Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 Rhif 1835 (Cy.159)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071835w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 1835 (Cy.159)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
26 Mehefin 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
26 Mehefin 2007 | |
|
Yn dod i rym |
27 Mehefin 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
1].
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno, o ran mesurau ym maes milfeddygaeth, i ddiogelu iechyd y cyhoedd[
2].
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2007.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005
2.
—(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005[
3] yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —
(a) mae'r diffiniadau canlynol o offerynnau Cymunedol penodol wedi'u rhoi yn lle'r diffiniadau o'r offerynnau Cymunedol sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o "cig ffres"—
"
mae i "Cyfarwyddeb 2004/41", "Penderfyniad 2007/411", "Rheoliad 999/2001", "Rheoliad 178/2002", "Rheoliad 852/2004", "Rheoliad 853/2004", "Rheoliad 854/2004", "Rheoliad 882/2004", "Rheoliad 1688/2005", "Rheoliad 2073/2005", "Rheoliad 2074/2005", "Rheoliad 2075/2005", "Rheoliad 2076/2005", "Rheoliad 575/2006", "Rheoliad 1664/2006", "Rheoliad 1665/2006", "Rheoliad 1666/2006", "Rheoliad 1791/2006" a "Rheoliad 1923/2006" yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;"; a
(b) rhoddir yr ymadrodd "Mhenderfyniad 2007/411" yn lle'r ymadrodd "Mhenderfyniad 2005/598" sy'n ymddangos yn y diffiniad cyfun o "deunydd" a "cynnyrch".
(3) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5 (arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt), rhoddir y geiriau "y rheoliad hwnnw" yn lle'r geiriau "yr adran honno".
(4) Yn lle'r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol) rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
26 Mehefin 2007
YR ATODLENRheoliad 2(4)
YR ATODLEN A RODDIR YN LLE'R ATODLEN I REOLIADAU CYNHYRCHION BUCHOL (CYFYNGU AR EU RHOI AR Y FARCHNAD) (CYMRU) (RHIF 2) 2005
"
YR ATODLENRheoliad 2(1)
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL
Ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[4];
ystyr "Penderfyniad 2007/411" ("Decision 2007/411") yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC[5];
ystyr "Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol[6] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1923/2006;
ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[7] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 575/2006;
ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[8] fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;
ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[9] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl[10] fel y'i diwygiad ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau[11] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
ystyr "Rheoliad 1688/2005" ("Regulation 1688/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden[12];
ystyr "Rheoliad 2073/2005" ("Regulation 2073/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd[13];
ystyr "Rheoliad 2074/2005" ("Regulation 2074/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[14] fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006;
ystyr "Rheoliad 2075/2005" ("Regulation 2075/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig[15] fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1665/2006;
ystyr "Rheoliad 2076/2005" ("Regulation 2076/2005") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[16] fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006;
ystyr "Rheoliad 575/2006" ("Regulation 575/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop[17];
ystyr "Rheoliad 1664/2006" ("Regulation 1664/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol[18];
ystyr "Rheoliad 1665/2006" ("Regulation 1665/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2975/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig[19];
ystyr "Rheoliad 1666/2006" ("Regulation 1666/2006") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2006, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor[20]);
ystyr "Rheoliad 1791/2006" ("Regulation 1791/2006") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhydd symudiad personau, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth milfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegau, ynni, amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasoedd allanol, cydbolisi ar faterion tramor a materion diogelwch, a sefydliadau, oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi[21]); ac
ystyr "Rheoliad 1923/2006" ("Regulation 1923/2006") yw Rheoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol[22].".
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—
(a) diweddaru'r diffiniadau o offerynnau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2)(a) a (4));
(b) rhoi cyfeiriad at y Penderfyniad gan y Comisiwn a ddiddymodd ac a ddisodlodd Benderfyniad cynharach gan y Comisiwn yn lle'r cyfeiriad at y Penderfyniad cynharach hwnnw sy'n ymddangos yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2(b)); ac
(c) cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(3)).
2.
Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.
3.
Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).
4.
Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.
5.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Notes:
[1]
1972 p.68.back
[2]
O.S. 2003/1246. Yn rhinwedd adrannau 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.back
[3]
O.S. 2005/3296 Cy.254.back
[4]
OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back
[5]
OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74.back
[6]
OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.back
[7]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[8]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back
[9]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back
[10]
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back
[11]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back
[12]
OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.back
[13]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.back
[14]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.back
[15]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.back
[16]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.back
[17]
OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.back
[18]
OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13.back
[19]
OJ Rhif L320, 18.11.2006. t.46.back
[20]
OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47.back
[21]
OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.back
[22]
OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1.back
English version
ISBN
978 0 11 091587 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 July 2007
|