Wedi'i wneud | 28 Mawrth 2007 | ||
Yn dod i rym | 29 Mawrth 2007 |
(3) Pan fo person, ar unrhyw bryd yn y cyfnod sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn dod yn aelod o gynllun 1992 ar ôl dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig—
(b) ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a oedd yn wasanaeth cyfrifadwy at ddibenion cynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy o dan Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).
(4) Mae Cynllun 1992 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod ohono neu yr oedd ganddo hawlogaeth i gael, neu yr oedd yn cael, dyfarndal odano.
Parhad cynlluniau ar gyfer diffoddwyr tân wrth gefn
4.
—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo awdurdod tân ac achub Cymreig, yn union cyn y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn cynnal cynllun ar gyfer talu pensiynau i ddiffoddwyr tân wrth gefn ac mewn perthynas â hwy ("y cynllun wrth gefn").
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr awdurdod barhau i gynnal y cynllun wrth gefn ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, er budd y personau a oedd yn aelodau o'r cynllun hwnnw cyn 6 Ebrill 2006, fel petai'n gynllun a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
(3) Rhaid i'r awdurdod beidio â gwneud y canlynol—
(4) Yn yr erthygl hon ystyr "diffoddwr tân wrth gefn" ("retained firefighter") yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub—
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mawrth 2007
1. | Enw |
2. | Dehongli |
3. | Anabledd |
1. | Aelodaeth o'r Cynllun |
2. | Amodau cymhwyster |
3. | Yr oedran ymddeol arferol a'r oedran buddion arferol |
4. | Diwrnod olaf aelodaeth |
5. | Dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn |
6. | Ailymuno â'r Cynllun |
1. | Pensiwn cyffredin |
2. | Dyfarndal yn sgil ymddeol oherwydd afiechyd |
3. | Pensiwn gohiriedig |
4. | Dileu pensiwn gohiriedig |
5. | Pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod |
6. | Pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod |
7. | Yr hawlogaeth i gael dau bensiwn |
8. | Ad-dalu cyfraniadau pensiwn cyfanredol |
9. | Cymudo: cyffredinol |
10. | Cymudo: pensiynau bach |
11. | Dyrannu pensiwn |
12. | Aelodau â debyd pensiwn |
1. | Pensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy'n goroesi |
2. | Swm pensiwn goroeswr: cyffredinol |
3. | Swm pensiwn goroeswr: achosion arbennig |
4. | Pensiwn profedigaeth: goroeswyr |
5. | Cymudo pensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy'n goroesi |
6. | Pensiwn plentyn |
7. | Pensiwn plentyn: cyfyngiadau a hyd |
8. | Swm pensiwn plentyn |
9. | Pensiwn profedigaeth: plant |
10. | Pensiwn i blentyn pan nad oes unrhyw bensiwn goroeswr yn cael ei dalu |
11. | Pensiwn plentyn mewn perthynas ag aelod â debyd pensiwn |
12. | Cymudo pensiwn plentyn |
1. | Grant marwolaeth |
2. | Grant marwolaeth ar ôl ymddeol |
1. | Hawlogaeth aelod â chredyd pensiwn i gael pensiwn |
2. | Cymudo'r cyfan o fuddion credyd pensiwn |
3. | Cymudo rhan o fuddion credyd pensiwn |
4. | Cymhwyso rheolau cyffredinol |
5. | Grant marwolaeth ar ôl ymddeol: aelodau â chredyd pensiwn |
1. | Dehongli Rhan 7 |
2. | Parhad cyflogaeth |
3. | Dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol |
4. | Personau wrth gefn nad ydynt yn ailddechrau cyflogaeth gyda'u cyn awdurdod |
1. | Dehongli Rhan 8 |
2. | Dyfarniadau a phenderfyniadau gan awdurdod tân ac achub |
3. | Adolygu barn feddygol |
4. | Apelau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi'u seilio ar gyngor meddygol |
5. | Apelau ynghylch materion eraill |
1. | Adolygu pensiwn afiechyd |
2. | Canlyniadau'r adolygu |
3. | Atal pensiwn yn ystod cyfnod o wasanaeth fel diffoddwr tân |
4. | Atal talu pensiwn gohiriedig yn gynnar |
5. | Atal pensiwn yn sgil collfarnu am dramgwyddau penodol |
6. | Fforffedu dyfarndal |
1. | Gwasanaeth cymhwysol |
2. | Cyfrif gwasanaeth pensiynadwy |
3. | Gwasanaeth anghyfrifadwy |
4. | Cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl |
5. | Cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc. |
6. | Cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy |
1. | Tâl pensiynadwy |
2. | Tâl pensiynadwy terfynol |
3. | Cyfraniadau pensiwn |
4. | Cyfraniadau pensiwn dewisol yn ystod seibiant mamolaeth a seibiant mabwysiadu |
5. | Prynu gwasanaeth ychwanegol |
6. | Dewis prynu gwasanaeth ychwanegol |
7. | Hyd y cyfnod talu cyfraniadau cyfnodol a rhoi terfyn cyn pryd ar eu talu |
8. | Rhoi'r gorau i gyfraniadau cyfnodol a'u hailgychwyn |
9. | Cyfraniadau cyfnodol ar gyfer cyfnodau o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl |
10. | Effaith prynu gwasanaeth ychwanegol drwy dalu cyfandaliad |
1. | Dehongli Rhan 12 |
2. | Yr hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo |
3. | Ceisiadau am ddatganiadau hawlogaeth |
4. | Ceisiadau am daliadau gwerth trosglwyddo |
5. | Y dulliau y caniateir eu defnyddio i gymhwyso taliadau gwerth trosglwyddo |
6. | Cyfrifo symiau taliadau gwerth trosglwyddo |
7. | Effaith trosglwyddiadau allan |
8. | Ceisiadau am dderbyn taliad gwerth trosglwyddo o gynllun arall |
9. | Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8 |
10. | Derbyn taliadau gwerth trosglwyddo |
11. | Cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn |
12. | Trosglwyddo hanes pensiwn o un awdurdod Cymreig i un arall |
13. | Dehongli Pennod 5 |
14. | Pensiynau a gamwerthwyd |
15. | Cyfrifo swm taliad adfer |
1. | Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân: taliadau, derbyniadau a throsglwyddiadau |
2. | Taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân |
3. | Trosglwyddiadau o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân |
4. | Symiau gormodol: gwybodaeth |
5. | Symiau gormodol: y diffygion a amcangyfrifir |
6. | Symiau gormodol — gwargedion a amcangyfrifir |
7. | Symiau gormodol — diffygion gwirioneddol |
8. | Symiau gormodol — gwargedion gwirioneddol |
9. | Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth |
10. | Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau |
1. | Yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau |
2. | Didynnu treth a ffioedd lwfans cydol oes |
3. | Talu dyfarndaliadau |
4. | Pensiynau o dan fwy nag un contract cyflogaeth |
5. | Taliadau ar gyfer pobl ifanc dan oed a phersonau sy'n analluog i reoli eu materion eu hunain |
6. | Talu dyfarndaliadau; darpariaeth atodol bellach |
1. | Pensiynau lleiafswm gwarantedig, etc. |
2. | Pensiynau lleiafswm gwarantedig goroeswyr |
3. | Gwybodaeth i awdurdodau |
4. | Datganiadau blynyddol o fuddion |
5. | Marwolaeth diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol cyn y daw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 i rym |
6. | Marwolaeth diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, a oedd yn gyflogedig cyn 6 Ebrill 2006, ar neu cyn 31 Mawrth 2007 |
ATODIAD 1 | Pensiynau Afiechyd |
ATODIAD 2 | Apelau i Fwrdd Canolwyr Meddygol |
a dehonglir "diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol" ("retained or volunteer firefighter") yn unol â hynny;
(b) unrhyw blentyn i'r aelod-ddiffoddwr tân—
mae i "premiwm sy'n gyfwerth â chyfraniadau" yr ystyr a roddir i "contributions equivalent premium" gan adran 55(2) o Ddeddf 1993; ac mae unrhyw gyfeiriad at achos lle mae premiwm sy'n gyfwerth â chyfraniadau wedi'i dalu yn cynnwys cyfeiriad at achos lle mae premiwm o'r fath yn daladwy;
(2) Pan fo'r Cynllun hwn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth gael ei wneud o fewn cyfnod penodedig ar ôl diwrnod neu ddigwyddiad penodedig neu o'r diwrnod neu'r digwyddiad hwnnw, mae'r cyfnod yn dechrau'n union ar ôl y diwrnod penodedig neu, yn ôl y digwydd, y diwrnod y mae'r digwyddiad penodedig yn digwydd.
(3) Yn y Cynllun hwn, mae cyfeiriad —
Anabledd
(3) Wrth ddyfarnu a yw anabledd person yn barhaol, rhaid i'r awdurdod ystyried—
(4) Pan fo—
rhaid cymryd mai'r dyddiad yr hysbyswyd yr awdurdod gyntaf o'r hawliad bod y person yn anabl yw'r dyddiad.
(b) person sydd—
yn dewis dod yn aelod o'r Cynllun hwn; ac
(2) Ni chaiff person fod yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn os yw'n gwneud dewisiad cyfraniadau (ond caiff ddod yn aelod-ddiffoddwr tân eto yn rhinwedd rheol 6(4)).
(6) At ddibenion paragraff (5), caiff aelod-ddiffoddwr tân enwebu person ("partner enwebedig")—
ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (8).
(7) Ym mharagraff (6)—
(8) Ni chaiff aelod-ddiffoddwr tân enwebu o dan baragraff (6) os yw'r aelod wedi'i wahardd (o dan gyfraith Cymru a Lloegr) rhag priodi neu, yn ôl y digwydd, rhag dod yn bartner sifil i'r person y mae'r aelod yn dymuno ei enwebu.
yn aelod o'r Cynllun hwn, mae'r aelod hwnnw yn aelod ohono mewn perthynas â phob cyflogaeth; ond ni chaiff person o'r fath fod yn aelod yn rhinwedd unrhyw gyflogaeth y mae'r person hwnnw yn gwneud dewisiad cyfraniadau sydd heb ei ddileu mewn perthynas â hi.
Yr oedran ymddeol arferol a'r oedran buddion arferol
(2) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân ar seibiant di-dâl neu'n absennol heb ganiatâd ar y diwrnod y mae'n gadael y Cynllun, bernir mai diwrnod olaf aelodaeth yr aelod yw unrhyw ddyddiad y cytunir arno gyda'r awdurdod.
(3) Ymdrinnir â pherson sy'n gwneud dewisiad cyfraniadau cyn pen tri mis ar ôl iddo ymuno â'r Cynllun fel petai erioed wedi bod yn aelod o'r Cynllun.
(3) Caiff yr awdurdod benderfynu na chaniateir i ddewisiad person gael ei ddileu oni bai bod y person wedi cael archwiliad meddygol, ar draul y person ei hun, a'i fod wedi bodloni'r awdurdod ei fod mewn iechyd da.
a bydd hynny'n weithredol o'r diwrnod y mae'r cyfnod talu cyntaf sy'n dod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad o dan baragraff (1) o'r rheol hon i law.
hawlogaeth hefyd, wedi iddo ymddeol, i gael pensiwn afiechyd haen uwch yn unol â pharagraff 2 neu 3 o Atodiad 1, fel y bo angen yn ôl ei amgylchiadau.
(2) Mae gan berson y mae'r rheol hon yn gymwys iddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig sydd, yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheol 5, yn dod yn daladwy o'r oedran buddion arferol.
rhaid i'r awdurdod dalu'r pensiwn gohiriedig o ddyddiad anabledd y person neu, os nad oes modd darganfod y dyddiad hwnnw, dyddiad archiad y person hwnnw am gael taliad cynnar.
caiff y person hwnnw, ar unrhyw bryd cyn gadael cyflogaeth yr awdurdod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod, gyfarwyddo'r awdurdod i ddileu'i bensiwn gohiriedig.
Pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod
(2) Caiff person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, ar neu ar ôl pen blwydd y person hwnnw yn hanner cant a phump oed, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod ofyn i'w bensiwn gohiriedig gael ei dalu'n gynnar.
(5) Mae pensiwn gohiriedig sy'n cael ei dalu cyn yr oedran buddion arferol i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei wasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol i'w gyfrifo drwy—
Pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod
ddyfarnu y dylid diswyddo ar bensiwn o gyflogaeth yr awdurdod unrhyw aelod-ddiffoddwr tân sy'n 55 oed o leiaf ond sydd o dan yr oedran ymddeol arferol.
i gael dau bensiwn.
(8) Os bydd yr aelod yn gwneud dewisiad cyfraniadau, mae gan yr aelod hawlogaeth i gael pensiwn unigol, a gyfrifir yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (3); a rhaid trin y pensiwn hwnnw at ddibenion rheol 3(4) i (6) a rheol 4 fel petai'n bensiwn gohiriedig yr oedd gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 3.
i gael ad-daliad o gyfraniadau pensiwn cyfanredol yr aelod-ddiffoddwr tân namyn
(2) Ym mharagraff (1), ystyr "cyfraniadau pensiwn cyfanredol" ("aggregate pension contributions") yw'r holl daliadau a wnaed gan yr aelod i'w awdurdod cyflogi ar ffurf cyfraniadau pensiwn.
(5) Er mwyn cymudo cyfran o bensiwn rhaid i berson, a hynny—
roi i'r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig o'r cymudo, gan bennu'r gyfran a gymudwyd.
(8) O ran —
mae paragraffau (6) a (7) o'r rheol hon yn effeithiol fel petai'r cyfeiriadau at y diwrnod ymddeol a'r dyddiad effeithiol yn gyfeiriadau at y dyddiad y dechreuir talu'r pensiwn.
Cymudo: pensiynau bach
ddyrannu hyd at draean o unrhyw bensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i'w gael o dan y Rhan hon.
(3) Caiff yr awdurdod wrthod cydsynio o dan baragraff (2)(b) os na chaiff ei fodloni bod y person yn dibynnu'n sylweddol ar yr aelod-ddiffoddwr tân.
(b) dyfarndaliadau a delir o dan y Cynllun Iawndal.
(5) Pan fo mwy nag un gyfran o bensiwn penodol yn cael ei dyrannu o dan y rheol hon, rhaid i gyfanswm cyfrannau dyranedig y pensiwn hwnnw beidio â bod yn fwy na chyfran y pensiwn hwnnw sy'n cael ei chadw gan yr aelod-ddiffoddwr tân.
(7) Rhaid i'r hysbysiad o'r dyraniad, y caniateir ei anfon drwy'r post, gael ei roi—
(8) Pan fo'r awdurdod wedi'i fodloni—
rhaid iddo, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad yr aelod o'r dyraniad, hysbysu'r aelod yn ysgrifenedig ei fod wedi derbyn ei gynnig.
(10) Os yw hysbysiad o ddyraniad yn dod yn weithredol, mae'n weithredol ar y diwrnod y dechreuir talu'r pensiwn neu, yn ôl y digwydd, ar y diwrnod y mae'r aelod yn ymddeol.
rhaid i'r awdurdod, o ddyddiad marwolaeth y pensiynwr, dalu i'r buddiolwr bensiwn sy'n gyfwerth actiwaraidd y gyfran a ddyrannwyd.
rhaid i'r awdurdod dalu i'r pensiynwr (gan wahaniaethu rhwng y gyfran o'r pensiwn ac unrhyw bensiwn arall sy'n daladwy i'r pensiynwr) y gyfran o bensiwn yr oedd y pensiynwr wedi'i dyrannu ("pensiwn y dyraniad a fethodd").
i briod, partner sifil neu bartner enwebedig ("y goroeswr") am fywyd y goroeswr ("pensiwn goroeswr").
(2) Nid yw pensiwn goroeswr yn daladwy os caiff y goroeswr (yn ôl y digwydd) ei gollfarnu o lofruddio'r ymadawedig; ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (4).
(4) Pan fo collfarn o'r disgrifiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn cael ei ddiddymu ar apêl—
(5) Pan fo—
caiff penderfyniad yr awdurdod o dan baragraff (3) ei drin fel un sydd wedi'i ddirymu a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, rhaid iddo dalu ôl-ddyledion y pensiwn sydd wedi cronni o'r diwrnod y bu farw'r ymadawedig.
(2) Os oedd cyfran o bensiwn yr ymadawedig wedi'i gymudo o dan reol 9 o Ran 3, hanner pensiwn yr ymadawedig ar ôl ei gymudo yw swm pensiwn y goroeswr.
Swm pensiwn goroeswr: achosion arbennig
canfyddir swm pensiwn y goroeswr gan ystyried telerau'r gorchymyn hwnnw.
(2) Nid oes unrhyw hawlogaeth yn codi o dan baragraff (1) os yw'r canlynol yn wir—
Cymudo pensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy'n goroesi
Pensiwn plentyn: cyfyngiadau a hyd
(2) Mae plentyn sy'n 18 oed neu'n hŷn ond nad yw'n fwy na 23 oed yn gymwys os yw'n cael addysg amser-llawn neu'n mynychu cwrs sy'n para am flwyddyn o leiaf.
(6) Pan fo collfarn o'r disgrifiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn cael ei diddymu ar apêl—
(7) Pan fo—
caiff penderfyniad yr awdurdod o dan baragraff (5) ei drin fel un sydd wedi'i ddirymu a chyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, rhaid iddynt dalu'r ôl-ddyledion pensiwn sydd wedi cronni ers y diwrnod y bu farw'r ymadawedig.
(10) Oni bai bod paragraff (9)(c) yn gymwys, mae pensiwn y mae plentyn yn gymwys i'w gael fel a grybwyllir ym mharagraff (3) yn daladwy am oes.
(2) Os oedd cyfran o bensiwn yr ymadawedig wedi'i gymudo o dan reol 9 o Ran 3, mae'r swm fel a ganlyn—
(3) Os oedd yr ymadawedig wedi ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, mae'r swm fel a ganlyn—
(4) Ym mharagraff (3)(c) ac (ch)—
Pensiwn profedigaeth: plant
rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), dalu i'r plentyn cymwys y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) ar gyfer pob un o'r tair ar ddeg o wythnosau ar ôl marwolaeth yr ymadawedig neu, os yw'n fyrrach, pob wythnos gyflawn o'r cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod marwolaeth yr ymadawedig ac sy'n dod i ben ar y diwrnod y bydd y pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy.
(4) Pan fo person sy'n cael pensiwn profedigaeth goroeswr yn marw cyn diwedd y cyfnod y mae'r pensiwn yn daladwy ar ei gyfer ("y cyfnod o 13 wythnos") rhaid i'r awdurdod, yn ddarostyngedig i baragraff (6), dalu i'r plentyn cymwys (os oes un) bensiwn profedigaeth: ar gyfer pob wythnos gyflawn o ba un bynnag yw'r byrraf o'r canlynol—
(5) Mae swm pensiwn profedigaeth o dan baragraff (4) yn hafal i'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i dalu o dan baragraff (1) o reol 4 o'r Rhan hon pe bai pensiwn profedigaeth goroeswr wedi bod yn daladwy am y rhan o'r cyfnod o 13 wythnos sy'n dod ar ôl marwolaeth y goroeswr.
Pensiwn i blentyn pan nad oes unrhyw bensiwn goroeswr yn cael ei dalu
rhaid i'r awdurdod dalu i'r plentyn, gyhyd ag y bo'r plentyn yn blentyn cymwys, y swm a fyddai wedi'i dalu fel pensiwn goroeswr o dan reol 2 o'r Rhan hon pe bai, ym mharagraff (1) o'r rheol honno, y geiriau "Yn ddarostyngedig i reol 3" wedi'u hepgor.
Pensiwn plentyn mewn perthynas ag aelod â debyd pensiwn
(2) Rhaid i swm y cyfandaliad gael ei gyfrifo yn unol â thablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac sydd mewn grym pan ddaw'r cymudiad yn weithredol.
(4) Os oedd yr ymadawedig yn aelod-ddiffoddwr tân rhan-amser ar unrhyw bryd yn ystod cyfnod ei wasanaeth (p'un a oedd yn aelod-ddiffoddwr tân amser-cyflawn am ran o'r cyfnod hwnnw ai peidio), swm y grant marwolaeth yw'r mwyaf o'r canlynol —
(5) Os oedd yr ymadawedig—
y swm yw pa un bynnag o'r canlynol yw'r mwyaf—
(6) Os oedd yr ymadawedig yn absennol o'i ddyletswydd heb dâl yn union cyn y diwrnod y bu iddo farw, rhaid barnu mai tâl pensiynadwy'r ymadawedig at ddibenion y rheol hon, a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (8), yw swm y tâl a oedd yn briodol i rôl ac oriau wedi'u pennu yr ymadawedig y tro diwethaf iddo gael y swm, a hwnnw'n swm wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol.
yw swm y tâl pensiynadwy a fyddai wedi'i dalu pe bai cyfnod absenoldeb di-dâl y person o'i ddyletswydd wedi cyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy, a hwnnw'n swm wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol.
rhaid i'r awdurdod dalu, ar ffurf grant marwolaeth ar ôl ymddeol, swm sy'n hafal i'r gwahaniaeth rhwng—
(2) Mae paragraffau (10) i (12) o reol 1 yn gymwys mewn perthynas â grant o dan y rheol hon fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â grant marwolaeth.
(2) Rhaid i swm y pensiwn fod yn un y mae ei werth actiwaraidd yn hafal i gredyd pensiwn yr aelod, fel y'i cyfrifir o dablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 5(b) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r aelod â debyd pensiwn y mae credyd pensiwn yr aelod â chredyd pensiwn yn deillio o hawliau'r aelod â debyd pensiwn wedi cael cyfandaliad o dan reol 9 o Ran 3 (cymudo: cyffredinol) cyn y dyddiad y daw'r gorchymyn rhannu pensiwn yn weithredol.
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
Cymhwyso rheolau cyffredinol
(2) Y darpariaethau yw—
Grant marwolaeth ar ôl ymddeol: aelodau â chredyd pensiwn
rhaid i'r awdurdod dalu grant marwolaeth ar ôl ymddeol sy'n swm y gwahaniaeth hwnnw.
(2) Caiff y grant gael ei dalu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r person neu'r personau a wêl yr awdurdod yn dda.
Parhad cyflogaeth
(2) Os oedd person wrth gefn, cyn ei gyfnod yn y lluoedd, wedi dewis prynu gwasanaeth ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 11 drwy gyfraniadau cyfnodol, nid yw ei gyfnod yn y lluoedd i'w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy onid yw'r cyfraniadau sy'n daladwy ar ei gyfer wedi'u talu (p'un ai yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd neu, os yw'r awdurdod wedi cytuno y ceir rhoi'r gorau i gyfraniadau fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reol 8 o Ran 11 (cyfnod atal nad yw'n hwy na chwe mis), yn unol â'r paragraff hwnnw).
yn llai na'i dâl tybiannol am y cyfnod hwnnw a grybwyllwyd gyntaf,
rhaid ymdrin â'r person wrth gefn fel un nad oes ganddo unrhyw dâl pensiynadwy (nac unrhyw atebolrwydd, felly, i wneud cyfraniadau pensiwn)[27].
hawlogaeth i gael dyfarndal o dan reol 2 o Ran 3 (dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd).
mae dyfarndal yn daladwy yn unol â pharagraff (3) a (4).
mae pensiwn goroeswr o dan Bennod 1 o Ran 4 yn daladwy i'w briod, partner sifil neu bartner enwebedig (yn ôl y digwydd) fel petai'r person wrth gefn yn aelod-ddiffoddwr tân a oedd â hawlogaeth fel a grybwyllwyd yn rheol 1(a) o'r Rhan honno.
(b) mae grant marwolaeth yn daladwy o dan reol 1 o Ran 5.
Personau wrth gefn nad ydynt yn ailddechrau cyflogaeth gyda'u cyn awdurdod
Dyfarniadau a phenderfyniadau gan awdurdod tân ac achub
rhaid i'r awdurdod gael barn ysgrifenedig YMCA y mae'n ei ddewis.
(4) Mae barn YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo'r awdurdod oni chaiff ei disodli gan ymateb rheol 3 yr YMCA neu ganlyniad apêl o dan reol 4.
caiff yr awdurdod wneud penderfyniad ar y mater—
(7) O fewn 14 diwrnod o wneud penderfyniad neu ddyfarniad o dan y rheol hon, rhaid i'r awdurdod—
Adolygu barn feddygol
(c) yr awdurdod a'r person o dan sylw'n cytuno y dylid rhoi cyfle i'r YMCA adolygu barn yr YMCA yng ngoleuni'r dystiolaeth newydd,
rhaid i'r awdurdod anfon copi o'r dystiolaeth newydd at yr YMCA a gofyn iddo ailystyried ei farn.
Apelau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi'u seilio ar gyngor meddygol
rhaid i'r awdurdod, cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud, cadarnhau neu adolygu'r penderfyniad (yn ôl y digwydd), anfon at y person o dan sylw y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (4).
Apelau ynghylch materion eraill
caiff y person, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y daeth y dyfarniad i law, ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ymdrin â'r anghytundeb drwy gyfrwng y trefniadau a weithredir gan yr awdurdod yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995[29](datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 1996[30].
rhaid i'r awdurdod ystyried, bob hyn a hyn fel y gwêl yn briodol, a yw'r person wedi dod yn alluog—
(2) Rhaid i'r awdurdod, bob hyn a hyn fel y gwêl yn briodol, ystyried ynglŷn â pherson y mae ei bensiwn gohiriedig yn cael ei dalu'n gynnar yn rhinwedd rheol 3(4) o Ran 3 (talu pensiwn gohiriedig yn gynnar yn sgil anabledd parhaol), yr un materion ag y mae'n ofynnol i'r awdurdod eu hystyried mewn perthynas â phersonau o'r disgrifiad a grybwyllwyd ym mharagraff (1).
bydd hawlogaeth y person i gael pensiwn afiechyd haen is yn peidio, ar unwaith, p'un a yw'r person yn derbyn y cynnig neu'n ei wrthod.
dim ond mewn perthynas â'r pensiwn y gellir ei briodoli i wasanaeth wrth gefn neu wasanaeth gwirfoddol blaenorol y person hwnnw neu, yn ôl y digwydd, i'w wasanaeth rheolaidd blaenorol y bydd paragraff (1) yn gymwys.
roi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn y cynnig hwnnw, hysbysiad ysgrifenedig i bob awdurdod y mae pensiwn yn daladwy ganddo i'r person hwnnw o dan Ran 3, yn nodi enw ei awdurdod cyflogi.
(3) Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) yw—
(4) Caiff yr awdurdod, ar unrhyw bryd ac i'r graddau y gwêl yn dda—
gymaint o unrhyw bensiwn ag sydd wedi'i atal o dan y rheol hon.
(c) mewn perthynas â'r ail bensiwn o dan reol 7 o Ran 3 (hawlogaeth i gael dau bensiwn), y cyfnod o wasanaeth cymhwysol a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r pensiwn cyntaf o dan y rheol honno;
Cyfrif gwasanaeth pensiynadwy
(c) unrhyw gyfnod y mae gan y person hawlogaeth i'w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy o dan reol 4 (cyfrif cyfnod absenoldeb di-dâl) neu reol 5 (cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc) o'r Rhan hon neu o dan unrhyw un o reolau 5 i 9 o Ran 11;
(d) os yw'r person yn ailymuno â'r Cynllun hwn ar ôl dechrau cyflogaeth eto gydag awdurdod, unrhyw gyfnod o wasanaeth fel cyn aelod o'r Cynllun, nad oes—
(dd) unrhyw gyfnod o wasanaeth a gredydwyd i'r Cynllun fel gwasanaeth pensiynadwy yn sgil derbyn trosglwyddiad i mewn i'r Cynllun o dan Ran 12.
(2) Ni chaiff gwasanaeth pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân fod yn hwy na 45 o flynyddoedd.
yn hwy na 40 o flynyddoedd erbyn yr oedran ymddeol arferol.
(4) Mae unrhyw gyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd neu sydd wrthi'n cael ei brynu o dan Ran 11 i'w gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy; ond pan fo cyfran yn unig o'r cyfraniadau pensiwn sy'n daladwy ar gyfer cyfnod o wasanaeth ychwanegol wedi'i thalu, dim ond y gyfran gyfwerth o'r cyfnod sydd i'w chyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy.
(6) Nid yw cyfnod ychwanegol o wasanaeth i'w gymryd i ystyriaeth wrth asesu—
Gwasanaeth anghyfrifadwy
Cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl
(2) Mae gan aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i gyfrif yn wasanaeth pensiynadwy unrhyw gyfnod o—
(3) Pan fo cyfnod o wasanaeth pensiynadwy cyn ac ar ôl cyfnod o seibiant mamolaeth neu seibiant mabwysiadu y mae gan berson hawlogaeth i dalu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer ond nad yw'n gwneud hynny, rhaid trin y cyfnodau hynny at ddibenion y Cynllun hwn fel petaent yn rhai di-dor.
