Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 3002 (Cy. 259)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20073002w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 3002 (Cy. 259)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Gwnaed |
18 Hydref 2007 | |
|
Yn dod i rym |
am 4:45p.m. 18 Hydref 2007 | |
Mae'r Gorchymyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1] ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriad at Benderfyniad y Comisiwn 2005/393/EC ar barthau gwarchod a gwyliadwriaeth mewn perthynas â'r tafod glas a chymhwyso amodau i symudiadau o'r parthau hyn neu i'r parthau hyn[
2] fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
3] ac adrannau 1, 8(1), 17(1) a 35 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
4] ac a freiniwyd bellach ynddynt[
5].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn—
(a) yw Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2007;
(b) mae'n gymwys o ran Cymru; ac
(c) daw i rym am 4:45 p.m. 18 Hydref 2007.
Diwygio
2.
Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio yn unol â'r Atodlen.
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2007
YR ATODLENErthygl 2
DIWYGIO GORCHYMYN Y TAFOD GLAS (CYMRU) 2003
1.
Yn erthygl 2 o'r diffiniad o "Prif Swyddog Milfeddygol" ("
Chief Veterinary Officer") yn lle'r geiriau "Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig" rhodder y geiriau "a benodir gan Weinidogion Cymru".
2.
Hepgorer erthygl 8(2)(c)
3.
Yn is-baragraff 9(1)(ch) yn lle "." ar ddiwedd yr is-baragraff rhodder ";" a mewnosoder is-baragraff newydd (d) fel a ganlyn—
"
(d) ei gwneud yn ofynnol i gigydda unrhyw anifail sydd wedi ei effeithio gan y clefyd neu unrhyw anifail y mae'n amau ei fod wedi ei effeithio gan y clefyd neu ei fod wedi bod yn agored i gael ei heintio gan y clefyd."
4.
Yn lle erthyglau 10, 11 a 12 rhodder—
"
Mesurau pan gaiff y clefyd ei gadarnhau
10.
—(1) Os bydd y Prif Swyddog Meddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal yn barth rheolaeth.
(2) Rhaid i barth rheolaeth a ddatgenir o dan baragraff (1)—
(a) gael ei ganoli ar y man brigo; a
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), fod â radiws o 20 cilometr.
(3) Pan fo'r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddatgan parth rheolaeth a phan fo ardal y parth hwnnw yn cynnwys tir yn Lloegr, rhaid iddynt ddatgan parth o'r rhan honno o'r ardal ag sydd yng Nghymru.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru estyn neu leihau ardal parth rheolaeth gan roi sylw i'r ffactorau—
(a) epidemiolegol;
(b) daearyddol;
(c) ecolegol; neu
(ch) meteorolegol,
sydd yn eu barn hwy yn berthnasol.
(5) Ni chaiff neb symud anifail i dir ac adeiladau neu o dir ac adeiladau mewn parth rheolaeth, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
(6) Ni chaiff arolygydd ond rhoi trwydded o dan baragraff (5) mewn perthynas â symudiad a ganiateir o dan Benderfyniad y Comisiwn.
(7) Rhaid i delerau ac amodau'r drwydded honno fod gyfryw ag i sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn.
(8) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/393/EC ar barthau gwarchod a gwyliadwriaeth mewn perthynas â'r tafod glas ac amodau sy'n gymwys i symudiadau o'r parthau hyn neu drwyddynt, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd; a
(b) ystyr "y man brigo" ("the breakout point") yw'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd wedi ei heintio o le mae Gweinidogion Cymru o'r farn y dylid mesur y parth rheolaeth.
Cyfyngiadau mewn parthau gwarchod a gwyliadwriaeth
11.
—(1) Pan fo'r Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yng Nghymru—
(2) Ni chaiff neb symud anifail allan o'r parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth, ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
(3) Ni chaiff arolygydd ond rhoi trwydded o dan baragraff (2) mewn perthynas â symudiad a ganiateir o dan Benderfyniad y Comisiwn.
(4) Rhaid i delerau ac amodau'r drwydded honno fod gyfryw ag i sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn.
(5) Pan fo parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yn cwmpasu ardal sy'n cynnwys tir yn Lloegr, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a chânt ddatgan parth gwyliadwriaeth o'r rhan honno o'r ardal sydd yng Nghymru.
(6) Yn yr erthygl hon, mae i "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yr un ystyr ag sydd iddo yn erthygl 10.
Pwerau arolygwyr a swyddogion mewn parthau gwarchod a gwyliadwriaeth
12.
—(1) Pan fo parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth wedi ei ddatgan o dan erthygl 11, mae gan arolygwyr milfeddygol a swyddogion a awdurdodir gan Weinidogion Cymru y pwerau sydd ganddynt o dan erthygl 9 o ran tir ac adeiladau o fewn y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth.
