweithredir y Cyfarwyddebau drwy sicrhau bod angen caniatâd ar gyfer prosiectau treillio gwely'r môr y mae'r naill gyfarwyddeb neu'r llall yn berthnasol iddynt (rheoliad 5) a bod unrhyw dreillio a wneir heb ganiatâd y mae ei angen yn dramgwydd (rheoliad 4). Rhaid gwneud ceisiadau am ganiatâd i dreillio i Weinidogion Cymru (rheoliad 10).
Gweithredir Cyfarwyddeb 85/337 drwy ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad amgylcheddol gael ei ddarparu mewn perthynas â chais sy'n ymwneud â phrosiect perthnasol, h.y. echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru a hynny'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd (rheoliad 10). Rhaid ystyried y datganiad hwnnw wrth benderfynu ar y cais (rheoliad 13). Gweithredir Cyfarwyddeb 92/43 drwy ei gwneud yn ofynnol i asesiad priodol o effeithiau treillio o'r fath gael ei wneud, pan fydd yn debygol, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (rheoliad 13(3) ac Atodlen 3). Cyfeirir at dreillio o'r fath yn y Rheoliadau fel "prosiect cynefinoedd". Safleoedd yn y Deyrnas Unedig a ddynodir o dan Gyfarwyddeb 92/43, a safleoedd a ddynodir yn ardaloedd gwarchodaeth arbennig o dan Gyfarwyddeb 79/409/EEC ar gadwraeth adar gwyllt ac a gaiff eu trin gan Gyfarwyddeb 92/43 fel pe baent wedi eu dynodi o dan y Gyfarwyddeb honno at y dibenion hyn yw safleoedd Ewropeaidd. At ddibenion y Rheoliadau hyn caiff safleoedd sydd wedi eu cynnig gan Weinidogion Cymru ar gyfer eu dynodi eu cynnwys hefyd. Os yw caniatâd yn ofynnol o dan reoliad 5, mae i bersonau ac eithrio'r Goron echdynnu mwynau drwy dreillio yn nyfroedd Cymru oni wneir y treillio yn unol â chaniatâd sydd wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn yn dramgwydd (rheoliad 4).
Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer camau penodol y caniateir eu cymryd cyn i unrhyw gais am ganiatâd gael ei wneud. Mae rheoliad 6 yn galluogi unrhyw berson sy'n cynnig gwneud gwaith treillio i ofyn i Weinidogion Cymru ddyfarnu a fyddai'r treillio hwnnw'n brosiect perthnasol, a dyfanrnu a fyddai'n brosiect cynefinoedd. Mae rheoliad 7 yn galluogi person sy'n bwriadu gwneud cais am ganiatâd sy'n gwneud datganiad amgylcheddol yn ofynnol i ofyn i Weinidogion Cymru roi barn ynghylch yr wybodaeth i'w darparu yn y datganiad amgylcheddol hwnnw. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff ymgynghori priodol, fel y'u diffinnir yn y Rheoliadau, i adrannau'r llywodraeth ac i Weinidogion Cymru nodi a darparu gwybodaeth i helpu gyda pharatoi datganiad amgylcheddol ac mae'n eu galluogi i godi tâl amdano. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â gofyn am farn o dan reoliad 7 ac â darparu gwybodaeth gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gais am ganiatâd yn cynnwys datganiad amgylcheddol (onid yw Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu fel arall). Rhaid amgáu ffi a ddyfarnwyd yn unol â rheoliad 25 gydag unrhyw gais am ganiatâd. Mae rheoliad 11 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth bellach, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r datganiad amgylcheddol gwreiddiol yn cynnwys digon o wybodaeth i alluogi effeithiau amgylcheddol y treillio a gynigir i gael eu hystyried yn llawn. O dan reoliad 12, rhaid i geisiadau fod yn ddarostyngedig i gyhoeddusrwydd ac ymgynghori. Mae rheoliad 13 yn nodi'r ystyriaethau (gan gynnwys y datganiad amgylcheddol ac unrhyw asesiad o'r effaith ar safle Ewropeaidd) a'r weithdrefn sy'n gymwys wrth benderfynu ar geisiadau. Cyn penderfynu ar gais am ganiatâd i wneud gwaith treillio, caiff Gweinidogion Cymru roi i bartïon penodol gyfle i wneud sylwadau yn bersonol neu'n ysgrifenedig i berson a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae rheoliad 14 yn creu tramgwyddau os darperir gwybodaeth anwir mewn perthynas â chaffael caniatâd.
