British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 Rhif 2626 (Cy.223)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072626w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2626 (Cy.223)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007
|
Wedi'i wneud |
7 Medi 2007 | |
|
Yn dod i rym |
12.00 ganol dydd ar 8 Medi 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar ganol dydd ar 8 Medi 2007.
Diwygio
2.
Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003[
2] drwy hepgor erthygl 3A.
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru
7 Medi 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)) i dynnu ohono'r mesurau brys sy'n cynyddu'r cyfnod segur o 6 diwrnod i 20 o ddiwrnodau ac yn datgymhwyso paragraff 8 o Atodlen 1 a pharagraff 13 o Atodlen 2 mewn cysylltiad â symudiadau penodol mewn grwp meddiannaeth unigol.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[2]
O.S. 2003/1966 (Cy.211) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/179 (Cy.30), O.S. 2006/1036 (Cy.106) ac O.S. 2007/2475 (Cy.211).back
English version
ISBN
978 0 11 091626 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
5 October 2007
|