Gwnaed | 23 Hydref 2007 | ||
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru | 26 Hydref 2007 | ||
Yn dod i rym | 12 Rhagfyr 2007 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad neu Atodlen yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Cytundebau partneriaeth
4.
Yn ddarostyngedig i adran 197(3) o Ddeddf 2002, rhaid i awdurdod addysg lleol wneud cytundeb partneriaeth gyda chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol hwnnw.
5.
Rhaid i gytundeb partneriaeth nodi sut y mae'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol i gyflawni eu priod swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol o ran y materion a nodir yn Adran 1.
6.
Rhaid i'r cytundeb partneriaeth cyntaf gael ei wneud ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny.
7.
Os na wnaed cytundeb partneriaeth ac os na luniwyd datganiad o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny neu ar 1 Medi neu cyn hynny mewn unrhyw flwyddyn olynol, rhaid gwneud cytundeb partneriaeth wedi hynny o ran yr ysgol honno ar 1 Medi neu cyn hynny yn y flwyddyn ganlynol.
Adolygu cytundebau partneriaeth a datganiadau
8.
Rhaid i'r partïon i gytundeb partneriaeth adolygu'r cytundeb partneriaeth a chânt ei ddiwygio—
9.
Pan fo awdurdod addysg lleol wedi llunio datganiad rhaid iddo ei adolygu a chaiff ei ddiwygio –
10.
Yn ddarostyngedig i reoliad 11, pan fo amgylchiadau perthnasol yn codi o ran ysgol, rhaid i'r awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu'r ysgol adolygu unrhyw gytundeb partneriaeth neu ddatganiad sydd yn bodoli eisoes, a chânt ei ddiwygio, cyn pen y cyfnod o chwe mis ar ôl y dyddiad perthnasol.
11.
Pan fo amgylchiadau perthnasol pellach yn codi o ran ysgol cyn i adolygiad o gytundeb partneriaeth neu ddatganiad o dan reoliad 10 gael ei gwblhau, nid yw'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu ond dod ag un adolygiad i ben y mae'n rhaid ei gwblhau cyn pen blwyddyn ar ôl y dyddiad perthnasol o ran y diweddaraf o'r amgylchiadau perthnasol a gododd, sef y dyddiad sydd hefyd yn ddyddiad perthnasol at ddibenion rheoliadau 12 a 13.
12.
Pan, ar ôl i gytundeb partneriaeth gael ei adolygu o dan reoliad 10,
mae'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu adolygu'r cytundeb partneriaeth nesaf, a chânt ei ddiwygio, cyn pen y cyfnod o bedair blynedd sy'n dechrau ar ôl y dyddiad perthnasol ac wedi hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.
13.
Pan, ar ôl i ddatganiad gael ei adolygu o dan reoliad 10,
mae'n ofynnol i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu adolygu'r datganiad nesaf, a chânt ei ddiwygio, cyn pen cyfnod o bedair blynedd cyn y dyddiad perthnasol ac wedi hynny bob tair blynedd ar y mwyaf.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ac un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2007
(b) darparu hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr gan yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22 (Hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr);
(c) darparu adroddiadau yn rheolaidd gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 30(3)[10] (Adroddiadau llywodraethwyr a gwybodaeth arall) o Ddeddf 2002;
(ch) arfer gan awdurdod addysg lleol neu gorff llywodraethu o swyddogaethau o dan adrannau 2 (Dyletswyddau cyffredinol cyflogwyr at eu cyflogeion), 3 (Dyletswyddau cyffredinol cyflogwyr a phobl hunangyflogedig at bersonau nad ydynt yn gyflogeion iddynt) a 4 (Dyletswyddau cyffredinol personau sy'n ymwneud â mangreoedd i bersonau nad ydynt yn gyflogeion iddynt) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974[11];
(d) arfer gan awdurdod addysg lleol ei bwerau ymyrryd o dan adrannau 14 (Pwerau ymyrryd sy'n arferadwy gan AALl), 15 (Achosion pan gaiff AALl arfer pwerau ymyrryd), a 16 (Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 1998;
(dd) arfer gan gorff llywodraethu ei swyddogaethau o dan adran 40(2) (Datganiad i'w baratoi gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf 2005;
(e) arfer gan yr awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu ysgol eu priod swyddogaethau o dan adran 40 (Rheoli mangreoedd ysgol) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 13 iddi (Rheoli mangreoedd ysgol gan gyrff llywodraethu) o ran rheoli mangreoedd ysgol;
(f) arfer gan y corff llywodraethu ei bwerau o dan adran 27[12] (Pŵer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol etc.) o Ddeddf 2002.
2.
O ran ysgol sy'n darparu addysg gynradd–
3.
O ran ysgol sy'n darparu addysg uwchradd–
4.
