British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 Rhif 3235 (Cy.285)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073235w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3235 (Cy.285)
TAI, CYMRU
Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007
|
Gwnaed |
12 Tachwedd 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
14 Tachwedd 2007 | |
|
Yn dod i rym |
14 Rhagfyr 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 225(5)(a) o Ddeddf Tai 2004[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio[
2] yng Ngweinidogion Cymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar y 14 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol yng Nghymru yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn ei ardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.
Ystyr Sipsiwn a Theithwyr at ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004
2.
At ddibenion adran 225 o Ddeddf Tai 2004 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) ystyr "sipsiwn a theithwyr" ("
gypsies and travellers") yw —
(a) personau sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn carafan; a
(b) pob person arall ag arferion byw nomadaidd, beth bynnag fo eu hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
(i) y personau hynny sydd, ddim ond ar sail anghenion addysg neu anghenion iechyd nhw eu hunain, eu teulu neu eu dibynyddion neu oherwydd henaint, wedi rhoi'r gorau i deithio naill ai dros dro neu'n barhaol; a
(ii) aelodau o grwp trefnedig o bobl sioe neu bobl syrcas sy'n teithio (p'un a ydynt yn teithio gyda'i gilydd felly ai peidio).
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 225 o Ddeddf Tai 2004 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau tai lleol i gyflawni asesiad o anghenion llety sipsiwn a theithwyr sy'n preswylio yn eu hardal neu'n cyrchu iddi, pan fyddant yn ymgymryd ag adolygiad o anghenion tai yn eu hardal o dan adran 8 o Ddeddf Tai 1985.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio "sipsiwn a theithwyr" at ddibenion y ddyletswydd honno o ran Cymru.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Gymunedau, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ, ffôn 01685 729210, neu drwy e-bostio Laura.Evans@cymru.gsi.gov.uk.
Notes:
[1]
2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 225 yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.back
[2]
Trosglwyddwyd pwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 225 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).back
English version
ISBN
978 0 11 091689 7
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 December 2007
|