Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007 Rhif 2311 (Cy.182)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072311w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2311 (Cy.182)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
4 Awst 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
7 Awst 2007 | |
|
Yn dod i rym |
31 Awst 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 181 o Ddeddf Addysg 2002[
1], ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt[
2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr "blwyddyn academaidd" ("academic year") yw'r cyfnod rhwng 1 Medi mewn un flwyddyn hyd at 31 Awst yn y flwyddyn nesaf, ac eithrio pan fo tymor cyntaf sefydliad addysgol cydnabyddedig yn dechrau cyn 1 Medi, y flwyddyn academaidd yw'r cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau'r tymor hwnnw ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r tymor cyntaf hwnnw yn y flwyddyn ddilynol;
ystyr "cwrs addysg cymwys" ("eligible education course") yw cwrs a ddisgrifir yn rheoliad 4;
ystyr "cyrchnodau dysgu" ("learning goals") yw amcanion a gytunwyd rhwng person cymwys a'r sefydliad addysgol cydnabyddedig y mae'n ei fynychu a hwythau'n amcanion sy'n ymwneud â chynnydd addysgol y person cymwys;
ystyr "Cytundeb Dysgu Rhan 1" ("Learning Agreement Part 1") yw contract a lofnodir rhwng person cymwys a'i sefydliad addysgol cydnabyddedig sy'n nodi'r cyfrifoldebau priodol sy'n llywodraethu'i bresenoldeb a thalu dyfarndaliadau wythnosol fel y'u disgrifir ym mharagraffau 5(2) a 5(3);
ystyr "Cytundeb Dysgu Rhan 2" ("Learning Agreement Part 2") yw contract a lofnodir rhwng person cymwys a'i sefydliad addysgol cydnabyddedig sy'n nodi'r amcanion y mae'n rhaid i berson cymwys eu cyflawni er mwyn bod yn gymhwysol i gael bonws ysbeidiol fel y'i disgrifir yn rheoliad 8;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysg 2002;
ystyr "incwm aelwyd" ("household income") yw incwm fel y'i diffinnir ac fel y'i cyfrifir at ddibenion credyd treth plant yn Rheoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002[3] fel y'u diwygiwyd o dro i dro;
mae i "lwfans cynhaliaeth addysg" ("education maintenance allowance") (LCA) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliadau 5(1) i 5(4);
mae i "person cymwys" ("eligible person") yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3(1) i 3(4);
ystyr "sefydliad addysgol cydnabyddedig" ("recognised educational institution") yw—
(a) ysgol yng Nghymru a gynhelir gan awdurdod lleol,
(b) ysgol annibynnol yng Nghymru a gofrestrwyd o dan Ran 10 o Ddeddf Addysg 2002,
(c) sefydliad yng Nghymru yn y sector addysg bellach, neu
(ch) unrhyw sefydliad addysgol arall yng Nghymru y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol;
ystyr "sesiwn ddysgu" ("learning session") yw cyfnod pryd y mae sefydliad addysgol cydnabyddedig yn monitro presenoldeb ac yn adrodd arno.
Personau Cymwys
3.
—(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Mae person yn berson cymwys sy'n cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg—
(a) os bydd Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wrth asesu cais person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a osodir yn Rhan 2 o'r Atodlen; a
(b) os bydd yn dilyn cwrs addysg cymwys y cyfeirir ato yn rheoliad 4; ac
(c) os bydd incwm aelwyd ei riant, ei warcheidwad neu ei ofalydd yn £30,810 neu lai yn y flwyddyn dreth sy'n dod i ben ym mis Ebrill yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd pryd y mae'r lwfans cynhaliaeth addysg i'w dalu; ac
(ch) mae'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3).
(3) Yr amodau yw—
(a) yn y flwyddyn academaidd 2005/06 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg; neu
(b) yn y flwyddyn academaidd 2006/07 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw; neu
(c) yn y flwyddyn academaidd 2007/08 mae'n dathlu ei ben blwydd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw neu'n bedair ar bymtheg.
(4) Nid yw person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg os paragraff 9 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 11 o Ran 2 o'r Atodlen y mae'r person yn gweddu iddo.
(5) Ni thelir lwfans cynhaliaeth addysg oni fydd person cymwys yn bodloni'r amodau yn rheoliad 7 neu reoliad 8.
(6) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael lwfans cynhaliaeth addysg o ran y cyfnod cymhwyso y cyfeirir ato ym mharagraff (7).
