British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 3004 (Cy.260 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073004w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3004 (Cy.260 )
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Gwnaed |
22 Hydref 2007 | |
|
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
23 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
14 Tachwedd 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru sydd wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[
2] ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[
3], yn gwneud y rheoliad canlynol.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2007.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2.
Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007[
4] drwy ychwanegu ar ôl rheoliad 3(3) y paragraff canlynol —
"
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu baragraff (3) yn euog o dramgwydd."
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro cyfeiliornad yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 i'w gwneud yn dramgwydd i fethu â rhoi hysbysiad o ddaliad o dan reoliad 3.
Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei baratoi ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Notes:
[1]
1972 p.68.back
[2]
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[3]
O.S.2003/1246. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddynodiad yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
[4]
O.S. 2007/842 (W.74).back
English version
ISBN
978 0 11 091654 5
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
2 November 2007
|