British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 Rhif 3285 (Cy.289) (C.134)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073285w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3285 (Cy.289) (C.134)
POBL ANABL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 20(4)(b) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt[
2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005;
ystyr "Deddf 1995" ("the 1995 Act") yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;[3].
Cychwyn darpariaethau bathodyn glas o ran Cymru
2.
30 Mawrth 2008 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, ddod i rym—
(a) adran 9 (cydnabod bathodynau pobl anabl a ddyroddwyd y tu allan i Brydain Fawr);
(b) Rhan 2 o Atodlen 1 ac adran 19(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Rhan honno o'r Atodlen honno;
(c) y cofnodion yn Atodlen 2 o ran Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[4] a Deddf Rheoli Traffig 2004[5], ac adran 19(2) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnodion hynny.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
15 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ("y Ddeddf") yn diwygio'n helaeth Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ("Deddf 1995"), a gwneud darpariaethau penodol eraill.
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym "ddarpariaethau bathodyn glas" y Ddeddf, y mae ei rhychwant yn gyfyngedig i Gymru a Lloegr (adran 20(8)), o ran Cymru yn unig. Dyma yw darpariaethau'r bathodyn glas: adran 9, Rhan 2 o Atodlen 1, cofnodion penodol yn Atodlen 2 ac adran 19 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny yn yr Atodlenni hynny (adran 20(10)).
Notes:
[1]
2005 p.13.back
[2]
Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[3]
1995 p.50. Cafodd Deddf 1995 ei diwygio ar sawl achlysur. Gwnaed diwygiadau arwyddocaol gan Ddeddf y Comisiwn Hawliau Pobl ag Anabledd 1999 (p.17), gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), gan Reoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/1673), a chan Reoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (Pensiynau) 2003 (O.S. 2003/2770).back
[4]
1984 p.27.back
[5]
2004 p.18.back
English version
ISBN
978 0 11 091673 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 December 2007
|