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ystyr "y cyfnod cymhwyso" yw'r cyfnod o dair blynedd academaidd olynol sy'n dechrau yn y flwyddyn academaidd pan fydd y person cymwys yn peidio â bod mewn oedran ysgol gorfodol ynddi.
(8) Caiff person cymwys dderbyn taliad yn y flwyddyn academaidd pan fydd yn dathlu ei ben blwydd yn ugain oed neu os bydd wedi derbyn lwfans cynhaliaeth addysg mewn dim mwy na dwy flynedd o'r tair blynedd academaidd flaenorol a bod y sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu ar ôl ymgynghori ag unrhyw gorff addysg arall neu gorff arall y gwêl yn dda, y dylai'r person cymwys dderbyn lwfans cynhaliaeth addysg ar gyfer y flwyddyn academaidd o dan sylw.
(9) Rhaid i berson wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs addysg cymwys y mae'n cymhwyso i gael cymorth ar ei gyfer.
Cwrs addysg cymwys
4.
—(1) Mae cwrs yn gwrs addysg cymwys at ddibenion rheoliad 3—
(a) os yw'n rhaglen addysg academaidd lawn-amser neu'n rhaglen addysg alwedigaethol lawnamser;
(b) os yw hyd rhaglen addysg academaidd lawn-amser neu'r rhaglen addysg alwedigaethol lawnamser yn ddeng wythnos o leiaf;
(c) os darperir y rhaglen gan neu mewn sefydliad addysgol cydnabyddedig;
(ch) pe bai'r amserlen y mae'r person cymwys yn ei dilyn ar draws pob cwrs yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod mewn dosbarth, neu mewn sesiwn astudio arall a addysgir neu lle y rhoddir arweiniad, gan gynnwys gwaith ymarferol neu brofiad gwaith nad oes tâl amdano, am ddim llai na deuddeng awr yr wythnos; ac
(d) os yw'n ymwneud â chymwysterau hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol Lefel 3.
Strwythur a lefel y taliadau, ac asesu
5.
—(1) Llunnir y lwfans cynhaliaeth addysg o :
(a) dyfarndal, fel y'i disgrifir ym mharagraffau (2) a (3) a rheoliad 7 a delir bob pythefnos i'r person cymwys;
(b) taliad bonws ysbeidiol fel y'i disgrifir ym mharagraff (4) a rheoliad 8.
(2) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2006/07 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:
Incwm aelwyd
|
Dyfarndal wythnosol
|
Hyd at £20,270 |
£30 |
£20,271 ond yn llai na £24,850 neu'n hafal iddo |
£20 |
£24,851 ond yn llai na £30,000 neu'n hafal iddo |
£10 |
(3) Mae'r dyfarndal wythnosol y mae person cymwys yn ei gael yn 2007/08 i'w benderfynu yn unol â'r tabl a ganlyn:
Incwm aelwyd
|
Dyfarndal wythnosol
|
Hyd at £20,817 |
£30 |
£20,818 ond yn llai na £25,521 neu'n hafal iddo |
£20 |
£25,522 ond yn llai na £30,810 neu'n hafal iddo |
£10 |
(4) Swm y taliad bonws ysbeidiol a ddyfernir yn unol â rheoliad 8 yw £100.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8), bydd yr asesiad o gymhwystra ariannol person cymwys am lwfans cynhaliaeth addysg a wneir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am y flwyddyn academaidd gyfan y gwneir yr asesiad ar ei chyfer.
(6) Os aseswyd bod yr incwm yn fwy na £20,270 yn 2006/07 neu'n fwy na £20,817 yn 2007/08, caiff person cymwys wneud cais i gael ei ailasesu os bodlonir un neu fwy o'r amodau canlynol:
(a) mae person y cymerwyd ei incwm i ystyriaeth wrth benderfynu ei gymhwystra ariannol wedi marw; neu
(b) ers i'r asesiad o incwm gael ei wneud, nid yw'r person cymwys bellach yn byw gyda'i rieni, ei warcheidwaid neu gyda pherson arall yr ystyriwyd ei incwm wrth benderfynu cymhwystra ariannol ac mae'n gyfrifol amdano'i hun; neu
(c) y mae'r person cymwys wedi dod yn rhiant; neu
(ch) ers i'r asesiad gael ei wneud bu gostyngiad mewn incwm nad yw o natur dros dro.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (6) yn gymwys a bod y person cymwys wedi gwneud cais i gael ei ailasesu, caniateir iddynt benderfynu bod gan berson cymwys yr hawl i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o lwfans cynhaliaeth addysg sy'n daladwy o dan reoliad 7.