(4) Rhaid cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân rheolaidd rhan-amser fel cyfrannedd o wasanaeth amser-cyflawn drwy ddefnyddio'r fformiwla—
(5) Rhaid i wasanaeth pensiynadwy diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol am unrhyw flwyddyn neu unrhyw ran o flwyddyn gael ei asesu fel cyfran o wasanaeth amser-cyflawn yn unol â'r fformiwla—
(6) At ddibenion cyfrifo dyfarndal sy'n daladwy i aelod-ddiffoddwr tân neu mewn perthynas ag aelod-ddiffoddwr tân, pan fo—
mae'r cyfnod a gredydwyd yn cyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy oherwydd cyflogaeth cyn ac ar ôl y dyddiad o bwys yn yr un cyfrannedd ag sydd rhwng y rhannau o'r cyfnod cyflogaeth blaenorol sy'n dod cyn ac ar ôl y dyddiad o bwys.
(2) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân yn ildio'r hawl i gael rhan o'i dâl pensiynadwy yn gyfnewid am unrhyw fudd a ddarperir gan ei awdurdod cyflogi ac nad yw ar ffurf arian parod, rhaid parhau i ymdrin â'r swm yr ymwrthodwyd ag ef fel rhan o dâl pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân at holl ddibenion y Cynllun hwn (gan gynnwys dyfarnu cyfraniadau pensiwn a chyfrifo dyfarndaliadau).
Tâl pensiynadwy terfynol
(b) mewn unrhyw achos arall, yw dyddiad diwrnod olaf gwasanaeth pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân neu, os yw'n marw mewn swydd, dyddiad ei farwolaeth.
(3) Os byddai tâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân wedi bod yn fwy na'r swm a gyfrifid yn unol â pharagraff (1) petai'r dyddiad perthnasol wedi digwydd bod ar y diwrnod cyfatebol yn ystod y naill neu'r llall o'r ddau gyfnod o 365 o ddiwrnodau tâl pensiynadwy cyn diwrnod cyntaf y cyfnod o 365 o ddiwrnodau tâl pensiynadwy sy'n dod i ben ar y dyddiad perthnasol (fel y'i diffinnir ym mharagraff (2) heb gyfeirio at y paragraff hwn), rhaid ymdrin â'r diwrnod cyfatebol hwnnw ym mha un bynnag o'r cyfnodau hynny sy'n esgor ar y swm uchaf fel y dyddiad perthnasol at ddibenion paragraff (1).
(6) Rhaid dyfarnu beth yw tâl cyfeirio terfynol diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol drwy gyfeirio at y gyfradd dâl amser-cyflawn gyfwerth ar gyfer diffoddwr tân rheolaidd y mae ei wasanaeth, ei rôl a'i brofiad yn debyg.
ddewis talu cyfraniadau pensiwn ar gyfer cyfnod y seibiant hwnnw.
(4) Ar ôl cael yr hysbysiad, rhaid i'r awdurdod gyfrifo swm y cyfraniadau sy'n ddyledus a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r swm hwnnw i'r person o dan sylw.
(3) Caniateir i wasanaeth ychwanegol gael ei brynu fel blynyddoedd neu ran o flwyddyn, ond rhaid i gyfanred—
beidio â bod yn fwy na 40 mlynedd.
(5) Caiff awdurdod ganiatáu i ddiffoddwr tân rheolaidd rhan-amser brynu gwasanaeth ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol yn ôl cyfradd sy'n dwyn yr un cyfrannedd i'r ganran a ddyfernir gan Actiwari'r Cynllun ag y mae tâl pensiynadwy'r diffoddwr tân hwnnw yn ei ddwyn i dâl pensiynadwy diffoddwr tân rheolaidd amser-llawn sy'n gwasanaethu yn yr un rôl.
(2) Rhaid i ddewisiad i dalu cyfraniadau cyfnodol gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod o leiaf ddwy flynedd cyn oedran ymddeol arferol y person, ond ni chaniateir i unrhyw ddewisiad o'r fath gael ei wneud pan fo'r person a'r awdurdod wedi cytuno y byddai'r person yn gadael y Cynllun gyda hawlogaeth o dan unrhyw un o reolau 1, 2, 3, 5 a 6 o Ran 3.
Hyd y cyfnod talu cyfraniadau cyfnodol a rhoi terfyn cyn pryd ar eu talu
(3) Pan fo is-baragraff i baragraff (2) yn gymwys, rhaid ymdrin â'r cyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd hyd at y dyddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw fel petai hwnnw oedd y cyfnod a ganfyddwyd yn unol â'r fformiwla:
(4) Ymdrinnir â'r cyfnod o wasanaeth ychwanegol a gyfrifwyd yn unol â pharagraff (3)—
(5) Nid yw cyfnod o wasanaeth ychwanegol a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i'w drin fel rhan o'r gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir—
(6) Mae gwasanaeth ychwanegol a brynir drwy dalu cyfraniadau cyfnodol yn cronni'n flynyddol yn unol â'r cyfraniadau a dalwyd.
gytuno i roi'r gorau i wneud didyniadau o dâl yr aelod-ddiffoddwr tân fel cyfraniadau o'r fath.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan—
rhaid gwneud didyniad o swm sy'n hafal i gyfanred y cyfraniadau a fyddai wedi'u gwneud fel arall ar gyfer y cyfnod hwnnw yr un pryd ag y gwneir y didyniad ailgychwynedig cyntaf.
hawlogaeth i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ymdrin â'r cyfnod hwnnw o wasanaeth di-dâl neu seibiant di-dâl fel cyfnod o wasanaeth pensiynadwy.
Effaith prynu gwasanaeth ychwanegol drwy dalu cyfandaliad
Yr hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo
hawlogaeth i'w gwneud yn ofynnol i dalu gwerth trosglwyddo mewn perthynas â'r hawliau i fuddion sydd wedi cronni i'r aelod-ddiffoddwr tân neu'r aelod gohiriedig neu mewn perthynas â'r naill neu'r llall ohonynt o dan y Cynllun hwn.
(3) Wrth gyfrif y cyfnod o ddeng niwrnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(ch), hepgorir Sadyrnau, Suliau, Dydd Nadolig, Dydd Calan a Dydd Gwener y Groglith.
(5) Caiff yr aelod dynnu'n ôl y cais am ddatganiad o hawlogaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd cyn bod y datganiad yn cael ei ddarparu.
nid yw'n ofynnol i'r awdurdod ystyried y cais os nad oes taliad o swm y mae'n rhesymol i'r awdurdod ofyn amdano yn dod gyda'r cais hwnnw.
(4) Rhaid i'r cais enwi'r cynllun pensiwn neu'r trefniant arall y dylid cymhwyso'r taliad neu'r taliadau iddo.
p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(7) Caiff cais gan berson nad oes ganddo hawlogaeth i wneud cais am daliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 ei wneud—
(8) Caniateir i gais o dan y rheol hon gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig, onid oes cytundeb wedi'i wneud gyda thrydydd parti cyn i'r hysbysiad gael ei roi i gymhwyso'r cyfan neu ran o'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig.
(10) Yn y rheol hon—
ac at ddibenion y diffiniad hwn mae maint person ar unrhyw bryd i'w ddyfarnu drwy gyfeirio at asedau gros y person hwnnw, a'r asedau hynny wedi'u henwi mewn sterling, ynghyd ag unrhyw is-gwmni (fel y diffinnir "subsidiary" yn adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985 ("is-gwmni", "cwmni daliannol" ac "is-gwmni ym mherchenogaeth lwyr")[36], fel a ddangosir yn y cyfrifon diwedd-y-flwyddyn archwiliedig a gyhoeddwyd ddiwethaf cyn yr amser hwnnw; ac
Y dulliau y caniateir eu defnyddio i gymhwyso taliadau gwerth trosglwyddo
gael eu hepgor o'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig os yw adran 96(2) o Ddeddf 1993 yn gymwys (ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau neu drefniadau derbyn penodol sy'n gallu derbyn ac yn fodlon derbyn taliad trosglwyddo mewn perthynas â hawliau eraill yr aelod yn unig).
Cyfrifo symiau taliadau gwerth trosglwyddo
(5) Os yw'r taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei wneud o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus, mae swm y taliad gwerth trosglwyddo i'w gyfrifo—
Effaith trosglwyddiadau allan
gael ei dderbyn gan yr awdurdod at ddibenion y Cynllun hwn.
(2) Yn achos taliad gwerth trosglwyddo sydd i'w wneud o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus, rhaid i'r cais o dan reol 8—
Derbyn taliadau gwerth trosglwyddo
Cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn
p'un bynnag yw'r diweddaraf; ac, mewn achos lle daw'r taliad gwerth trosglwyddo i law yn gynharach na deufis ar ôl i'r cais hwnnw ddod i law, rhaid gwneud unrhyw addasiad angenrheidiol i'r cyfrifiad hwnnw i adlewyrchu unrhyw newid yn swm yr enillion hynny.
(4) Os byddai'r cyfnod y byddai gan yr aelod hawlogaeth i'w gyfrif yn fwy petai'r taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei dderbyn mewn ffordd heblaw o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus—
rhaid i gyn awdurdod yr aelod-ddiffoddwr tân, heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl iddo adael ei gyflogaeth gyda'r cyn awdurdod, ddarparu i'w awdurdod newydd dystysgrif yn dangos y gwasanaeth pensiynadwy yr oedd gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i'w gyfrif ar y dyddiad y gadawodd gyflogaeth ei gyn awdurdod ("y dyddiad o bwys").
bydd y paragraff hwnnw yn peidio â bod yn gymwys.
(2) At ddibenion y Bennod hon—
Pensiynau a gamwerthwyd
(2) Caiff diffoddwr tân y mae'r rheol hon yn gymwys iddo ac sydd wedi rhoi hysbysiad—
roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod ei fod yn dymuno bod yr awdurdod yn derbyn taliad gwerth trosglwyddo er mwyn creu neu adfer ei wasanaeth pensiynadwy.
(5) Pan fo swm y taliad gwerth trosglwyddo yn llai na'r swm a gyfrifwyd—
(6) Pan fo diffoddwr tân sy'n cael ei gredydu o dan baragraff (4) neu (5) â chyfnod o wasanaeth pensiynadwy wedi'i gredydu o'r blaen, mewn perthynas â'r cyfnod perthnasol, â'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol, sef—
caiff yr awdurdod addasu swm y taliad gwerth trosglwyddo y mae'n ei dderbyn o dan y rheol hon i sicrhau na chaiff unrhyw ran o'r cyfnod ychwanegol o wasanaeth pensiynadwy neu gyfrifadwy a oedd wedi'i gredydu o'r blaen ei chynnwys yn y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy a gredydwyd o dan baragraff (4) neu (5).
(3) Yn y rheol hon—
(3) Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid i'r canlynol fod yn daladwy o'r CBDT neu, os yw trosglwyddiad yn cael ei wneud o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir gan yr awdurdod, rhaid debydu i'r CBDT a chredydu i'r gronfa arall honno y canlynol—
(4) Rhaid i bob swm a delir neu a ad-delir i neu gan awdurdod o dan y Rhan hon gael ei gredydu neu, yn ôl y digwydd, ei ddebydu, i'w CBDT.
Taliadau a throsglwyddiadau i mewn i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân
rhaid i'r awdurdod drosglwyddo i'r CBDT y swm y mae'r Cynulliad yn dyfarnu, ac yn hysbysu'r awdurdod, mai hwnnw yw'r ffi afiechyd haen is sy'n gymwys mewn perthynas â'r pensiwn hwnnw.
rhaid i'r swm y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael ei drosglwyddo o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir gan yr awdurdod.
(3) At ddibenion canfod y swm sydd i'w drosglwyddo yn unol â pharagraff (2), rhaid i'r awdurdod o dan sylw ofyn i'r Cynulliad ddyfarnu swm y ffi afiechyd haen is dybiannol ar gyfer y pensiwn o dan sylw.
(5) Pan fo'r canlynol yn digwydd, sef—
rhaid anwybyddu paragraff (4) neu (5) o reol 2 (yn ôl y digwydd), yn achos y person hwnnw (i'r graddau y mae'r paragraff hwnnw'n dal yn un na chydymffurfiwyd eto ag ef); a rhaid i'r awdurdod drosglwyddo o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir ganddo swm sy'n hafal i gyfanred y rhandaliadau sydd wedi'u trosglwyddo i'r CBDT mewn perthynas â'r pensiwn sydd wedi'i ddileu.
(2) O ran pob blwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2008—
(3) O ran pob blwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Mawrth 2009 —
(4) Rhaid i'r awdurdod anfon yr wybodaeth nas archwiliwyd i'r Cynulliad ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn o dan sylw.
(b) os yw'n cyflwyno adroddiad i'r awdurdod o dan adran 22 o'r Ddeddf honno ar ddiwedd yr archwiliad, yn cynnwys y dystysgrif a'r farn y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a) yn yr adroddiad hwnnw yn lle gwneud cofnod ar y datganiad.
(7) Yn y Rhan hon —
Symiau gormodol: y diffygion a amcangyfrifir
caiff y Cynulliad dalu i'r awdurdod unrhyw swm y mae'n credu ei fod yn briodol.
(3) Rhaid i gyfanred y symiau a delir i awdurdod o dan baragraffau (1) a (2) mewn perthynas â blwyddyn benodol beidio â bod yn fwy na 80 y cant o ddiffyg tebygol yr awdurdod am y flwyddyn honno.
(3) Rhaid i gyfanred y symiau a delir i'r Cynulliad o dan baragraffau (1) a (2) mewn perthynas â blwyddyn benodol beidio â bod yn fwy na 80 y cant o ddiffyg tebygol yr awdurdod am y flwyddyn honno.
(2) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm a dalwyd neu sy'n daladwy o CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm a gredydwyd i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(3) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan y Cynulliad i awdurdod, neu i'r gwrthwyneb, o dan baragraff (1) gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn o dan sylw ("yr ail flwyddyn").
(2) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm a gredydwyd i CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(3) Rhaid i'r Cynulliad roi i'r awdurdod, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol o dan sylw ("yr ail flwyddyn"), hysbysiad ysgrifenedig o swm y taliad y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ei wneud o dan baragraff (1)(a) neu (c).
(3) Mae cyfandaliadau o dan Ran 5 ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), pensiynau o dan Ran 4 yn daladwy o'r diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth.
caiff yr awdurdod adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad, fel y gwêl yn dda; a chaiff ei adennill drwy wrth-gyfrifiad yn erbyn unrhyw ddyfarndal arall sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn mewn perthynas â'r ymadawedig.
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Talu dyfarndaliadau; darpariaeth atodol bellach
(2) Mae aseiniad dyfarndal, neu arwystl arno, yn ddi-rym i'r graddau y mae o blaid person nad yw'n ddibynnydd y person a chanddo hawlogaeth i gael y dyfarndal.
mae pensiwn, y mae ei gyfradd wythnosol yn hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod, yn daladwy i'r aelod am oes o'r dyddiad y mae'r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth.
nid yw paragraff (2) yn gymwys hyd nes y bydd yn gadael y gyflogaeth.
mae gan yr aelod hawlogaeth o ddiwedd y cyfnod hwnnw i gael cymaint o'i bensiwn o dan y rheol hon ag sy'n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod, onid yw'n cydsynio â gohirio'r hawlogaeth ymhellach.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fo paragraff (6) yn gymwys—
ond nid yw person sy'n dod o dan baragraff (6) i'w ystyried yn bensiynwr at ddibenion Rhan 5 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth).
Pensiynau lleiafswm gwarantedig goroeswr
mae pensiwn, y mae ei gyfradd wythnosol yn hafal i leiafswm gwarantedig y priod neu'r partner sifil sy'n goroesi, yn daladwy i'r priod neu'r partner sifil sy'n goroesi o'r dyddiad y bu farw'r ymadawedig tan farwolaeth y priod neu'r partner sifil sy'n goroesi.
Gwybodaeth i awdurdodau
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'r dystiolaeth ategol i'w darparu.
(4) Rhaid cyfrifo'r enghraifft—
(5) At ddibenion y rheol hon, y dyddiad perthnasol—
Marwolaeth diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol cyn bod Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn dod i rym
(b) yr ymadawedig heb wneud dewisiad cyfraniadau; ac
ac a ddaeth i ben ar ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig
(3) Os—
mae gan bartner enwebedig yr ymadawedig hawlogaeth i gael yr un buddion o dan y Cynllun hwn â phetai'r enwebiad wedi bod yn effeithiol at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Os—
bydd gan bartner enwebedig yr ymadawedig hawlogaeth i gael yr un buddion o dan y Cynllun hwn â phetai'r enwebiad wedi bod yn effeithiol at ddibenion y Cynllun hwn.
3.
Rhaid cyfrifo swm blynyddol pensiwn afiechyd haen uwch aelod—
yn unol â'r fformiwla—
i'r awdurdod o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y daw'r dogfennau y cyfeirir atynt yn rheol 4(4) o Ran 8 i law'r apelydd; a phan fo'r apelydd yn cael y dogfennau hynny ar dyddiadau gwahanol, ymdrinnir â hwy i'r perwyl hwn fel petaent wedi dod i law ar y diweddaraf o'r dyddiadau hynny.
caiff estyn y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad i unrhyw hyd a wêl yn dda ond rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na chwe mis o'r dyddiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (1).
(2) Rhaid i'r Cynulliad atgyfeirio apêl i fwrdd canolwyr meddygol ("y bwrdd").
(4) Ar ô l cael hysbysiad yr aelod adolygu rhaid i'r Cynulliad —
(5) Rhaid i awdurdod sy'n cael copi o farn aelod adolygu, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol—
(6) Rhaid i awdurdod sy'n hysbysu apelydd o dan is-baragraff (5)(b) roi gwybod i'r Cynulliad am ymateb yr apelydd i archiad yr awdurdod o dan baragraff (b)(ii) o'r is-baragraff hwnnw; a rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r bwrdd yn unol â hynny.
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)—
(2) Rhaid i'r bwrdd benodi, a rhoi i'r partïon o leiaf ddeufis o rybudd ynglyn â'r amser a'r lle ar gyfer pob cyfweliad ac archwiliad meddygol; ac os caiff y bwrdd ei fodloni nad yw'r apelydd yn gallu teithio, rhaid i'r lle fod yn fan preswyl yr apelydd.
caiff y bwrdd hepgor y cyfweliad a'r archwiliad meddygol sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(a) neu, yn ôl y digwydd, hepgor unrhyw gyfweliad pellach neu archwiliad meddygol pellach, a chaiff ddyfarnu'r apêl yn ôl yr wybodaeth sydd ar gael bryd hynny.
(2) Rhaid i'r Cynulliad ddarparu copi i'r partïon o'r adroddiad ac o unrhyw ddatganiad ar wahân o dan baragraff (1)(b).
(2) Rhaid i'r ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy o dan is-baragraff (1)—
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 7(3) ac is-baragraffau (2) i (5) isod, rhaid i dreuliau pob parti i'r apêl gael eu hysgwyddo gan y parti hwnnw.
caiff yr awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd dalu iddo unrhyw swm a wêl yr awdurdod yn dda ond rhaid i'r swm hwnnw beidio â bod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy i'r bwrdd o dan baragraff 9(1).
caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd dalu iddo unrhyw swm a wêl yr awdurdod yn dda ond rhaid i'r swm hwnnw beidio â bod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a'r lwfansau sy'n daladwy i'r bwrdd o dan baragraff 9(1).
rhaid i'r awdurdod ad-dalu i'r apelydd y swm a bennir yn is-baragraff (5).
(6) At ddibenion is-baragraffau (2) a (4) rhaid i unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw dyfarniad y bwrdd o blaid yr awdurdod neu'r apelydd gael ei benderfynu gan y Bwrdd neu, yn niffyg hwnnw, gan y Cynulliad.
Opsiynau ar gyfer aelodau gweithredol o Gynllun 1992
(2) Heb fod yn hwyrach na 30 Mawrth 2007, rhaid i awdurdod tân ac achub roi i bob person y mae'r is-baragraff hwn yn gymwys iddo ddatganiad ysgrifenedig —
(3) Rhaid i hysbysiad person o dan is-baragraff (2)(b) ddatgan —
(4) Rhaid i awdurdod tân ac achub beidio â derbyn dewisiad person i drosglwyddo ei hawliau cronedig os byddai cyfanred —
yn fwy na 45 o flynyddoedd erbyn amser ei ben blwydd yn drigain oed.
(6) Rhaid trin person y mae ei ddewisiad i drosglwyddo ei hawliau cronedig wedi'i dderbyn —
(7) Pan fo person yn cael ei drin fel un a ddaeth yn aelod o'r cynllun newydd ar 6 Ebrill 2006 —
(8) Yn achos person a grybwyllwyd yn is-baragraff (6)(b) sy'n pennu yn ei hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b) ddyddiad nad yw'n ddiweddarach na 6 Ebrill 2006, mae is-baragraff (7) yn gymwys fel petai—
(9) Pan fo person y mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag ef wedi dewis o dan reol G6 o Gynllun 1992 i brynu mwy o fuddion —
Cyfrifo'r gwasanaeth pensiynadwy a drosglwyddwyd i mewn
Trosglwyddir gwasanaeth a drosglwyddwyd o Gynllun 1992 yn ôl cyfradd arbennig hyd at a chan gynnwys 28 Ebrill 2007.
[2]
O.S. 1992/129. Gwnaed y Cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (p.41). Diddymwyd Deddf 1947 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond cafodd y Cynllun ei ailenwi'n Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) a'i barhau mewn grym gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918) (Cy.257).back
[3]
Sefydlwyd Cronfeydd Pensiwn Diffoddwyr Tân o dan Ran LA o'r Cynllun a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân 1992 (O.S. 1992/129). Mewnosodwyd Rhan LA gan O.S. 2007/1072 (Cy.110).back
[6]
mewnosodwyd adran 101B gan adran 37 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30).back
[7]
Gweler Atodlen 2 i O.S.1992/129. Gwnaed y Cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 (p.41). Diddymwyd Deddf 1947 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 ac Atodlen 2 iddi, ond cafodd y Cynllun ei ailenwi'n Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) a'i barhau mewn grym gan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Cynllun Pensiwn y Dynion Tân) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2918).back
[8]
O.S. 2007/1073 (C.111).back
[11]
1993 p.48. O ran "guaranteed minimum pension", gweler adran 8(2).back
[12]
1995 p.26. Gweler adran 126 o'r Ddeddf honno.back
[13]
Gellir cyrchu'r ddogfen uniaith Saesneg yn: http://www/lge.gov.uk/conditions/firefighters/content/document s/fire service rolemaps.pdf.back
[14]
1996 p.18. Mewnosodwyd adrannau 75A a 75B gan adran 3 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).back
[15]
1996 p.18; amnewidiwyd adrannau 71 a 73 gan adran 7 o Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p.26), a Rhan 1 o Atodlen 4 iddi, ac fel y'u diwygiwyd gan adran 17 o Ddeddf Cyflogaeth 2002 (p.22).back
[17]
Mae'r Gyfadran Meddygaeth Alwedigaethol (Faculty of Occupational Medicine) yn elusen gofrestredig (rhif 1035415).back
[18]
O.S. 2003/1250, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
[19]
2004 p.12. Gweler hefyd Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyllid 2005 (p.7), Atodlen 10.back
[20]
Gweler rheol 3 o Ran 1.back
[22]
O ran "y rheol ynghylch cyfandaliadau", gweler adran 166 o Ddeddf Cyllid 2004 (p.12). O ran y terfyn cymudo, gweler paragraff 7(4) o Ran 1 o Atodlen 29 i'r Ddeddf honno.back
[23]
Mewnosodwyd paragraffau 16 i 16C gan Ddeddf Cyllid 2005 (p.7), Atodlen 10, paragraff 28.back
[24]
O.S. 2000/1054, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2691.back
[27]
Gweler, o ran taliadau pensiwn, reoliad 5 o Reoliadau Lluoedd wrth Gefn (Galw ac Adalw) (Cymorth Ariannol) 2005 (O.S. 2005/859).back
[28]
Gweler rheol 3 o Ran 1.back
[29]
1995 p.26. Mae'r trefniadau sy'n gymwys at ddibenion y Cynllun ar ffurf gweithdrefn datrys anghydfodau. Mae'r weithdrefn wedi'i nodi yng Nghylchlythyr y Gwasanaeth Tân 2/1997 a ddyroddwyd gan y Swyddfa Gartref ar 4 Chwefror 1997.back
[31]
1911 p.28, 1920 p.75, 1939 p.121, 1989 p.6.back
[32]
Gweler rheol 4 o Ran 2.back
[34]
Gweler adran 93(1)(a) o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993 (p.48).back
[35]
2000 p.8 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
[36]
1985 p.6; amnewidiwyd adran 736, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol gan adran 144(1) o Ddeddf Cwmnïau 1989 (p.40), gan adran 736.back
[37]
Gweler adran 169(2) o Ddeddf Cyllid 2004 (p.12).back
[38]
Gweler adran 169(2) o Ddeddf Cyllid 2004 (p.12).back
[41]
2000 p.8 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
[42]
Gweler Rhan LA o Gynllun 1992, a fewnosodwyd gan O.S. 2007/ 1074 (Cy.112).back
[43]
2004 p. 23. Gweler rheoliadau 7 a 9 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (O.S. 2005/368) (Cy.34).back
[46]
Adeg gwneud y Gorchymyn hwn, £5,000 yw'r swm: Gorchymyn (Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) (Cynyddu Terfyn) 1984 (O.S. 1984/539).back
[48]
Mewnosodwyd is-adran (2B) gan adran 136(3) o Ddeddf Pensiynau 1995, p.26.back
3.
—(1) Mae cyfeiriadau yn y Cynllun hwn at y ffaith bod person wedi'i anablu'n barhaol yn gyfeiriadau at y ffaith bod y person hwnnw wedi'i anablu ar yr amser y mae'r cwestiwn yn codi i gael penderfyniad arno ac at y ffaith y byddai ei anabledd yn debyg o fod yn barhaol.
(2) Ystyr anabledd—
(a) o ran aelod-ddiffoddwr tân, yw'r analluogrwydd, a berir gan wendid meddwl neu gorff, sy'n gwneud yr aelod hwnnw yn analluog i gyflawni unrhyw un o ddyletswyddau'r rôl y cafodd yr aelod hwnnw ei gyflogi ynddi ddiwethaf;
(b) o ran plentyn, yw'r analluogrwydd, a achosir gan wendid meddwl neu gorff, sy'n peri iddo fod yn analluog i ennill bywoliaeth.
(a) ym mhob achos, a fydd yr anabledd yn parhau tan ei oedran ymddeol arferol; a
(b) o ran person sydd wedi cymryd pensiwn gohiriedig, a fydd yr anabledd yn parhau tan ei oedran buddion arferol.
(a) person wedi gadael y Cynllun gyda hawlogaeth ohiriedig i gael buddion cyn dod yn anabl, a
(b) y dyddiad y mae'r person yn dod yn anabl arno yn un nad oes modd ei ddarganfod,
Aelodaeth o'r Cynllun
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person o unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn—
(a) person sydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 yn dechrau cyflogaeth gydag awdurdod fel diffoddwr tân, ac y mae ei rôl ar ôl dechrau'r gyflogaeth honno'n cynnwys—
(i) datrys digwyddiadau gweithredol, neu
(ii) arwain a chefnogi eraill i ddatrys digwyddiadau gweithredol;
(i) ar ôl dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân cyn 6 Ebrill 2006,
(ii) ar ôl parhau mewn cyflogaeth o'r fath tan ddyddiad dewisiad yr aelod, a
(iii) ar ôl bod yn aelod o Gynllun 1992,
(c) person y mae erthygl 3(3) o Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn cyfeirio ato (personau sy'n dod yn aelodau o Gynllun 1992 ar ôl dechrau cyflogaeth gydag awdurdod ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 a chyn i'r Gorchymyn hwnnw ddod i rym).
(3) Mae person yn aelod gohiriedig o'r Cynllun hwn os oes ganddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3.
(4) Mae person yn aelod-bensiynwr o'r Cynllun hwn os yw'n cael pensiwn neu fuddion eraill o dan y Cynllun mewn perthynas â'i wasanaeth pensiynadwy neu oherwydd gwasanaeth a gredydwyd i'r Cynllun o dan Ran 12.
(5) Mae person yn aelod dibynnol o'r Cynllun hwn os yw—
(a) yn briod neu'n bartner sifil i aelod-ddiffoddwr tân ymadawedig;
(b) yn bartner enwebedig i aelod-ddiffoddwr tân ymadawedig;
(c) yn aelod â chredyd pensiwn parthed aelod-ddiffoddwr tân;
(ch) yn blentyn i berson sy'n aelod o'r Cynllun yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau (1)(a) neu (b) y mae ei ddibyniaeth ar y person hwnnw yn bodloni'r amodau a bennir ym mharagraff 15(2) a (3) o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004[19]; neu
(d) yn cael cyfran o bensiwn diffoddwr tân a ddyrannwyd o dan reol 11 o Ran 3.
(a) sydd wedi bod yn byw gyda'r aelod, mewn ffordd heblaw fel priod neu bartner sifil yr aelod, a hynny mewn perthynas hirdymor; a
(b) nad yw ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y person mewn perthynas â'r aelod-ddiffoddwr tân i fod i gael ei ystyried—
(i) yn briod nac yn bartner sifil i unrhyw berson arall,
(ii) wedi'i gofrestru gyda gweinyddydd y cynllun fel partner enwebedig yr aelod, a
(iii) sy'n dibynnu'n ariannol ar yr aelod neu sydd, gyda'r aelod, yn dibynnu'n ariannol ar ei gilydd
(a) ystyr "perthynas hirdymor" ("long-term relationship") yw perthynas sydd wedi parhau, gan ymwrthod ag unrhyw berthynas arall, am y cyfnod o ddwy flynedd sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae'r cwestiwn o statws y person mewn perthynas â'r aelod-ddiffoddwr tân i fod i gael ei ystyried, neu unrhyw gyfnod byrrach a wêl yr awdurdod yn dda mewn unrhyw achos penodol; a
(b) mae i "gweinyddydd cynllun" yr ystyr a roddir i "scheme administrator" gan adran 270 o Ddeddf Cyllid 2004.
