BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 Rhif 2611 (Cy.222)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072611w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2611 (Cy.222)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007

  Gwnaed 6 Medi 2007 
  Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Medi 2007 
  Yn dod i rym 1 Hydref 2007 

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1].

     Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

     Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[2], cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Hydref 2007.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

    mae i "awdurdod bwyd" yr ystyr sydd i "food authority" yn adran 5(1A) a (3)(a) a (b) o'r Ddeddf;

    ystyr "awdurdod iechyd porthladd" ("port health authority") mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

    ystyr "y Rheoliad" ("the Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd[3].

    (2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Rheoliad yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliad.

Awdurdodau Cymwys
     3. Yr awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad —

    (a) o ran Erthyglau 1(4), 15(2), 16(2) a 18(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd, a

    (b) o ran Erthygl 6(3) yw —

      (i) pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth, a

      (ii) y tu allan i'r cyfryw ddosbarthau, pob awdurdod bwyd yn ei ardal.

Gorfodi
    
4. Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth a phob awdurdod bwyd o fewn ei ardal weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad.

Tramgwyddau a Chosbau
    
5. —(1) Yn ddarostyngedig i'r rhanddirymiad a geir yn Erthygl 1(3) (ynghylch nodau masnach etc) ac i'r mesurau trosiannol a geir yn Erthygl 28, mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i ddarpariaethau'r Rheoliad a bennir ym mharagraff (2) neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

    (a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

    (b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau.

    (2) Dyma'r darpariaethau a bennir—

    (a) Erthygl 3 (gofynion cyffredinol ynghylch pob honiad);

    (b) Erthygl 4(3) (cyfyngiadau ar honiadau a all gael eu gwneud am ddiodydd alcoholaidd);

    (c) Erthygl 6(2) (gofyniad i gyfiawnhau defnyddio honiadau);

    (ch) Erthygl 7 (gofynion ar gyfer gwybodaeth faethol);

    (d) Erthygl 8(1) (gofynion ar gyfer honiadau maethol);

    (dd) Erthygl 9 (gofynion ar gyfer honiadau cymharol);

    (e) Erthygl 10(1), (2) a (3) (gofynion ar gyfer honiadau am iechyd);

    (f) Erthygl 12 (gwahardd honiadau penodol am iechyd); ac

    (ff) Erthygl 14(2) (gofynion ar gyfer honiadau i leihau risg clefydau).

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
    
6. Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

    (a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);

    (b) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

    (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

    (ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

    (d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi yng nghwrs busnes);

    (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

    (e) adran 34 (terfyn amser ar gyfer erlyn);

    (f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

    (ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); ac

    (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Rhwystro swyddogion a darparu gwybodaeth etc
    
7. —(1) Bydd unrhyw berson sydd —

    (a) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith; neu

    (b) heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano,

yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar na fydd yn hwy na thri mis neu i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i'r ddau.

    (2) Bydd unrhyw berson sydd, yn cydymffurfio'n honedig ag unrhyw ofyniad a grybwyllir ym mharagraff (1)(b), gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, yn euog o dramgwydd ac yn atebol —

    (a) o'i gollfarnu ar dditiad i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i ddirwy, neu i'r ddau.

    (b) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;

    (3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu argyhuddo'r person hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd
    
8. —(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).

    (2) Ar ôl paragraff (4) o reoliad 41, mewnosoder y paragraff a ganlyn—

        " (5) Nothing in regulation 40 or in Schedule 6 or 8 operates to prohibit or, as the case may be, restrict a claim made in accordance with the conditions of Regulation (EC) 1924/2006 of the European Parliament and of the Council on nutrition and health claims made on foods[5]".


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

6 Medi 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir am fwydydd, fel y'i cywirwyd gan Gorigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t3), "Rheoliad y GE".

    
2. Mae'r Rheoliadau—

    (a) yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion Erthyglau penodol Rheoliad y GE (rheoliad 3);

    (b) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

    (c) yn darparu ei bod yn dramgwydd, yn ddarostyngedig i randdirymiadau penodol a mesurau trosiannol a bennir yn Rheoliad y GE lle y bo'n berthnasol—

      (i) i wneud honiadau am faethiad neu iechyd nad ydynt yn gyffredinol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE ac yn benodol sydd yn gamarweiniol neu wneud honiad o fathau gwaharddedig penodol;

      (ii) i wneud honiadau am ddiodydd alcoholaidd ac eithrio i'r graddau cyfyngedig iawn a ganiateir gan Reoliad y GE;

      (iii) i wneud honiad na ellir ei gyfiawnhau'n wyddonol;

      (iv) i fethu â darparu'r wybodaeth faethol a ragnodwyd wrth wneud honiad am iechyd;

      (v) i wneud honiad maethol nad yw'n un o'r rhai a restrir yn yr Atodiad i Reoliad y GE;

      (vi) i wneud honiad maethol cymharol nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y GE;

      (vii) i wneud honiad am iechyd nad awdurdodwyd o dan y gweithdrefnau a ddarperir yn Rheoliad y GE ac nad yw'r wybodaeth benodedig gydag ef yn y labelu neu mewn unrhyw ddull arall o'i gyflwyno;

      (viii) i wneud honiad am iechyd o fath a waherddir yn benodol gan Reoliad y GE; neu

      (ix) yn achos honiadau am iechyd o ran lleihau risg rhag clefyd, i fethu â rhoi gyda'r honiad y datganiad a ragnodir yn Rheoliad y GE (rheoliad 5).

     3. Mae'r Rheoliadau hefyd—

    (a) yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ( rheoliad 6);

    (b) yn darparu ei bod, yn ddarostyngedig i derfynau penodol, yn dramgwydd i rwystro, methu â rhoi gwybodaeth neu gamarwain yn fwriadol unrhyw un sy'n gweithredu ac yn gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 7); ac

    (c) yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ynghylch y meysydd lle y mae gorgyffwrdd rhwng y Rheoliadau hynny a Rheoliad y GE (rheoliad 8).

     4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 ac Atodlen 11, paragraff 30 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[3] Mae testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).back

[4] O.S. 1996/1499. Cafwyd diwygiadau ir Rheoliadau hyn, ond nid ydynt yn berthnasol.back

[5] Ceir testun diwgiedig y Rheoliad hwn bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L12, 18.1.2007, t.3).back



English version



ISBN 978 0 11 091627 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 9 October 2007
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010