O dan reoliad 15, gwneir darpariaeth ar gyfer ymgynghori ag unrhyw wladwriaeth AEE arall os yw treillio'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd yn y wladwriaeth AEE honno.
Gwneir darpariaeth o dan y Rheoliadau ar gyfer trosglwyddo (rheoliad 16) ac amrywio caniatâd (rheoliadau 17 to 20) o wneud cais am hynny. Caniateir hefyd ddirymu caniatâd neu ei amrywio mewn ffordd arall heblaw drwy gais (rheoliadau 21 a 22), os bydd angen hynny er mwyn diogelu'r amgylchedd. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo neu amrywio caniatâd.
Mae rheoliad 25 yn darparu i Weinidogion Cymru dyfarnu'r ffioedd y mae'n rhaid eu talu mewn cysylltiad â threuliau Gweinidogion Cymru a dynnir wrth gydymffurfio naill ai â rheoliad 7 neu 8 neu'r ddau, wrth ystyried ceisiadau o dan y rheoliadau ac wrth fonitro caniatadau. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gadw cofrestr gyhoeddus o geisiadau am ganiatâd, cymeradwyaethau perthynol, penderfyniadau, dyfarniadau a barnau a gwybodaeth a ddarperir gan geisyddion o dan y Rheoliadau.
Mae rheoliad 27 yn darparu ar gyfer cosbau sy'n gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau ac mae rheoliad 28 yn datgymhwyso adran 3 o Ddeddf Awdurdodaeth ar Ddyfroedd Tiriogaethol 1878, gyda'r effaith na fydd angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer erlyniadau yn erbyn gwladolion tramor o dan y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 29 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gynnal ymchwiliad cyn iddynt arfer swyddogaethau penodol o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio cyfathrebiadau electronig wrth gydymffurfio â'r gweithdrefnau a sefydlir gan y Rheoliadau.
Nodir trefniadau trosiannol yn rheoliad 31. Gwneir diwygiadau canlyniadol angenrheidiol, gydag arbedion, i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999 (O.S. 1999/293) gan reoliad 32.
Mae Atodlen 1 yn nodi'r gofynion ynghylch beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn datganiad amgylcheddol.
Mae Atodlen 2 yn nodi'r meini prawf sy'n berthnasol pan fydd Gweinidogion Cymru yn dyfarnu a yw prosiect treillio'n brosiect perthnasol.
Mae Atodlen 3 yn gosod gofynion sy'n debyg i'r rhai yn rheoliadau 48 i 53 (darpariaethau cyffredinol ar gyfer diogelu safleoedd Ewropeaidd) yn Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol &c) 1994 (O.S. 1994/2716). Mae paragraffau 2 i 4 o Atodlen 3 yn ymwneud â diogelu safleoedd Ewropeaidd mewn tri math gwahanol o amgylchiadau–
mae paragraff 2 yn ymwneud â'r broses ar gyfer gwneud asesiad priodol o effaith prosiectau treillio newydd ar safleoedd Ewropeaidd sy'n bodoli ac mae'n pennu na chaniateir rhoi caniatâd ond ar y telerau a nodir yn is-baragraffau (5) i (9);
mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer adolygu effaith caniatadau ar safleoedd sy'n dod yn safleoedd Ewropeaidd ar ôl i'r caniatadau hynny gael eu rhoi; ac
mae paragraff 4 yn darparu ar gyfer adolygu effaith cytundebau treillio a wnaed cyn cychwyn y Rheoliadau hyn ar safleoedd Ewropeaidd.