O ran ysgol sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol a leolir mewn ysbyty, gosod gan yr awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliadau 3 a 4 (Paratoi a chyhoeddi cynlluniau addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraffau 3 a 4 (Materion i ymdrin â hwy mewn cynlluniau addysg sengl) a Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006.
5.
Mewn perthynas ag ysgol sy'n darparu addysg uwchradd, heblaw ysgol a leolir mewn ysbyty, gosod gan awdurdod addysg lleol dargedau o dan reoliad 3 (Paratoi a chyhoeddi cynlluniau addysg sengl) ac Atodlen 2 paragraff 2 (Materion i ymdrin â hwy mewn cynlluniau addysg sengl) o Reoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006.
6.
Mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, dyletswydd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22(5)[17] (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol wirfoddol a gynorthwyir) o Ddeddf 1998 i dalu holl dreuliau cynnal yr ysgol ac eithrio unrhyw dreuliau sydd yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 3 (Cyllido ysgolion gwirfoddol, ysgolion sefydledig ac ysgolion arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 yn daladwy gan y corff llywodraethu.
7.
Mewn perthynas ag ysgol nad yw'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, dyletswydd yr awdurdod addysg lleol o dan adran 22(3) (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir) neu adran 22(4)[18] (Dyletswydd AALl i gynnal ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig sefydledig) fel y bo'n briodol, o Ddeddf 1998, i dalu holl dreuliau cynnal yr ysgol.
Colofn 1 | Colofn 2 |
Mae'r Prif Arolygydd wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i awdurdod addysg lleol a Gweinidogion Cymru o dan adran 37(2) (Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder) o Ddeddf 2005. | Dyddiad yr hysbysiad. |
Mae awdurdod addysg lleol o dan adran 16(1) (Pŵer AALl i benodi llywodraethwyr ychwanegol) o Ddeddf 1998 yn penodi nifer y llywodraethwyr ychwanegol y mae'n barnu ei bod yn addas. | Dyddiad y penodiad neu'r penodiadau. |
Mae Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 19(1)[19] (Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo cau ysgol) o Ddeddf 1998 i awdurdod addysg lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg lleol gael ei chau. | Dyddiad y cyfarwyddyd. |
Mae Gweinidogion Cymru o dan adran 113A(5A)(a) (Ailstrwythuro addysg chweched dosbarth) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[20] yn cadarnhau, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, cynigion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 113A(4) (b) ac (c) o'r Ddeddf honno. | Dyddiad y gymeradwyaeth. |
Mae Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8[21] (Cymeradwyo cynigion aildrefnu ysgolion) o Atodlen 6 (Cynigion statudol: gweithdrefn a gweithrediad) i Ddeddf 1998 yn cymeradwyo cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28[22] (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31[23] (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 i wneud unrhyw un o'r newidiadau a geir ym mharagraffau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Atodlen 2 (Newidiadau y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[24] a pharagraffau 1, 2, 3 a 4 o Atodlen 2A (Newidiadau i ysgolion meithrin y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) o'r rheoliadau hynny o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod. | Dyddiad y dyfarniad. |
Pan, o dan baragraff 8 o Atodlen 6 (Cymeradwyo cynigion aildrefnu ysgol) i Ddeddf 1998 na fo cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru yn ofynnol, mae awdurdod addysg lleol corff llywodraethu ysgol wedi dyfarnu y dylid gweithredu'r cynigion os cyhoeddwyd y cynigion o dan adrannau 28 (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31 (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol gymunedol arbennig, neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 i wneud unrhyw un o'r newidiadau a geir ym mharagraffau 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7 ac 8 o Atodlen 2 (Newidiadau y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) i Reoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 a pharagraffau 1, 2, 3 a 4 o Atodlen 2A (Newidiadau i ysgolion meithrin y mae'n rhaid cyhoeddi cynigion ar eu cyfer) o'r rheoliadau hynny o ran ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. | Dyddiad y mabwysiad neu'r gymeradwyaeth. |
Mae Gweinidogion Cymru o dan baragraff 14[25] o Atodlen 7 (Mabwysiadu cynigion gan Weinidogion Cymru) i Ddeddf 1998 yn mabwysiadu neu'n cymeradwyo cynigion sy'n effeithio ar ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. | Dyddiad y gymeradwyaeth. |