(9) Bydd effaith enwebiad yn peidio os yw'r aelod-ddiffoddwr tân neu'r partner enwebedig yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil (p'un ai gyda'i gilydd neu gyda pherson arall).
(10) Pan fo person sydd—
(a) yn cael ei gyflogi gan fwy nag un awdurdod, neu
(b) yn cael ei gyflogi gan awdurdod penodol o dan fwy nag un contract cyflogaeth,
Amodau cymhwyster
2.
—(1) Mae aelod-ddiffoddwr tân yn gymwys i gael pensiwn o dan y Cynllun hwn—
(a) os oes gan yr aelod o leiaf dri mis o wasanaeth cymhwysol; neu
(b) os oes taliad gwerth trosglwyddo mewn perthynas â hawl aelod o dan gynllun pensiwn personol yn cael wneund i'r Cynllun yn unol â Rhan 12; neu
(c) os yw'r aelod yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol.
3.
—(1) 60 yw'r oedran ymddeol arferol aelodau-ddiffoddwyr tân.
(2) 65 yw oedran buddion arferol aelodau-ddiffoddwyr tân.
Diwrnod olaf aelodaeth
4.
—(1) Pan fo aelod-ddiffoddwr tân yn gadael y Cynllun, bernir mai diwrnod olaf aelodaeth aelod-ddiffoddwr tân—
(a) pan fo'r aelod yn ymadael i ymddeol adeg yr oedran ymddeol arferol, yw ei ddiwrnod gwasanaeth olaf; a
(b) mewn unrhyw achos arall, yn ddarostyngedig i baragraff (2), yw'r diwrnod olaf y mae'r aelod yn talu cyfraniadau.
Dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn
5.
—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân ar unrhyw bryd, gan roi hysbysiad ysgrifenedig i'w awdurdod cyflogi, ddewis peidio â gwneud unrhyw gyfraniadau pensiwn pellach (dewis y cyfeirir ato yn y Cynllun hwn fel "dewisiad cyfraniadau").
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a) bydd dewisiad cyfraniadau yn weithredol ar y diwrnod y bydd y cyfnod talu cyntaf sy'n dod ar ôl y dyddiad y daw'r hysbysiad o dan baragraff (1) i law yn dechrau; a
(b) bydd aelodaeth yr aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun yn peidio ar y diwrnod y daw'r dewisiad cyfraniadau yn weithredol.
(4) Bydd gan berson y mae ei aelodaeth o'r Cynllun yn peidio yn y modd a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(b) hawlogaeth o hyd i gael unrhyw fuddion gohiriedig a gronnwyd tra'r oedd y person hwnnw yn aelod.
Ailymuno â'r Cynllun
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau ei ddileu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo'r person—
(a) yn un sydd â hawlogaeth i gyfrif 40 neu fwy o flynyddoedd o wasanaeth pensiynadwy at ddibenion y Cynllun; neu
(b) wedi rhoi hysbysiad o'r blaen o dan y rheol hon, oni bai bod yr awdurdod wedi gwrthod ei dderbyn.
(4) Pan fo dewisiad o dan reol 5(1) yn cael ei ddileu—
(a) rhaid i'r person ailddechrau gwneud cyfraniadau pensiwn; a
(b) bydd unwaith eto'n aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun,
Pensiwn cyffredin
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r rheol hon yn gymwys i berson sy'n bodloni amod cymhwyster ac sy'n ymddeol ar ôl cyrraedd yr oedran ymddeol arferol neu oedran pensiwn y wladwriaeth.
(2) Nid yw'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei hysbysiad ymddeol yn datgan ei fod yn ymddeol er mwyn dechrau cyflogaeth gydag awdurdod arall.
(3) Daw person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, pan fo'n ymddeol, yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn cyffredin a gyfrifir, yn ddarostyngedig i baragraff (4), drwy luosi ei wasanaeth pensiynadwy â'i dâl pensiynadwy terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Pan ddaw person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo, adeg ei ymddeoliad, yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn mewn perthynas â gwasanaeth fel diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, mae pensiwn cyffredin y person hwnnw i'w gyfrifo drwy luosi ei dâl pensiynadwy terfynol â'i wasanaeth pensiynadwy wrth gefn neu ei wasanaeth pensiynadwy gwirfoddol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(5) Pan fo hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân i fwy nag un pensiwn cyffredin, nid yw'r pensiynau hynny i'w hagregu oni fydd rheol 7(6) yn gymwys.
Dyfarndal yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd
2.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sy'n gadael ei gyflogaeth oherwydd anabledd parhaol[20] (sefyllfa y cyfeirir ati yn y Cynllun hwn fel "ymddeoliad oherwydd afiechyd").
(2) Mae hawlogaeth gan bob aelod-ddiffoddwr tân y mae'r rheol hon yn gymwys iddo ac sy'n bodloni amod cymhwyster, adeg ei ymddeoliad, i gael pensiwn afiechyd haen is a gyfrifir yn unol â pharagraff 1 o Atodiad 1 i'r Cynllun hwn.
(3) Mae gan aelod-ddiffoddwr tân—
(a) y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen is,
(b) y mae ganddo o leiaf bum mlynedd o wasanaeth cymhwysol, ac
(c) y mae ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol wedi datgan amdano y farn, a gafwyd yn unol â rheol 2(2) o Ran 8, fod yr aelod-ddiffoddwr tân hwnnw wedi'i anablu'n barhaol rhag ymgymryd â chyflogaeth reolaidd,
Pensiwn gohiriedig
3.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân sydd—
(a) yn bodloni amod cymhwyster; a
(b) cyn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol—
(i) yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo o gyflogaeth yr awdurdod; neu
(ii) yn gwneud dewisiad cyfraniadau.
(3) Mae pensiwn gohiriedig i'w gyfrifo drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r person â'i dâl pensiynadwy terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Yn ddarostyngedig i reol 4 o Ran 9 (atal talu pensiwn gohiriedig yn gynnar), pan fo—
(a) person y mae'r rheol hon yn gymwys iddo yn rhoi i'r awdurdod y cyflogwyd y person hwnnw ganddo ddiwethaf hysbysiad ysgrifenedig yn gofyn bod pensiwn gohiriedig y person yn cael ei dalu'n gynnar; a
(b) yr awdurdod wedi'i fodloni, ar ôl cael barn ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol yn unol â rheol 2(2) o Ran 8, fod y person wedi'i anablu'n barhaol rhag ymgymryd â chyflogaeth reolaidd,
(5) Pan fo pensiwn gohiriedig yn cael ei dalu'n gynnar yn unol â pharagraff (4), bydd yn ddarostyngedig i adolygiad o dan reol 1(2) o Ran 9 (adolygu pensiwn afiechyd).
(6) Bydd hawlogaeth person i gael pensiwn gohiriedig yn peidio pan fo'n cyfarwyddo'r awdurdod i ddileu'r pensiwn hwnnw o dan reol 4.
Dileu pensiwn gohiriedig
4.
—(1) Pan—
(a) na fo pensiwn gohiriedig a ddyfarnwyd o dan reol 3 yn cael ei dalu; a
(b) bo'r person y mae ganddo hawlogaeth i'w gael yn cael ei gyflogi eto gan awdurdod mewn rôl sy'n rhoi hawlogaeth i'r person ailymuno â'r Cynllun hwn, ac
(c) bo'r person yn ailymuno â'r Cynllun,
(2) Pan fo awdurdod yn dileu pensiwn gohiriedig, rhaid iddynt ychwanegu at y gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn y bydd gan y person hawlogaeth i'w gael pan fydd yn gadael y gyflogaeth, y gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r pensiwn gohiriedig.
(3) Os nad yr awdurdod y mae person yn cael ei gyflogi ganddo ("yr awdurdod cyflogi") yw'r awdurdod y mae gan y person hwnnw hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig oddi wrtho ("yr awdurdod cyntaf"), rhaid i'r person hwnnw drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod cyntaf ei gyfarwyddo—
(a) i ddileu'r pensiwn gohiriedig, a
(b) i wneud trefniadau gyda'r awdurdod cyflogi ar gyfer trosglwyddo ei wasanaeth pensiynadwy yn unol â rheol 12 o Ran 12.
5.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i aelod-ddiffoddwr tân—
(a) sy'n bodloni amod cymhwyster; a
(b) y dyfernir pensiwn gohiriedig iddo cyn iddo gyrraedd yr oedran buddion arferol.
(3) Caiff yr awdurdod wrthod archiad o dan baragraff (2) os bydd cyfradd y pensiwn (ar ôl y lleihad actiwaraidd a grybwyllir ym mharagraff (4)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (5)(b)), yn debyg o fod yn llai na'r pensiwn â lleiafswm gwarantedig a fyddai'n daladwy o oedran pensiwn y wladwriaeth ymlaen.
(4) Mae pensiwn gohiriedig a delir cyn yr oedran buddion arferol i aelod-ddiffoddwr tân y mae ei wasanaeth yn un fel diffoddwr tân rheolaidd i'w gyfrifo drwy—
(a) lluosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân â'i dâl cyfeirio terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60, a
(b) cymhwyso i'r swm a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (a) y ffactor lleihad actiwaraidd priodol a hysbyswyd gan Actiwari'r Cynllun.
(a) lluosi ei wasanaeth pensiynadwy sy'n wasanaeth wrth gefn neu'n wasanaeth gwirfoddol â'i dâl pensiynadwy terfynol fel y'i dyfernir yn rheol 2(6) o Ran 11 a rhannu'r swm canlyniadol â 60, a
(b) cymhwyso i'r swm a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (a) y ffactor lleihad actiwaraidd priodol a hysbyswyd gan Actiwari'r Cynllun.
6.
—(1) Caiff awdurdod, gan ystyried—
(a) y dull darbodus, effeithiol ac effeithlon o reoli eu swyddogaethau, a
(b) y costau sy'n debyg o gael eu tynnu yn yr achos penodol,
(2) Mae pensiwn person y mae dyfarniad amdano wedi'i wneud o dan baragraff (1) i'w gyfrifo yn unol â rheol 1.
Yr hawlogaeth i gael dau bensiwn
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân—
(a) sy'n bodloni amod cymhwyster; a
(b) sydd, ar ôl dechrau rôl wahanol o fewn yr awdurdod neu ddod yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael cyfradd dâl wahanol yn ei rôl bresennol, yn dioddef gan leihad yn swm y tâl pensiynadwy gyda'r canlyniad bod y swm sydd i'w gymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r pensiwn y bydd gan yr aelod hawlogaeth i'w gael adeg yr oedran ymddeol arferol yn llai nag y byddai wedi bod fel arall,
(2) Mae'r pensiynau i'w cyfrifo yn y modd a grybwyllir ym mharagraffau (3) a (4) ac yn dod yn daladwy yn y modd a grybwyllir ym mharagraff (5).
(3) Swm y pensiwn cyntaf yw'r swm a geir drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod hyd at (ond heb gynnwys) y diwrnod y bydd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i'r aelod â'r tâl pensiynadwy terfynol y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael pe bai wedi ymddeol y diwrnod hwnnw, a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(4) Swm yr ail bensiwn yw'r swm a geir drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r aelod ar neu ar ôl y diwrnod y bydd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i'r aelod â'r tâl pensiynadwy terfynol y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael y diwrnod hwnnw, a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), daw'r pensiynau yn daladwy ar y dyddiad y byddai pensiwn wedi dod yn daladwy i'r aelod ym mha un bynnag o'r amgylchiadau y cyfeirir atynt yn rheolau 1, 2, 3, 5 a 6 sy'n gymwys yn achos yr aelod.
(6) Caiff aelod y mae ganddo hawlogaeth i gael dau bensiwn o dan y rheol hon, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'w awdurdod cyflogi, cyn gadael y gyflogaeth honno, gyfarwyddo'r awdurdod i wneud dyfarndal unigol y mae'n rhaid ei gyfrifo yn unol â pharagraff (7).
(7) Mae'r dyfarndal unigol o dan baragraff (6) i'w gyfrifo drwy—
(a) lluosi cyfanred y cyfnodau o wasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir at ddibenion paragraffau (3) a (4) â'r tâl pensiynadwy terfynol a ddefnyddir at ddibenion paragraff (4), a
(b) rhannu'r swm canlyniadol â 60.
Ad-dalu cyfraniadau pensiwn cyfanredol
8.
—(1) Mae hawlogaeth gan aelod-ddiffoddwr tân sydd—
(a) yn gadael cyflogaeth awdurdod heb fodloni amod cymhwyster; neu
(b) yn aros yng nghyflogaeth yr awdurdod ond sy'n gwneud dewisiad cyfraniadau cyn iddo gronni tri mis o wasanaeth cymhwysol,
(i) swm unrhyw dreth y mae'n ofynnol ei ddidynnu, a
(ii) y rhan o unrhyw bremiwm sy'n gyfwerth â chyfraniadau a dalwyd ar gyfer yr aelod fel a ganiateir gan neu o dan adran 61 o Ddeddf 1993.
Cymudo:cyffredinol
9.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), caiff person y mae ganddo hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i gael unrhyw bensiwn o dan y Rhan hon gymudo cyfran ohono ("y gyfran a gymudwyd") am gyfandaliad.
(2) Mae'r cyfandaliad i'w gyfrifo drwy luosi â 12 swm pensiwn y person, sef y gyfran a gymudwyd ar y dyddiad ymddeol.
(3) Ni chaiff person sy'n ymddeol oherwydd afiechyd gymudo unrhyw gyfran o bensiwn afiechyd haen uwch.
(4) Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy—
(a) mewn achos y mae rheol 5(4) neu (5) yn gymwys iddo, un chwarter o swm y pensiwn a gyfrifir yn unol â'r paragraff hwnnw;
(b) mewn unrhyw achos arall, un chwarter o'r swm y mae gan y person hawlogaeth i'w gael ar ffurf pensiwn.
(a) heb fod yn gynharach na phedwar mis cyn y dyddiad y mae'r person yn bwriadu ymddeol, ond
(b) heb fod yn hwyrach na'r diwrnod cyn y diwrnod y dechreuir talu'r pensiwn,
(6) Daw'r hysbysiad cymudo yn effeithiol ar y diwrnod y mae'r person yn ymddeol ("y diwrnod effeithiol").
(7) Rhaid i'r awdurdod—
(a) lleihau, o'r dyddiad effeithiol, bensiwn y person â'r gyfran a gymudwyd, a
(b) talu'r cyfandaliad, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad effeithiol.
(a) pensiwn gohiriedig,
(b) pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod,
(c) pensiwn yn sgil ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod, neu
(ch) y naill neu'r llall o'r ddau bensiwn y cyfeirir atynt yn rheol 7 neu'r ddau ohonynt,
(9) At ddibenion y rheol hon—
(a) rhaid ystyried mai swm y pensiwn ar ôl ei leihau yn unol â rheol 12 yw pensiwn aelod â debyd pensiwn; a
(b) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gynnydd o dan reol 2 neu 3 o Ran 7 o'r Cynllun Iawndal mewn dyfarndal i aelod o'r lluoedd arfog.
10.
—(1) Pan na fo swm unrhyw bensiwn sy'n daladwy o dan y Rhan hon i aelod sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, ynghyd ag unrhyw bensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 1 o Ran 6 ac unrhyw gynnydd o dan Ddeddf Pensiynau (Cynnydd) 1971[21], yn fwy na'r terfyn cymudo a bennir at ddibenion Rhan 1 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004 (y rheol ynghylch cyfandaliadau)[22] caiff yr awdurdod gymudo'r pensiwn o dan y Rhan hon am gyfandaliad.
(2) Cyfwerth actiwaraidd y pensiwn yw swm cyfandaliad o dan y rheol hon, a'r cyfwerth hwnnw yn cael ei gyfrifo o dablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun.
(3) Pan fo gan aelod hawlogaeth i gael mwy nag un pensiwn o dan y Rhan hon, rhaid trin y pensiynau fel un at ddibenion y rheol hon.
(4) Ar y diwrnod y caiff pensiwn ei gymudo o dan y rheol hon, caiff pob hawlogaeth arall sydd gan yr aelod o dan y Rhan hon ei dileu.
Dyrannu pensiwn
11.
—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân, yn unol â pharagraffau (6) a (7), ond yn ddarostyngedig i—
(a) adran 214 o Ddeddf Cyllid 2004 a pharagraffau (4) a (5) isod, a
(b) pan fo'r aelod dros 74 oed, i baragraffau 16A i 16C o Atodlen 28 i Ddeddf Cyllid 2004[23],
(2) Y personau y caniateir i gyfran o bensiwn gael ei dyrannu iddynt yw—
(a) priod, partner sifil neu bartner enwebedig yr aelod-ddiffoddwr tân, neu
(b) gyda chydsyniad yr awdurdod, unrhyw berson arall sy'n dibynnu'n sylweddol ar yr aelod-ddiffoddwr tân.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae awdurdod i anwybyddu unrhyw gynnydd o dan reol 2 neu 3 o Ran 7 o'r Cynllun Iawndal (dyfarndaliadau i filwyr, neu yn sgil eu marwolaeth) mewn —
(a) dyfarndaliadau i —
(i) personau wrth gefn, neu
(ii) personau wrth gefn nad ydynt yn ailddechrau gwasanaeth gyda'u cyn awdurdod; a
(6) Rhaid i'r aelod-ddiffoddwr tân—
(a) bodloni'r awdurdod bod yr aelod-ddiffoddwr tân hwnnw mewn iechyd da a bod ganddo ddisgwyliad oes arferol; a
(b) rhoi i'r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig o'r dyraniad, gan bennu—
(i) y gyfran,
(ii) enw a chyfeiriad y buddiolwr arfaethedig, a
(iii) rhyw y buddiolwr.
(a) os yw'r pensiwn yn bensiwn gohiriedig, heb fod yn gynharach na deufis cyn y dechreuir talu'r pensiwn;
(b) mewn unrhyw achos arall, heb fod yn gynharach na deufis cyn ymddeoliad arfaethedig yr aelod-ddiffoddwr tân.
(a) bod yr aelod-ddiffoddwr tân wedi cydymffurfio â pharagraffau (6) a (7), a
(b) bod modd gwneud y dyraniad a gynigir gan yr aelod-ddiffoddwr tân heb fynd yn groes i adran 214 o Ddeddf Cyllid 2004 neu, yn ôl y digwydd, paragraffau 16A i 16C o Atodlen 28 i'r Ddeddf honno,
(9) Pan fo cynnig yn cael ei dderbyn, daw'r hysbysiad o'r dyraniad yn weithredol o dan yr amodau canlynol yn unig—
(a) os yw'n cyfeirio at bensiwn gohiriedig, pan fo'r pensiwn yn dechrau cael ei dalu o fewn deufis i'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law;
(b) mewn unrhyw achos arall, pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân y mae ganddo hawlogaeth i gael y pensiwn yn ymddeol o fewn deufis i'r dyddiad y daeth yr hysbysiad i law.
(11) Pan fo—
(a) hysbysiad o ddyraniad wedi dod yn weithredol,
(b) y pensiwn y mae'n ymwneud ag ef wedi dod yn daladwy, ac
(c) y buddiolwr yn goroesi'r pensiynwr,
(12) Pan fo mwy nag un gyfran wedi'i dyrannu o dan y rheol hon, rhaid gwneud cyfrifiad ar wahân o dan baragraff (13) mewn perthynas â phob dyraniad.
(13) Rhaid cyfrifo cyfwerth actiwaraidd cyfran a ddyrannwyd yn unol â thablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac sydd mewn grym pan ddaw'r hysbysiad o ddyraniad yn weithredol; a rhaid gwneud y cyfrifiad drwy gyfeirio at oedran y pensiynwr ac oedran y buddiolwr ar y dyddiad y cafodd yr hysbysiad o ddyraniad ei roi.
(14) Pan fo—
(a) hysbysiad o ddyraniad wedi dod yn weithredol, a
(b) y buddiolwr yn marw cyn y pensiynwr,
(15) Pan fo paragraff (14) yn gymwys, nid oes gan y pensiynwr hawlogaeth i adennill oddi wrth yr awdurdod swm unrhyw ddidyniad a wnaed mewn perthynas â phensiwn y dyraniad a fethodd.
Aelodau â debyd pensiwn
12.
Pan fo gan aelod â debyd pensiwn hawlogaeth i gael dyfarndal o dan y Rhan hon—
(a) mae'r dyfarndal i'w gyfrifo drwy gyfeirio at hawliau'r aelod o dan y Cynllun hwn fel y bônt yn cael eu lleihau yn rhinwedd adran 31 o Ddeddf 1999 ac yn unol â thablau a'r canllawiau eraill a ddarperir at y diben gan Actiwari'r Cynllun, a
(b) bydd rheolau 9 i 11 yn effeithiol yn unol â hynny.
Pensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy'n goroesi
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheol hon, mae pensiwn yn daladwy yn sgil marwolaeth—
(a) aelod-ddiffoddwr tân sy'n bodloni amod cymhwyster ac sy'n marw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod; neu
(b) cyn aelod-ddiffoddwr tân—
(i) y mae pensiwn gohiriedig wedi'i ddyfarnu o dan reol 3 o Ran 3 ond na ddechreuwyd ei dalu,
(ii) sy'n cael pensiwn gohiriedig o dan y rheol honno; neu
(iii) sy'n cael pensiwn o dan unrhyw un o reolau 1, 2, 5 a 6 o Ran 3,
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo'r goroeswr wedi'i gollfarnu o ddynladdiad yr ymadawedig, caiff yr awdurdod, fel y gwêl yn dda, wrthod rhoi pensiwn y goroeswr—
(a) yn gyfan gwbl neu'n rhannol, a
(b) yn barhaol neu dros dro.
(a) mae pensiwn goroeswr yn daladwy o'r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r ymadawedig, a
(b) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, dalu'r ôl-ddyledion pensiwn sydd wedi cronni.
(a) collfarn o'r disgrifiad a grybwyllwyd ym mharagraff (3) yn cael ei diddymu ar apêl, a
(b) yr awdurdod wedi gwrthod rhoi unrhyw ran o bensiwn y goroeswr,
(6) Nid oes dim ym mharagraff (4) neu (5) yn effeithio ar gymhwyso paragraff (2) neu (3) os caiff y person y mae ei gollfarn wedi'i diddymu ei gollfarnu wedi hynny o lofruddio'r ymadawedig neu o'i ddynladdiad.
Swm pensiwn goroeswr: cyffredinol
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i reol 3, swm pensiwn goroeswr—
(a) ar gyfer aelod-ddiffoddwr tân sy'n bodloni amod cymhwyster ac sy'n marw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod, yw hanner y pensiwn afiechyd haen uwch y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 2(3) o Ran 3 petai'r aelod wedi ymddeol gyda budd dyfarndal afiechyd;
(b) mewn unrhyw achos arall, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), yw hanner y pensiwn yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i'w gael.
(3) Os oedd yr ymadawedig wedi ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, swm pensiwn y goroeswr yw —
(a) hanner swm y pensiwn y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod; neu
(b) pan fo cyfran o bensiwn yr ymadawedig wedi'i chymudo, y swm a geir drwy rannu â 2 luoswm A a B, ac—
A yw'r swm y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod; a
B yw'r ffracsiwn sy'n cynrychioli'r gyfran heb ei chymudo o A wedi'i mynegi fel ffracsiwn o A.
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo'r person y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn goroeswr o dan reol 1 yn fwy na deuddeng mlynedd yn iau na'r ymadawedig ar y diwrnod y mae'r aelod-ddiffoddwr tân neu'r cyn aelod-ddiffoddwr tân yn marw, lleiheir 2.5 y cant ar y swm rheol 2 am bob blwyddyn y mae oedran y goroeswr yn fwy na deuddeng mlynedd yn hŷn nag oedran yr ymadawedig.
(2) Pan fyddai cymhwyso paragraff (1) yn arwain at dalu pensiwn goroeswr o lai na 50 y cant o'r swm rheol 2, mae pensiwn y goroeswr yn 50 y cant o'r swm rheol 2.
(3) Pan —
(a) bo aelod â debyd pensiwn yn bodloni amod cymhwyster ac yn marw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod,
(b) bo pensiwn goroeswr yn daladwy o dan reol 1 yn sgil marwolaeth yr aelod â debyd pensiwn, ac
(c) oedd gorchymyn rhannu pensiwn neu, yn achos partner sifil sy'n goroesi, gorchymyn ag effaith debyg, yn effeithiol ar y diwrnod y marwodd yr aelod â debyd pensiwn,
(4) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "y swm rheol 2" ("the rule 2 amount") yw'r swm a fyddai wedi'i ganfod yn unol â rheol 2 pe na bai'r rheol honno'n ddarostyngedig i baragraffau (1) i (3) o'r rheol hon.
(5) At ddibenion paragraff (1), ymdrinnir â rhan o flwyddyn fel blwyddyn gyfan.
Pensiwn profedigaeth: goroeswyr
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan berson a chanddo hawlogaeth i gael pensiwn goroeswr o dan reol 1 hawlogaeth hefyd, mewn perthynas â phob un o'r 13 o wythnosau ar ôl y farwolaeth, i gael pensiwn profedigaeth y mae ei swm yn hafal i'r gwahaniaeth rhwng y gyfradd wythnosol y caiff pensiwn y goroeswr ei dalu yn ei hôl ac—
(a) os oedd yr ymadawedig yn aelod-ddiffoddwr tân pan farwodd, cyfradd wythnosol ei dâl pensiynadwy pan farwodd;
(b) mewn unrhyw achos arall, cyfradd wythnosol pensiwn neu bensiynau'r ymadawedig (gan gynnwys unrhyw gynnydd o dan farwodd Ddeddf Bensiynau (Cynnydd) 1971) pan fu farw.
(a) bod dewisiad cyfraniadau yn effeithiol ar ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig, neu
(b) yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig nad oedd dyddiad dechrau ei dalu wedi dod.
5.
—(1) Caniateir i bensiwn sy'n daladwy o dan y Bennod hon gael ei gymudo, os bydd y person y mae ganddo hawlogaeth i'w gael yn gofyn am hynny, am gyfandaliad os, ar ôl ei gymudo, y byddai'r cyfandaliad yn fudd-dal marwolaeth ar ffurf cyfandaliad mân-gymudo o fewn ystyr "trivial commutation lump sum death benefit" ym mharagraff 20 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.
(2) Rhaid i swm y cyfandaliad gael ei gyfrifo yn unol â thablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun ac sydd mewn grym pan ddaw'r cymudiad yn weithredol.
(3) Ar y diwrnod y caiff pensiwn ei gymudo o dan y rheol hon, dileir pob hawlogaeth arall o dan y Cynllun hwn sydd gan y person a chanddo hawlogaeth i gael y pensiwn i'r graddau y maent yn deillio o'r aelod ymadawedig.
Pensiwn plentyn
6.
Yn ddarostyngedig i reol 7, mae plentyn yn gymwys i gael pensiwn plentyn os yw'n blentyn i un o'r canlynol—
(a) aelod-ddiffoddwr tân sy'n bodloni un o'r amodau cymhwyster ac yn marw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod;
(b) aelod-bensiynwr sy'n cael pensiwn o dan y Cynllun hwn pan fo'r aelod yn marw; neu
(c) aelod gohiriedig y mae ganddo hawlogaeth o dan y Cynllun hwn i gael pensiwn gohiriedig nad yw'n cael ei dalu pan fo'r aelod yn marw.
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw plentyn yn gymwys—
(a) os yw'r plentyn yn 18 oed neu'n hŷn;
(b) os yw'r plentyn wedi gorffen addysg amser- llawn ac yn cael ei gyflogi â thâl; neu
(c) os yw'r plentyn yn briod neu wedi ymrwymo i bartneriaeth sifil.
(3) Mae plentyn sy'n 18 oed neu fwy yn gymwys os yw'n dibynnu, adeg marwolaeth yr ymadawedig, ar yr aelod oherwydd ei anabledd parhaol.
(4) Nid yw plentyn yn gymwys os yw'r plentyn wedi'i gollfarnu o lofruddio'r ymadawedig, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r plentyn wedi'i gollfarnu o ddynladdiad yr ymadawedig, caiff yr awdurdod, fel y gwêl yn dda, wrthod rhoi'r pensiwn plentyn—
(a) yn gyfan gwbl neu'n rhannol, a
(b) yn barhaol neu dros dro.
(a) mae pensiwn plentyn yn daladwy o'r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r ymadawedig, a
(b) rhaid i'r awdurdod, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r gollfarn gael ei diddymu, dalu'r ôl-ddyledion pensiwn sydd wedi cronni.
