British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 Rhif 2112 (Cy.170)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072112w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 2112 (Cy.170)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
23 Gorffennaf 2007 | |
|
Wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaeshol |
24 Gorffennaf 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Medi 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 129(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[
1] ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy[
2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg y Drindod, Caerfyrddin (Sefydliadau Dynodedig mewn Addysg Uwch) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Medi 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dynodiad
2.
Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ac yntau'n sefydliad addysg o'r math a ddisgrifir yn is-adran (2) o adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, yn sefydliad at ddiben yr adran honno.
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dynodir Coleg y Drindod, Caerfyrddin gan y Gorchymyn hwn at ddibenion adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Mae hyn yn golygu ei fod yn gymwys i dderbyn cymorth o gyllid a weinyddir gan gyngor cyllido addysg uwch a'i fod i'w drin fel sefydliad o fewn y sector addysg uwch at ddibenion y Deddfau Addysg.
Notes:
[1]
1988 p.40.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, (OS 1999/672) a pharagraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
English version
ISBN
978 0 11 091597 5
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
14 August 2007
|