Wedi'u gwneud | 27 Mawrth 2007 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2007 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol |
4. | Myfyrwyr cymwys |
5. | Cyrsiau dynodedig |
6. | Cyfnod cymhwystra |
7. | Astudio blaenorol |
8. | Trosglwyddo statws |
9. | Ceisiadau am gymorth |
10. | Terfynau amser |
11. | Gwybodaeth |
12. | Cymorth at ffioedd yn gyffredinol |
13. | Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd |
14. | Digwyddiadau |
15. | Grantiau at ffioedd — Amodau'r hawl ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn |
16. | Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn |
17. | Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad preifat; myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn |
18. | Grantiau newydd at ffioedd |
19. | Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd |
20. | Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn |
21. | Benthyciadau at ffioedd; Myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant newydd at ffioedd |
22. | Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd |
23. | Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw a chostau eraill |
24. | Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl |
25. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — cyffredinol |
26. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant dibynyddion mewn oed |
27. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant |
28. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — lwfans dysgu rhieni |
29. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — eu cyfrifo |
30. | Grantiau ar gyfer dibynyddion — dehongli |
31. | Amodau'r hawl i gael grant at deithio |
32. | Swm y grant at deithio |
33. | Didyniadau o'r grant at deithio |
34. | Dehongli |
35. | Grantiau addysg uwch |
36. | Grantiau cynhaliaeth |
37. | Grant Cymorth Arbennig |
38. | Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw |
39. | Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn |
40-41. | Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn |
42. | Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng |
43. | Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni |
44. | Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer chwarteri'r flwyddyn academaidd |
45. | Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori |
46. | Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd |
47. | Codiadau yn yr uchafswm |
48. | Didynnu o fenthyciadau at gostau byw |
49. | Dehongli Rhan 8 |
50. | Symiau ychwanegol o fenthyciadau |
51. | Llog |
52. | Benthyciadau at ffioedd coleg |
53. | Cyfrifo'r cyfraniad |
54. | Cymhwyso'r cyfraniad |
55. | Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd |
56. | Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw |
57. | Talu benthyciadau — amodau'r hawlogaeth i gael taliad |
58. | Gofynion o ran gwybodaeth |
59. | Talu benthyciadau at gostau byw |
60. | Gordaliadau |
61. | Dehongli |
62. | Myfyrwyr rhan-amser cymwys |
63. | Cyrsiau rhan-amser dynodedig |
64. | Cyfnod cymhwystra |
65. | Cymorth at gyrsiau rhan-amser |
66. | Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl |
67. | Ceisiadau am gymorth |
68. | Gwybodaeth a materion eraill |
69. | Trosglwyddo statws |
70. | Trosi statws |
71. | Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys |
72. | Talu grantiau at ffioedd |
73. | Gordaliadau |
74. | Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys |
75. | Cyrsiau ôl-radd dynodedig |
76. | Cyfnod cymhwystra |
77. | Trosglwyddo statws |
78. | Ceisiadau am gymorth |
79. | Gwybodaeth |
80. | Swm grantiau |
81. | Talu grantiau |
82. | Gordaliadau |
ATODLEN 1 | MYFYRWYR CYMWYS |
RHAN 1 | MYFYRWYR CYMWYS |
RHAN 2 | CATEGORÏAU |
ATODLEN 2 | CYRSIAU DYNODEDIG |
ATODLEN 3 | GWYBODAETH |
ATODLEN 4 | BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG |
ATODLEN 5 | ASESIAD ARIANNOL |
(ch) a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(b) er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac
(c) os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.
(3) Ac eithrio yn achos rheoliad 31 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at "bresenoldeb" myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd" ("gap-year student") yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (5) neu (6) yn gymwys iddo ac sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ("y cwrs presennol") ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(7) At ddibenion paragraff (5)(a) mae cwrs ("y cwrs gwreiddiol") yn debyg i'r cwrs presennol —
(8) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y cwrs dynodedig a bennir" ("specified designated course") yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10).
(9) Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y "cwrs cychwynnol") y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.
(10) Os yw'r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef ("y cwrs blaenorol"). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.
(11) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd "myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd" ("student who qualifies for a new fee grant") mewn perthynas â chwrs dynodedig ac unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, i'w dehongli yn unol â rheoliad 18.
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r ymadrodd "cwrs dynodedig cymhwysol" ("qualifying designated course"), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 18.
(13) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.
Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), dirymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2007 —
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at —
(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
(8) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn —
mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (9) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
(9) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl rhoi'r gorau i'r cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (8) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4 a 5 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.
(3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys —
(ch) os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(d) os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(dd) os yw'r person, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(5) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
y mae paragraff 3(d) yn gymwys.