(a) collfarn o'r disgrifiad a grybwyllwyd ym mharagraff (5) yn cael ei diddymu ar apêl, a
(b) yr awdurdod wedi gwrthod rhoi unrhyw ran o'r pensiwn plentyn,
(8) Ni fydd dim ym mharagraff (6) neu (7) yn effeithio ar gymhwyso paragraff (4) neu (5) os caiff y plentyn y mae ei gollfarn wedi'i diddymu ei gollfarnu wedi hynny o lofruddio'r ymadawedig neu o'i ddynladdiad.
(9) Bydd pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy—
(a) oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys, ar ben blwydd y plentyn yn ddeunaw oed neu pan fo'r digwyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(b) neu (c) yn digwydd, p'un bynnag sy'n digwydd yn gyntaf;
(b) pan fo paragraff (2) yn gymwys, ar ben blwydd y plentyn yn dair ar hugain oed neu ar y diwrnod y bydd addysg amser-llawn neu gwrs y plentyn yn peidio, p'un bynnag sy'n digwydd yn gyntaf;
(c) pan fo paragraff (3) yn gymwys, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni—
(i) nad yw'r plentyn wedi'i anablu'n barhaol mwyach; neu
(ii) na ddylai'r pensiwn plentyn fod wedi'i ddyfarnu.
Swm pensiwn plentyn
8.
—(1) Mae'r swm sy'n daladwy fel pensiwn plentyn o dan y Bennod hon fel a ganlyn—
(a) os bu farw'r ymadawedig tra'r oedd yn cael ei gyflogi fel aelod-ddiffoddwr tân a bod un plentyn cymwys, un chwarter o'r pensiwn afiechyd y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 2 o Ran 3 pe bai'r aelod wedi ymddeol gyda budd dyfarndal afiechyd haen uwch ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r aelod;
(b) os bu farw'r ymadawedig tra'r oedd yn cael ei gyflogi gan awdurdod fel aelod-ddiffoddwr tân a bod mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r pensiwn afiechyd y byddai wedi bod gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan reol 2 o Ran 3 pe bai'r aelod wedi ymddeol gyda budd dyfarndal afiechyd haen uwch ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw'r aelod, wedi'i rannu â nifer y plant cymwys;
(c) mewn unrhyw achos arall, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3)—
(i) os oes un plentyn cymwys, un chwarter o'r pensiwn yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i'w gael ar y diwrnod y bu farw'r ymadawedig (p'un a ddechreuwyd talu'r pensiwn, yn achos pensiwn gohiriedig, ai peidio);
(ii) os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r pensiwn yr oedd gan yr ymadawedig hawlogaeth i'w gael ar y diwrnod y bu farw'r ymadawedig (p'un a ddechreuwyd talu'r pensiwn, yn achos pensiwn gohiriedig, ai peidio), wedi'i rannu â nifer y plant cymwys.
(a) os oes un plentyn cymwys, un chwarter o'r gyfran sydd heb ei chymudo;
(b) os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o'r gyfran sydd heb ei chymudo, wedi'i rhannu â nifer y plant cymwys.
(a) os oes un plentyn cymwys, un chwarter o swm y pensiwn y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod;
(b) os oes mwy nag un plentyn cymwys, un hanner o swm y pensiwn y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod, wedi'i rannu â nifer y plant cymwys;
(c) os oedd cyfran pensiwn yr ymadawedig wedi'i chymudo, a bod un plentyn cymwys, y swm a geir drwy rannu â 4 luoswm A a B.
(ch) os oedd cyfran pensiwn yr ymadawedig wedi'i chymudo, a bod mwy nag un plentyn cymwys, y swm a geir drwy rannu lluoswm A a B â 2, ac yna rhannu'r swm canlyniadol â nifer y plant cymwys.
A yw'r swm y byddai'r ymadawedig wedi'i gael pe na bai unrhyw leihad actiwaraidd wedi bod; a
B yw'r ffracsiwn sy'n cynrychioli'r gyfran heb ei chymudo o A wedi'i mynegi fel ffracsiwn o A.
9.
—(1) Pan—
(a) nad oes gan unrhyw berson hawlogaeth i gael pensiwn goroeswr o dan reol 1 o Bennod 1, a
(b) bo plentyn i'r ymadawedig yn gymwys i gael pensiwn plentyn ("plentyn cymwys"),
(2) Mae'r swm yn hafal i'r swm y byddai'r awdurdod wedi'i dalu o dan baragraff (1) o reol 4 o'r Rhan hon (pensiwn profedigaeth: goroeswyr) pe bai pensiwn goroeswr wedi bod yn daladwy.
(3) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhennir y swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (2) yn gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a) rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b) rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod marwolaeth y goroeswr ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 13 wythnos , a
(b) y cyfnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl marwolaeth y goroeswr ac sy'n dod i ben ar y diwrnod y bydd y pensiwn plentyn yn peidio â bod yn daladwy.
(6) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhaid rhannu'r swm a ganfyddir yn unol â pharagraff (5) yn gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a) rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b) rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
10.
—(1) Pan—
(a) na fo gan unrhyw berson hawlogaeth i gael pensiwn o dan reol 1 fel goroeswr yr ymadawedig, a
(b) bo plentyn yr ymadawedig yn gymwys i gael pensiwn plentyn o dan reol 6,
(2) Pan fo mwy nag un plentyn cymwys, rhaid i'r swm y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei rannu'n gyfartal rhwng y plant cymwys; ond—
(a) rhaid i'r awdurdod roi'r gorau i dalu cyfran plentyn cyn gynted ag y bydd pensiwn plentyn y plentyn hwnnw yn peidio â bod yn daladwy; a
(b) rhaid i'r awdurdod ddosbarthu'r gyfran y byddai gan y plentyn hawlogaeth fel arall i'w chael yn gyfartal rhwng gweddill y plant cymwys.
11.
Pan fo aelod â debyd pensiwn yn marw gan adael plentyn, rhaid anwybyddu'r lleihad yn hawliau'r aelod â debyd pensiwn o dan y Cynllun hwn yn rhinwedd adran 31 o Ddeddf 1999 at ddibenion cyfrifo unrhyw bensiwn sy'n daladwy o dan y Bennod hon.
Cymudo pensiwn plentyn
12.
—(1) Caniateir i bensiwn sy'n daladwy o dan y Bennod hon gael ei chymudo am gyfandaliad—
(a) gyda chydsyniad y rhiant sydd ar ôl o rieni'r plentyn neu, os nad oes un gan y plentyn, ei warcheidwad, neu, os nad oes un gan y plentyn, y plentyn os yw dros 18 oed, a
(b) os byddai'r cyfandaliad, o'i gymudo, yn fudd-dal marwolaeth ar ffurf cyfandaliad mân-gymudo o fewn ystyr "trivial commutation lump sum death benefit" ym mharagraff 20 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.
(3) Ar y diwrnod y caiff pensiwn ei gymudo o dan y rheol hon, dileir pob hawlogaeth arall y plentyn o dan y Cynllun hwn i'r graddau y mae'n deillio o'r aelod ymadawedig.
Grant marwolaeth
1.
—(1) Yn sgil marwolaeth person tra bo'n gwasanaethu fel aelod-ddiffoddwr tân, rhaid i'r awdurdod dalu grant marwolaeth y canfyddir ei swm yn unol â darpariaethau canlynol y rheol hon (p'un a oes pensiwn yn daladwy o dan unrhyw Ran arall ai peidio).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5) ac, os yw paragraff (8) yn gymwys, paragraff (9), mae'r swm yn dair gwaith swm tâl pensiynadwy'r ymadawedig adeg ei farwolaeth, wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol.
(3) Os—
(a) oedd yr ymadawedig yn aelod-ddiffoddwr tân amser-cyflawn adeg ei farwolaeth,
(b) byddai wedi bod gan yr ymadawedig, pe bai wedi byw, hawlogaeth i gael dau bensiwn o dan reol 7 o Ran 3, ac
(c) yw lluoswm y fformiwla ganlynol yn fwy na thair gwaith swm tâl pensiynadwy'r ymadawedig adeg ei farwolaeth, a'r tâl hwnnw wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol—
(A × B) D 3 × { + ( × E)},
A yw swm tâl pensiynadwy'r ymadawedig ar ddiwrnod gwasanaeth olaf yr ymadawedig a fyddai wedi'i ddefnyddio i gyfrifo ei bensiwn o dan reol 7(3) o Ran 3,
B yw gwasanaeth pensiynadwy'r ymadawedig a fyddai wedi'i ddefnyddio yn y cyfrifiad hwnnw,
C yw gwasanaeth cymhwysol yr ymadawedig,
D yw gwasanaeth pensiynadwy'r ymadawedig a fyddai wedi'i ddefnyddio i gyfrifo ei bensiwn o dan reol 7(4) o Ran 3, a
E yw tâl pensiynadwy'r ymadawedig adeg ei farwolaeth,
y swm mwyaf hwnnw yw swm y grant marwolaeth.
(a) tair gwaith tâl pensiynadwy'r ymadawedig adeg ei farwolaeth (a fyddai, os oedd yn cael ei gyflogi'n rhan amser bryd hynny, yn cael ei gyfrifo yn ôl y gyfradd ran-amser), wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol; a
(b) lluoswm y fformiwla
× H × 3,
F yw gwasanaeth pensiynadwy'r ymadawedig,
G yw gwasanaeth cymhwysol yr ymadawedig, ac
H yw'r tâl pensiynadwy y byddai'r ymadawedig wedi'i gael, pe bai wedi bod, drwy gydol cyfnod ei wasanaeth, yn ddiffoddwr tân amser-cyflawn yr oedd ei rôl a chyfnod ei wasanaeth yn rhai cyfatebol.
(a) wedi dod yn un yr oedd ganddo hawlogaeth i gael dau bensiwn o dan reol 7(1) o Ran 3 adeg ei farwolaeth; a
(b) wedi bod yn aelod-ddiffoddwr tân rhan-amser yn ystod y cyfnod o wasanaeth yr oedd ganddo hawlogaeth i gael ail bensiwn ar ei gyfer o dan reol 7(4) o'r Rhan honno (p'un a oedd wedi bod yn aelod-ddiffoddwr tân amser-cyflawn ar gyfer rhan o'r cyfnod hwnnw ai peidio),
(i) tair gwaith tâl pensiynadwy'r ymadawedig adeg ei farwolaeth, wedi'i fynegi fel cyfradd flynyddol;
(ii) lluoswm y fformiwla a bennir ym mharagraff (3), a
(iii) lluoswm y fformiwla a bennir ym mharagraff (4).
(7) Ym mharagraff (6), ystyr "oriau wedi'u pennu" ("conditioned hours") yw nifer yr oriau yr oedd yn ofynnol i'r ymadawedig weithio bob wythnos o dan delerau ei gontract cyflogaeth.
(8) Bernir mai tâl pensiynadwy person —
(a) a oedd wedi gwneud dewisiad o dan reol 4 o Ran 10 (cyfrif cyfnod o absenoldeb di-dâl), a
(b) sy'n marw cyn gwneud unrhyw daliad o dan baragraff (4) o'r rheol honno,
(9) Pan fo paragraff (8) yn gymwys, rhaid lleihau'r grant marwolaeth â'r swm sy'n ddyledus i'r awdurdod o dan reol 4(1) o Ran 10.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), caniateir i'r grant marwolaeth gael ei dalu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r person neu'r personau a wêl yr awdurdod yn dda.
(11) Rhaid i'r awdurdod beidio â thalu unrhyw ran o grant marwolaeth i berson sydd wedi'i gollfarnu o lofruddio'r ymadawedig neu o'i ddynladdiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (12).
(12) Pa fo collfarn o'r disgrifiad a grybwyllwyd ym mharagraff (11) yn cael ei diddymu ar apêl, caiff yr awdurdod, os nad yw wedi talu'r grant marwolaeth yn llawn, dalu rhan ohono i'r person y mae ei gollfarn wedi'i diddymu.
Grant marwolaeth ar ôl ymddeol
2.
—(1) Pan fo—
(a) pensiwn o dan unrhyw un o reolau 1 i 3, 5 neu 6 o Ran 3 yn cael ei dalu; a
(b) y pensiynwr yn marw o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y dechreuwyd talu'r pensiwn,
(i) y swm y byddai wedi'i dalu i'r pensiynwr yn y cyfnod hwnnw o bum mlynedd, gan anwybyddu unrhyw gynnydd yn y pensiwn a allai fod wedi dod yn daladwy ar ôl marwolaeth y pensiynwr, a
(ii) y swm a dalwyd i'r pensiynwr cyn ei farwolaeth (gan gynnwys unrhyw gyfandaliad y gall y pensiynwr fod wedi'i gael yn sgil cymudiad o dan reol 9 neu 10 o Ran 3).
Hawlogaeth aelod â chredyd pensiwn i gael pensiwn
1.
—(1) Mae gan aelod â chredyd pensiwn hawlogaeth i gael pensiwn am oes sy'n dod yn daladwy—
(a) pan fo'r aelod yn cyrraedd 65 oed, neu
(b) os yw'n ddiweddarach, pan ddaw'r gorchymyn rhannu pensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth odano i gael y credyd pensiwn yn weithredol.
Cymudo'r cyfan o fuddion credyd pensiwn
2.
—(1) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Rhannu Pensiwn (Budd Credyd Pensiwn) 2000[24] (cymudo budd credyd pensiwn: pensiynau bach), caiff yr awdurdod, gyda chytundeb yr aelod â chredyd pensiwn, gymudo am gyfandaliad y cyfan o'r pensiwn y mae gan yr aelod â chredyd pensiwn hawlogaeth i'w gael o dan reol 1 os, ar ôl ei gymudo, byddai'r cyfandaliad yn fudd-dal marwolaeth ar ffurf cyfandaliad mân gymudiad o fewn ystyr "trivial commutation lump sum death benefit" ym mharagraff 20 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004.
(2) Y cyfandaliad o dan baragraff (1) yw cyfwerth actiwaraidd y pensiwn adeg yr oedran buddion arferol, wedi'i gyfrifo o dablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun.
Cymudo rhan o fuddion credyd pensiwn
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff aelod â chredyd pensiwn gymudo am gyfandaliad gyfran o'r pensiwn y mae gan yr aelod â chredyd pensiwn hawlogaeth neu hawlogaeth ragolygol i'w gael o dan reol 1 ("y gyfran a gymudwyd").
(2) Rhaid i'r gyfran a gymudwyd beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) un chwarter o swm y pensiwn, neu
(b) cyfradd flynyddol y pensiwn am y flwyddyn gyntaf y mae'n daladwy, gan anwybyddu —
(i) y lleihad sy'n ganlyniad i gymhwyso'r rheol hon, a
(ii) unrhyw leihad sy'n ganlyniad i gymhwyso unrhyw ddarpariaeth arall yn y Cynllun hwn.
(4) Rhaid i berson sy'n dymuno cymudo cyfran o bensiwn o dan baragraff (1) roi i'r awdurdod hysbysiad cymudo ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na'r diwrnod cyn y dechreuir talu'r pensiwn nac yn gynharach na phedwar mis cyn—
(a) y dyddiad y mae'r person yn cyrraedd yr oedran buddion arferol, neu
(b) y dyddiad y daw'r gorchymyn rhannu pensiwn yn weithredol,
(5) Rhaid i'r hysbysiad cymudo bennu'r gyfran a gymudwyd.
(6) Daw hysbysiad cymudo person yn weithredol ar y dyddiad y daw'r pensiwn o dan reol 1 yn daladwy.
(7) Pan ddaw hysbysiad cymudo person yn weithredol, rhaid i'r awdurdod—
(a) lleihau'r pensiwn â'r gyfran a gymudwyd,
(b) cyfrifo'r cyfandaliad drwy luosi â 12 swm pensiwn y person a gynrychiolir gan y gyfran a gymudwyd ar y dyddiad ymddeol, ac
(c) talu i'r person y cyfandaliad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl—
(i) y dyddiad y mae'r person yn cyrraedd yr oedran buddion arferol, neu
(ii) y dyddiad y daw'r gorchymyn rhannu pensiwn yn weithredol,
4.
—(1) Mae darpariaethau'r Cynllun hwn a bennir ym mharagraff (2) yn gymwys i aelodau â chredyd pensiwn a dyfarndaliadau sy'n daladwy iddynt neu mewn perthynas â hwy; ond gan eithrio pan fo darpariaeth arall yn cael ei gwneud gan y Rhan hon neu pan fo bwriad i'r gwrthwyneb yn ymddangos—
(a) nid yw'r Cynllun hwn yn gymwys i aelodau â chredyd pensiwn a buddion sy'n daladwy iddynt neu mewn perthynas â hwy, ac eithrio os ydynt hefyd yn aelodau o'r Cynllun hwn yn rhinwedd swyddogaeth arall neu'n ddibynyddion aelod ac i'r graddau y maent yn aelodau neu'n ddibynyddion o'r fath, a
(b) ni chaniateir agregu'r buddion, sy'n daladwy i aelod â chredyd pensiwn neu mewn perthynas ag ef, â buddion sy'n daladwy i aelod â chredyd pensiwn neu mewn perthynas ag ef—
(i) yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth arall; neu
(ii) fel aelod â chredyd pensiwn, a'r rheini'n fuddion sy'n deillio o unrhyw aelod â debyd pensiwn arall.
rheol 2 o Ran 8 (dyfarniadau a phenderfyniadau gan awdurdod tân ac achub),
rheol 5 o Ran 9 (atal pensiwn yn sgil dedfrydu am dramgwyddau penodol),
rheol 1 o Ran 14 (yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau),
rheol 2 o'r Rhan honno (didynnu treth a ffioedd lwfans gydol oes),
rheol 3 o'r Rhan honno (talu dyfarndaliadau),
rheol 5 o'r Rhan honno (taliadau ar gyfer pobl ifanc dan oed a phersonau sy'n analluog i reoli eu materion eu hunain), a
rheol 6 o'r Rhan honno (talu dyfarndaliadau: darpariaeth atodol bellach).
5.
—(1) Pan fo—
(a) aelod â chredyd pensiwn yn marw o fewn pum mlynedd i ddyddiad dechrau talu'r pensiwn o dan reol 1 a chyn pen blwydd yr aelod yn bymtheg a thrigain, a
(b) gwahaniaeth rhwng—
(i) y swm sy'n bum gwaith swm y pensiwn, ac wedi'i gyfrifo yn ôl y gyfradd flynyddol a oedd yn effeithiol ar y diwrnod y dechreuwyd talu'r pensiwn, a
(ii) cyfanred —
(aa) y rhandaliadau pensiwn sydd wedi'u talu, a
(bb) unrhyw gyfandaliad a gafwyd yn sgil cymudo o dan reol 3,
(3) At ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu unrhyw godiadau a fyddai, petai'r pensiwn wedi parhau i gael ei dalu, wedi'u cymryd i ystyriaeth.
Dehongli Rhan 7
1.
Yn y Rhan hon—
ystyr "anaf cymhwysol" ("qualifying injury") yw anaf, a gafwyd gan berson wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau fel diffoddwr tân, a hwnnw'n anaf nad oedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf oherwydd esgeulustod neu gamymddygiad difrifol a beius y person ei hun;
ystyr "cyfnod yn y lluoedd" ("forces period") yw'r cyfnod y bydd person yn ymgymryd â gwasanaeth perthnasol ynddo yn y lluoedd wrth gefn;
ystyr "cyn awdurdod" ("former authority"), mewn perthynas â pherson wrth gefn, yw'r awdurdod y cyflogwyd y person wrth gefn ganddo yn union cyn i'w gyfnod yn y lluoedd ddechrau;
ystyr "Deddf 1996" ("the 1996 Act") yw Deddf Lluoedd wrth Gefn 1996[25];
ystyr "gwasanaeth perthnasol yn y lluoedd wrth gefn" ("relevant service in the reserve forces") yw gwasanaeth yn y lluoedd a bennir yn adran 1(2) o Ddeddf 1996—
(a) yn unol â rhwymedigaeth hyfforddi o dan Ran 3 o'r Ddeddf honno, neu
(b) yn rhinwedd galwad i gyflawni gwasanaeth parhaol neu adalwad o dan Ddeddf Lluoedd wrth Gefn 1980[26] neu Ran 7 o Ddeddf 1996; ac
ystyr "person wrth gefn" ("reservist") yw person a oedd, yn union cyn cyfnod yn y lluoedd, yn ddiffoddwr tân.
2.
—(1) At ddibenion y Cynllun hwn, rhaid ymdrin â pherson wrth gefn fel un sydd wedi parhau, drwy gydol cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd—
(a) i fod yn ddiffoddwr tân; a
(b) at ddibenion gwasanaeth pensiynadwy'r person wrth gefn o dan Ran 10, i gael ei gyflogi gan ei gyn awdurdod.
(3) At ddibenion cyfrifo swm cyfraniadau pensiwn person wrth gefn o dan reol 3 o Ran 11—
(a) rhaid ystyried y tâl y byddai'r person wrth gefn wedi'i gael oddi wrth ei gyn awdurdod yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd yn dâl y person wrth gefn am y cyfnod hwnnw ("tâl tybiannol" y person wrth gefn); a
(b) mewn perthynas ag unrhyw gyfnod yn ystod cyfnod y person wrth gefn yn y lluoedd pan fo cyfanred—
(i) tâl gwirioneddol y person wrth gefn; a
(ii) unrhyw daliadau y mae'r person wrth gefn yn eu cael o dan adran 4 o Ddeddf 1996,
Dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth neu anabledd parhaol
3.
—(1) Mae gan berson wrth gefn sydd, ar ddiwedd ei gyfnod yn y lluoedd, wedi'i anablu'n barhaol[28] am gyflawni dyletswyddau diffoddwr tân oherwydd gwendid nad yw—
(a) yn gysylltiedig ag unrhyw anaf a gafwyd yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd; na
(b) yn anaf cymhwysol,
(2) Pan fo person wrth gefn yn marw—
(a) yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd;
(b) o effeithiau anaf a oedd yn peri iddo fod yn analluog i gyflawni dyletswyddau diffoddwr tân; neu
(c) tra bo'n cael pensiwn o dan y Cynllun hwn,
(3) O ran marwolaeth y person wrth gefn —
(a) os nad yw'n ganlyniad i anaf cymhwysol, a
(b) os yw'n digwydd yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd,
(4) Pan fo marwolaeth y person wrth gefn yn digwydd yn ystod ei gyfnod yn y lluoedd ac nad yw'n ganlyniad i anaf cymhwysol —
(a) mae pensiwn plentyn yn daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4 fel petai—
(i) y person wrth gefn yn aelod-ddiffoddwr tân a fu farw tra bo'n cael ei gyflogi gan awdurdod; a
(ii) paragraff (1)(c), (2) a (3) o reol 8 wedi'u hepgor; a
4.
Rhaid ymdrin â pherson wrth gefn nad yw'n ailddechrau cyfnod cyflogaeth gyda'i gyn awdurdod o fewn un mis i ddiwedd ei gyfnod yn y lluoedd fel un sydd wedi gadael cyflogaeth yr awdurdod ar ddiwedd ei gyfnod yn y lluoedd.
Dehongli Rhan 8
1.
Yn y Rhan hon—
ystyr "ymateb rheol 3" ("rule 3 response") yw ymateb YMCA cyfrifol o dan reol 3(2); ac
ystyr "YMCA" ("IQMP") yw ymarferydd meddygol cymwysedig annibynnol.
2.
—(1) Rhaid dyfarnu ar y cwestiwn a oes gan berson hawlogaeth i gael unrhyw ddyfarndaliadau, ac os oes, pa rai, yn y lle cyntaf gan yr awdurdod.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), cyn penderfynu, at ddibenion dyfarnu ar y cwestiwn hwnnw neu unrhyw gwestiwn arall sy'n codi o dan y Cynllun hwn—
(a) a yw'r person yn anabl,
(b) a yw unrhyw anabledd yn debyg o fod yn barhaol,
(c) a yw'r person wedi dod yn alluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau'r rôl yr ymddeolodd ohoni ar sail afiechyd,
(ch) a yw'r person yn alluog, neu wedi dod yn alluog, i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, neu
(d) unrhyw fater arall sy'n gyfan gwbl feddygol neu'n rhannol feddygol ei natur,
(3) Rhaid i'r YMCA ardystio yn ei farn o dan baragraff (2)—
(a) nad yw wedi rhoi cyngor neu farn o'r blaen ar yr achos penodol y gofynnwyd am farn arno, nac wedi bod yn ymwneud fel arall â'r achos hwnnw, a
(b) nad yw'n gweithredu, ac nad yw wedi gweithredu ar unrhyw adeg, fel cynrychiolydd y cyflogai, yr awdurdod, neu unrhyw barti arall mewn perthynas â'r un achos.
(5) Pan fo cyflogai, o ganlyniad i farn a roddwyd o dan baragraff (2), wedi ymddeol ar sail afiechyd, caiff yr YMCA a roes y farn, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr awdurdod at ddibenion adolygiad o dan reol 1(1) o Ran 9, roi barn bellach.
(6) Os bydd canlynol yn digwydd, sef—
(a) bod y person o dan sylw yn fwriadol neu'n esgeulus yn methu â goddef archwiliad meddygol gan yr YMCA a ddewiswyd gan yr awdurdod, a
(b) nad yw'r YMCA yn gallu rhoi barn ar sail y dystiolaeth feddygol sydd ar gael iddo,
(i) yn ôl unrhyw dystiolaeth feddygol arall y gwêl yn dda, neu
(ii) heb dystiolaeth feddygol.
(a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person o dan sylw, a
(b) yn achos penderfyniad ar fater sy'n gyfan gwbl feddygol neu'n rhannol feddygol ei natur, oni bai bod paragraff (6) yn gymwys, darparu i'r person gopi o'r farn a gafwyd o dan baragraff (2).
3.
—(1) Pan fo—
(a) tystiolaeth newydd ar fater sy'n gyfan gwbl feddygol neu'n rhannol feddygol ei natur yn cael ei chyflwyno i'r awdurdod gan berson y mae penderfyniad wedi'i wneud mewn perthynas ag ef o dan reol 2,
(b) yr awdurdod yn cael y dystiolaeth honno—
(i) os oedd copi o farn wedi'i ddarparu yn unol â pharagraff (7) o reol 2, o fewn 28 o ddiwrnodau i'r person hwnnw gael y copi hwnnw, a
(ii) mewn unrhyw achos arall, o fewn 28 o ddiwrnodau i'r person hwnnw gael yr hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod, ac
(2) Rhaid i ymateb rheol 3 YMCA i wahoddiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.
(3) Mae ymateb rheol 3 YMCA yn rhwymo'r awdurdod oni chaiff ei ddisodli gan ganlyniad apêl o dan reol 4.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ymateb rheol 3, rhaid i'r awdurdod ailystyried ei benderfyniad.
(5) Cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl yr ailystyried hwnnw, rhaid i'r awdurdod—
(a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r person o dan sylw ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi adolygu'i benderfyniad (yn ôl y digwydd),
(b) os yw wedi adolygu ei benderfyniad, darparu i'r person o dan sylw hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad diwygiedig, ac
(c) darparu copi o'r ymateb rheol 3 i'r person o dan sylw.
4.
—(1) Caiff person sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod ar fater meddygol ei natur wneud hynny i Fwrdd canolwyr meddygol yn unol â darpariaethau Atodiad 2.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo penderfyniad—
(a) yn cael ei wneud parthed barn a geir o dan reol 2(2) neu dystiolaeth feddygol y dibynnir arni yn y modd a grybwyllwyd yn rheol 2(6), neu
(b) yn cael ei ailystyried o dan reol 3(4) parthed ymateb rheol 3,
(3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu dogfennau sydd eisoes wedi'u darparu o dan reol 2(7) neu 3(5).
(4) Y dogfennau yw—
(a) copi o'r farn, yr ymateb neu'r dystiolaeth (yn ôl y digwydd);
(b) esboniad ar y weithdrefn ar gyfer apelau o dan y rheol hon, ac
(c) datganiad bod rhaid i'r person, os yw'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod ar fater meddygol ei natur, roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod, yn datgan ei enw a'i gyfeiriad a sail ei apêl, heb fod yn hwyrach na 28 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael yr olaf o'r dogfennau y mae'n ofynnol eu darparu iddo o dan y paragraff hwn, neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu.
5.
Pan—
(a) bo person yn anghytuno â dyfarniad awdurdod o dan reol 2, a
(b) nad yw anghytundeb y person yn ymwneud â mater meddygol ei natur,
Adolygu pensiwn afiechyd
1.
—(1) Cyhyd â bod person—
(a) wedi bod yn cael pensiwn afiechyd am lai na deng mlynedd, a
(b) o dan oedran pensiwn y wladwriaeth,
(i) i gyflawni unrhyw ddyletswydd sy'n briodol i'r rôl y bu i'r person ymddeol ohoni ar sail afiechyd, a
(ii) i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd.
Canlyniadau'r adolygu
2.
—(1) Os ceir, yn sgil yr ystyriaeth a grybwyllwyd yn rheol 1(1), fod person sy'n cael pensiwn afiechyd haen uwch wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, bydd hawlogaeth y person hwnnw i gael pensiwn yn peidio ar unwaith.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i bensiwn afiechyd haen is barhau i gael ei dalu i berson y mae ei hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen uwch yn peidio.
