Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 Rhif 2795 (Cy.235)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072795w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2795 (Cy.235)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007
|
Gwnaed |
19 Medi 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1998[
1] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[
2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2007 ac mae'n dod i rym ar 1 Hydref 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cyrff sy'n cael eu Cydnabod
2.
Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n gyrff y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod.
Dirymu
3.
Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005[
3] wedi'i ddirymu.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
19 Medi 2007
YR ATODLENErthygl 2
University of Aberdeen
Prifysgol Abertawe (Swansea University)
University of Abertay Dundee
Prifysgol Aberystwyth (Aberystwyth University)
Anglia Ruskin University
Archbishop of Canterbury, The
University of the Arts, London
Aston University
Prifysgol Bangor (Bangor University)
University of Bath
Bath Spa University
University of Bedfordshire
University of Birmingham
Bishop Grosseteste University College Lincoln
University of Bolton, The
Bournemouth University
BPP College of Professional Studies
University of Bradford
University of Brighton
University of Bristol
Brunel University
University of Buckingham
Buckinghamshire Chilterns University College
Prifysgol Caerdydd (Cardiff University)
University of Cambridge
Canterbury Christ Church University
University of Central England in Birmingham
University of Central Lancashire
University of Chester
University of Chichester
City University
College of Law, The
College of St Mark & St John, Plymouth, The
Coventry University
Cranfield University
University College for the Creative Arts at Canterbury, Epsom, Farnham, Maidstone and Rochester
University of Cumbria
Prifysgol Cymru (University of Wales)
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (University of Wales Institute Cardiff)
Prifysgol Cymru, Casnewydd (University of Wales, Newport)
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (University of Wales, Lampeter)
De Montfort University
University of Derby
University of Dundee
University of Durham
University of East Anglia
University of East London
Edge Hill University
University of Edinburgh
University of Essex
University of Exeter
University College Falmouth
University of Glasgow
Glasgow Caledonian University
University of Gloucestershire
University of Greenwich
Harper Adams University College
Henley Management College
Heriot-Watt University
University of Hertfordshire
University of Huddersfield
University of Hull
Imperial College of Science, Technology and Medicine (a elwir hefyd yn Imperial College, London)
Institute of Education[
4]
University of Keele
University of Kent
King's College London
Kingston University
University of Lancaster
University of Leeds
Leeds Metropolitan University
University of Leicester
University of Lincoln
University of Liverpool
Liverpool Hope University
Liverpool John Moores University
University of London
University College London
London Metropolitan University
London School of Economics and Political Science
London South Bank University
Loughborough University
University of Manchester
Manchester Metropolitan University, The
Middlesex University
Prifysgol Morgannwg (University of Glamorgan)
Napier University
University of Newcastle upon Tyne
Newman College of Higher Education, Birmingham
University of Northampton, The
University of Northumbria at Newcastle
University of Nottingham
Nottingham Trent University
Open University
University of Oxford
Oxford Brookes University
University of Paisley
University of Plymouth
University of Portsmouth
Queen Margaret University, Edinburgh
Queen's University of Belfast, The
University of Reading
Robert Gordon University, The
Roehampton University
Royal Agricultural College
Royal College of Art
Royal College of Music
Royal Northern College of Music
Royal Scottish Academy of Music and Drama, The
University of Salford
University of Sheffield
Sheffield Hallam University
University of Southampton
Southampton Solent University
University of St Andrews
St Mary's University College
Staffordshire University
University of Stirling
University of Strathclyde
University of Sunderland
University of Surrey
University of Sussex
University of Teesside
Thames Valley University
University of Ulster
University of Warwick
University of the West of England, Bristol
University of Westminster
University of Winchester
University of Wolverhampton
University of Worcester
University of York
York St John University
Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain
Birkbeck College
Central School of Speech and Drama, The
Courtauld Institute of Art
Goldsmiths College
Heythrop College
Institute of Cancer Research
London Business School
London School of Hygiene and Tropical Medicine
Queen Mary and Westfield College, (a elwir hefyd yn Queen Mary, University of London)
Royal Academy of Music
Royal Holloway and Bedford New College (a elwir hefyd yn Royal Holloway, University of London)
Royal Veterinary College
School of Oriental and African Studies
School of Pharmacy
St George's Hospital Medical School
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn ystyr adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae'r rhain yn brifysgolion, colegau, neu gyrff eraill a awdurdodir drwy Siarter Frenhinol neu drwy Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau ac yn gyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw dyfarniad a roddir gan gorff o'r fath yn ddyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 214(1) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i roi, i gynnig rhoi neu i ddyroddi unrhyw wahoddiad sy'n ymwneud â graddau a dyfarniadau penodol nad ydynt yn cael eu cydnabod.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3287), sydd wedi'i ddirymu. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau sydd wedi'u hawdurdodi i ddyfarnu graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (Yr Alban) 1992 (p.37). Mae'n cynnwys hefyd nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt ddyfarnu graddau Prifysgol Llundain.
Notes:
[1]
1988 p.40.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (OS 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[3]
O.S. 2005/3287.back
[4]
Mae'r Institute of Education yn un o golegau cyfansoddol Prifysgol Llundain.back
English version
ISBN
978 0 11 091630 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 October 2007
|