(8) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o dan baragraff (7) rhaid iddynt hysbysu'r person cymwys am y penderfyniad.
(9) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu o dan baragraff (7) bod hawl gan berson cymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg neu lefel uwch o ddyfarndal wythnosol o dan reoliad 7, caniateir iddynt-
(a) ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad y daeth cais y person cymwys i law ar gyfer ailasesu; neu
(b) yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (6)(a) ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad pan fu farw'r person y cymerwyd ei incwm i ystyriaeth; neu
(c) talu lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliadau 7 a 8 o ran person cymwys sy'n cymhwyso i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.
6.
Wrth asesu cymhwystra ar gyfer lwfans cynhaliaeth addysg, gan gynnwys ailasesiad o dan reoliad 5(6) i (8), caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau hynny a gwneud yr ymholiadau hynny y maent yn ystyried sy'n angenrheidiol i benderfynu a yw'r ceisydd yn berson cymwys, a yw'r ceisydd yn cymhwyso i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes un.
Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r dyfarndal wythnosol
7.
Mae person cymwys yn cymhwyso i gael dyfarndal o lwfans cynhaliaeth addysg wythnosol a asesir o dan reoliad 5(2) neu (3) os yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1 ac—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (b) mae'r person cymwys, o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, wedi mynychu pob sesiwn ddysgu mewn cysylltiad â chwrs addysg cymwys; neu
(b) os nad yw'r person cymwys wedi mynychu'r gyfryw sesiwn o ran wythnos y mae'r dyfarndal yn berthnasol iddi, mae'r sefydliad addysgol cydnabyddedig wedi awdurdodi pob absenoldeb.
Cytundeb Dysgu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'r taliadau bonws ysbeidiol
8.
—(1) Mae person cymwys yn cymhwyso i gael taliad bonws ysbeidiol mis Ionawr, mis Gorffennaf neu fis Medi o lwfans cynhaliaeth addysg os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (2).
(2) Yr amodau yw—
(a) o ran taliad bonws mis Ionawr —
(i) mae person cymwys wedi cael yn ystod y flwyddyn galendr ond cyn dechrau'r wythnos gyntaf ym mis Chwefror ddau daliad o lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliad 7; a
(ii) mae sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu bod person cymwys wedi cyflawni ei nodau dysgu o ran y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau'r mis Medi blaenorol hyd at ddiwedd y mis Ionawr dilynol;
(b) o ran taliad bonws mis Gorffennaf mae'r sefydliad addysgol cydnabyddedig yn penderfynu bod person cymwys wedi cyflawni ei nodau dysgu o ran y cyfnod sy'n cychwyn ar ddechrau mis Ionawr hyd at ddiwedd y mis Gorffennaf dilynol;
(c) o ran taliad bonws mis Medi—
(i) mae person cymwys wedi cael dim llai na dau ddyfarndal wythnosol o lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliad 7 ym mis Medi yn y flwyddyn academaidd; a
(ii) mae gan berson cymwys Gytundeb Dysgu Rhan 1 ar waith cyn y flwyddyn academaidd flaenorol.
(3) At ddibenion paragraff (2)(c)(ii) dylid ystyried unrhyw wythnos sy'n cychwyn ar ddydd Llun ym mis calendr mis Medi fel wythnos gymwys at ddibenion talu lwfans cynhaliaeth addysg;
(4) Rhaid i berson cymwys beidio â derbyn taliad bonws mis Ionawr neu daliad bonws mis Gorffennaf onid yw wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 2 ar gyfer y flwyddyn academaidd honno.
Rôl sefydliadau addysgol cydnabyddedig
9.