(3) Os—
(a) yn sgil yr ystyriaeth a grybwyllwyd yn rheol 1(1), ceir bod person sy'n cael pensiwn afiechyd haen is wedi dod yn alluog i gyflawni'r dyletswyddau sy'n briodol i'r rôl y bu iddo ymddeol ohoni ar sail afiechyd, a
(b) bydd yr awdurdod yn cynnig bod y person yn cael ei gyflogi yn y rôl honno ("cynnig o dan baragraff (3)(b)"),
(4) Daw person sy'n derbyn neu'n gwrthod cynnig o dan baragraff (3)(b) yn un y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3.
(5) Os, yn sgil yr ystyriaeth a grybwyllwyd yn rheol 1(2), ceir bod person, y mae ei bensiwn gohiriedig yn cael ei dalu'n gynnar, wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd, bydd ei hawlogaeth i gael taliad cynnar o'r pensiwn gohiriedig yn peidio ar unwaith.
Atal pensiwn yn ystod cyfnod o wasanaeth fel diffoddwr tân
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff yr awdurdod y mae pensiwn o dan Ran 3 yn daladwy ganddo atal y cyfan neu unrhyw ran o'r pensiwn ar gyfer unrhyw gyfnod y caiff y person, y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, ei gyflogi eto fel diffoddwr tân gan unrhyw awdurdod.
(2) Pan fo person y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiynau o dan y Cynllun hwn ar gyfer gwasanaeth rheolaidd a hefyd gwasanaeth wrth gefn neu wasanaeth gwirfoddol (p'un ai o'r un awdurdod neu o wahanol awdurdodau)—
(a) yn ailddechrau gwasanaeth rheolaidd ond nad yw'n ailddechrau gwasanaeth wrth gefn neu wasanaeth gwirfoddol, neu
(b) yn ailddechrau gwasanaeth wrth gefn neu wasanaeth gwirfoddol, ond nad yw'n ailddechrau gwasanaeth rheolaidd,
(3) Caiff awdurdod leihau pensiwn y mae gan berson hawlogaeth i'w gael o dan Ran 3 cyhyd â bod y person hwnnw'n cael ei gyflogi (ym mha swyddogaeth bynnag y bo) gan unrhyw awdurdod.
(4) Rhaid i berson—
(a) y mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn o dan Ran 3, a
(b) sy'n derbyn cynnig cyflogaeth gydag awdurdod (ym mha swyddogaeth bynnag y bo),
Atal talu pensiwn gohiriedig yn gynnar
4.
Nid oes gan berson sydd, yn sgil ei ddiswyddo o gyflogaeth awdurdod, yn dod yn un a chanddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan reol 3 o Ran 3, hawlogaeth i gael taliad cynnar o'r pensiwn gohiriedig cyn cyrraedd 65 oed, oni bai bod yr awdurdod y mae'r pensiwn yn daladwy ganddo yn dyfarnu fel arall.
Atal pensiwn yn sgil collfarnu am dramgwyddau penodol
5.
—(1) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caiff yr awdurdod y mae pensiwn o dan Ran 3 neu 4 yn daladwy ganddo atal y pensiwn yn gyfan gwbl neu'n rhannol ac yn barhaol neu dros dro fel y gwêl yn dda.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo'r pensiynwr wedi'i gollfarnu o dramgwydd y cyfeirir ato ym mharagraff (3), ac, yn achos pensiwn o dan Ran 4, bod y tramgwydd wedi'i gyflawni ar ôl y farwolaeth y daeth y pensiynwr yn un yr oedd ganddo hawlogaeth i gael y pensiwn hwnnw, neu
(b) pan fo'r pensiynwr wedi'i gollfarnu o dramgwydd, a gyflawnwyd mewn cysylltiad â'i gyflogaeth gan awdurdod, a hwnnw'n dramgwydd sydd wedi'i ardystio gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn un—
(i) sy'n ddifrifol niweidiol i fuddiannau'r Wladwriaeth; neu
(ii) sy'n debyg o arwain at golli hyder yn y gwasanaeth cyhoeddus i raddau difrifol.
(a) tramgwydd brad, a
(b) un neu fwy o dramgwyddau o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989[31] y mae'r pensiynwr wedi'i ddedfrydu o'i herwydd neu o'u herwydd, ar yr un pryd—
(i) i gyfnod o ddeng mlynedd o leiaf yn y carchar, neu
(ii) i ddau gyfnod olynol neu fwy y mae eu cyfanswm cyfanredol yn ddeng mlynedd o leiaf.
(a) cymhwyso er budd unrhyw un o ddibynyddion y pensiynwr, neu
(b) ad-dalu i'r pensiynwr,
Fforffedu dyfarndal
6.
Bydd person sydd wedi'i gollfarnu o dramgwydd o dan is-adran (6) o adran 34 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (gweithredoedd neu ddiffygion er mwyn sicrhau dyfarndaliadau neu symiau eraill), yn fforffedu'r cyfan neu ran o ddyfarndal neu swm a gafwyd ganddo o dan y Cynllun hwn, fel y gwêl yr awdurdod yn dda.
Gwasanaeth cymhwysol
1.
At ddibenion y Cynllun hwn, cyfnodau gwasanaeth cymhwysol person yw'r cyfnodau canlynol—
(a) y cyfnod pryd y mae'r y person yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun ac y mae'n cael tâl pensiynadwy amdano;
(b) unrhyw gyfnod pan fo'r person—
(i) yn un o aelodau-ddiffoddwyr tân y Cynllun,
(ii) ar seibiant di-dâl ac eithrio absenoldeb heb awdurdod,
(iii) wedi gwneud dewisiad o dan reol 4(1) o'r Rhan hon, a
(iv) wedi talu'r cyfraniadau y mae'n ofynnol eu talu o dan reol 4(2) ar gyfer y cyfnod hwnnw;
(ch) unrhyw gyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd o dan Ran 11;
(d) cyfnod a gredydwyd yn sgil derbyn trosglwyddiad o dan Ran 12;
(dd) os oedd y person yn aelod o Gynllun 1992, y cyfnod o wasanaeth a defnyddiwyd i ddyfarnu a oedd yn gymwys i gael dyfarndal o dan y Cynllun hwnnw; ac
(e) unrhyw gyfnod o wasanaeth y caniateir ei gredydu i'r aelod-ddiffoddwr tân o ganlyniad i seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth neu seibiant mabwysiadu.
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), at ddibenion y Cynllun hwn, mae gwasanaeth pensiynadwy person yn cronni wrth i gyfraniadau pensiwn gael eu talu, ac mae wedi'i ffurfio o'r canlynol—
(a) unrhyw gyfnod y mae'r person wedi talu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer fel aelod o'r Cynllun hwn;
(b) unrhyw gyfnod o wasanaeth a gymerwyd i ystyriaeth at ddibenion dyfarndal o dan reol 3 (pensiwn gohiriedig) neu reol 7 (hawlogaeth i gael dau bensiwn) o Ran 3 os, ar ôl dechrau cyflogaeth eto gydag awdurdod —
(i) daw'r person yn aelod o'r Cynllun; a
(ii) yn unol â rheol 4 o Ran 3 (dileu pensiwn gohiriedig), y mae'r dyfarndal o dan reol 3 neu reol 7 yn cael ei ddileu;
(ch) unrhyw gyfnod o wasanaeth pensiynadwy a gymerwyd i ystyriaeth at ddibenion dyfarndal afiechyd o dan reol 2 o Ran 3, ac eithrio unrhyw gyfnod sydd wedi'i gynnwys fel gwelliant, pan fo—
(i) y dyfarndal wedi'i ddileu o dan reol 2 o Ran 9; a
(ii) y person yn aros yn aelod o'r Cynllun hwn (p'un ai fel un o gyflogeion yr awdurdod a wnaeth y dyfarndal ai peidio);
(i) unrhyw bensiwn wedi'i dalu ar ei gyfer;
(ii) unrhyw ad-daliad cyfraniadau pensiwn wedi'i wneud ar ei gyfer; a
(iii) nad oes unrhyw daliad gwerth trosglwyddo wedi'i wneud ar ei gyfer; ac
(3) Ni chaiff person—
(a) prynu gwasanaeth ychwanegol os byddai hynny'n peri i'w wasanaeth pensiynadwy gynyddu i fwy na 40 o flynyddoedd erbyn yr oedran ymddeol arferol; neu
(b) trosglwyddo gwasanaeth i mewn i'r Cynllun os byddai cyfanred—
(i) y gwasanaeth hwnnw,
(ii) ei wasanaeth rhagolygol hyd at yr oedran ymddeol arferol, a
(iii) unrhyw wasanaeth sydd eisoes wedi cronni yn y Cynllun,
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae cyfnod ychwanegol o wasanaeth a brynwyd neu sydd wrthi'n cael ei brynu o dan Ran 11 i'w gymryd i ystyriaeth at ddibenion dyfarnu—
(a) swm y pensiwn sy'n daladwy i'r aelod-ddiffoddwr tân neu i oroeswyr yr aelod-ddiffoddwr tân; a
(b) faint o wasanaeth sydd gan yr aelod-ddiffoddwr tân neu faint y caiff ei gronni yn y Cynllun.
(a) swm y pensiwn afiechyd haen uwch sydd wedi'i gynnwys mewn dyfarndal afiechyd haen uwch o dan Ran 3; neu
(b) swm grant marwolaeth o dan Ran 5.
3.
Nid yw'r cyfnodau canlynol yn gyfrifadwy fel gwasanaeth pensiynadwy—
(a) unrhyw gyfnod o seibiant di-dâl, heblaw cyfnod sy'n gyfrifadwy yn rhinwedd rheol 4 o'r Rhan hon;
(b) unrhyw gyfnod o wasanaeth sydd wedi'i gymryd i ystyriaeth at ddibenion pensiwn o dan reol 3 o Ran 3 (pensiwn gohiriedig) nas dilewyd o dan reol 4 o'r Rhan honno;
(c) unrhyw gyfnod o absenoldeb sy'n deillio o salwch neu anaf sydd i'w briodoli i gamymddygiad y person y mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai fod yn seibiant di-dâl;
(ch) unrhyw gyfnod o seibiant mamolaeth ychwanegol neu seibiant mabwysiadu ychwanegol y mae'r person a chanddo hawlogaeth i'w gael wedi gwrthod talu'r cyfraniadau gofynnol ar ei gyfer; ac
(d) unrhyw gyfnod o wasanaeth sy'n wasanaeth pensiynadwy yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rhan hon.
4.
—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân gyfrif yn wasanaeth pensiynadwy y cyfan neu ran o gyfnod o absenoldeb di-dâl os yw'n dewis talu'r cyfraniadau pensiwn y byddai ef a'i awdurdod cyflogi wedi'u talu yn unol â Rhan 11 ar gyfer y cyfnod hwnnw pe bai wedi bod yn gyfnod o absenoldeb â thâl.
(2) Mae dewisiad o dan baragraff (1) i'w wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod cyflogi heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd cyfnod y seibiant di-dâl y mae cyfraniadau yn ddyledus ar ei gyfer.
(3) Caiff awdurdod dalu cyfraniadau pensiwn y cyflogwr a fyddai fel arall yn dod i ran y cyflogai i'w talu o ganlyniad i ddewisiad yr aelod-ddiffoddwr tân.
(4) Rhaid i gyfraniadau sy'n dod i ran cyflogai i'w talu o dan y rheol hon gael eu talu o fewn chwe mis i'r dyddiad pryd y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (2).
Cyfrif seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth a seibiant mabwysiadu, etc
5.
—(1) Mae gan aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i gyfrif yn wasanaeth pensiynadwy unrhyw gyfnod o—
(a) seibiant mamolaeth â thâl,
(b) seibiant mamolaeth arferol heb dâl, ac
(c) seibiant mamolaeth heb dâl y mae'r aelod-ddiffoddwr tân wedi talu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer yn unol â rheol 4 o Ran 11.
(a) seibiant tadolaeth,
(b) seibiant mabwysiadu arferol,
(c) seibiant mabwysiadu ychwanegol â thâl
(ch) seibiant mabwysiadu ychwanegol heb dâl y mae'r aelod wedi talu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer yn unol â rheol 4 o Ran 11.
Cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy
6.
—(1) Mae paragraffau (3) i (5) yn ddarostyngedig i reol 2(2) a (3).
(2) At ddibenion paragraffau (3) a (4), rhaid trin cyfnod o 365 o ddiwrnodau a gwblhawyd gan gynnwys 29 Chwefror fel blwyddyn a gwblhawyd.
(3) Rhaid cyfrifo gwasanaeth pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân arferol yn unol â'r fformiwla—
A + (B ÷ 365) o flynyddoedd,
A yw nifer y blynyddoedd a gwblhawyd yn ystod y cyfnod, a
B yw nifer y diwrnodau a gwblhawyd mewn unrhyw ran o flwyddyn sy'n weddill.
× C,
A yw oriau contractiol wythnosol y person,
B yw'r cyfwerth wythnosol ag amser cyflawn o oriau wedi'u pennu, ac
C yw cyfnod gwasanaeth rhan-amser y person mewn blynyddoedd (a gyfrifir yn unol â'r fformiwla ym mharagraff (3), a thrwy roi sylw i baragraff (2)),
ac yn y paragraff hwn ystyr "oriau wedi'u pennu" ("conditioned hours") yw nifer yr oriau yr oedd yn ofynnol i'r person eu gweithio bob wythnos o dan delerau contract cyflogaeth y person hwnnw.
× 365,
A yw'r gwir dâl pensiynadwy a gafwyd yn ystod y flwyddyn honno, a
B yw tâl cyfeirio y diffoddwr tân wrth gefn neu'r diffoddwr tân gwirfoddol am y flwyddyn honno.
(a) yn angenrheidiol i ddyfarnu gwasanaeth pensiynadwy yr aelod-ddiffoddwr tân sy'n gyfrifadwy oherwydd gwasanaeth neu gyflogaeth cyn neu ar ôl dyddiad penodol ("y dyddiad o bwys"), a
(b) gan yr aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth, yn rhinwedd y ffaith bod awdurdod wedi cael taliad gwerth trosglwyddo, i gyfrif cyfnod o wasanaeth pensiynadwy ("y cyfnod a gredydwyd") oherwydd cyflogaeth am gyfnod ("y cyfnod cyflogi blaenorol") sy'n cynnwys y dyddiad hwnnw,
Tâl pensiynadwy
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheol 3(3), mae tâl pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân yn gyfanred o—
(a) tâl yr aelod-ddiffoddwr tân mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau rôl yr aelod-ddiffoddwr tân, ac eithrio unrhyw lwfans neu enillion a delir dros dro i'r aelod-ddiffoddwr tân, a
(b) enillion parhaol yr aelod-ddiffoddwr tân (gan gynnwys, yn achos diffoddwr tân wrth gefn, unrhyw lwfans cadw).
(3) Rhaid peidio â chymryd bod tâl pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân mewn unrhyw flwyddyn dreth yn cynnwys unrhyw swm sy'n uwch na'r mwyafswm a ganiateir ar gyfer y flwyddyn honno.
(4) At ddibenion y rheol hon a rheol 2, £108,600 yw'r mwyafswm a ganiateir ar gyfer blwyddyn dreth; ond o ran blwyddyn dreth ac eithrio'r flwyddyn dreth sy'n dod i ben yn 2007, mae hynny'n ddarostyngedig i baragraff (5).
(5) Pan fo'r mynegai prisiau manwerthu am fis Rhagfyr yn y flwyddyn dreth cyn y flwyddyn dreth o dan sylw yn uwch nag oedd am y Rhagfyr blaenorol, y mwyafswm a ganiateir ar gyfer y flwyddyn dreth o dan sylw fydd y swm a geir —
(a) drwy gynyddu'r mwyafswm a ganiateir ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol â'r un ganran â'r cynnydd canrannol yn y mynegai prisiau manwerthu, a
(b) os nad yw'r canlyniad yn un o luosrifau £600, drwy ei dalgrynnu i'r swm agosaf sy'n un o luosrifau £600.
2.
—(1) At ddibenion cyfrifo pensiynau o dan y Cynllun hwn, mae tâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân yn gyfanred o'r tâl pensiynadwy a gafwyd ar gyfer y 365 o ddiwrnodau tâl pensiynadwy sy'n dod i ben ar y dyddiad perthnasol, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau canlynol y rheol hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ystyr "y dyddiad perthnasol" ("the relevant date") at ddibenion paragraff (1)—
(a) mewn perthynas ag aelod-ddiffoddwr tân y mae ganddo hawlogaeth i gael dau bensiwn o dan reol 7 o Ran 3, yw—
(i) o ran y pensiwn cyntaf, y dyddiad y cafodd yr aelod-ddiffoddwr tân ei dalu ddiwethaf yn ôl y gyfradd uwch (cyn newid rolau a derbyn gostyngiad mewn tâl pensiynadwy);
(ii) o ran yr ail bensiwn, diwrnod olaf aelodaeth yr aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun[32] neu, os yw'r aelod-ddiffoddwr tân yn marw mewn swydd, dyddiad ei farwolaeth;
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo gan aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i gyfrif rhan o flwyddyn yn unig yn gyfnod aelodaeth o'r Cynllun ("y cyfnod aelodaeth"), swm y tâl pensiynadwy a gafwyd yn y cyfnod aelodaeth wedi'i luosi â 365 a'i rannu â nifer y diwrnodau yn y cyfnod aelodaeth yw tâl pensiynadwy terfynol yr aelod-ddiffoddwr tân.
(5) At ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu unrhyw ostyngiad mewn tâl pensiynadwy o ganlyniad i—
(a) seibiant salwch
(b) atal tâl fel cosb;
(c) seibiant mamolaeth arferol, seibiant mabwysiadu arferol neu seibiant tadolaeth;
(ch) seibiant mamolaeth ychwanegol â thâl neu seibiant mabwysiadu ychwanegol â thâl;
(d) cyfnodau di-dâl y mae'r aelod-ddiffoddwr tân wedi talu cyfraniadau pensiwn ar eu cyfer; neu
(dd) seibiant mamolaeth ychwanegol heb dâl neu seibiant mabwysiadu ychwanegol heb dâl y mae cyfraniadau pensiwn wedi'u talu ar eu cyfer.
(7) Ni ddylid cymryd bod tâl pensiynadwy terfynol aelod-ddiffoddwr tân mewn unrhyw flwyddyn dreth yn cynnwys unrhyw swm sy'n uwch na ffigur y mwyafswm a ganiateir ar gyfer y flwyddyn honno.
Cyfraniadau pensiwn
3.
—(1) Rhaid i aelod-ddiffoddwr tân dalu cyfraniadau pensiwn i'r awdurdod yn ôl cyfradd o 8.5 y cant o'i dâl pensiynadwy am y tro.
(2) Caniateir i'r cyfraniadau sy'n daladwy o dan baragraff (1) gael eu didynnu gan yr awdurdod o bob rhandaliad o dâl pensiynadwy wrth iddo ddod yn ddyledus, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw ddull talu arall y gall yr awdurdod a'r aelod gytuno arno.
(3) At ddibenion y rheol hon, tâl pensiynadwy aelod-ddiffoddwr tân yn ystod cyfnod o seibiant mamolaeth, seibiant tadolaeth neu seibiant mabwysiadu yw'r tâl y mae'r person yn ei gael am y cyfnod hwnnw gan gynnwys gwerth unrhyw dâl mamolaeth, tâl tadolaeth neu dâl mabwysiadu statudol o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[33].
Cyfraniadau pensiwn dewisol yn ystod seibiant mamolaeth a seibiant mabwysiadu
4.
—(1) Caiff aelod-ddiffoddwr tân—
(a) sydd ar seibiant mamolaeth neu seibiant mabwysiadu, na fyddai fel arall yn cyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy o dan reol 2 o Ran 10; a
(b) nad oes ganddo hawlogaeth, am y cyfan neu ran o gyfnod y seibiant, i gael tâl (gan gynnwys unrhyw dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu statudol o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992),
(2) Rhaid i'r cyfraniadau gael eu cyfrifo drwy gymhwyso rheol 3 i'r tâl pensiynadwy (gan gynnwys unrhyw dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu statudol o dan Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992) a gafwyd yn union cyn dechrau'r cyfnod di-dâl o dan sylw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i ddewisiad gael ei wneud drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cyn i'r cyfnod o 30 o ddiwrnodau (neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu) gan ddechrau ar—
(a) y diwrnod y mae'r aelod-ddiffoddwr tân yn dychwelyd i'r gwaith, neu
(b) os nad yw'r aelod-ddiffoddwr tân yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod y seibiant, y diwrnod y mae'r aelod-ddiffoddwr tân yn peidio â chael ei gyflogi mwyach gan yr awdurdod.
(5) Pan na fo swm cyflawn y cyfraniadau sy'n ddyledus wedi'i dalu o fewn chwe mis i ddyddiad yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (4), mae gan y person o dan sylw hawlogaeth i gyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy yr un cyfrannedd o'r cyfnod yr oedd cyfraniadau yn ddyledus ar ei gyfer ag y mae swm y cyfraniadau a dalwyd yn ei ddwyn i gyfanswm y cyfraniadau sy'n ddyledus.
(6) Pan fo person yn marw cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (3) heb fod wedi rhoi'r hysbysiad sy'n ofynnol—
(a) bernir bod y person hwnnw wedi rhoi'r hysbysiad, a
(b) o ran yr awdurdod—
(i) rhaid iddo roi i gynrychiolwyr personol y person ddatganiad o swm y cyfraniadau sy'n ddyledus; a
(ii) caiff gasglu'r cyfraniadau drwy ddidynnu eu swm o swm y grant marwolaeth sy'n daladwy o dan Ran 5.
Prynu gwasanaeth ychwanegol
5.
—(1) Caiff person sy'n bodloni'r amodau a bennir ym mharagraff (2), yn unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon, ddewis prynu gwasanaeth ychwanegol er mwyn sicrhau mwy o fuddion o dan y Cynllun hwn.
(2) Yr amodau yw—
(a) bod y person yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun,
(b) nad yw'r person yn aelod â chredyd pensiwn, ac
(c) y byddai gan y person hawlogaeth i gyfrif llai na 40 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy adeg yr oedran ymddeol arferol.
(a) y cyfnod a brynir,
(b) gwasanaeth pensiynadwy'r person hyd at ddyddiad y prynu, ac
(c) gwasanaeth rhagolygol y person o'r dyddiad hwnnw hyd at yr oedran ymddeol arferol,
(4) Caniateir i wasanaeth ychwanegol gael ei brynu—
(a) drwy dalu cyfandaliad a gyfrifir yn unol â thablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun; neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy'r person gyfraniadau cyfnodol yn ôl y ganran o'r tâl hwnnw a ddyfernir gan Actiwari'r Cynllun.
(6) Caiff awdurdod ganiatáu i ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol brynu gwasanaeth ychwanegol drwy gyfraniadau cyfnodol; ac yn yr achos hwnnw rhaid iddynt gyfrifo swm y cyfraniadau drwy gymhwyso'r gyfradd a ddyfernir gan Actiwari'r Cynllun i dâl cyfeirio'r diffoddwr tân.
Dewis prynu gwasanaeth ychwanegol
6.
—(1) O ran dewisiad i brynu cyfandaliad—
(a) rhaid iddo gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r awdurdod heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person yn gyflogedig y tro diwethaf gan yr awdurdod fel diffoddwr tân, a
(b) os nad yw'r swm yn cael ei dalu cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad y cafodd yr hysbysiad ei roi, rhaid iddo gael ei drin fel petai heb gael ei wneud.
(3) Oni fydd paragraff (1)(b) yn gymwys, bydd dewisiad o dan y rheol hon—
(a) yn weithredol ar y diwrnod y daw'r hysbysiad ysgrifenedig i law'r awdurdod, a
(b) yn ddi-alw'n-ôl pan fo'r cyfandaliad wedi cael ei dalu neu, yn ôl y digwydd, pan fo'r cyfraniad cyntaf wedi'i ddidynnu.
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo person, o dan reol 6(2), wedi dewis talu cyfraniadau cyfnodol, maent yn daladwy o ben blwydd nesaf y person ac maent yn parhau i fod yn daladwy tan yr oedran ymddeol arferol.
(2) Bydd paragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys i berson sy'n gadael cyflogaeth yr awdurdod cyn yr oedran ymddeol arferol—
(a) pan fo ganddo hawlogaeth i gael pensiwn o dan reol 3 o Ran 3 (pensiwn gohiriedig), ar ddiwrnod olaf ei wasanaeth,
(b) pan ddaw'n berson â hawlogaeth i gael ail bensiwn o dan reol 7 o'r Rhan honno (hawlogaeth i gael dau bensiwn), ar ddiwrnod olaf ei wasanaeth yn ail gyfnod ei gyflogaeth,
(c) ar y dyddiad y bydd y person yn peidio â chael ei gyflogi gan unrhyw awdurdod, neu
(ch) ar y dyddiad y daw unrhyw ddewisiad cyfraniadau yn weithredol.
A ×
A yw nifer y trigeinfed rannau o wasanaeth ychwanegol y dewisodd y person eu prynu,
B yw'r cyfnod y mae cyfraniadau wedi'u gwneud ar ei gyfer, ac
C yw'r cyfnod y byddai cyfraniadau, oni bai bod cyflogaeth y person wedi peidio, wedi'u gwneud ar ei gyfer yn unol â'r dewisiad.
(a) pan fo'r person yn gymwys i gael pensiwn cyffredin (rheol 1 o Ran 3), fel rhan o'r gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn cyffredin;
(b) pan fo'r person yn gymwys i gael pensiwn gohiriedig (rheol 3 o Ran 3), fel rhan o'r gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn gohiriedig;
(c) pan fo'r person yn ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod (rheol 5 o Ran 3), fel rhan o'r dyfarndal y cymhwysir y lleihad actiwaraidd iddo;
(ch) pan fo'r person yn ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod (rheol 6 o Ran 3), fel rhan o wasanaeth pensiynadwy'r person;
(d) pan ddaw'r person, ar ôl iddo ddechrau ail gyfnod o gyflogaeth gyda'r un awdurdod, yn un a chanddo hawlogaeth i gael dau bensiwn (rheol 7 o Ran 3)—
(i) i'r graddau y gellir ei briodoli i gyfnod cyntaf ei gyflogaeth, fel rhan o'r gwasanaeth a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn cyntaf; a
(ii) i'r graddau y gellir ei briodoli i ail gyfnod ei gyflogaeth, fel rhan o'r gwasanaeth a ddefnyddir i gyfrifo'r ail bensiwn.
(a) i gyfrifo swm unrhyw bensiwn afiechyd haen uwch o dan reol 2 o Ran 3, neu
(b) i gyfrifo'r pensiwn afiechyd tybiannol a gyfrifir pan fo pensiwn goroeswr yn cael ei ddyfarnu yn sgil marwolaeth aelod-ddiffoddwr tân mewn swydd (rheol 2(1) o Ran 4).
Rhoi'r gorau i gyfraniadau cyfnodol a'u hailgychwyn
8.
—(1) Caiff awdurdod—
(a) ar archiad aelod-ddiffoddwr tân sydd wedi dewis prynu gwasanaeth ychwanegol drwy dalu cyfraniadau cyfnodol; a
(b) ar sail amgylchiadau ariannol yr aelod-ddiffoddwr tân yn unig,
(2) Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân a'r awdurdod yn cytuno y dylid rhoi'r gorau i ddidyniadau am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis ("y cyfnod rhoi'r gorau iddi"), rhaid i'r awdurdod ailgychwyn gwneud didyniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw neu, ar archiad yr aelod-ddiffoddwr tân, ar yr amser y cytunir arno cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo'r aelod-ddiffoddwr tân a'r awdurdod yn cytuno y dylid rhoi'r gorau i ddidyniadau am gyfnod o chwe mis neu fwy, rhaid ymdrin â dewisiad yr aelod o dan reol 6 fel un sydd wedi'i ddileu o ddyddiad y cytundeb ymlaen.
(4) Mae'r cyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd hyd at y dyddiad y didynnwyd y cyfraniad diwethaf i'w drin fel petai hwnnw oedd y cyfnod a ganfyddwyd yn unol â'r fformiwla:
A ×
A yw nifer y trigeinfed rannau o wasanaeth ychwanegol y dewisodd yr aelod-ddiffoddwr tân eu prynu,
B yw'r cyfnod y mae cyfraniadau wedi'u gwneud ar ei gyfer, ac
C yw'r cyfnod y byddai cyfraniadau wedi'u gwneud yn unol â'r dewisiad (gan anwybyddu at y diben hwn unrhyw ddilead tybiedig o dan baragraff (3)).
(a) rhoddwyd y gorau i ddidyniadau o dan baragraff (2), a
(b) bo'r aelod-ddiffoddwr tân yn dymuno prynu gwasanaeth ychwanegol sydd i'w briodoli i'r cyfnod rhoi'r gorau iddi,
(6) Pan fo cyfradd tâl yr aelod-ddiffoddwr tân ar ddiwedd y cyfnod rhoi'r gorau iddi yn llai nag ar ddechrau'r cyfnod hwnnw, rhaid i ddidyniadau ar gyfer y cyfnod rhoi'r gorau iddi gael eu gwneud yn ôl yr un gyfradd a fyddai wedi bod yn gymwys petai didyniadau wedi'u gwneud o gyflog yr aelod-ddiffoddwr tân yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cyfraniadau cyfnodol ar gyfer cyfnodau o wasanaeth di-dâl neu absenoldeb di-dâl
9.
