British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1905 (Cy.163)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071905w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 1905 (Cy.163)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
3 Gorffennaf 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
5 Gorffennaf 2007 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1].
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
2] cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.
Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001[
3] yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli), yn lle'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" rhodder
"
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth[4];".
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
3 Gorffennaf 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn" a geir yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru 2001 (O.S. 2001/1361), "Rheoliadau 2001;"
2.
Wrth ddiwygio'r diffiniad hwnnw yn Rheoliadau 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodedig ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir yn y rheoliad ar farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24). Dirymodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 fel y'i diwygiwyd, gan gymryd ei lle heb ddiwygiad pellach.
3.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
Notes:
[1]
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back
[2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf adeg gwneud y Rheoliadau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back
[3]
O.S. 2001/1361 (Cy.89).back
[4]
OJ Rhif L106, 24.4.2007, p.24.back
English version
ISBN
978 0 11 091591 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
24 July 2007
|