(6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth —
(7) Er gwaethaf paragraff (3), ac yn ddarostyngedig i baragraffau (12) a (13), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).
(8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —
(b) bod statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(11) Mae person y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon ei fod yn dod o fewn paragraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (3) uchod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (o fewn ystyr y Rheoliadau hyn), er nad yw'n dod o fewn y ddarpariaeth gyfatebol a geir ym mharagraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(12) Os bydd—
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)[37],
bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(13) Os bydd—
(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fydd y myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
Cyrsiau dynodedig
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw —
(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(ch) yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) At ddibenion paragraff (1) —
(4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed —
(5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
Cyfnod cymhwystra
6.
—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd oni fydd y statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r "cyfnod cymhwystra" ("period of eligibility") yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.
(3) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.
(4) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys —
(c) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —
(ch) i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o "cwrs penben" yn rheoliad 2.
(6) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X) − Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.
(7) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.
(8) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (9), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.
(9) Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2007 yn gymwys.
(10) Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae'r myfyriwr yn gymwys ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.
(11) Yn y rheoliad hwn —
(12) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.
(13) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.
(14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw heblaw yn unol â pharagraffau (3) i (11).
(15) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys —
(16) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(17) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(18) Yn y rheoliad hwn cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) neu gwrs gradd sylfaenol yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd amser-llawn, yn ôl y digwydd, yw "cwrs rhagarweiniol" ("preliminary course").
Astudio blaenorol
7.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.
(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.
(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys —
(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (7).
(7) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac —
(8) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr "cyfnod arferol y cwrs" ("ordinary duration of the course") yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr "myfyriwr safonol" ("standard student") yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(9) Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.
Trosglwyddo statws
8.
—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn perthynas â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.
Gwybodaeth
11.
—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
Digwyddiadau
14.
Y digwyddiadau yw —
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
16.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (3) yw'r lleiaf o'r canlynol—
(3) Y canlynol yw'r achosion—
(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—
(d) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis[43] a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.
(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,195.
(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,445.
(6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd y penderfynir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
(7) Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,150 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(8) Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £610 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—
(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.
Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
17.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—
(2) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £2,905.
Grantiau newydd at ffioedd
18.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
(3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £1,845 neu y gwahaniaeth rhwng £1,225 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £925 neu y gwahaniaeth rhwng £610 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd" ("student who qualifies for a new fee grant"), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd-sy'n berson y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(6) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.
(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "cwrs dynodedig cymhwysol" ("qualifying designated course"), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.
Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)
20.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—
(2) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant at ffioedd yn unol â rheoliad 54.
(3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,225 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £610.
(4) Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd —
(5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant newydd at ffioedd
21.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.
(2) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —
(3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 16(3), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,535.
(4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.
(5) Yr amgylchiadau yw —
(6) Os yw paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae'r myfyriwr hwnnw wedi'i godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo oddi arni.
(7) Os yw paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —
(8) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.
(9) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.
Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd
22.
—(1) Caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad mewn perthynas â mynychu'r cwrs dynodedig cymhwysol.
(2) Uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol —
(3) Os yw'r myfyriwr wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.
(4) Os yw statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o gwrs dynodedig cymhwysol i gwrs dynodedig cymhwysol arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(5) Yr amgylchiadau yw —
(6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae wedi'i gymryd ac/neu unrhyw grant newydd at ffioedd y mae wedi'i dderbyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo ohoni.
(7) Pan fo paragraff (5)(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd —
(4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr "gwasanaeth di-dâl" ("unpaid service") yw —
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol yw —
(9) Ym mharagraff (7) ystyr "cymorth perthnasol" ("relevant support"), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.
(10) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(11) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10) yw —
Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
24.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(ch) £1,645 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
(5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,325 a £1,230, yn y drefn honno —
Grantiau ar gyfer dibynyddion — cyffredinol
25.
—(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol —
(2) Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 26 i 29.
(3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 54.
Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant dibynyddion mewn oed
26.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai —
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw —
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 29 yn cael ei ostwng o hanner —
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant
27.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant sy'n gostau rhagnodedig a dynnir mewn perthynas â phob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'n tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi a hynny ar gyfer —
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[51].
(4) Nid yw myfyriwr cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner mewn perthynas â—
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw —
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant —
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr "costau gofal plant rhagnodedig" ("prescribed childcare charges") yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002[52].
Grantiau ar gyfer dibynyddion — lwfans dysgu rhieni
28.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw £1,435.
Grantiau ar gyfer dibynyddion — eu cyfrifo
29.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 26 i 28 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A — B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol —
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A — B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 26(4).
