Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007 Rhif 3230 (Cy.282)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073230w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3230 (Cy.282)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007
|
Gwnaed |
9 Tachwedd 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
13 Tachwedd 2007 | |
|
Yn dod i rym |
4 Rhagfyr 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1], ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy[
2] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 4 Rhagfyr 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2007" ("
the 2007 Regulations") yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007[
3].
Diwygio Rheoliadau 2007
3.
Mae Rheoliadau 2007 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
4.
Yn rheoliad 61D (1) (a) (i), yn lle'r ffigur "£1,150", rhodder y ffigur "£905".
5.
Yn rheoliad 61D (1) (b), yn lle'r ffigur "£250", rhodder y ffigur "£1,025".
6.
Yn rheoliad 61DD (1) (b) a rheoliad 61DD (1) (c), yn lle'r ffigur "£15,700" rhodder y ffigur "£15,715".
7.
Yn rheoliad 61DD (1)(ch), yn lle'r ffigurau "£15,700" a "£23,680" rhodder y ffigurau "£15,715" a "£23,700" yn eu trefn.
8.
Yn rheoliad 61DD(1) (d), yn lle'r ffigur "£23,680", rhodder y ffigur "£23,700".
9.
Yn rheoliad 61DD (1)(dd), yn lle'r ffigurau "£23,680" a "£24,280" rhodder y ffigurau "£23,700" a "£24,315" yn eu trefn.
10.
Yn rheoliad 61DD (1)(e), yn lle'r ffigurau "£24,280", "£26,180" a "£9.50" rhodder y ffigurau "£24,315", "£26,265" a "£2.00" yn eu trefn.
11.
Yn rheoliad 61DD (1)(f) a rheoliad 61DD (1) (ff), yn lle'r ffigur "£26,180" rhodder y ffigur "£26,265".
12.
Yn rheoliad 61DD (2)(a), yn lle'r ffigurau "£7.60" a "£15,700", rhodder y ffigurau "£15.81" a "£15,715" yn eu trefn.
13.
Yn rheoliad 61DD (2) (b), yn lle'r ffigur "£1,150" ble bynnag y mae'n ymddangos, rhodder y ffigur "£905".
14.
Yn rheoliad 61F (6) (a), yn lle'r ffigur "£12,420", rhodder y ffigur "£12,425".
15.
Yn rheoliad 61F (6) (b), yn lle'r ffigur "£4,905", rhodder y ffigur "£4,910".
16.
Yn rheoliad 61F (1) (ch), yn lle'r ffigur "£1,640" rhodder y ffigur "£1,645".
17.
Yn rheoliad 65(3), yn lle "rheoliad 70" rhodder "rheoliad 63".
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau , un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007 ("y Prif Reoliadau").
Diwygiadau i Reoliadau 2007
Mae Rheoliadau 2007 yn darparu ar gyfer cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau dynodedig addysg uwch mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Medi 2007 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2007 o ran darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig a osodir yn y rheoliadau newydd 61D (cymorth at grantiau dysgu o bell), 61DD (swm y cymorth) a 61F (lwfans dysgu o bell myfyrwyr anabl).
Mae rheoliadau 4 i 16 yn diwygio'r ffigurau yn rheoliadau 61D, 61DD a 61F o Reoliadau 2007.
Notes:
[1]
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[3]
O.S. 2007/1045 (Cy.104) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2312 (Cy.183) ac O.S. 2007/2851 (Cy. 248 ).back
English version
ISBN
978 0 11 091684 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 December 2007
|