(2) Hefyd, caiff arolygydd milfeddygol—
(a) ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd tir ac adeiladau mewn parth gwarchod neu geidwad unrhyw anifail ar y dir ac adeiladau hynny ganiatáu brechu unrhyw anifail a gedwir yno; a
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu i'r ceidwad—
(i) cadw'r anifeiliaid i'w defnyddio yn anifeiliaid rhybuddio, neu
(ii) caniatáu gadael i anifeiliaid rhybuddio ddod i'r tir ac adeiladau hynny.
Clefyd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
12A.
Os bydd y Prif Swyddog Meddygol yn cadarnhau bod y tafod glas ar dir ac adeiladau yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod ardal yn barth rheolaeth, yn barth gwarchod neu'n barth gwyliadwriaeth yng Nghymru.
Datgan parthau
12B.
O ran datganiadau parthau rheolaeth, parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth o dan erthyglau 10, 11 neu 12A—
(a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
(b) caniateir eu diwygio gan ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;
(c) rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir; ac
(ch) ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.".
5.
Yn lle erthygl 14 rhodder ——
"
Dyletswyddau cyffredinol meddianwyr a cheidwaid
14.
—(1) Onid awdurdodir fel arall gan drwydded a ddyroddir gan arolygydd neu gan Weinidogion Cymru, rhaid i feddiannydd tir ac adeiladau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a cheidwad unrhyw anifail ar y tir ac adeiladau hynny—
(a) cydymffurfio â gofynion mewn hysbysiadau a gyflwynir iddo;
(b) caniatáu i arolygydd fynd i'r tir ac adeiladau y cyfeirir atynt mewn hysbysiadau a gyflwynir iddo;
(c) llunio a chadw unrhyw gofnodion y caiff arolygydd fynnu yn rhesymol eu llunio a'u cadw a dangos y cofnodion hynny i arolygydd ar ei gais;
(ch) ymatal rhag difrodi unrhyw drapiau a osodir i gasglu fectorau a rhag ymyrryd â hwy neu eu symud;
(d) ymatal rhag difwyno, dileu neu dynnu unrhyw farc a wneir gan arolygydd milfeddygol o dan erthygl 9; a
(dd) darparu unrhyw gymorth a gwybodaeth resymol ag y caiff arolygydd eu mynnu yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau o dan y Gorchymyn hwn."
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) 2003, O.S. 2003/326 (Cy.47) ("Gorchymyn 2003"), sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75 sy'n gosod darpariaethau penodol ar reoli a difa'r tafod glas (y dafod las) (OJ Rhif L327, 22.12.2000, t. 74).
Mae paragraff 1 o'r Atodlen yn diwygio'r diffiniad o "Prif Swyddog Milfeddygol".
Mae paragraff 2 o'r Atodlen yn diwygio erthygl 8 o Orchymyn 2003 drwy hepgor y darpariaethau sy'n ymwneud â difa, claddu neu waredu carcasau.
Mae paragraff 3 o'r Atodlen yn mewnosod erthygl newydd 9(1)(d) ynglyn â phwerau cigydda.
Mae paragraff 4 o'r Atodlen yn rhoi erthyglau newydd 10 i 12B am barthau sydd i'w datgan gan Weinidogion Cymru os cadarnheir bod y tafod glas (y dafod las) mewn mangre yng Nghymru yn lle erthyglau 10 i 12 yng Ngorchymyn 2003.
Mae erthygl 10 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau rheoli sydd wedi eu canoli o gwmpas man brigo ac iddynt radiws o 20 cilometr. (Diffinnir y term "man brigo" yn erthygl newydd 10(8)). Caiff Gweinidogion Cymru estyn neu leihau maint parth rheolaeth. Gwaherddir symud anifeiliaid i fangre neu o fangre mewn parth dan reolaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
Mae erthygl newydd 11 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â pharthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth a ddatgenir gan Weinidogion Cymru. Gwaherddir symud anifeiliaid o barth gwarchod neu o barth gwyliadwriaeth ac eithrio yn unol â thrwydded a roddir gan arolygydd.
Mae erthygl 12 newydd yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â phwerau arolygwyr mewn parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth.
Mae erthygl 12A newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddatgan parthau rheolaeth, gwarchod neu wyliadwriaeth os bydd y tafod glas (y dafod las) yn brigo yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Mae erthygl 12B newydd yn cynnwys darpariaethau am ddatgan parthau.
Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Notes:
[1]
1972, p.68.back
[2]
OJ L 130, 24.5.2005, t.22, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/28/EC, OJ L8, 13.1.2007, t.51.back
[3]
Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddol 2006 (p.51).back
[4]
1981, p.22.back
[5]
Trosglwyddwyd swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back
English version
ISBN
978 0 11 091652 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
29 October 2007
|