Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 Rhif 1069 (Cy.109)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071069w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1069 (Cy.109)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
23 Ebrill 2007 | |
Drwy arfer ei bwerau o dan adran 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi[
1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 23 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "unedau" yw unedau cyfeirio disgyblion.
Dirymu
2.
Dirymir Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) 1994[
2] a Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Diwygio) 1996[
3].
Cymhwyso ac addasu deddfiadau
3.
Mae'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unedau gyda'r addasiadau a ragnodir yn yr Atodlen honno.
Datgymhwyso deddfiadau
4.
Nid yw'r deddfiadau a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unedau.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
ATODLEN 1Rheoliad 3
DEDDFIADAU SY'N GYMWYS I UNEDAU (GYDAG ADDASIADAU NEU HEBDDYNT)
RHAN
1
Deddfwriaeth Sylfaenol
Deddf Addysg 1996
1.
Mae adran 404 o Ddeddf Addysg 1996[
5] yn gymwys o ran yr athro neu'r athrawes â gofal uned fel y mae'n gymwys o ran corff llywodraethu ysgol a gynhelir, ond dim ond o ran disgyblion y darperir addysg uwchradd iddynt yn yr uned.
2.
Mae adran 405 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir gyda'r addasiad fod y geiriau ", except so far as such education is comprised in the National Curriculum," yn cael eu hepgor.
3.
Mae adran 559 o'r Ddeddf honno[
6] yn gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
4.
—(1) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[
7] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyda'r addasiadau canlynol.
(2) Mae is-adran (1) yn gymwys os bydd yr amgylchiadau a osodir yn adran 15(6) o'r Ddeddf honno ar unrhyw adeg yn gymwys o ran uned.
(3) Yn is-adran (2) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu ym mharagraff (a), a hepgorer paragraffau (b) a (c).
(4) Yn is-adran (3) hepgorer y cyfeiriad at gorff llywodraethu.
5.
Mae adran 61 o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad y rhodder yn lle cyfeiriadau at y corff llywodraethu gyfeiriadau at bwyllgor rheoli'r uned neu, yn achos uned sydd heb bwyllgor rheoli, yr awdurdod addysg lleol.
6.
Mae is-adrannau (1), (2) a (4) o adran 62 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran uned fel y maent yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Rhan II o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiadau—
(a) bod y cyfeiriad yn is-adran (2)(b) at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at yr athro neu'r athrawes â gofal yr uned, a
(b) bod y cyfeiriad yn is-adran (4) at gorff llywodraethu yn cael ei hepgor.
Deddf Addysg 2002
7.
Mae adran 29(3) o Deddf Addysg 2002[8] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno).
8.
Mae adran 30(4) o'r Ddeddf honno'n gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a gynhelir (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf honno) gyda'r addasiad fod y geiriau "the governing body or (as the case may be)" a "the governing body or" yn cael eu hepgor.
9.
Mae adran 32 o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion a grybwyllir yn adran 32(1) gyda'r addasiad yn adran 32(1)(b), yn achos uned sydd â phwyllgor rheoli, mai'r awdurdod addysg lleol ynghyd â'r pwyllgor rheoli fydd yn penderfynu amserau'r sesiynau ysgol.
10.
Mae adran 101(1)(d) o'r Ddeddf honno yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion arbennig.
Deddf Addysg 2005
11.
—(1) Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005[9] yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi gyda'r addasiadau canlynol.
(2) Hepgorer Pennod 1 a 2, adrannau 36(3)(c), 39(9), 40, 48, 49 a 50 a pharagraff 3(5)(c) yn Atodlen 4.
(3) Yn lle adran 38(3)(c), rhodder "the local education authority".
(4) Yn lle adran 39(3)(b), rhodder "teacher in charge of the unit".
(5) Yn adran 43 ac yn Atodlen 4, o ran uned, ystyr "appropriate authority" yw'r awdurdod addysg lleol.
RHAN
2
Is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999
12.
Mae rheoliad 2 o Reoliadau'r Awdurdod Addysg Lleol (Talu Treuliau Ysgol) 1999[
10] yn gymwys o ran disgybl sy'n mynychu uned fel y mae'n gymwys o ran plentyn sy'n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig.
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
13.
—(1) Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006[
11] yn gymwys o ran unedau fel pe baent yn ysgolion a gynhelir y mae adran 28 o Ddeddf Addysg 2005 yn gymwys iddynt, gyda'r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle'r diffiniad o "awdurdod priodol" yn rheoliad 4(1), rhodder "yr awdurdod addysg lleol".
(3) Yn rheoliad 7(1), hepgorer is-baragraffau (a) i (ch).
(4) Mae rheoliad 7(1)(dd) yn gymwys i unedau fel y mae'n gymwys i ysgolion uwchradd.
Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006
14.
—(1) Mae Rhan 1 o Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006[
12] yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 gyda'r addasiadau canlynol.
(2) Mae'r ddyletswydd o dan reoliad 4(1) yn ddyletswydd yr awdurdod addysg lleol.
(3) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer "15, 26 a 27";
(b) ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraffau (b) ac (c); ac
(c) hepgorer paragraff (3).
(4) Hepgorer rheoliad 6.
