Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072386w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2386 (W.197) (Cy.88)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
11 Awst 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r awdurdod cenedlaethol priodol[
1] gan adrannau 56(1) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006[
2]:
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2007.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr "Deddf 1965" ("the 1965 Act") yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965;[3];
ystyr "Ddeddf 2006" ("the 2006 Act") yw Deddf Tiroedd Comin 2006;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym at ddibenion penodol
2.
—(1) Mae darpariaethau Deddf 2006 a osodir ym mharagraff (2) yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud i'r graddau y maent yn rhoi pwer, neu'n gosod dyletswydd, ar Weinidogion Cymru—
(a) i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwyddynt;
(b) i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau; neu
(c) i wneud darpariaeth parthed arfer unrhyw bwer o'r fath neu parthed cyflawni dyletswydd o'r fath.
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
adran 3(5);
adran 6(4);
adran 7(4);
adran 8(1) a (2);
adran 11(5) a (6);
adran 12(a);
adran 13(1)(a);
adran 14;
adran 17(3) a (10);
adran 19(6);
adran 20(2) a (3);
adran 21(2) a (3);
adrannau 22 i 25;
adran 29(1) a (6);
adran 31(6)(a);
adran 39(6);
adran 40;
adran 42(4);
adrannau 43 a 44;
adran 50(1) a (4) i (6);
paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2; a
paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5 ac 8(2) a (3) o Atodlen 3.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Medi 2007
3.
Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—
(a) adran 4 (awdurdodau cofrestru tiroedd comin);
(b) adran 5 (tir y mae Rhan 1 yn gymwys iddo);
(c) adran 15 (cofrestru meysydd tref neu bentref);
(ch) adran 23 (trosiannol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (i) o'r erthygl hon;
(d) adran 24 (ceisiadau etc.) i'r graddau nad yw'n cael ei dwyn i rym gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn;
(dd) adran 44 (materion atodol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (j) o'r erthygl hon;
(e) adran 45 (pwerau awdurdodau lleol dros dir nas hawlwyd);
(f) adran 47 (cau tir gan y perchennig);
(ff) adran 49 (hysbysiad cau tir);
(g) adran 51 (mynediad i gerbydau);
(ng) adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (l) o'r erthygl hon;
(h) adran 53 (diddymiadau), i'r graddau y mae yn rhoi eu heffaith i baragraffau (ll) i (o) o'r erthygl hon;
(i) yn Atodlen 3 (cofrestru: darpariaeth drosiannol), paragraff 9;
(j) yn Atodlen 4 (gwaith: materion atodol), paragraff 6;
(l) yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(i) paragraff 4,
(ii) is-baragraff (a) o baragraff 6, a
(iii) is-baragraff (5) o baragraff 7 ac is-baragraff (1) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y mae yn ymwneud ag ef;
(ll) yn Rhan 1 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chofrestru), y cofnodion sy'n ymwneud ag—
(i) Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 i'r graddau y mae'n diddymu adrannau 8, 9 a 13(a) a (b)[4] o Ddeddf 1965,
(ii) adran 189(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[5],
(iii) paragraff 10(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985[6],
(iv) adran 8 o Ddeddf Tiroedd Comin Dartmoor 1985[7],
(v) Deddf Tiroedd Comin (Cywiro Cofrestrau) 1989[8],
(vi) adrannau 46(1) a 98 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[9], a
(vii) adran 33(1) o Ddeddf Tiroedd Comin Greenham a Crookham 2002[10];
(m) yn Rhan 2 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â gwaith), y cofnodion yn ymwneud ag
(i) adran 21 o Ddeddf y Tiroedd Comin Metropolitanaidd 1866[11],
(ii) adran 30 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876[12],
(iii) adran 21o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 [13], a
(iv) Atodlen 7 i Ddeddf Prynu Gorfodol 1965[14];
(n) yn Rhan 3 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chau tir gan y perchennog a chau tir), y cofnodion yn ymwneud â
(i) Deddf Tiroedd Comin 1285[15],
(ii) adran 31 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, a
(iii) Deddf Diwygio Cyfraith Tiroedd Comin 1893[16]; ac
(o) Rhan 5 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â mynediad i gerbydau).
Darpariaethau trosiannol ac arbedion
4.
—(1) Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn caniatáu cais o dan adran 15 o Ddeddf 2006 i gofrestru tir fel maes tref neu bentref cyn bod adran 1 o Ddeddf 2006 wedi dod i rym mewn perthynas â'r man lle lleolir y tir—
(a) rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r tir yn y gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi sy'n cael ei chadw ar gyfer y man hwnnw dan Ddeddf 1965; a
(b) hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym mewn perthynas â'r man hwnnw, mae Deddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â'r cofrestru megis petai wedi'i wneud yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965.
(2) O ran unrhyw ardal o Gymru—
(a) mae cyfeiriadau yn adran 24 o Ddeddf 2006, ac mewn rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, at gofrestru tiroedd comin neu neu feysydd trefi neu bentrefi, i'w cymryd, hyd nes y daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel cyfeiriadau at gofrestr o'r fath a gedwir o dan Ddeddf 1965; a
(b) mae adran 13(b) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani[17], yn parhau i gael eu heffaith hyd nes y daw'r canlynol i rym—
(i) adran 6 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin ac eithrio yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad, a
(ii) adran 14 o Ddeddf 2006 o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n dod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.