Mae Gweinidogion Cymru o dan adrannau 28 (Cynigion ar gyfer sefydlu neu newid ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) neu 31 (Cynigion ar gyfer sefydlu, newid neu gau ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig) o Ddeddf 1998 a pharagraff 8 (Cymeradwyo cynigion) o Atodlen 6 (Gweithdrefn a gweithrediad ar gyfer cynigion statudol) i'r Ddeddf honno, fel y'i haddaswyd gan Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001[26] yn cymeradwyo cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 2 (Gweithdrefn ar gyfer newid categori ysgol) neu 3 (Cyhoeddi gorfodol y cynigion i ysgol wirfoddol a gynhelir newid categori) o Atodlen 8 (Newidiadau i gategori ysgol) i Ddeddf 1998. | Dyddiad y gymeradwyaeth. |
Mae awdurdod addysg lleol, o dan adran 51 (Atal dros dro ddirprwyo ariannol oherwydd camreoli etc) o Ddeddf 1998 a pharagraff 1 o Atodlen 15[27] iddi (Atal dros dro ddirprwyo ariannol oherwydd camreoli etc.) yn rhoi i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo hysbysiad o'r atal dros dro o hawl y corff llywodraethu i gyllideb ddirprwyedig. | Dyddiad yr hysbysiad. |
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[6] Diwygiwyd adran 14(1)(b) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (2) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 14(1A) gan Atodlen 21, paragraff 92 o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 14(3) gan Atodlen 5, paragraff 1 o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 14(3) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (2) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 14(4) gan Atodlen 9, paragraffau 14(1) a (3) o Ddeddf 2005.back
[7] Amnewidiwyd adran 15(4) gan Atodlen 9, paragraffau 15(1) a (2) o Ddeddf 2005. Diddymwyd adran 15(5) gan Atodlen 123, paragraffau 15(1) a (3) ac Atodlen 19, Rhan 1 o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 15(6) gan Atodlen 9, paragraffau 15(1) a (4) o Ddeddf 2005. Mewnosodwyd adran 15(7) gan Atodlen 9, Paragraffau 1 a 78 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 p.21.back
[8] Amnewidiwyd adran 16(3) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(3) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (2)(a) o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 16(3)(a) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (2)(b) o Ddeddf 2005. Diddymwyd adran 16(4) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (3) ac Atodlen 22, Rhan 3 o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(5) gan Atodlen 21, paragraffau 93(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(6)(a) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (4) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(8)(a) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (5)(a) o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 16(8)(b) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (5)(b) o Ddeddf 2002. Amnewidiwyd adran 16(9) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (6) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 16(9)(a) gan Atodlen 9, paragraffau 16(1) a (3) o Ddeddf 2005. Diwygiwyd adran 16(10) gan Atodlen 21, paragraffau 93(1) a (3) o Ddeddf 2002. Mewnosodwyd adran 16(12A) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) a (7) o Ddeddf 2002. Diddymwyd adran 16(13) gan Atodlen 5, paragraffau 2(1) ac (8) ac Atodlen 22 Rhan 3.back
[9] Amnewidiwyd adran 17(3) gan Atodlen 5, paragraffau 3(1) a (2) o Ddeddf 2002. Diwygiwyd adran 17(3) gan Atodlen 9, paragraff 18(a) o Ddeddf 2005. Amnewidiwyd adran 17(3)(a) gan Atodlen 9, paragraff 18(b) o Ddeddf 2005. Diwygiwyd adran 17(4) gan Atodlen 5, paragraffau 3(1) a (3) o Ddeddf 2002.back
[10] Diwygiwyd gan adran 103(1)(b) o Ddeddf 2005.back
[11] 1974 p.37. Diddymwyd adran 2(5) gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975, adrannau 116, 125(3), Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 18. Diwygiwyd adran 2(7) gan yr un darpariaethau.back
[12] Mewnosodwyd adran 28(4A) a (4B) gan adran 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40).back
[13] O.S. 2006/520 (Cy.64).back
[14] O.S. 2006/877 (Cy.82).back
[15] O.S. 1999/1811, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253).back
[16] Amnewidiwyd rheoliad 7 gan O.S. 2006/125 (Cy.18), rheoliad 2(1)(4).back
[17] Diwygiwyd adran 22(5)(a) gan Atodlen 21, paragraffau 96(1) a (4) o Ddeddf 2002.back
[18] Diwygiwyd adran 22(4)(b) gan Atodlen 21, paragraff 96(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002.back
[19] Amnewidiwyd adran 19(1) gan adran 45 o Ddeddf 2005.back
[20] 2000 p.21. Mewnosodwyd adran 113A gan adran 2 o Ddeddf 2002.back
[21] Diddymwyd paragraff 8(4) gan Atodlen 5, Rhan 1 o Ddeddf Plant 2004 p.31.back
[22] Diwygiwyd adran 28(2) gan Atodlen 19, rhan 2 o Ddeddf 2002. Mewnosodwyd adrannau 28(2A) a (2B) gan adrannau 64(1) a (3) o Ddeddf 2005.back
[23] Amnewidiwyd adran 31(4) gan adran 31(4A) i (4C) gan adran 71 o Ddeddf 2005.back
[24] O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91).back
[25] Diwygiwyd paragraff 14 gan adran 72 o Ddeddf 2005.back
[26] O.S. 2001/2678 (Cy.219), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2916 (Cy.213).back
[27] Diwygiwyd paragraff 1 gan Atodlen 3, paragraff 5 o Ddeddf 2002.back