—(1) Mae gan aelod-ddiffoddwr tân sydd—
(a) wedi dewis prynu gwasanaeth ychwanegol ar gyfer cyfnod o wasanaeth di-dâl neu seibiant di-dâl sy'n syrthio o fewn y cyfnod y mae cyfraniadau yn daladwy ar ei gyfer yn unol â rheol 7(1), a
(b) yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2),
(2) Gofynion y paragraff hwn yw bod rhaid i'r aelod-ddiffoddwr tân, a hynny heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl diwedd y cyfnod o wasanaeth di-dâl neu seibiant di-dâl (yn ôl y digwydd), ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ddidynnu o dâl yr aelod-ddiffoddwr tân swm sy'n hafal i gyfanred y cyfraniadau a fyddai wedi'u gwneud ar gyfer y cyfnod hwnnw petai wedi bod yn gyfnod o wasanaeth â thâl.
(3) Ym mharagraffau (1) a (2) ystyr "seibiant di-dâl" ("unpaid leave") yw seibiant mabwysiadu, seibiant mabwysiadu ychwanegol, seibiant mamolaeth ychwanegol neu seibiant mamolaeth cyffredin neu absenoldeb arall heb dâl (gan gynnwys absenoldeb tra bo'r aelod-ddiffoddwr tân yn cymryd rhan mewn streic).
(4) Caniateir i gyfraniadau sy'n daladwy o dan baragraff (2) gael eu talu—
(a) yn ystod cyfnod y seibiant di-dâl; neu
(b) o fewn chwe mis i'r aelod-ddiffoddwr tân ddychwelyd i'w ddyletswydd ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw; neu
(c) o fewn unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu.
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo cyfnod o wasanaeth ychwanegol wedi'i brynu fel cyfandaliad, cynyddir gwasanaeth pensiynadwy'r aelod-ddiffoddwr tân â'r cyfnod hwnnw o ran unrhyw ddyfarndal sy'n daladwy i'r aelod-ddiffoddwr tân o dan y Cynllun hwn.
(2) Nid yw cyfnod o wasanaeth ychwanegol a brynwyd fel cyfandaliad yn cael ei drin fel rhan o'r gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo swm o unrhyw bensiwn afiechyd haen uwch o dan reol 2 o Ran 3.
(3) Os yw'r aelod-ddiffoddwr tân yn ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr aelod, mae'r cyfnod o wasanaeth ychwanegol yn rhan o'r cyfanswm y cymhwysir y lleihad actiwaraidd iddo o dan reol 5 o Ran 3.
(4) Os yw'r aelod-ddiffoddwr tân yn ymddeol yn gynnar a hwnnw'n ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod, mae'r cyfnod o wasanaeth ychwanegol yn rhan o'r gwasanaeth pensiynadwy a ddefnyddir i gyfrifo'r pensiwn o dan reol 6 o Ran 3.
Dehongli Rhan 12
1.
Yn y Rhan hon—
ystyr "taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig" ("guaranteed cash equivalent transfer value payment") yw taliad o'r disgrifiad a grybwyllir yn rheol 4(2); ac
ystyr "trefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus" ("public sector transfer arrangements") yw trefniadau a gymeradwywyd gan y Cynulliad fel rhai sy'n darparu trefniadau dwyochrog ar gyfer talu a derbyn gwerthoedd trosglwyddo rhwng y Cynllun hwn a chynlluniau pensiwn galwedigaethol eraill.
2.
—(1) Mae'r Rhan hon yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 (gwerthoedd trosglwyddo) ("Pennod IV").
(2) Yn ddarostyngedig i reol 12 (trosglwyddo hanes pensiwn rhwng awdurdodau Cymreig), mae gan aelod-ddiffoddwr tân neu aelod gohiriedig—
(a) y mae Pennod IV yn gymwys iddo[34], a
(b) nad yw'n aelod â chredyd pensiwn nac yn aelod-bensiynwr o'r Cynllun hwn,
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon, mae gan unrhyw gyn aelod-ddiffoddwr tân, ac eithrio aelod-bensiynwr, hawlogaeth i'w gwneud yn ofynnol bod taliad o'r fath yn cael ei wneud fel petai hawliau o'r fath wedi cronni i'r cyn aelod-ddiffoddwr tân neu mewn perthynas ag ef drwy gyfeirio at y gwasanaeth pensiynadwy y mae gan y cyn aelod-ddiffoddwr tân hawlogaeth i'w gyfrif o dan y Cynllun hwn (ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at hawliau neu fuddion cronedig y cyn aelod-ddiffoddwr tân i'w darllen yn unol â hynny).
(4) Ni fydd paragraff (3) yn gymwys os caiff y cyfraniadau, y mae'r cyn aelod wedi'u talu yn ystod y cyfnod o wasanaeth sy'n dod i ben pan fo'r cyn aelod yn peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân, eu had-dalu o dan reol 8 o Ran 3 ac, os yw'n briodol, yn unol â Phennod V Rhan IV o Ddeddf 1993.
(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i hawliau y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i gredyd pensiwn.
Ceisiadau am ddatganiadau hawlogaeth
3.
—(1) Rhaid i aelod y mae arno angen i daliad gwerth trosglwyddo gael ei wneud gyflwyno cais ysgrifenedig i'r awdurdod am ddatganiad o gyfwerth arian parod buddion cronedig yr aelod o dan y Cynllun ar y dyddiad gwarantu ("datganiad o hawlogaeth").
(2) Yn y Bennod hon, ystyr "y dyddiad gwarantu" ("the guarantee date") yw unrhyw ddyddiad sydd—
(a) yn syrthio o fewn y cyfnod gofynnol,
(b) yn cael ei ddewis gan yr awdurdod,
(c) yn cael ei bennu yn y datganiad o hawlogaeth, ac
(ch) o fewn y cyfnod o ddeng niwrnod sy'n dod i ben ar y dyddiad y darperir y datganiad o hawlogaeth i'r aelod.
(4) Ym mharagraff (2) ystyr "y cyfnod gofynnol" ("the required period") yw—
(a) y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddyddiad cais yr aelod am ddatganiad o hawlogaeth, neu
(b) unrhyw gyfnod hwy (nad yw'n fwy na chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad hwnnw) y bydd angen rhesymol amdano os, am resymau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod, na fydd modd cael yr wybodaeth angenrheidiol i gyfrifo swm y cyfwerth arian parod.
(6) Pan fo aelod, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis olynol—
(a) wedi gwneud dau gais am ddatganiad o hawlogaeth, a heb eu tynnu'n ôl, a
(b) yn gwneud trydydd cais (neu gais ar ôl hynny),
Ceisiadau am daliadau gwerth trosglwyddo
4.
—(1) Caiff aelod, sydd wedi gwneud cais am ddatganiad o hawlogaeth o dan reol 3 ac wedi'i gael, gyflwyno cais ysgrifenedig i'r awdurdod yn gofyn bod taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei wneud.
(2) Ar ôl gwneud cais o'r fath daw'r aelod yn un y mae ganddo hawl i gael taliad o swm sy'n hafal, neu symiau sy'n hafal, neu symiau sy'n hafal o'u hagregu, i'r swm a bennir yn y datganiad o hawlogaeth (neu unrhyw swm arall sy'n daladwy yn rhinwedd paragraff (9)).
(3) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei wneud cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar y dyddiad gwarantu, a rhaid i'r taliad gael ei wneud ddim hwyrach nag un o'r dyddiadau canlynol,—
(a) chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw, neu
(b) os yw'n gynharach, y dyddiad y bydd yr aelod yn cyrraedd yr oedran buddion arferol.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond cyn y naill neu'r llall o'r dyddiadau canlynol y caniateir i gais gael ei wneud gan berson y mae ganddo hawlogaeth i wneud cais am daliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993, sef —
(a) dechrau'r cyfnod o un flwyddyn sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae'r aelod yn cyrraedd yr oedran buddion arferol, neu
(b) y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae gwasanaeth pensiynadwy'r aelod yn dod i ben, ar yr amod bod y gwasanaeth hwnnw'n dod i ben o leiaf un flwyddyn cyn yr oedran buddion arferol,
(6) Caiff cais yn gofyn bod taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei wneud o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus gael ei wneud ar yr adegau canlynol yn unig—
(a) cyn pen blwydd cyntaf y diwrnod y daw'r aelod yn gymwys i fod yn aelod-ddiffoddwr tân y cynllun y mae'r trosglwyddiad i'w wneud iddo, a
(b) cyn bod yr aelod yn cyrraedd yr oedran buddion arferol.
(a) ar neu cyn pen blwydd cyntaf y diwrnod y bydd y ceisydd yn peidio â bod yn aelod-ddiffoddwr tân o'r Cynllun hwn, a
(b) cyn bod yr aelod yn cyrraedd yr oedran buddion arferol.
(9) Os caiff y taliad ei wneud yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad gwarantu, rhaid cynyddu swm y taliad y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael â'r naill neu'r llall o'r canlynol—
(a) y swm sy'n gyfwerth â faint yn llai yw'r swm a bennir yn y datganiad o hawlogaeth na'r swm a fyddai wedi bod petai'r dyddiad gwarantu wedi cyfateb i'r dyddiad y gwneir y taliad, neu
(b) os yw'n fwy ac nad oedd unrhyw esgus rhesymol am yr oedi cyn talu, y llog ar y swm a bennir yn y datganiad o hawlogaeth, wedi'i gyfrifo ar sail ddyddiol dros y cyfnod o'r dyddiad gwarantu i ddyddiad gwneud y taliad yn ôl cyfradd flynyddol o un y cant uwchlaw'r gyfradd sylfaenol.
ystyr "y banciau cyfeirio" ("the reference banks") yw'r saith person mwyaf am y tro—
(a) y mae ganddynt ganiatâd o dan Ran IV o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd Ariannol 2000 (caniatâd i gynnal gweithgareddau a reoleiddir)[35] i dderbyn adneuon;
(b) sydd wedi'u hymgorffori yn y Deyrnas Unedig ac sy'n cynnal yno weithgaredd a reoleiddir o ran derbyn adneuon; ac
(c) sy'n dyfynnu cyfradd sylfaenol mewn sterling,
ystyr "cyfradd sylfaenol" ("base rate") yw'r gyfradd sylfaenol a ddyfynnir am y tro gan y banciau cyfeirio neu, pan fo mwy nag un gyfradd sylfaenol o'r fath, y gyfradd sydd, pan fo'r gyfradd sylfaenol a ddyfynnir gan bob banc yn cael ei rhestru yn ôl dilyniant disgynnol o saith, yn bedwaredd yn y dilyniant.
5.
—(1) Caiff aelod y mae ganddo hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 ddim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymhwyso'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig mewn un neu ragor o'r dulliau a ganiateir o dan adran 95 o'r Ddeddf honno.
(2) Caiff aelod nad oes ganddo hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan Bennod IV Rhan IV o Ddeddf 1993 ddim ond ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymhwyso'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig mewn un o'r ffyrdd a ganiateir o dan adran 95 o'r Ddeddf honno.
(3) Rhaid i'r cyfan o'r taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig gael ei gymhwyso, oni fydd paragraff (4) yn gymwys.
(4) Caniateir i'r buddion y gellir eu priodoli—
(a) i hawliau cronedig yr aelod i gael pensiwn â lleiafswm gwarantedig, neu
(b) i hawliau cronedig yr aelod sy'n briodoladwy i wasanaeth mewn cyflogaeth a gontractiwyd allan ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997,
(5) Dim ond i'r canlynol y caniateir i daliad trosglwyddo gael ei wneud—
(a) cynllun pensiwn sydd wedi'i gofrestru o dan Bennod 2 Rhan 4 o Ddeddf Cyllid 2004, neu
(b) trefniant sy'n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymhwysol at ddibenion y Rhan honno [37].
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae swm y taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig i'w gyfrifo yn unol â chanllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun i'w defnyddio ar y dyddiad gwarantu.
(2) Wrth baratoi'r tablau hynny, rhaid i Actiwari'r Cynllun ddefnyddio'r ffactorau y mae'n barnu eu bod yn briodol, gan roi sylw i adran 97 o Ddeddf 1993 a rheoliadau o dan y Ddeddf honno (p'un a yw'r taliad ar gyfer person a chanddo hawlogaeth i gael taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig o dan y Ddeddf honno ai peidio).
(3) Os yw'r swm a gyfrifir yn unol â pharagraff (1) yn llai na lleiafswm y gwerth trosglwyddo, mae swm y taliad gwerth trosglwyddo o'r cyfwerth arian parod gwarantedig i fod yn hafal, yn hytrach, i'r gwerth hwnnw.
(4) Ym mharagraff (3) ystyr "lleiafswm y gwerth trosglwyddo" ("the minimum transfer value"), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw swm—
(a) unrhyw daliadau gwerth trosglwyddo sydd wedi'u gwneud i'r Cynllun ar gyfer y person hwnnw, a
(b) unrhyw gyfraniadau a dalwyd gan y person hwnnw o dan reol 3 o Ran 11.
(a) yn unol â'r trefniadau hynny yn hytrach na pharagraffau (1) i (3), a
(b) drwy gyfeirio at y canllawiau a'r tablau a ddarperir gan actiwari'r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn ac sy'n cael eu defnyddio ar y dyddiad a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfrifo.
7.
Pan fo taliad gwerth trosglwyddo yn cael ei wneud o dan y Bennod hon mewn perthynas â hawliau person o dan y Cynllun hwn, caiff yr hawliau hynny eu diddymu.
Ceisiadau am dderbyn taliad gwerth trosglwyddo o gynllun arall
8.
—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon, caiff aelod-ddiffoddwr tân wneud cais i daliad gwerth trosglwyddo mewn perthynas â rhai neu'r cyfan o'r hawliau sydd wedi cronni iddo neu mewn perthynas ag ef o dan—
(a) cynllun pensiwn galwedigaethol arall a gofrestrwyd o dan Bennod 2 Rhan 4 o Ddeddf Cyllid 2004,
(b) trefniant sy'n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymhwysol at ddibenion y Rhan honno [38], neu
(c) cynllun pensiwn personol,
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i hawliau y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i gredyd pensiwn.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r aelod ar seibiant di-dâl nad yw'n cyfrif fel gwasanaeth pensiynadwy.
Y weithdrefn ar gyfer ceisiadau o dan reol 8
9.
—(1) Rhaid i gais o dan reol 8—
(a) cael ei wneud mewn ysgrifen,
(b) enwi'r cynllun neu'r trefniant y mae'r taliad gwerth trosglwyddo i'w wneud ohono ac enwi swm disgwyliedig y taliad, ac
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), cael ei wneud—
(i) cyn dechrau'r cyfnod o un flwyddyn sy'n dod i ben ar y dyddiad y mae'r aelod yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol; a
(ii) yn achos taliad gwerth trosglwyddo o gynllun pensiwn analwedigaethol, yn ystod y cyfnod o un flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r aelod yn un sy'n gymwys i fod yn aelod-ddiffoddwr tân, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu.
(a) cael ei wneud yn ystod y cyfnod o un flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r aelod yn un sy'n gymwys i fod yn aelod-ddiffoddwr tân, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yr awdurdod yn ei ganiatáu, a
(b) dod i law'r awdurdod cyn bod y ceisydd yn cyrraedd yr oedran sy'n cyfateb i'r oedran pensiwn arferol o dan y cynllun y mae'r taliad gwerth trosglwyddo i'w wneud drwyddo.
10.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod a pharagraffau (2) a (3) o reol 2 Rhan 10 (cyfrif gwasanaeth pensiynadwy), pan fo cais yn cael ei wneud yn briodol gan aelod o dan reol 8, caiff yr awdurdod dderbyn y taliad gwerth trosglwyddo.
(2) Os yw'r awdurdod yn derbyn y taliad, mae gan yr aelod hawlogaeth i gyfrif y cyfnod a gyfrifwyd yn unol â rheol 11 yn wasanaeth pensiynadwy at ddibenion y Cynllun hwn.
(3) Ni chaiff yr awdurdod dderbyn taliad gwerth trosglwyddo—
(a) os byddai'n cael ei dalu mewn ffordd heblaw o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus,
(b) os byddai'n cael ei gymhwyso'n gyfan gwbl neu'n rhannol mewn perthynas â hawlogaeth yr aelod neu hawlogaeth ei briod neu hawlogaeth ei bartner sifil i gael pensiwn â lleiafswm gwarantedig, ac
(c) os yw'n llai na'r swm y mae ei angen at y diben hwnnw, fel y'i cyfrifir yn unol â'r canllawiau a'r tablau a baratoir gan Actiwari'r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn.
11.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gyfrif o dan reol 10(2) gael ei gyfrifo yn ôl y dyddiad y mae'r gwerth trosglwyddo yn dod i law'r awdurdod ac yn unol â'r canllawiau a'r tablau a ddarperir at y diben gan Actiwari'r Cynllun.
(2) At ddibenion y cyfrifo hwnnw, mae enillion pensiynadwy'r aelod i'w hystyried yn swm yr enillion hynny ar y naill neu'r llall o'r dyddiadau hynny—
(a) deufis ar ôl i'r cais o dan reol 8 ddod i law, neu
(b) y dyddiad y daw'r taliad gwerth trosglwyddo i law,
(3) Os derbynnir y taliad gwerth trosglwyddo o dan drefniadau trosglwyddo sector cyhoeddus, rhaid cyfrifo'r cyfnod y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gyfrif—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (4), yn unol â'r trefniadau hynny, a
(b) drwy gyfeirio at y canllawiau a'r tablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun at ddibenion y paragraff hwn ac sy'n cael eu defnyddio ar y dyddiad a ddefnyddir gan y cynllun trosglwyddo i gyfrifo'r taliad gwerth trosglwyddo.
(a) nid yw'r trefniadau hynny'n gymwys, a
(b) bydd paragraff (1) o'r rheol hon yn gymwys yn lle hynny.
Trosglwyddo hanes pensiwn o un awdurdod Cymreig i un arall
12.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo aelod-ddiffoddwr tân—
(a) yn gadael cyflogaeth awdurdod Cymreig ("cyn awdurdod" yr aelod-ddiffoddwr tân),
(b) heb doriad yn ei wasanaeth, yn dechrau cyflogaeth fel diffoddwr tân gydag awdurdod Cymreig arall ("awdurdod newydd" yr aelod-ddiffoddwr tân), ac
(c) yn rhinwedd y swydd honno yn parhau i fod yn aelod o'r Cynllun hwn,
(2) Yr un pryd ag y bydd y cyn awdurdod yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1), rhaid iddo anfon copi ohono i'r person o dan sylw, ynghyd â datganiad o'i effaith ar gwblhau'r trosglwyddo.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r person o dan sylw yn anfodlon ar yr wybodaeth a bennir mewn tystysgrif o dan baragraff (1), caiff y person, cyn pen tri mis ar ôl i gopi ohono gael ei ddarparu iddo, ofyn i'r cyn awdurdod ddyfarnu a yw'r wybodaeth sydd ynddo yn gywir.
(4) Rhaid i berson sy'n gwneud archiad o dan baragraff (3) anfon copi ohono i'w awdurdod newydd.
(5) Rhaid i archiad o dan baragraff (3) gael ei ystyried drwy gyfrwng y trefniadau ar gyfer datrys anghytundebau a roddwyd ar waith gan yr awdurdod yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995[39] (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau) 1996[40]; a rhaid i'r awdurdod naill ai gadarnhau'r dystysgrif neu ddyroddi tystysgrif newydd.
(6) Os nad yw'r person o dan sylw yn gwneud archiad o dan baragraff (3), mae'r dystysgrif fel y'i darparwyd, ac os yw'r person yn gwneud archiad o'r fath, mae'r dystysgrif fel y'i cadarnhawyd neu'r dystysgrif newydd a ddyroddwyd (yn ôl y digwydd), yn derfynol ynghylch y gwasanaeth pensiynadwy yr oedd gan y person hawlogaeth i'w cyfrif ar y dyddiad o bwys.
(7) Os bydd y person o dan sylw, ar ôl y dyddiad o bwys ond cyn bod tystysgrif wedi'i darparu o dan baragraff (1)—
(a) yn hawlio pensiwn neu gyfandaliad o dan y Cynllun hwn,
(b) yn hawlio pensiwn neu gyfandaliad o dan y Cynllun Iawndal, neu
(c) yn marw,
(8) Os bydd digwyddiad a grybwyllir yn unrhyw un o is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (7) yn digwydd cyn i'r dystysgrif o dan sylw ddod yn derfynol, bydd effaith y dystysgrif yn peidio a bydd paragraff (3) yn peidio â bod yn gymwys.
(9) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i dystysgrif ddod yn derfynol, rhaid i'r awdurdod newydd roi ei heffaith iddi drwy gredydu'r person o dan sylw â'r gwasanaeth pensiynadwy a ddangosir yn y dystysgrif.
Dehongli Pennod 5
13.
—(1) Yn y Bennod hon—
ystyr "cyfnod perthnasol" ("relevant period"), o ran diffoddwr tân, yw cyfanswm unrhyw gyfnodau o wasanaeth a eithriwyd a, phan fo'n briodol, a drosglwyddwyd allan;
ystyr "dulliau a rhagdybiaethau perthnasol" ("relevant methods and assumptions") yw'r dulliau a'r rhagdybiaethau a hysbysir gan Actiwari'r Cynllun i gyfrifo gwerthoedd cyfwerth ag arian parod ar gyfer cynlluniau pensiwn galwedigaethol; ac
ystyr "swm a gyfrifwyd" ("calculated amount") yw'r swm, yn unol â rheol 15, y mae awdurdod yn cyfrifo y byddai angen ei dalu fel taliad adfer mewn perthynas â'r diffoddwr tân o dan sylw.
(a) bernir bod person wedi ymeithrio os oedd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau ac os oedd, am unrhyw gyfnod pan oedd yn ddiffoddwr tân, wedi gwneud cyfraniadau, yn hytrach, i gynllun pensiwn personol; a
(b) bernir bod person wedi trosglwyddo allan os yw awdurdod wedi gwneud taliad gwerth trosglwyddo mewn perthynas â'r person hwnnw o dan Bennod 2 o'r Rhan hon i weinyddydd cynllun pensiwn personol.
14.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys i ddiffoddwr tân sydd—
(a) wedi ymeithrio neu wedi trosglwyddo allan, neu'r ddau, a
(b) wedi dioddef gan golled sy'n agored i gyfraith o dan adran 150 o Ddeddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd Ariannol 2000[41] (achosion cyfreithiol am iawndal mewn perthynas â thorri rheolau etc a wnaed o dan y Ddeddf).
(a) o dan reol 6 o Ran 2 yn dileu ei ddewisiad cyfraniadau, neu
(b) o dan reol G3(5) o Gynllun 1992 (dileu dewisiad i beidio â thalu cyfraniadau),
(3) Mae paragraff (4) neu (5) yn gymwys os yw'r awdurdod, o fewn deuddeng mis i ddyddiad hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan yr awdurdod, wedi derbyn taliad gwerth trosglwyddo mewn perthynas â'r diffoddwr tân a roes yr hysbysiad (p'un a yw wedi peidio â bod yn ddiffoddwr tân ar ôl dyddiad yr hysbysiad ai peidio) a hwnnw'n daliad nad yw'n fwy na'r swm a gyfrifwyd.
(4) Pan fo swm y taliad gwerth trosglwyddo yn hafal i'r swm a gyfrifwyd—
(a) ymdrinnir â'r cyfan o'r cyfnod perthnasol fel gwasanaeth pensiynadwy, a
(b) at ddibenion cyfrifo unrhyw ddyfarndal o dan y Cynllun hwn, ymdrinnir â'r diffoddwr tân a roes yr hysbysiad fel un sydd wedi gwneud cyfraniadau pensiwn drwy gydol y cyfnod hwnnw.
(a) rhaid i'r awdurdod, yn unol â'r dulliau a'r rhagdybiaethau perthnasol, gyfrifo'r cyfnod o wasanaeth pensiynadwy y mae'r taliad gwerth trosglwyddo yn ei gynrychioli, a thrin y cyfnod hwnnw fel gwasanaeth pensiynadwy,
(b) at ddibenion cyfrifo unrhyw ddyfarndal o dan y Cynllun hwn, ymdrinnir â diffoddwr tân a roes yr hysbysiad fel un sydd wedi gwneud cyfraniadau pensiwn drwy gydol y cyfnod hwnnw, ac
(c) ymdrinnir â'r cyfnod hwnnw fel cyfnod parhaus gyda'r un dyddiad terfynol â dyddiad terfynol y cyfnod perthnasol.
(a) cyfnod ychwanegol o wasanaeth pensiynadwy a gyfrifir yn unol â'r Rhan hon, neu
(b) cyfnod ychwanegol o wasanaeth cyfrifadwy yn unol â Rhan 4 o Atodlen 6 i Gynllun 1992 (swm y gwerth trosglwyddo),
Cyfrifo swm y taliad adfer
15.
—(1) Rhaid i awdurdod, yn unol â pharagraff (2), gyfrifo'r taliad adfer y byddai angen ei wneud iddynt mewn perthynas â pherson y mae rheol 14 yn gymwys iddo er mwyn creu neu adfer safle'r person i'r hyn a fyddai wedi bod pe na bai'r person wedi ymeithrio neu, pan fo'n berthnasol, wedi trosglwyddo allan.
(2) Mae'r taliad adfer yn swm sy'n hafal i gyfanswm—
(a) y gwerth cyfalafog ar y dyddiad o bwys, a ddyfernir yn unol â'r dulliau a'r rhagdybiaethau perthnasol, a fyddai'n cynhyrchu credyd gwasanaeth sy'n hafal i gyfanswm cyfnod y person o wasanaeth a eithriwyd, gan gynnwys gwerth cyfalafog unrhyw hawliau o dan Ddeddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 a Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1974; a
(b) yn achos diffoddwr tân a oedd hefyd wedi trosglwyddo allan, y mwyaf o—
(i) unrhyw werth trosglwyddo a dalwyd gan awdurdod i weinyddydd cynllun pensiwn personol mewn perthynas â gwasanaeth y diffoddwr tân a drosglwyddwyd allan o dan Bennod 2 o'r Rhan hon, wedi'i gynyddu â llog a gyfrifwyd yn ôl cyfradd a gymeradwywyd gan Actiwari'r Cynllun dros y cyfnod o ddyddiad talu'r gwerth trosglwyddo hwnnw i'r dyddiad cyfrifo tybiedig; a
(ii) y gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod a fyddai wedi bod yn daladwy gan yr awdurdod mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw a drosglwyddwyd allan pe bai'n talu gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian parod mewn perthynas â'r gwasanaeth hwnnw a ddyfernir yn unol â'r dulliau a'r rhagdybiaethau sy'n gymwys yn union ar ôl y dyddiad cyfrifo tybiedig.
ystyr "dyddiad cyfrifo tybiedig" ("assumed calculation date") yw'r dyddiad pryd y tybir, at ddibenion cyfrifo taliad adfer, y caiff gwerth trosglwyddo ei dalu i'r awdurdod; ac
ystyr "dyddiad o bwys" ("material date") yw'r dyddiad y mae'r awdurdod yn cael hysbysiad o dan reol 14.
Cronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân: taliadau, derbyniadau a throsglwyddiadau
1.
—(1) Rhaid i Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân a sefydlir ac a gynhelir gan yr awdurdod at ddibenion Cynllun 1992[42] ("yr CBDT"), gael ei ddefnyddio hefyd at ddibenion y taliadau a'r derbynebau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu gwneud gan neu o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Cynllun hwn.
(2) Heb leihau effaith paragraff (1) yn gyffredinol, rhaid credydu i'r CBDT neu, pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud i'r CBDT o unrhyw gronfa arall a gynhelir gan yr awdurdod, rhaid credydu i'r CBDT a debydu i'r gronfa arall honno—
(a) symiau sy'n dderbyniadwy gan ddiffoddwyr tân mewn perthynas â chyfnodau a drinnir fel rhai sy'n gyfrifadwy yn rhinwedd rheol 4 o Ran 10 (cyfrif cyfnodau o seibiant di-dâl neu absenoldeb heb awdurdod);
(b) symiau sy'n dderbyniadwy o dan reol 10 Pennod 3 o Ran 12 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddo);
(c) symiau sy'n dderbyniadwy gan awdurdod tân ac achub Seisnig neu Albanaidd neu Fwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon fel taliadau gwerth trosglwyddo mewn perthynas â phersonau sy'n dechrau cyflogaeth gyda'r awdurdod; ac
(ch) symiau o'r disgrifiadau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) a (3) o reol 2.
(a) symiau sy'n daladwy o dan reol 8 o Ran 3 (ad-dalu cyfanred o gyfraniadau cyflogai);
(b) dyfarndaliadau sy'n daladwy o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Cynllun hwn (gan gynnwys y gyfran a gymudwyd o bensiwn y mae rheol 9 o Ran 3 (cymudo: cyffredinol) yn gymwys iddi); ac
(c) symiau sy'n daladwy o dan Bennod 2 o Ran 12 fel taliadau gwerth trosglwyddo.