(3) Pan fo—
(a) cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol ag adran 13(b) o Ddeddf 1965, i ddiwygio'r gofrestr o feysydd trefi neu bentrefi o ganlyniad i fod tir wedi dod yn faes tref neu bentref, a
(b) nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(b) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
(4) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae'r cyfeiriad yn adran 45(1) o Ddeddf 2006 at dir sydd wedi'i gofrestru fel tir comin neu faes tref neu bentref i'w ddarllen, hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, fel petai yn gyfeiriad at fod tir wedi'i gofrestru felly o dan Ddeddf 1965.
(5) Pan fo Comisiynydd Tiroedd Comin, cyn 6 Medi 2007, yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 8(2) neu (3) o Ddeddf 1965 i awdurdod cofrestru gofrestru person fel perchennog tir, ond nad yw'r awdurdod cofrestru yn cydymffurfio â'r cyfarwyddyd cyn y dyddiad hwnnw-
(a) mae'r cyfarwyddyd yn parhau i fod yn effeithiol ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny er gwaethaf diddymiad adran 8(2) a (3) o Ddeddf 1965; a
(b) os mai'r cyfarwyddyd yw i awdurdod lleol gael ei gofrestru fel perchennog y tir, pan wneir y cofrestriad, bydd adran 8(4) o Ddeddf 1965 yn gymwys megis pe na bai wedi cael ei diddymu.
(6) O ran unrhyw ardal o Gymru, mae adran 13(a) o Ddeddf 1965, a rheoliadau a wnaed oddi tani[18], yn parhau i gael eu heffaith, hyd nes daw adran 14 o Ddeddf 2006 i rym o ran yr ardal honno, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sy'n peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref yn rhinwedd unrhyw offeryn a wnaed o dan ddeddfiad neu'n unol â deddfiad.
(7) Os, o ran unrhyw dir ac eithrio tir y cyfeirir ato ym mharagraff (6),—
(a) oes cais yn cael ei wneud cyn 6 Medi 2007 i awdurdod cofrestru, yn unol â rheoliadau o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965, i dir gael ei dynnu oddi ar y gofrestr o ganlyniad i fod y tir hwnnw wedi peidio â bod yn dir comin neu'n faes tref neu bentref; a
(b) nad yw'r awdurdod cofrestru yn dyfarnu ar y cais cyn y dyddiad hwnnw,
rhaid i'r awdurdod cofrestru barhau i ymwneud â'r cais ar 6 Medi 2007 ac ar ôl hynny megis pe na bai adran 13(a) o Ddeddf 1965 wedi'i diddymu.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
11 Awst 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau penodol o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 ("y Ddeddf") o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gyda'r bwriad cyfyngedig o alluogi Gweinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau ac i wneud rheoliadau, neu i wneud darpariaeth drwy reoliadau.
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau o Ddeddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno i rym ar 6 Medi 2007.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion yn ymwneud â'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Ymhlith pethau eraill, mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 15 o Ddeddf 2006 i rym, sy'n gwneud darpariaeth newydd ynghylch cofrestru tir yng Nghymru fel maes tref neu bentref, ac sy'n cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion—
(a) sy'n ei gwneud yn ofynnol, nes bod adran 1 o Ddeddf 2006 yn dod i rym o ran y man perthnasol, i faes a gofrestrwyd o dan adran 15 o Ddeddf 2006 gael ei gofnodi yn y cofrestrau a gedwir o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 ("Deddf 1965");
(b) sy'n sicrhau bod y darpariaethau presennol ar gyfer cofrestru meysydd a thiroedd comin newydd o dan adran 13(b) o Ddeddf 1965 yn aros mewn grym mewn achosion penodol (megis ar gyfnewid tir sy'n ganlyniad i orchymyn prynu gorfodol); ac
(c) sy'n cadw unrhyw gais i gofrestru maes a wnaed o dan Ddeddf 1965 cyn 6 Medi 2007, fel bod rhaid pennu ceisiadau o'r fath o dan Ddeddf 1965.
Gellir cael gwybodaeth bellach ar y darpariaethau y daw'r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i'r Ddeddf Tiroedd Comin 2006, yn www.opsi.gov.uk.
Notes:
[1]
Gweler adran 61(1) o Ddeddf 2006 am ystyr "awdurdod cenedlaethol priodol" ("appropriate national authority"), y mae ei swyddogaethau bellach arferadwy, o ran Cymru, gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.back
[2]
2006 p.26.back
[3]
1965 p.64.back
[4]
1965 p.64; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran189(2) a chan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9), Atodlen 11, paragraff 7(1) a (2); diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Cofrestru Tir 2000, Atodlen 11, paragraff 7(1) a (3); diwygiwyd adran 13 gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1969 (p.59), Atodlen 2, Rhan I.back
[5]
1972 p.70.back
[6]
1985 p.51.back
[7]
1985 p.xxxvii.back
[8]
1989 p.18back
[9]
2000 p.37.back
[10]
2002 p.i.back
[11]
1866 p.122.back
[12]
1876 p.56; diwygiwyd adran 30 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder (Apelau) 1934 (p.40), yr Atodlen, Rhan I a chan Ddeddf Diwygio'r Cyfansoddiad 2005 (p.4), Atodlen 11, Rhan 4, paragraff 13.back
[13]
1899 p.30; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Adolygu Cyfraith Statud 1908 (p.49).back
[14]
1965 p.56.back
[15]
13 Edw 1 p.46.back
[16]
1893 p.57.back
[17]
Mae rheoliad 28 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1969/1843 (mae yna offerynnau diwygio eraill, ond nid oes unrhyw un yn berthnasol), a Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843) wedi'u gwneud o dan adran 13(b).back
[18]
Mae rheoliad 27 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/658, yn gwneud darpariaeth o dan adran 13(a) o Ddeddf 1965.back
English version
ISBN
978 0 11 091609 5
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
11 September 2007
|