Rhaid i sefydliadau addysgol cydnabyddedig sy'n darparu cyrsiau addysg cymwys i bersonau cymwys o dan y Rheoliadau hyn wneud y canlynol:
(a) cymryd camau i hybu argaeledd lwfans cynhaliaeth addysg i'w myfyrwyr a'u darpar fyfyrwyr;
(b) sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi'n briodol i weinyddu lwfans cynhaliaeth addysg;
(c) hysbysu Gweinidogion Cymru o bob person cymwys sydd wedi ymrestru gyda'r sefydliad addysgol cydnabyddedig a chadarnhau ei fod ef a'r person cymwys wedi llofnodi Cytundeb Dysgu Rhan 1;
(ch) sicrhau bod personau cymwys yn ymwybodol o'r dull y gweinyddir lwfans cynhaliaeth addysg yn y sefydliad addysgol cydnabyddedig;
(d) sicrhau bod cofnodion presenoldeb yn cael eu cynnal o ran pob person cymwys sydd â hawl i lwfans cynhaliaeth addysg o dan y Rheoliadau hyn sydd wedi ymrestru yn y sefydliad addysgol cydnabyddedig;
(dd) cyflwyno adroddiadau wythnosol i Weinidogion Cymru gan roi manylion am y personau cymwys a ddylai neu na ddylai gael lwfans cynhaliaeth addysg o ran yr wythnos flaenorol, yn unol â rheoliad 7(a) neu (b);
(e) hysbysu Gweinidogion Cymru pan fydd Cytundeb Dysgu Rhan 2 wedi cael ei lofnodi gan gynrychiolydd y Sefydliad Addysgol Cydnabyddedig a chan y person cymwys;
(f) hysbysu Gweinidogion Cymru a ddylid talu taliad bonws ysbeidiol o dan reoliad 8 i berson cymwys ai peidio, yn unol â rheoliad 8; ac
(ff) sefydlu a chyhoeddi proses apelio ynglyn â phenderfyniadau p'un a yw person yn cymhwyso i gael dyfarndal lwfans cynhaliaeth addysg o dan reoliadau 7 neu 8.
Ôl-daliad o lwfans cynhaliaeth addysg
10.
—(1) Rhaid cyflwyno cais am lwfans cynhaliaeth addysg i Weinidogion Cymru erbyn 31 Mawrth.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —
(a) os bydd person cymwys yn gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd; a
(b) os daw'r cais i law Gweinidogion Cymru ar neu cyn 31 Hydref,
ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i ddechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys —
(a) os bydd person cymwys yn gwneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd; a
(b) os bydd y cais yn dod i law Gweinidogion Cymru ar ôl 31 Hydref,
ac yn yr achos hwnnw ceir ôl-ddyddio'r taliad i'r dyddiad pan ddaeth y ffurflen gais i law Gweinidogion Cymru, neu i ddyddiad dechrau'r cwrs, p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(4) Mae unrhyw ôl-daliad a gaiff ei wneud o dan y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i'r rheolau ynghylch dyfarndaliadau wythnosol o lwfans cynhaliaeth yn rheoliad 7.
Gwahardd cyllido deuol
11.
Ni chaniateir i berson cymwys gael lwfans cynhaliaeth addysg am unrhyw gyfnod o amser pan fydd yn cael tâl lleoliad gwaith neu'n cael lwfans hyfforddi.
Gordalu
12.
Rhaid i berson cymwys, os yw hynny'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r person cymwys o dan y Rheoliadau sydd am ba reswm bynnag—
(a) yn fwy na swm y lwfans cynhaliaeth addysg y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b) nad oedd gan y person cymwys hawl i'w gael o dan y Rheoliadau hyn.
Jane E Hart
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Awst 2007
YR ATODLENRheoliad 3
Personau Cymwys
RHAN
1
Dehongli
1.
—(1) At ddibenion yr Atodlen hon —
ystyr "aelod o'r teulu" ("family member") (oni nodir fel arall) —
(a) o ran gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw —
(i) ei briod neu ei bartner sifil;
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil; neu
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu blentyn ei bartner sifil;
(c) o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
(ch) o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
(i) ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii) ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa) sydd o dan 21 mlwydd oed; neu
(bb) sy'n ddibynyddion iddo neu sy'n ddibynyddion i'w briod neu i'w bartner sifil;
ystyr "AEE" ("EEA") yw Ardal Economaidd Ewropeaidd, sef yr ardal sy'n ffurfio'r Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Iwerddon, Brenhiniaeth Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
ystyr "Cyfarwyddeb 2004/38" ("Directive 2004/38") yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 29 Ebrill 2004[4] ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i breswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr "Cytundeb y Swistir" ("Swiss Agreement") yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a'r Conffedrasiwn Swisaidd, o'r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Luxembourg ar 21 Mehefin 1999[5] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr "gweithiwr" ("worker") yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE[6], yn ôl y digwydd;
ystyr "gweithiwr mudol o'r AEE" ("EEA migrant worker") yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr ac eithrio gweithiwr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "gweithiwr y ffin o'r AEE" ("EEA frontier worker") yw gwladolyn o'r AEE —
(a) sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "gwladolyn y Deyrnas Unedig" ("United Kingdom national") yw person sydd i'w drin fel gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion y Cytuniadau Cymunedol;
ystyr "Gwladolyn y GE" ("EC national") yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd;
ystyr "gwladolyn yr AEE" ("EEA national") yw gwladolyn o'r Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;
ystyr "Gwladwriaeth yr AEE" ("EEA State") yw Aelod-wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr "hawl i breswylio'n barhaol" ("right of permanent residence") yw hawl sy'n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr "person cyflogedig" ("employed person") yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr "person cyflogedig Swisaidd" ("Swiss employed person") yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person Swisaidd cyflogedig y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person cyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier employed person") yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "person hunangyflogedig" ("self-employed person") yw—
(a) o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu o Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
(b) o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr "person hunangyflogedig AEE" ("EEA self-employed person") yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunangyflogedig Swisaidd" ("Swiss self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr "person hunangyflogedig Swisaidd y ffin" ("Swiss frontier self-employed person") yw gwladolyn Swisaidd—
(a) sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "person hunangyflogedig y ffin o'r AEE" ("EEA frontier self-employed person") yw gwladolyn o'r AEE —
(a) sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr "person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros" ("person with leave to enter or remain") yw person—
(a) a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymhwysol i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno;
(b) a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny (ac na chafodd y caniatâd hwnnw ei ddirymu); ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;
mae i "wedi setlo" yr ystyr a roddir i "settled" yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[7].