(5) Yn y Rhan hon—
(a) nid yw cyfeiriadau at y cyfanswm sy'n daladwy allan o CBDT awdurdod yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw swm y mae'r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo o dan unrhyw un o reolau 5 i 8;
(b) nid yw cyfeiriadau at y cyfanswm a gredydwyd i CBDT yr awdurdod yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw swm y mae'r Cynulliad yn ei dalu i'r awdurdod dalu am gredydu i'w CBDT o dan unrhyw un o reolau 5 i 8;
2.
—(1) Rhaid i bob awdurdod wneud trosglwyddiadau i mewn i'w CBDT yn unol â pharagraffau canlynol y rheol hon.
(2) Ym mhob blwyddyn ariannol gan ddechrau gyda'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2008, rhaid i bob awdurdod, drwy drosglwyddiad i'w CBDT o unrhyw gronfa arall a gynhelir ganddo, wneud cyfraniad tuag at gyflawni ei atebolrwydd i dalu pensiynau o dan y Cynllun hwn.
(3) Rhaid i swm y cyfraniad o dan baragraff (2) gyfateb i'r ganran o amcangyfrif yr awdurdod o gyfanred y tâl pensiynadwy, o ran y flwyddyn y mae'r cyfraniad yn cael ei wneud ar ei chyfer, sef tâl pensiynadwy'r diffoddwyr tân hynny sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac y mae'n ofynnol iddynt wneud cyfraniadau pensiwn yn y flwyddyn honno, a honno'n ganran a ddyfernir ac yr hysbysir yr awdurdod ohoni am y flwyddyn honno gan y Cynulliad.
(4) Ar gyfer pob diffoddwr tân a gyflogir gan yr awdurdod ac sy'n ymddeol gyda hawlogaeth i gael taliad uniongyrchol o bensiwn afiechyd haen uwch o dan reol 2 o Ran 3, rhaid i'r awdurdod drosglwyddo i'r CBDT y swm y mae'r Cynulliad yn dyfarnu, ac yn hysbysu'r awdurdod, mai hwnnw yw'r ffi afiechyd haen uwch sy'n gymwys iddynt mewn perthynas â'r pensiwn hwnnw.
(5) Ar gyfer pob diffoddwr tân sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod ac sy'n ymddeol—
(a) gyda hawlogaeth i gael taliad uniongyrchol o bensiwn afiechyd haen is o dan reol 2 o Ran 3; a
(b) heb unrhyw hawlogaeth i gael pensiwn afiechyd haen uwch,
(6) Rhaid i'r swm sydd i'w drosglwyddo o dan baragraff (4) neu (5) gael ei drosglwyddo mewn tri rhandaliad cyfartal.
(7) Rhaid i'r rhandaliad cyntaf gael ei drosglwyddo ar y dyddiad y mae'r cyflogai yn ymddeol.
(8) Rhaid i'r ail randaliad gael ei drosglwyddo ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y cafodd y rhandaliad cyntaf ei drosglwyddo ynddi.
(9) Rhaid i'r trydydd rhandaliad gael ei drosglwyddo ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol sy'n dilyn y flwyddyn ariannol y cafodd yr ail randaliad ei drosglwyddo ynddi.
(10) Pan fo pensiwn yn cael ei dalu o dan reol 6 o Ran 3 (ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod), rhaid bod swm sy'n hafal i'r gwahaniaeth rhwng swm y pensiwn sy'n cael ei dalu a'r swm a fyddai wedi'i dalu petai pensiwn wedi bod yn daladwy o'r un dyddiad o dan reol 5 o'r Rhan honno (ymddeoliad cynnar ar archiad yr awdurdod), yn cael ei drosglwyddo i'r CBDT o unrhyw gronfa arall a gynhelir gan yr awdurdod.
Trosglwyddiadau o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân
3.
—(1) Pan fo'r canlynol yn digwydd, o ganlyniad i adolygiad o dan reol 1 o Ran 9—
(a) bod pensiwn afiechyd haen uwch yn cael ei ddileu cyn bod holl randaliadau'r ffi afiechyd haen uwch ar gyfer y pensiwn hwnnw wedi'u trosglwyddo yn unol â rheol 2 o'r Rhan hon; a
(b) bod pensiwn afiechyd haen is yn parhau i gael ei dalu,
(2) Mae'r swm yn swm sy'n hafal i'r gwahaniaeth rhwng—
(a) cyfanred y rhandaliadau o'r ffi afiechyd haen uwch a drosglwyddwyd yn unol â rheol 2; a
(b) y swm cyfanredol a fyddai wedi'i drosglwyddo—
(i) petai'r ffi afiechyd haen is wedi bod yn gymwys bob amser mewn perthynas â'r pensiwn, a
(ii) petai rhandaliadau o'r ffi honno wedi'u trosglwyddo ar y dyddiadau y trosglwyddwyd rhandaliadau o'r ffi afiechyd haen uwch.
(4) Pan fo person yn gwrthod cynnig o gyflogaeth o dan reol 2(3)(b) o Ran 9 ac nad yw'n dechrau cyflogaeth eto gydag awdurdod yng Nghymru—
(a) rhaid anwybyddu paragraff (4) neu (5) o reol 2 (yn ôl y digwydd), yn achos y person hwnnw (i'r graddau y mae'r paragraff hwnnw'n dal yn un na chydymffurfiwyd eto ag ef); a
(b) rhaid i'r awdurdod a wnaeth y cynnig—
(i) peidio â gwneud unrhyw drosglwyddiad i'r CBDT ar gyfer y person hwnnw o ran unrhyw amser ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod yn cael hysbysiad bod y cynnig wedi'i wrthod; ac
(ii) trosglwyddo o'r CBDT i unrhyw gronfa arall a gynhelir ganddo swm sy'n hafal i gyfanred y rhandaliadau sydd wedi'u trosglwyddo i'r CBDT ar gyfer y pensiwn sydd wedi'i derfynu.
(a) bod pensiwn afiechyd haen uwch neu bensiwn afiechyd haen is yn cael ei atal yn gyfan gwbl ac yn barhaol o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 9; a
(b) nad yw cyn dderbynnydd y pensiwn hwnnw yn ailddechrau cyflogaeth gydag awdurdod yng Nghymru,
Symiau gormodol: gwybodaeth
4.
—(1) Gan ddechrau gyda'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2008, rhaid i bob awdurdod, o ran pob blwyddyn ariannol, anfon yr wybodaeth ganlynol mewn ysgrifen i'r Cynulliad —
(a) y cyfanswm y mae'r awdurdod yn amcangyfrif a fyddai'n daladwy o'u CBDT yn y flwyddyn honno,
(b) y cyfanswm y mae'r awdurdod yn amcangyfrif y byddai'n cael ei gredydu i'w CBDT yn y flwyddyn honno,
(c) datganiad nas archwiliwyd o gyfrifon yr awdurdod am y flwyddyn honno, a baratowyd ac a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[43],
(ch) datganiad cyfrifon yr awdurdod am y flwyddyn honno, fel ag y mae ar ôl i archwilydd yr awdurdod ddyroddi tystysgrif a barn archwilydd yr awdurdod, gan gynnwys y dystysgrif a'r farn honno neu ynghyd â hwy,
(d) y cyfanswm sy'n daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno, ac
(dd) y cyfanswm a gredydwyd i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno.
(a) rhaid i'r awdurdod anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (1) i'r Cynulliad heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2007 ("amcangyfrif 2008"), a
(b) os yw'r awdurdod yn adolygu'r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraffau hynny ar ôl iddo anfon yr amcangyfrif i'r Cynulliad, caiff anfon yr wybodaeth ddiwygiedig honno i'r Cynulliad ym Medi 2007 ("amcangyfrif diwygiedig 2008").
(a) rhaid i'r awdurdod anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 1(a) a (b) i'r Cynulliad ym mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw ("yr amcangyfrif"); a
(b) os yw'r awdurdod yn diwygio'r wybodaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraffau hynny ar ôl iddynt anfon yr amcangyfrif i'r Cynulliad, caiff anfon yr wybodaeth ddiwygiedig honno i'r Cynulliad ym mis Medi yn ystod y flwyddyn o dan sylw ("yr amcangyfrif diwygiedig").
(5) Rhaid i'r awdurdod anfon yr wybodaeth archwiliedig i'r Cynulliad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i archwilydd yr awdurdod ddyroddi tystysgrif a barn archwilydd yr awdurdod ar gyfrifon yr awdurdod am y flwyddyn o dan sylw.
(6) At ddibenion y rheol hon, mae'r archwilydd yn dyroddi ei dystysgrif a'i farn pan fo, yn unol ag adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[44]—
(a) yn nodi ar ddatganiad cyfrifon yr awdurdod am y flwyddyn berthnasol—
(i) tystysgrif ei fod wedi cwblhau'r archwiliad yn unol â'r Ddeddf honno, a
(ii) barn yr archwilydd ar y datganiad; neu
ystyr "gwybodaeth archwiliedig" ("audited information") yw
(a) yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 1(ch); ac
(b) os yw'r awdurdod yn adolygu'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1)(d) ac (dd) ar ôl iddo anfon yr wybodaeth nas archwiliwyd i'r Cynulliad, yr wybodaeth honno fel y'i diwygiwyd; ac
ystyr "gwybodaeth nas archwiliwyd" ("un-audited information") yw'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau (1)(c), (d) ac (dd).
5.
—(1) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth amcangyfrif 2008, amcangyfrif diwygiedig 2008, neu'r amcangyfrif (yn ôl y digwydd), ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, y byddai'r cyfanswm sy'n debyg o fod yn daladwy o CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n debyg o gael ei gredydu i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno, rhaid talu i'r awdurdod swm sy'n hafal i 80 y cant o'r diffyg tebygol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo—
(a) y bydd y cyfanswm sy'n debyg o fod yn daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n debyg o gael ei gredydu i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno; a
(b) bod 80 y cant o'r diffyg tebygol—
(i) yn fwy na'r swm a dalwyd neu sy'n daladwy gan y Cynulliad i'r awdurdod yn rhinwedd paragraff (1) mewn perthynas â'r flwyddyn berthnasol; neu
(ii) os na chafodd unrhyw swm o'r fath ei dalu neu os nad oedd yn daladwy gan y Cynulliad, yn fwy na sero,
(4) Pan fo'r Cynulliad yn talu swm i'r awdurdod o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy i'r Cynulliad mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan reol 6(1) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu i'r awdurdod.
(5) Rhaid talu swm sy'n daladwy i'r awdurdod o dan baragraff (1) ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn o dan sylw.
(6) Rhaid i unrhyw swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan y Cynulliad i awdurdod o dan baragraff (2) neu (4) gael ei dalu neu ei ad-dalu cyn diwedd y flwyddyn o dan sylw.
Symiau gormodol — gwargedion a amcangyfrifir
6.
—(1) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth amcangyfrif 2008, amcangyfrif diwygiedig 2008, neu'r amcangyfrif (yn ôl y digwydd), ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, y byddai'r cyfanswm sy'n debyg o gael ei gredydu i CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n debyg o fod yn daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno, rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo swm sy'n hafal i 80 y cant o'r gwarged tebygol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo—
(a) y bydd y cyfanswm sy'n debyg o gael ei gredydu i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n debyg o fod yn daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno; a
(b) bod 80 y cant o'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny—
(i) yn fwy na'r swm a dalwyd neu sy'n daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad o dan baragraff (1) mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw; neu
(ii) os na chafodd unrhyw swm o'r fath ei dalu neu os nad oedd yn daladwy gan yr awdurdod, yn fwy na sero, caiff yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo unrhyw swm y bydd yn ei bennu drwy hysbysiad.
(4) Pan fo'r Cynulliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu swm iddo yn rhinwedd paragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy gan y Cynulliad i'r awdurdod o dan reol 5(1) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad.
(5) Rhaid i'r Cynulliad roi i'r awdurdod, ar neu cyn 3 Mawrth yn y flwyddyn o dan sylw, hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ei wneud o dan baragraff (1) neu (2).
(6) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad o dan baragraff (1), (2) neu (4) gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Mawrth yn y flwyddyn o dan sylw.
Symiau gormodol — diffygion gwirioneddol
7.
—(1) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm sy'n debyg o fod yn daladwy o CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n debyg o gael ei gredydu i CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(a) pan fo'r diffyg tebygol ("y diffyg nas archwiliwyd") yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy'n daladwy i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 5(1) neu (2) ("y cyfanswm rheol 5") rhaid i'r Cynulliad dalu i'r awdurdod swm y diffyg nas archwiliwyd namyn y cyfanswm rheol 5;
(b) pan fo'r diffyg nas archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm rheol 5, nid yw swm y cyfanswm rheol 5 namyn y diffyg nas archwiliwyd yn daladwy o dan reol 5(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ad-dalu'r swm hwnnw i'r Cynulliad;
(c) os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan reol 5(1) neu (2), rhaid iddo dalu i'r awdurdod swm y diffyg nas archwiliwyd; ac
(ch) nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy i'r Cynulliad mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 6(1) neu (2) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu i'r awdurdod.
(a) pan fo'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny ("y diffyg a archwiliwyd") yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (ond nad ydynt wedi'u had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy'n daladwy i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 5(1) neu (2) ("y cyfanswm nas archwiliwyd"), rhaid iddo dalu i'r awdurdod swm y diffyg a archwiliwyd namyn y cyfanswm nas archwiliwyd;
(b) pan fo'r diffyg a archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm nas archwiliwyd namyn y diffyg a archwiliwyd yn daladwy o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 5(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad;
(c) os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan baragraff 1(a) neu (c) neu reol 5(1) neu (2), rhaid iddo dalu i'r awdurdod swm y diffyg a archwiliwyd; ac
(ch) nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy i'r Cynulliad mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan reol 6(1) neu (2) neu reol 8(1)(a) neu (c) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu i'r awdurdod.
(4) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan y Cynulliad i'r awdurdod, neu i'r gwrthwyneb, o dan baragraff (2) gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol ar ôl yr ail flwyddyn.
Symiau gormodol — gwargedion gwirioneddol
8.
—(1) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm a gredydwyd i CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm a dalwyd o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(a) pan fo'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny ("y gwarged nas archwiliwyd") yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy'n daladwy iddo gan yr awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 6(1) neu (2) ("y cyfanswm rheol 6"), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo swm y gwarged nas archwiliwyd namyn y cyfanswm rheol 6;
(b) pan fo'r gwarged nas archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm rheol 6, nid yw swm y cyfanswm rheol 6 namyn y gwarged nas archwiliwyd yn daladwy o dan reol 6(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu'r i'r awdurdod;
(c) os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan reol 6(1) neu (2), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo swm y gwarged nas archwiliwyd; ac
(ch) nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 5(1) neu (2) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad.
(a) pan fo'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny ("y gwarged a archwiliwyd") yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (ond nad ydynt wedi'u had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy'n daladwy iddo gan yr awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2) ("y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd"), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo o CBDT yr awdurdod swm y gwarged a archwiliwyd namyn y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd;
(b) pan fo'r gwarged a archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd namyn y gwarged a archwiliwyd yn daladwy o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu'r i'r awdurdod;
(c) os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu i'r Cynulliad swm y gwarged a archwiliwyd; ac
(ch) nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 5(1) neu (2) neu reol 7(1)(a) neu (c) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad.
(4) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad, neu i'r gwrthwyneb, o dan baragraff (1) gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn yr ail flwyddyn.
(5) Rhaid i'r Cynulliad roi i'r awdurdod, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol, sef yr ail flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn o dan sylw ("y drydedd flwyddyn"), hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ei wneud o dan baragraff (2)(a) neu (c).
(6) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad, neu i'r gwrthwyneb, yn rhinwedd paragraff (2), gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn.
Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth
9.
—(1) Rhaid i awdurdod ddarparu i'r Cynulliad unrhyw wybodaeth sy'n berthnasol i arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon a honno'n wybodaeth a fynno'r Cynulliad, drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod.
(2) Rhaid i awdurdod ymateb i archiad o dan baragraff (1) o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan y Cynulliad a bennir yn ei hysbysiad o dan y paragraff hwnnw, neu unrhyw gyfnod hwy y bydd yn ei ganiatáu mewn unrhyw achos penodol.
Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau
10.
Rhaid i awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad o bryd i'w gilydd at ddibenion y Rhan hon.
Yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarndaliadau
1.
—(1) Mae dyfarndal sy'n daladwy i berson neu mewn perthynas ag ef am ei fod wedi'i gyflogi fel diffoddwr tân rheolaidd yn daladwy gan yr awdurdod y cafodd y person ei gyflogi felly ddiwethaf ganddo.
(2) Mae dyfarndal sy'n daladwy o dan Ran 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgariad) i aelod â chredyd pensiwn neu mewn perthynas â'r aelod hwnnw, ac mae unrhyw swm a delir i gymudo unrhyw ddyfarndal o'r fath yn daladwy gan yr awdurdod a gyflogodd yr aelod â debyd pensiwn y mae dyfarndal yr aelod â chredyd pensiwn yn deillio o'i hawliau pan ddaeth y gorchymyn rhannu pensiwn yn weithredol.
Didynnu treth a ffioedd lwfans cydol oes
2.
Pan fo unrhyw daliad y mae'n ofynnol i awdurdod ei wneud o dan y Cynllun hwn yn drethadwy neu'n ddarostyngedig i ffi lwfans cydol oes o dan Ddeddf Cyllid 2004[45] rhaid iddo ddidynnu swm y dreth a godir neu sydd i'w adennill o'r taliad.
Talu dyfarndaliadau
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), tra bo dyfarndal yn daladwy o dan y Cynllun hwn, rhaid ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau.
(2) Caiff awdurdod—
(a) gohirio talu, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, i'r graddau y bo'n angenrheidiol i ddyfarnu unrhyw gwestiwn ynghylch ei atebolrwydd; a
(b) pan fo o'r farn, oherwydd swm y dyfarndal, y byddai ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau yn anymarferol, cyflawni ei atebolrwydd mewn perthynas â'r swm hwnnw drwy wneud taliadau bob hyn a hyn yn ôl yr ysbeidiau rhesymol a wêl yn dda.
(4) Mae pensiwn o dan Ran 4 mewn perthynas â phlentyn ôl-anedig yn daladwy o ddyddiad geni'r plentyn.
(5) Os—
(a) na chafodd yr awdurdod ei hysbysu o farwolaeth pensiynwr; a
(b) yw pensiwn yr oedd gan y pensiynwr hawlogaeth i'w gael wedi parhau i gael ei dalu,
(6) Pan fo gan berson hawlogaeth o dan reol 8 o Ran 3 i gael ad-daliad o'i gyfraniadau pensiwn cyfanredol, nid yw'r awdurdod yn rhwym i wneud taliad—
(a) hyd nes y bydd blwyddyn o ddyddiad ymddeol y person wedi dirwyn i ben.
(b) hyd nes y bydd y person yn gofyn am daliad,
Pensiynau o dan fwy nag un contract cyflogaeth
4.
Pan fo person yn aelod o'r Cynllun hwn mewn perthynas â mwy nag un contract cyflogaeth (p'un ai gyda'r un awdurdodau neu rai gwahanol), rhaid ymdrin â phob cyflogaeth ar wahân at ddibenion pensiwn.
Taliadau ar gyfer pobl ifanc dan oed a phersonau sy'n analluog i reoli eu materion eu hunain
5.
—(1) Caniateir i unrhyw swm sy'n daladwy i berson ifanc dan oed mewn perthynas â dyfarndal, os gwêl yr awdurdod yn dda, gael ei dalu i unrhyw berson arall a ddyfernir gan yr awdurdod, a rhaid i'r person arall hwnnw, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr awdurdod, ei ddefnyddio er budd y person ifanc dan oed.
(2) Os yw'n ymddangos i'r awdurdod fod person sydd â hawlogaeth i gael taliad dyfarndal, oherwydd anhwylder meddwl neu fel arall, yn analluog i reoli materion y person hwnnw—
(a) caiff yr awdurdod dalu'r dyfarndal neu unrhyw ran ohono i berson sydd â gofal dros y person a chanddo hawlogaeth, neu i unrhyw berson arall a ddyfernir ganddynt, a
(b) i'r graddau nad yw'n talu'r dyfarndal yn y modd hwnnw, caiff ei ddefnyddio yn y modd y gwêl yn dda er budd y person sydd â hawlogaeth neu ei ddibynyddion.
6.
—(1) Yn sgil marwolaeth person yr oedd swm yn ddyledus iddo, mewn perthynas â dyfarndal, a hwnnw'n swm nad oedd yn fwy na'r swm a bennir[46] mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 6 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) 1965[47], caiff yr awdurdod, heb ei wneud yn ofynnol i ddangos profeb neu unrhyw brawf arall o hawlogaeth—
(a) pan fo'n ymddangos bod gan un person yn unig hawlogaeth lesiannol i ystad bersonol yr ymadawedig, talu'r swm i'r person hwnnw, neu
(b) mewn unrhyw achos arall, naill ai talu'r swm i un o'r personau y mae'n ymddangos bod ganddo'r hawlogaeth honno neu ei ddosbarthu ymhlith pob un neu unrhyw un ohonynt yn ôl y cyfraneddau a ddyfernir gan yr awdurdod.
(3) Yn sgil methdaliad person a chanddo hawlogaeth i gael dyfarndal, nid yw'r dyfarndal yn trosglwyddo i unrhyw ymddiriedolwr neu berson arall sy'n gweithredu ar ran y credydwyr.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os bydd colled, o ganlyniad i dwyll, lladrad neu esgeuluster ar ran diffoddwr tân mewn cysylltiad â'i gyflogaeth, yng nghronfeydd awdurdod, caiff yr awdurdod wrthod talu y cyfan neu ran o unrhyw symiau a ddaw'n ddyledus i'r diffoddwr tân hwnnw oddi wrth yr awdurdod mewn perthynas â dyfarndal.
(5) Rhaid i'r cyfanswm y gwrthodir ei dalu o dan baragraff (4) beidio â bod yn fwy na swm y golled; ac os bydd unrhyw anghydfod ynglyn â swm y golled yn digwydd, ni chaniateir i'r awdurdod wrthod talu unrhyw beth onid oes modd bellach adennill y golled oddi wrth y person sydd â hawlogaeth i gael y dyfarndal o dan orchymyn llys cymwys.
(6) Mewn unrhyw achos rhaid peidio â gwrthod talu unrhyw ran o swm sy'n ddyledus ac nad yw'n briodoladwy i wasanaeth fel cyflogai awdurdod.
(7) Pan wrthodir talu swm o dan baragraff (4), rhaid i'r awdurdod ddarparu i'r person sydd â hawlogaeth i gael y dyfarndal dystysgrif sy'n dangos y swm sy'n cael ei atal.
Pensiynau lleiafswm gwarantedig, etc.
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae paragraffau (2) i (5) o'r rheol hon yn gymwys pan fo gan aelod hawlogaeth i gael pensiwn â lleiafswm gwarantedig o dan adran 14 o Ddeddf 1993 ("lleiafswm gwarantedig" yr aelod).
(2) Os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, ar wahân i'r rheol hon, sef—
(a) na fyddai unrhyw bensiwn yn daladwy i'r aelod o dan y Cynllun hwn; neu
(b) y byddai cyfradd wythnosol y pensiwn sy'n daladwy yn llai na lleiafswm gwarantedig yr aelod,
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) os yw'r aelod, pan fo'n aelod yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth—
(a) yn dal mewn cyflogaeth sy'n rhoi hawlogaeth iddo fod yn aelod o'r Cynllun hwn ("cyflogaeth cynllun"); neu
(b) pan na fo'r aelod mewn cyflogaeth cynllun, yn cydsynio â gohirio ei hawlogaeth o dan baragraff (2),
(4) O ran yr aelod—
(a) os yw'n parhau mewn cyflogaeth am gyfnod pellach o bum mlynedd ar ôl cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, a
(b) os nad yw'n ei gadael wedyn,
(5) Pan fo paragraff (3) neu (4) yn gymwys, rhaid cynyddu swm y pensiwn y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael o dan y rheol hon yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1993.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person wedi peidio â bod mewn cyflogaeth sydd wedi'i chontractio allan drwy gyfeirio at y Cynllun, a naill ai—
(a) bod ei holl hawliau i gael buddion o dan y Cynllun, ac eithrio ei hawliau mewn perthynas â'i leiafswm gwarantedig neu ei hawliau o dan adran 9(2B) o Ddeddf 1993[48] ("ei hawliau contractio allan"), wedi'u trosglwyddo o dan Ran 12, neu
(b) nad oes ganddo unrhyw hawliau i gael buddion o dan y Cynllun ar wahân i'w hawliau contractio allan.
(a) o'r dyddiad y mae'r person yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth, mae ganddo hawlogaeth i gael pensiwn sy'n daladwy am oes yn ôl cyfradd wythnosol sy'n hafal i'w leiafswm gwarantedig, a
(b) o'r dyddiad y mae'r person yn cyrraedd yr oedran ymddeol arferol mae ganddo hawlogaeth i gyfandaliad a phensiwn mewn perthynas â'i hawliau o dan adran 9(2B) o Ddeddf 1993,
(8) Nid yw'r rheol hon yn gymwys os—
(a) caiff unrhyw ran o bensiwn y person ei atal yn barhaol o dan reol 5 o Ran 9 ar ôl iddo gael ei gollfarnu o dramgwydd o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (3) o'r rheol honno (brad a thramgwyddau penodol o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989); neu
(b) caiff y pensiwn ei gymudo o dan reol 10 o Ran 3 (cymudo: pensiynau bach).
2.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r rheol hon yn gymwys o ran priod neu bartner sifil aelod-ddiffoddwr tân a chanddo bensiwn â lleiafswm gwarantedig o dan adran 17 o Ddeddf 1993 o ran buddion o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Cynllun hwn mewn perthynas â'r aelod ymadawedig.
(2) Os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, ar wahân i'r rheol hon, sef—
(a) nad oes unrhyw bensiwn yn daladwy o dan y Cynllun hwn i'r priod neu'r partner sifil sy'n goroesi; neu
(b) bod cyfradd wythnosol y pensiwn sy'n daladwy yn llai na lleiafswm gwarantedig y priod neu'r partner sifil sy'n goroesi,
(3) Nid yw'r rheol hon yn gymwys—
(a) os oes unrhyw ran o bensiwn yr aelod?ddiffoddwr tân wedi'i atal yn barhaol o dan reol 5 o Ran 9 ar ôl iddo gael ei gollfarnu o dramgwydd o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (3) o'r rheol honno (brad a thramgwyddau penodol o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989);
(b) os yw pensiwn yr aelod-ddiffoddwr tân wedi'i gymudo o dan reol 10 o Ran 3; neu
(c) os yw pensiwn y goroeswr wedi'i gymudo o dan reol 5 o Ran 4.
3.
—(1) Caiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw berson sy'n cael o bensiwn neu y mae'n bosibl bod ganddo hawlogaeth i gael pensiwn neu gyfandaliad o dan y Cynllun hwn ddarparu i'r awdurdod unrhyw dystiolaeth ategol y bydd ar yr awdurdod angen rhesymol amdani i ddarganfod—
(a) pwy yw'r person hwnnw; a
(b) beth yw hawlogaeth barhaol neu ddyfodol y person hwnnw i gael taliad o unrhyw swm o dan y Cynllun hwn.
(3) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1), caiff yr awdurdod atal y cyfan neu ran o unrhyw swm y mae'n credu ei fod yn daladwy o dan y Cynllun.
Datganiadau blynyddol o Fuddion
4.
—(1) Rhaid i awdurdod ddyroddi datganiad buddion blynyddol i bob un o'i aelod-ddiffoddwyr tân, aelodau gohiriedig ac aelodau â chredyd pensiwn.
(2) Rhaid dyroddi'r datganiadau cyntaf o'r fath ar neu cyn 1 Ebrill 2007, a rhaid dyroddi datganiadau dilynol ar neu cyn pob 1 Ebrill wedi hynny.
(3) Rhaid i ddatganiad buddion blynyddol gynnwys enghraifft o swm y buddion y mae gan yr aelod hawlogaeth i'w gael, mewn perthynas â'r hawliau a all godi o dan y Cynllun—
(a) sydd wedi'u cronni gan yr aelod ar y dyddiad perthnasol, a
(b) y mae modd, yn achos aelod-ddiffoddwr tân, iddo gael ei gronni ganddo os yw'n aros yn y Cynllun tan ei ddyddiad ymddeol arferol.
(a) yn achos aelod-ddiffoddwr tân, yn ôl tâl yr aelod (neu, yn achos aelod-ddiffoddwr tân rhan-amser, y cyfwerth ag amser cyflawn) am y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar y dyddiad perthnasol;
(b) yn achos aelod gohiriedig, yn ôl tâl terfynol yr aelod; ac
(c) yn achos aelod â chredyd pensiwn, yn unol â rheol 1 o Ran 6, fel petai'r aelod â chredyd pensiwn yn dod yn un a chanddo hawlogaeth i gael y pensiwn ar ben blwydd yr aelod â chredyd pensiwn yn bump a thrigain oed.
(a) yn achos aelod â chredyd pensiwn, yw dyddiad pen blwydd yr aelod â chredyd pensiwn yn bump a thrigain oed;
(b) mewn unrhyw achos arall, yw 31 Mawrth o'r cyfnod y dyroddir y datganiad ar ei gyfer, neu unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd yr awdurdod yn ei ddewis.
5.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys pan fo diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol yn marw ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 a chyn bod Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 yn dod i rym.