(5) Yn rheoliad 7, hepgorer paragraffau (4)(a) a 5.
15.
—(1) Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran unedau fel y mae'n gymwys o ran ysgolion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9 gyda'r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle rheoliad 10, rhodder—
"
(a) Rhaid i'r awdurdod addysg lleol sicrhau pryd bynnag y bydd swydd athro neu athrawes â gofal uned yn wag bod person yn cael ei benodi yn athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal er mwyn cyflawni swyddogaethau athro neu athrawes â gofal o dan unrhyw ddeddfiad.
(b) Wrth benderfynu os yw person yn addas ar gyfer ei benodi'n athro neu'n athrawes â gofal, neu'n athro gweithredol neu'n athrawes weithredol â gofal uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.".
(3) Hepgorer rheoliad 11.
(4) Yn lle rheoliad 12, rhodder—
"
(a) Wrth benodi person i swydd, neu wrth gymryd person ymlaen i weithio mewn dull arall, mewn uned, rhaid i'r awdurdod addysg lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran swyddi staff cymorth a gwaith staff cymorth fel y mae'n gymwys o ran swyddi addysgu a gwaith athrawon".
(5) Hepgorer rheoliad 13.
(6) Yn lle rheoliad 14, rhodder—
"
I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, rhaid i'r awdurdod addysg lleol geisio cyngor yr athro neu'r athrawes â gofal uned, a rhaid iddo ystyried unrhyw gyngor a roddir, cyn gwneud unrhyw benodiad neu ymrwymo i gymryd unrhyw un ymlaen o dan reoliad 12.".
(7) Hepgorer rheoliadau 15 a 17 i 19.
(8) Yn lle rheoliad 16, rhodder—
"
(1) Mae gan yr awdurdod addysg lleol a chan yr athro neu'r athrawes â gofal uned y pwer i atal unrhyw berson a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen heblaw o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ac, ym marn yr awdurdod neu (yn ôl y digwydd) ym marn yr athro neu'r athrawes â gofal, y mae angen ei atal.
(2) Rhaid i'r person sy'n arfer y pwer i atal hysbysu'r person arall sydd â'r pwer i atal o dan baragraff (1) ar unwaith.
(3) Dim ond yr awdurdod addysg lleol a all roi diwedd ar ataliad o dan y rheoliad hwn a phan roddir diwedd ar ataliad, rhaid i'r awdurdod hysbysu'r pennaeth ar unwaith.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "atal" yw atal heb golli tâl.".
ATODLEN 2Rheoliad 4
DEDDFIADAU A DDATGYMHWYSIR O RAN UNEDAU
Deddfwriaeth Sylfaenol
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
1.
Nid yw adrannau 86 [
13] a 94[
14] o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gymwys o ran unedau.
Is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003
2.
Nid yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[
15] yn gymwys o ran unedau.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae adran 19 o Ddeddf Addysg 1996 ("y Ddeddf") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarparu addysg addas yn yr ysgol neu heblaw mewn ysgol ar gyfer y plant hynny o oedran ysgol gorfodol nad ydynt, oherwydd salwch, gwaharddiad o'r ysgol neu fel arall, yn derbyn am unrhyw gyfnod, addysg addas oni wneir trefniadau o'r fath ar eu cyfer. Adnabyddir unrhyw ysgol a sefydlwyd ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd wedi'i threfnu'n arbennig i ddarparu addysg ar gyfer plant o'r fath, yn uned cyfeirio disgyblion.
Mae Atodlen 1 i'r Ddeddf yn darparu ar gyfer rheoliadau sy'n cymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso gwahanol ddeddfiadau addysg i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Maent yn cymryd i ystyriaeth ddeddfwriaeth addysg a basiwyd, ers i rheoliadau gael ei gwneud ddiwethaf i gymhwyso deddfiadau i unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru. Mae'r rheoliadau cynt hynny'n cael eu dirymu gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
1996 p. 56. Rhoddwyd y pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol: gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 579 o Ddeddf 1996. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), mae'r pwerau yn arferadwy gan y Cynulliad o ran Cymru.back
[2]
O.S. 1994/2103.back
[3]
O.S. 1996/2087.back
[4]
1998 p. 38.back
[5]
Diwygiwyd Adran 404 gan baragraff 103 o Atodlen 30, ac Atodlen 31, i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a chan adran 148(1) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21).back
[6]
Diwygiwyd adran 559 gan baragraff 171 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[7]
1998 p. 31. Diwygiwyd adran 19 gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraffau 1 a 79 o Atodlen 9 ohoni (p. 21) a chan adran 45 o Ddeddf Addysg 2005.back
[8]
2002 p. 32.back
[9]
2005 p. 18.back
[10]
O.S. 1999/1727.back
[11]
O.S. 2006/1714 (Cy. 176).back
[12]
O.S. O.S. 2006/873 (Cy. 81).back
[13]
Diwygiwyd adran 86 gan adran 47(1) o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 3 o Atodlen 4, ac Atodlen 22 Rhan 3 iddi.back
[14]
Diwygiwyd adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a chan baragraff 8 o Atodlen 4 iddi.back
[15]
O.S. 2003/3231.back
English version
ISBN
978 0 11 091561 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 April 2007
|