British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 1713 (Cy.150)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071713w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2007 Rhif 1713 (Cy.150)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
13 Mehefin 2007 | |
|
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
14 Mehefin 2007 | |
|
Yn dod i rym |
10 Gorffennaf 2007 | |
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[
1], ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach [
2], drwy hyn yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Rhagarweiniol
2.
Diwygir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006[
3] fel a ganlyn.
Diwygio rheoliad 3 (ffioedd arolygu)
3.
Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle "£21.00" rhodder "£24.00".
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
13 Mehefin 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 er mwyn codi'r ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau stryd yng Nghymru o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau hynny.
Mae'r ffi am arolygiadau o'r fath, a newidiwyd ddiwethaf yn Ebrill 2004, yn codi o 14.3% o £21 i £24.
Cafodd Asesiad Effaith Rheoliadol ei baratoi ynglŷn â'r rheoliadau hyn. Mae hwn ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1991 p.22.back
[2]
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 75 a 104(1) eu trosglwyddo, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1. Amnewidiwyd adran 75 yn rhagolygol gan adran 58(2) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18). Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau 75 a 104(1) dywededig eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.back
[3]
O.S. 2006/1532 (Cy.150).back
English version
ISBN
978 0 11 091589 0
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
6 July 2007
|