(2) Mae Penodau 1 a 2 Rhan 4 o'r Cynllun hwn (pensiynau goroeswyr), rheol 1 Rhan 5 o'r Cynllun hwn (grant marwolaeth) a rheol 3 Rhan 11 (cyfraniadau pensiwn) yn effeithiol mewn perthynas â'r ymadawedig fel petai—
(a) yr ymadawedig wedi dod yn aelod o'r Cynllun hwn—
(i) pan oedd yr ymadawedig yn cael ei gyflogi gan awdurdod yn union cyn 6 Ebrill 2006, ar y dyddiad hwnnw,
(ii) mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad y dechreuodd yr ymadawedig gyflogaeth gyda'r awdurdod;
(c) gwasanaeth cymhwysol yr ymadawedig a gwasanaeth pensiynadwy'r ymadawedig wedi dechrau ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r canlynol—
(i) y dyddiad y dechreuodd yr ymadawedig gyflogaeth, a
(ii) 6 Ebrill 2006,
(a) gan ddisgwyl y byddai'r Cynllun hwn yn dod i rym, enwebodd yr ymadawedig bartner enwebedig, a
(b) daeth yr enwebiad i law a chael ei dderbyn gan yr awdurdod cyn i'r ymadawedig farw,
(4) Rhaid i'r awdurdod ddidynnu o'r grant marwolaeth sy'n daladwy yn rhinwedd paragraff (2) swm y cyfraniadau pensiwn a fyddai wedi bod yn daladwy o dan reol 3 o Ran 11; ac mae rheol 1 o'r Rhan hon yn effeithiol i ddyfarnu tâl pensiynadwy'r ymadawedig at y diben hwnnw.
(5) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r cynrychiolwyr personol o'r swm a ddidynnir.
Marwolaeth diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, a oedd yn gyflogedig cyn 6 Ebrill 2006, ar neu cyn 31 Mawrth 2007
6.
—(1) Mae'r rheol hon yn gymwys pan fo diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol a gyflogwyd gan awdurdod yn union cyn 6 Ebrill 2006 yn marw ar neu ar ôl 31 Mawrth 2007 heb wneud dewisiad o ran aelodaeth o'r Cynllun hwn.
(2) Mae Penodau 1 a 2 Rhan 4 o'r Cynllun hwn (pensiynau goroeswyr), rheol 1 Rhan 5 o'r Cynllun hwn (grant marwolaeth) a rheol 3 Rhan 11 (cyfraniadau pensiwn) yn effeithiol mewn perthynas â'r ymadawedig fel petai—
(a) yr ymadawedig wedi dewis dod yn aelod o'r Cynllun hwn ar 6 Ebrill 2006 a heb wneud dewisiad cyfraniadau, a
(b) gwasanaeth cymhwysol yr ymadawedig a gwasanaeth pensiynadwy'r ymadawedig wedi dechrau ar 6 Ebrill 2006 a dod i ben ar ddyddiad marwolaeth yr ymadawedig.
(a) gan ddisgwyl y byddai'r Cynllun hwn yn dod i rym, enwebodd yr ymadawedig bartner enwebedig, a
(b) daeth yr enwebiad i law a chael ei dderbyn gan yr awdurdod cyn i'r ymadawedig farw,
(4) Rhaid i'r awdurdod ddidynnu o'r grant marwolaeth sy'n daladwy yn rhinwedd paragraff (2) swm y cyfraniadau pensiwn a fyddai wedi bod yn daladwy o dan reol 3 o Ran 11; ac mae rheol 1 o'r Rhan honno'n effeithiol i ddyfarnu tâl pensiynadwy'r ymadawedig at y diben hwnnw.
(5) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r cynrychiolwyr personol o'r swm a ddidynnir.
1.
—(1) Ac eithrio mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid cyfrifo swm blynyddol pensiwn afiechyd haen is, y mae gan berson hawlogaeth i'w gael yn sgil ymddeoliad oherwydd afiechyd drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r person â'i dâl pensiynadwy terfynol a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(2) Pan fo person yn ddarostyngedig i ymddeoliad oherwydd afiechyd, rhaid cyfrifo swm blynyddol ei bensiwn afiechyd haen is drwy luosi gwasanaeth pensiynadwy'r person hwnnw â'i dâl cyfeirio a rhannu'r swm canlyniadol â 60.
(3) At ddibenion is-baragraff (2) yr un cyfrannedd o wasanaeth amser-cyflawn â'r hyn y mae tâl pensiynadwy blynyddol gwirioneddol y diffoddwr tân yn ei ddwyn i'w dâl cyfeirio yw gwasanaeth pensiynadwy diffoddwr tân.
2.
Rhaid cyfrifo swm blynyddol pensiwn afiechyd haen uwch diffoddwr tân amser-cyflawn yn unol â'r fformiwla—
(A × ) × B ×
A yw'r gwasanaeth pensiynadwy a gronwyd yn y Cynllun cyn ymddeoliad oherwydd afiechyd diffoddwr tân amser-cyflawn,
B yw—
(a) y gwasanaeth pensiynadwy y byddai'r diffoddwr tân amser-cyflawn wedi'i gronni o ddyddiad ei ymddeoliad oherwydd afiechyd tan ei oedran ymddeol normal petai wedi parhau i fod yn aelod cyfrannol o'r Cynllun ("gwasanaeth rhagolygol" y diffoddwr tân amser-cyflawn); neu
(b) os yw cyfanred gwasanaeth pensiynadwy gwirioneddol y diffoddwr tân amser-cyflawn a'i wasanaeth rhagolygol yn fwy na 40 mlynedd, y gwahaniaeth rhwng 40 mlynedd a gwasanaeth pensiynadwy gwirioneddol y diffoddwr tân amser-cyflawn, ac
C yw tâl pensiynadwy terfynol y diffoddwr tân amser-cyflawn.
(a) sydd neu sydd wedi bod yn gyflogai rhan-amser, neu
(b) sy'n ddiffoddwr tân wrth gefn neu'n ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(A × ) × ( × C) ×
A yw'r gwasanaeth pensiynadwy a gronwyd yn y Cynllun cyn ymddeoliad oherwydd afiechyd yr aelod,
B yw gwasanaeth cymhwysol yr aelod,
C yw'r gwasanaeth pensiynadwy y byddai'r aelod wedi'i gronni o ddyddiad ei ymddeoliad oherwydd afiechyd hyd at ei oedran ymddeol normal petai wedi parhau i fod yn aelod cyfrannol o'r Cynllun fel cyflogai amser-cyflawn, a
D—
(i) yn achos diffoddwr tân rhan-amser, yw'r tâl pensiynadwy terfynol y byddai'r aelod wedi'i gael petai wedi bod yn gyflogai amser-cyflawn drwy gydol ei gyfnod o gyflogaeth;
(ii) yn achos diffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol, yw ei dâl cyfeirio terfynol.
1.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o apêl yn erbyn penderfyniad ar fater meddygol ei natur gan ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad yr apelydd, a
(b) seiliau'r apêl,
(2) Pan—
(a) na fo'r hysbysiad o apêl yn cael ei roi o fewn y cyfnod a bennir yn is-baragraff (1), ond
(b) bo'r awdurdod o'r farn nad oedd methiant y person i'w roi o fewn y cyfnod hwnnw oherwydd diffyg gan y person ei hun,
2.
—(1) Ar ôl cael hysbysiad o apêl, rhaid i'r awdurdod ddarparu i'r Cynulliad dri chopi o'r canlynol—
(a) y hysbysiad o apêl,
(b) yr hysbysiad o'r penderfyniad perthnasol,
(c) y farn, yr ymateb neu'r dystiolaeth (yn ôl y digwydd) a roddwyd i'r apelydd, ac
(ch) pob dogfen arall ym meddiant yr awdurdod neu o dan ei reolaeth y mae'n ymddangos iddo ei bod yn berthnasol i'r mater sy'n destun yr apêl.
3.
—(1) Rhaid i'r bwrdd gynnwys o leiaf dri ymarferydd meddygol a benodir gan y Cynulliad, neu yn unol â threfniadau wneir gan y Cynulliad.
(2) Rhaid bod un aelod o'r bwrdd yn arbenigydd mewn anhwylder meddygol sy'n berthnasol i'r apêl.
(3) Rhaid penodi un aelod o'r bwrdd yn gadeirydd.
(4) Pan fo'r pleidleisiau'n gyfartal ymhlith aelodau'r bwrdd, bydd gan y cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
4.
—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl atgyfeirio apêl i'r bwrdd, rhaid i'r Cynulliad ddarparu i weinyddydd y bwrdd dri chopi o bob dogfen a ddarperir o dan baragraff 2(1).
(2) Rhaid i'r bwrdd drefnu bod un o'u plith yn adolygu'r dogfennau hynny ("yr aelod adolygu").
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau'r adolygiad, rhaid i'r aelod adolygu roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad—
(a) o unrhyw wybodaeth arall y mae'r aelod adolygu yn credu y byddai'n ddymunol er mwyn galluogi'r bwrdd i ddyfarnu'r apêl, a
(b) os felly y mae hi, mai ym marn yr aelod adolygu y gallai'r bwrdd ystyried bod yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu'n amlwg yn ddisail.
(a) pan fo'r aelod adolygu wedi hysbysu'r Cynulliad ei bod yn ddymunol cael gafael ar wybodaeth arall, ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod wneud ei orau glas i gael gafael ar yr wybodaeth honno, a
(b) pan fo'r hysbysiad yn cynnwys barn o'r disgrifiad a grybwyllir yn is-baragraff (3)(b), anfon copi ohono i'r awdurdod.
(a) anfon copi ohono at yr apelydd, a
(b) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd—
(i) hysbysu'r apelydd, os bydd ei apêl yn aflwyddiannus, y gall fod yn ofynnol iddo dalu costau'r awdurdod, a
(ii) ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd hysbysu'r awdurdod o fewn 14 diwrnod o ddyddiad hysbysiad yr awdurdod a yw'r apelydd yn bwriadu mynd ar drywydd yr apêl neu ei thynnu'n ôl.
5.
Os eir ar drywydd apêl, rhaid i'r bwrdd sicrhau bod yr apelydd a'r awdurdod ("y partïon") wedi'u hysbysu—
(a) bod yr apêl i'w dyfarnu gan y bwrdd, a
(b) o gyfeiriad y gellir danfon ato gyfathrebiadau i'r bwrdd sy'n ymwneud â'r apêl.
(a) rhaid i'r bwrdd cyfweld ac archwilio'r apelydd yn feddygol o leiaf unwaith, a
(b) caiff y bwrdd gyfweld yr apelydd neu ei archwilio'n feddygol neu beri i'r apelydd gael ei gyfweld neu ei archwilio'n feddygol ar unrhyw adegau pellach y bydd y bwrdd yn credu ei fod yn angenrheidiol at ddibenion dyfarnu'r apêl.
(3) Rhaid i'r apelydd fod yn bresennol ar yr amser ac yn y lle a bennir ar gyfer unrhyw gyfweliad ac archwiliad meddygol gan y bwrdd neu unrhyw aelod o'r bwrdd neu unrhyw berson a benodir gan y bwrdd at y diben hwnnw.
(4) Os—
(a) bydd yr apelydd yn methu â chydymffurfio ag is-baragraff (3), a
(b) nad yw'r bwrdd yn fodlon bod achos rhesymol am y methiant,
(5) Caiff unrhyw bersonau a benodir at y diben gan yr awdurdod neu gan yr apelydd neu gan y naill a'r llall ohonynt fod yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad o dan y paragraff hwn.
7.
—(1) Pan fo'r naill barti neu'r llall yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig mewn cyfweliad a gynhelir o dan baragraff 6, rhaid i'r parti, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), gyflwyno'r dystiolaeth neu'r datganiad i'r bwrdd ac i'r parti arall ddim llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y cyfweliad.
(2) Pan fo unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig wedi'i chyflwyno neu unrhyw ddatganiad ysgrifenedig wedi'i gyflwyno o dan is-baragraff (1) yn llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y cyfweliad, caniateir i'r parti arall gyflwyno unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu datganiad ysgrifenedig i'r bwrdd ac i'r parti sy'n cyflwyno'r dystiolaeth neu'r datganiad a grybwyllwyd gyntaf hyd at, a chan gynnwys y dyddiad hwnnw.
(3) Pan gyflwynir unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig yn groes i is-baragraff (1), caiff y bwrdd ohirio'r dyddiad a bennir ar gyfer y cyfweliad a'i gwneud yn ofynnol i'r parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu'r datganiad dalu costau rhesymol y bwrdd a'r parti arall sy'n codi o'r gohirio.
8.
—(1) Rhaid i'r bwrdd ddarparu i'r Cynulliad —
(a) adroddiad ysgrifenedig o'i benderfyniad ar y materion meddygol perthnasol, a
(b) os yw'r bwrdd o'r farn yr oedd yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu'n amlwg yn ddisail, datganiad i'r perwyl hwnnw (a gaiff fod yn rhan o'r adroddiad).
9.
—(1) Rhaid i'r canlynol gael eu talu i'r bwrdd a'r aelod adolygu—
(a) unrhyw ffioedd a lwfansau (gan gynnwys y rhai sy'n daladwy i'r aelod adolygu am waith a wnaed ar adolygu dogfennau o dan baragraff 4(2)) a ddyfernir yn unol â threfniadau a wneir gan y Cynulliad, neu
(b) Pan na fo unrhyw drefniadau o'r fath wedi'u gwneud, unrhyw ffioedd a lwfansau y bydd y Cynulliad yn eu pennu o bryd i'w gilydd.
(a) cael eu talu gan yr awdurdod, a
(b) cael eu trin at ddibenion paragraff 10 fel rhan o dreuliau'r awdurdod.
(2) Pan fo'r bwrdd—
(a) yn dyfarnu apêl o blaid yr awdurdod, a
(b) yn datgan mai, yn ei farn ef, yr oedd yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu'n amlwg yn ddisail,
(3) Pan fo—
(a) yr apelydd yn rhoi hysbysiad i'r bwrdd ei fod yn tynnu'r apêl yn ôl, a
(b) yr hysbysiad yn cael ei roi llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer cyfweliad neu archwiliad meddygol o dan baragraff 6(2),
(4) O ran y bwrdd —
(a) pan fo'n dyfarnu apêl o blaid yr apelydd, a
(b) pan nad yw'n cyfarwyddo fel arall,
(5) Cyfanswm yw'r swm o'r canlynol—
(a) unrhyw dreuliau personol a dynnir mewn gwirionedd ac yn rhesymol gan yr apelydd mewn perthynas ag unrhyw gyfweliad o dan baragraff 6, a
(b) os oedd ymarferydd meddygol cymwysedig a benodwyd gan y apelydd yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad o'r fath, unrhyw ffioedd a threuliau a dalwyd yn rhesymol gan yr apelydd mewn perthynas â phresenoldeb o'r fath.
11.
Rhaid trin unrhyw hysbysiad, gwybodaeth neu ddogfen y mae gan apelydd hawlogaeth i'w gael neu i'w chael at unrhyw un o ddibenion yr Atodiad hwn, fel un a ddaeth i law'r apelydd os cafodd ei bostio mewn llythyr a gyfeiriwyd i fan preswyl diwethaf yr apelydd.
Diffoddwyr tân rheolaidd a ddaeth yn aelodau o gynllun 1992 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006
1.
—(1) Mae darpariaethau canlynol y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â diffoddwyr tân rheolaidd a ddaeth yn aelodau o Gynllun 1992 ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Pan fo'r diffoddwr tân, cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, wedi gwneud dewisiad o dan reol G3 o Gynllun 1992 (dewisiad i beidio â thalu cyfraniadau pensiwn), rhaid ymdrin â'r dewisiad hwnnw, ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, fel dewisiad o dan reol 5 o Ran 2 o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (y cyfeirir ato yn yr Atodlen hon fel y "cynllun newydd").
(3) Rhaid ymdrin â chyfnod gwasanaeth y diffoddwr tân fel aelod o Gynllun 1992 fel cyfnod o wasanaeth cymhwysol o dan reol 1(a) o Ran 10 o'r cynllun newydd.
(4) Rhaid ymdrin â chyfnod gwasanaeth pensiynadwy'r diffoddwr tân a gronwyd o dan Gynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy a gronwyd o dan reol 2(1)(a) o Ran 10 o'r cynllun newydd.
(5) Pan fo'r awdurdod tân ac achub, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006, wedi derbyn gwerth trosglwyddo mewn perthynas â'r diffoddwr tân o dan reol F7 (derbyn gwerth trosglwyddo) o Gynllun 1992 —
(a) rhaid ymdrin â'r swm a dderbynnir fel taliad gwerth trosglwyddo a dderbynnir o dan reol 10 Pennod 3 o Ran 12 o'r cynllun newydd, heb ystyried paragraffau (2) a (3) rheol 2 o Ran 10, a
(b) bydd rheol 11 Pennod 3 o Ran 12 yn gymwys fel pe bai'r paragraff canlynol wedi'i roi yn lle paragraff (2)—
"
(2) At ddibenion y cyfrifo hwnnw, mae enillion pensyniadwy'r aelod i'w hystyried yn swm yr enillion hynny ar y dyddiad y daw'r taliad gwerth trosglwyddo i law.".
2.
—(1) Mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â phob person —
(a) a oedd yn aelod o Gynllun 1992 cyn 6 Ebrill 2006 ac yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, a
(b) nad oedd ar unrhyw bryd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn cael pensiwn nac yn berson a chanddo hawlogaeth i gael pensiwn gohiriedig o dan y Cynllun hwnnw.
(a) o'r gwasanaeth pensiynadwy y byddai'r awdurdod yn ystyried bod y person wedi'i gronni yn y cynllun newydd (a'r gwasanaeth hwnnw wedi'i gyfrifo'n unol â pharagraff 3) petai'r person yn dewis trosglwyddo ei hawliau cronedig o dan Gynllun 1992 i'r cynllun newydd, a
(b) bod rhaid i'r person, os yw'n dymuno gwneud y dewisiad hwnnw, ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod heb fod yn hwyrach na 28 Ebrill 2007.
(a) y dyddiad, a gaiff fod yn 6 Ebrill 2006 neu unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd y person yn ei bennu yn yr hysbysiad, sef y dyddiad y dymunai iddo gael ei drin fel y dyddiad pan ddaeth yn aelod o'r cynllun newydd, a
(b) a yw'r person yn dymuno —
(i) cadw ei hawliau cronedig yng Nghynllun 1992, neu
(ii) trosglwyddo'r hawliau hynny, yn ddarostyngedig i baragraff 3, i'r cynllun newydd.
(a) gwasanaeth pensiynadwy'r person a ystyrir yn gronedig fel a grybwyllir yn is-baragraff (2)(a), a
(b) gwasanaeth pensiynadwy rhagolygol y person, gan ragdybio y bydd y person yn parhau i fod a aelod o'r cynllun newydd hyd nes iddo gyrraedd trigain oed,
(5) Pan fo awdurdod tân ac achub yn derbyn dewisiad person i drosglwyddo ei hawliau cronedig, rhaid i'r awdurdod —
(a) cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y maent yn cael hysbysiad y person o dan is-baragraff (2)(b), gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol i roi ei effaith i'r dewisiad hwnnw, a
(b) cyn pen 28 o ddiwrnodau o wneud y trefniadau hynny, darparu i'r person ddatganiad ysgrifenedig o'r gwasanaeth pensiynadwy a gredydwyd yn y cynllun newydd o ganlyniad i drosglwyddo hawliau cronedig y person.
(a) pan fo 6 Ebrill 2006 wedi'i bennu yn ei hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b), fel un a beidiodd â bod yn aelod o Gynllun 1992 ar 5 Ebrill 2006,
(b) pan fo dyddiad diweddarach na 6 Ebrill 2006 wedi'i bennu yn ei hysbysiad o dan is-baragraff (2)(b), fel un a beidiodd â bod yn aelod o Gynllun 1992 ar y diwrnod cyn y dyddiad diweddarach hwnnw, ac
(c) fel un sydd wedi dod yn aelod o'r cynllun newydd ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y trinnir y person fel un sydd wedi peidio â bod yn aelod o Gynllun 1992.
(a) rhaid anwybyddu'r gwasanaeth pensiynadwy a gronodd y person yng Nghynllun 1992 ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw at ddibenion Cynllun 1992;
(b) ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a gwasanaeth cymhwysol y person ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, i'r graddau nad yw'n cronni yn y cynllun newydd, fel petai wedi cronni yn y cynllun newydd; ac
(c) rhaid i'r awdurdod ad-dalu i'r person swm y gwahaniaeth rhwng y cyfraniadau pensiwn—
(i) a wnaed gan y person, fel aelod o Gynllun 1992, ar gyfer y cyfnod a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y bydd yr holl drefniadau angenrheidiol i roi ei effaith i ddewisiad y person wedi'u gwneud, a
(ii) y byddai'r person wedi'u gwneud, fel aelod o'r cynllun newydd, ar gyfer y cyfnod hwnnw.
(a) cyfeiriadau at 6 Ebrill 2006 (ym mha dermau bynnag y bônt) yn gyfeiriadau at y dyddiad diweddarach hwnnw; a
(b) pan fo'r dyddiad diweddarach hwnnw ar neu ar ôl dyddiad dod i rym y Gorchymyn hwn, paragraff (c) wedi'i hepgor.
(a) ymdrinnir â dewisiad y person o dan y rheol honno, er gwaethaf paragraff (5)(b) y rheol honno, fel un sydd wedi'i ddirymu o 6 Ebrill 2006 ymlaen neu, pan fo'r person yn pennu dyddiad diweddarach yn hysbysiad y person o dan is-baragraff (2)(b), o'r dyddiad diweddaraf hwnnw;
(b) nid oes dim ym mharagraff (a) yn effeithio ar hawlogaeth y person i wneud dewisiad o dan reol 6 Pennod 2 o Ran 11 o'r cynllun newydd (dewis prynu gwasanaeth ychwanegol); ac
(c) at ddibenion rheol 5(4) o'r Pennod hwnnw, rhaid gwneud y cyfrifo o dan is-baragraff (a) neu, yn ôl y digwydd, y dyfarniad o dan is-baragraff (b), ar sail oedran y person adeg ei ddewisiad o dan reol G6 o Gynllun 1992.
3.
At ddibenion cyfrifo'r gwasanaeth pensiynadwy yr ystyrir bod person wedi'i gronni yn y cynllun newydd yn sgil trosglwyddo hawliau cronedig y person hwnnw o dan Gynllun 1992, rhaid i awdurdodau tân ac achub—
(a) rhoi sylw i ganllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari'r Cynllun at ddibenion yr Atodlen hon, a
(b) rhaid anwybyddu Pennod 3 Rhan 12 o'r cynllun newydd (trosglwyddiadau i mewn i'r Cynllun).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllun pensiwn newydd ar gyfer ac mewn perthynas â diffoddwyr tân sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ("y Cynllun newydd"). Mae'r Cynllun newydd, a welir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn, yn effeithiol o 6 Ebrill 2006 ymlaen, ac eithrio Rhan 13, a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2007 ymlaen. Mae'r Cynllun newydd yn disodli Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992 ("Cynllun 1992"). Mae pŵer i roi effaith ôl-weithredol i'r Cynllun newydd wedi'i roi gan adran 34 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Mae Rhan 1 o'r Cynllun newydd yn cynnwys darpariaethau cyflwyno cyffredinol, gan gynnwys diffiniadau o'r termau a ddefnyddir yn y Cynllun.
Mae'r Cynllun newydd ar gael i'r holl ddiffoddwyr tân sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yng Nghymru, p'un a ydynt yn ddiffoddwyr tân amser-cyflawn neu'n rhan-amser a phu'n ai'n ddiffoddwyr tân rheolaidd, yn rhai wrth gefn neu'n ddiffoddwyr tân gwirfoddol, sy'n bodloni un o'r meini prawf cymhwyster a welir yn Rhan 2 o'r Cynllun. Mae Rhan 2 yn ymdrin hefyd â dosbarthau eraill o aelodaeth o'r Cynllun.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu pensiynau i aelodau-ddiffoddwyr tân. Mae'n cyflwyno Atodiad 1, sy'n darparu ar gyfer cyfrifo pensiynau afiechyd.
Mae Rhan 4 yn ymdrin, ym Mhennod 1, â phensiynau ar gyfer priodau, partneriaid sifil a phartneriaid enwebedig sy'n goroesi ac ym Mhennod 2, â phensiynau i blant.
Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer talu grantiau marwolaeth a grantiau marwolaeth ar ôl ymddeol.
Mae Rhan 6 yn ymdrin â rhannu pensiwn yn sgil ysgariad.
Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i ddiffoddwyr tân sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
Mae Rhan 8, y mae Atodiad 2 i'r Cynllun yn berthnasol iddi, yn darparu ar gyfer dyfarnu cwestiynau ac apelau sy'n codi o dan y Cynllun.
Mae Rhan 9 yn ymdrin ag adolygu, atal a fforffedu dyfarndaliadau.
Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gwasanaeth cymhwysol a gwasanaeth pensiynadwy.
Mae Rhan 11 yn ymdrin â thâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol.
Mae Rhan 12 yn darparu ar gyfer trosglwyddiadau i mewn ac allan o'r Cynllun.
Mae Rhan 13 yn ymdrin ag agweddau cyfrifyddu ar y Cynllun, gan gynnwys dull gweithredu Cronfa Bensiwn Diffoddwyr Tân pob awdurdod tân ac achub.
Mae Rhan 14 yn darparu ar gyfer talu dyfarndaliadau.
Mae Rhan 15 yn cynnwys darpariaethau amrywiol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch datganiadau blynyddol o fuddion (rheol 4).
Mae'r Cynllun newydd yn wahanol i Gynllun 1992 yn y ffyrdd pwysig canlynol:
(a) mae'n agored i ddiffoddwyr tân wrth gefn a diffoddwyr tân gwirfoddol yn ogystal â diffoddwyr tân rheolaidd;
(b) gellir talu pensiynau i bartner enwebedig yn ogystal â phriod neu bartner sifil;
(c) 60 fydd yr oedran ymddeol arferol; o dan Gynllun 1992, mae'n 55 (gyda rhai eithriadau);
(ch) 65 fydd yr oedran pan gaiff pensiynau gohiriedig eu talu fel rheol; o dan Gynllun 1992, mae'n 60;
(d) caiff aelodau-ddiffoddwyr ofyn i'r pensiwn gael ei dalu'n gynnar o 55 oed, ond bydd y pensiwn hwnnw'n ddarostyngedig i leihad actiwaraidd;
(dd) caiff awdurdodau tân ac achub dalu pensiynau o 55 oed ymlaen heb leihad actiwaraidd am resymau rheoli darbodus, effeithiol ac effeithlon; o dan Gynllun 1992, gellid gwneud taliad o dan amgylchiadau tebyg o 50 oed ymlaen ar yr amod bod gan y diffoddwr tân o leiaf 25 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy;
(e) bydd pensiwn yn cronni yn ôl cyfradd o 1/60 y flwyddyn. Bydd aelod-ddiffoddwr tân yn gallu cronni mwy na 40 mlynedd o wasanaeth pensiynadwy;
(f) bydd aelod-ddiffoddwr tân yn gallu cymudo hyd at chwarter pensiwn yr aelod hwnnw am gyfandaliad a bydd un ffactor cymudo ni waeth beth fo'r oedran neu'r rhyw a bydd pob £1 o bensiwn a gymudir yn darparu cyfandaliad o £12;
(ff) caiff gwelliannau i'r pensiwn afiechyd haen uwch eu seilio ar fformiwla sy'n golygu y bydd gwasanaeth pensiynadwy cronedig yn cael ei gynyddu â 2% ac yna ei luosi â swm y gwasanaeth rhagolygol hyd at yr oedran ymddeol arferol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff gwelliannau eu graddoli'n fwy cyfartal nag o dan Gynllun 1992;
(g) pan fo tâl aelod-ddiffoddwr tân yn cael ei leihau oherwydd newid mewn rôl, bydd yr aelod hwnnw'n gymwys i gael pensiwn hollt. Adeg y lleihad caiff y pensiwn cyntaf ei gau a'i seilio felly ar y gyfradd dâl uwch a dechreuir pensiwn newydd. Pan fydd yr aelod yn ymddeol, bydd y ddau bensiwn yn daladwy;
(ng) bydd y grant marwolaeth pan fydd aelod-ddiffoddwr tân yn marw yn dair gwaith y tâl pensiynadwy ar ddyddiad ei farwolaeth; o dan Gynllun 1992 mae'n ddwywaith y tâl pensiynadwy;
(h) caiff unrhyw bensiwn a delir i oroeswr sy'n oedolyn ac yn 12 mlynedd neu fwy yn iau na'r aelod-ddiffoddwr tân ei leihau â 2.5% am bob blwyddyn neu ran o flwyddyn uwchlaw'r 12 mlynedd, hyd at uchafswm o 50% ; nid oes unrhyw gyfyngiad o'r fath o dan Gynllun 1992;
(i) 8.5% fydd cyfradd gyfrannu'r aelod o dan Gynllun 1992; ar gyfer aelodau a ymunodd cyn 6 Ebrill 2006, 11% oedd y gyfradd.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, ac mae ar gael oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 IUZ (ffôn 01685 729000).
Notes:
[1]
2004 p.21.back
ISBN
978 0 11 091578 4