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal plentyn a rhaid dehongli "plentyn" ("child") yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai—
(a) ei fod ef;
(b) bod ei briod neu ei bartner sifil;
(c) bod ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu wedi bod mewn cyflogaeth felly, neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.
(4) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —
(a) yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu o'r AEE; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt, i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r AEE.
RHAN
2
Categorïau
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
2.
—(1) Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig is-baragraff (2), person na fu ei breswyliad yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw Paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3.
Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos pan fu ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, person a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros
4.
—(1) Person
(a) sydd yn ffoadur;
(b) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ei gydnabod fel ffoadur; ac
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sydd yn briod neu'n bartner sifil i ffoadur;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sydd yn blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b) a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y ffoadur gais am loches;
(ch) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ac aelodau o'u teulu
5.
—(1) Person—
(a) sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a) sydd yn yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;
(b) a oedd yn briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad pan wnaeth y person hwnnw gais am loches;
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a) sydd yn yn blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros;
(b) a oedd ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person hwnnw ar y dyddiad hwnnw;
(c) a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad pan wnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros gais am loches;
(ch) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teulu
6.
—(1) Person—
(a) sydd —
(i) yn weithiwr mudol o'r AEE neu yn berson hunangyflogedig o'r AEE;
(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;
(v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraph (1).
7.
Person—
(a) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr[8], fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
8.
—(1) Person—
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos pan oedd ei breswyliad fel y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 nseu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'r person y mae ef yn aelod o'i deulu yn wladolyn ohoni.
Gwladolion o'r GE
9.
—(1) Person sydd —
(a) naill ai —
(i) yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii) yn aelod o deulu'r cyfryw berson;
(b) yn dilyn cwrs addysg cymwys; neu
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a drinnir fel un sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
10.
—(1) Person sydd—
(a) yn wladolyn y GE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) pan fo'i breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, ac yr oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a phan fo person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod y person yn wladolyn o'r GE nad yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
Plant Gwladolion o'r Swistir
11.
Person —
(a) sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir ac sydd â hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sydd yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) pan fo'i breswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn llwyr neu'n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, ac yr oedd fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn cyfnod y preswyliad arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Plant gweithwyr o Dwrci
12.
Person —
(a) sy'n blentyn i weithiwr o Dwrci;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i bobl ifanc i'w galluogi i gael addysg ar ôl iddynt gyrraedd oedran gorfodol ymadael â'r ysgol. Mae lwfans cynhaliaeth addysg hyd at £30 yr wythnos ar gael i bersonau cymwys sy'n dilyn cyrsiau cymwys. Yn ychwanegol, telir taliadau bonws o £100 hyd at dair gwaith y flwyddyn os bydd person cymwys yn bodloni amcanion ei gwrs a'r amodau a osodir yn y Rheoliadau hyn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2007.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi paratoi canllawiau manwl ar weithrediad y Rheoliadau. Gellir cael copïau oddi wrth. Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir dod o hyd i gopïau ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd.
www.cymru.gov.uk.
Notes:
[1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(d) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).back
[2]
p.32.back
[3]
O.S. 2002/2006.back
[4]
OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.back
[5]
Cm. 4904.back
[6]
ystyr "Cytundeb yr AEE" yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Cm 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Cm. 2183.back
[7]
1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).back
[8]
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t2 (OJ/SE 1968 (II) t475).back
English version
ISBN
978 0 11 091611 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
12 September 2007
|