At ddibenion paragraffau 3 a 4 o Atodlen 3, estynnir y diffiniad o safle Ewropeaidd i gynnwys safleoedd yn y Deyrnas Unedig y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn ymgynghori â'r Deyrnas Unedig yn eu cylch o ran a ddylent gael eu dynodi.
Os gwneir adolygiad o ganiatâd neu o gytundeb, rhaid i Weinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r caniatâd. Nodir ym mharagraff 5 y weithdrefn i'w dilyn os yw Gweinidogion Cymru yn dirymu neu'n amrywio caniatâd a nodir ym mharagraff 6 effaith penderfyniad Gweinidogion Cymru i fynd ymlaen â'r dirymiad neu'r amrywiad.
Os caiff caniatâd ei roi neu ei gadarnhau er gwaethaf y goblygiadau negyddol ar gyfer safle Ewropeaidd, rhaid cymryd camau digolledu er mwyn sicrhau cysondeb cyffredinol rhwydwaith Ewropeaidd o safleoedd o'r fath.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Gellir cael copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 31(3)o'r un lle, yn rhad ac am ddim.
1972 p.68. Estynnwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 2(5) o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51). Mae Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC yn gymwys i'r AEE yn rhinwedd Erthygl 74 o'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a pharagraff 1 o Ran I o Atodiad XX iddo (Gorch 2073). Estynnwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC i'r AEE gan Benderfyniad Rhif 20/1999 Cyd-bwyllgor yr AEE dyddiedig 26 Chwefror 1999, OJ Rhif L148, 22.06.00, t.45. Back [1]
O.S. 2000/2812 ac O.S. 2002/248 fel y diwygiwyd y ddau gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiadau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]
1973 p.51, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Gweler adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 Back [3]
1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126). Back [4]
2006 p.32; Gweler hefyd erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 3 iddo. Caiff y darpariaethau hyn, a wnaed o dan adran 155(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) (pwer i wneud gorchymyn at ddibenion y diffiniad o Gymru), eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 158(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhinwedd paragraff 26(3) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Back [5]
1987 p.49 Back [6]
1964 p.29. Back [7]
1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791). Back [8]
1998 p.46. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos â'r Alban 1999 (O.S. 1999/1126). Back [9]
1998 p.47. Gweler hefyd Gorchymyn Terfynau Dyfroedd Cyfagos (Gogledd Iwerddon) 2002 (O.S. 2002/791). Back [10]
OJ Rhif L103, 25.04.97, t.1, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [11]
OJ Rhif L206, 22.07.92, t.7 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Back [12]
OJ Rhif L175, 05.07.85, t. 40, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.03.97, t.5 a Chyfarwyddeb 2003/35/EC, OJ Rhif L156, 25.06.03, t.17. Back [13]
1990 p. 8. mewnosodwyd adran 293 gan Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Back [14]
1992 p.42. Back [15]
1964 p.40. Back [16]
O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099, a 2006/3295. Back [17]
O.S. 1999/1783. Back [18]
O.S. 1999/1672, fel y'i diwygir gan Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27), adran 76(7) a chan O.S. 2007/1996. Back [19]
O.S.1999/360, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/933. Back [20]
O.S. 2000/1928, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/1992. Back [21]
Ar gyfer "y cyhoedd o dan sylw" Gweler Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb EIA. Back [22]
O.S. 2004/3391. Back [23]
2000 p.36. Gweler yn benodol Ran II o'r Ddeddf honno. Back [24]
1878 p. 73. Back [25]
1972 p. 70. Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1989 (p.43). Diwygiwyd is-adran (3) gan adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48). Diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), adran 49(2), ac Atodlen 12, Rhan III. Back [26]
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15 gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p. 21), Atodlen 17, paragraff 158. Back [27]
O.S. 1999/293, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2867, 2006/3099 a 2006/3295. Back [28]
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 172 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p. 34), Adran 5. Back [29]
O.S. 1995/418; fe'i diwygiwyd gan O.S. 1996/528. Back [30]
Amended by correction slip on 01 February 2008