(5) Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 27(6).
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn —
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd —
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol —
(10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr "chwarter perthnasol" ("relevant quarter") yw —
Grantiau ar gyfer dibynyddion — dehongli
30.
—(1) Yn rheoliadau 25 i 29 —
(dd) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr;
(e) ystyr "rhiant unigol" ("lone parent") yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner —
(ff) at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5; ac
(g) at ddibenion is-baragraffau (dd) a (e), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5.
(ng) at ddibenion rheoliad 27 —
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu —
(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl —
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
Amodau cymhwysol ar gyfer y grant at deithio
31.
—(1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu mewn cysylltiad â'i gwrs unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol a hynny ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.
(2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhan o'i gwrs mewn perthynas â'r costau teithio y mae'n orfodol iddo eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol.
Swm y grant at deithio
32.
—(1) Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £290.
(2) Swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y costau teithio y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol llai £290.
(3) Mae myfyriwr cymwys—
yn gymwys i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm a dynnir.
Didyniadau o'r grant at deithio
33.
Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 30 i 32 yn unol â Rhan 9.
Dehongli
34.
At ddibenion y Rhan hon—
(b) ystyr "chwarter cymhwysol" ("qualifying quarter") yw chwarter y mae myfyriwr cymwys yn treulio o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw yn mynychu, fel rhan o'i gwrs, sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(c) ystyr "costau teithio" ("travel expenses") yw gwariant rhesymol ar deithio o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddibenion mynychu fel rhan o gwrs dynodedig sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.
Grantiau addysg uwch
35.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
(3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn —
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,340, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.
Grant cynhaliaeth
36.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(4) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw —
(5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(7) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
Grant Cymorth Arbennig
37.
—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[56], neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno[57].
(3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(6) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw —
Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn
40.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £38,810.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i
(X−Y) — |
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i
(X−Y) — |
(4) Yn y rheoliad hwn, "swm y grant cynhaliaeth" ("the maintenance grant amount") yw'r canlynol
41.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 a myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon pan fo incwm yr aelwyd yn fwy na £38,810.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng
42.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (heblaw blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw —
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —
(c) os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i
X−Y |
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 43 i 48, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw —
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o fewn rheoliad 23(3)(c) neu 23(5) —
(c) os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i
X−Y |
Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni
43.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
(3) Os yw myfyriwr cymwys yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai ei urdd, trinnir y myfyriwr fel pe bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.
Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer chwarteri o'r flwyddyn academaidd
44.
Yn ddarostyngedig i reoliad 48, mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd ac nid yw'n daladwy mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori
45.
—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 42 yn ystod y flwyddyn academaidd —
Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd
46.
—(1) Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.
(2) Y digwyddiadau yw —
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.
(4) Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas â hwy o dan y rheoliad hwn.
(5) Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Codiadau yn yr uchafswm
47.
—(1) Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:
(2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 39 i 41 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(3) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng
Didynnu o fenthyciadau at gostau byw
48.
—(1) Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o'r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 54.
(2) Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 54.
Dehongli Rhan 8
49.
—(1) Yn y Rhan hon —
(c) mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;
(ch) mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(d) mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4.
(dd) ystyr "y dyddiad perthnasol" ("the relevant date") yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;
(e) "myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn" ("new system eligible student with full entitlement") yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(f) "myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn" ("old system eligible student with full entitlement") yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;
(ff) "myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng" ("student with reduced entitlement") yw myfyriwr cymwys —
(2) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.
Llog
51.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980[58] sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2006 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2007.
(2) Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974[59] mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.
(3) Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.
(4) Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —
(b) pan fo rheoliad 16(3)(a) neu (c) yn gymwys
(c) pan fo rheoliad 16(3)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 17(3) yn gymwys—
(ch) pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf) —
(d) Pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS —
(dd) pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(4) Yn y rheoliad hwn —
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" ("minimum level for the academic year") yw —
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, y "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" ("minimum level for the academic year") yw —
(7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 42 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(8) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(9) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £610 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(10) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,225 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(11) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.
(3) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd mewn rhandaliadau.
(5) Os yw asesu cyfraniad myfyriwr o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad dros dro.
(6) Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
Talu grantiau at gostau byw
56.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol
(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.
(4) Mae eithriad yn gymwys—
(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.
(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff y Cynulliad ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(7) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(8) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—
(9) Yn y rheoliad hwn, y "dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi talu grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—
(11) Os yw taliad grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(13) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.
(14) Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—
Talu Benthyciadau — amodau hawlogaeth i gael taliad
57.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn iddo gael ei fodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw wedi'i fodloni y byddai'n briodol iddo wneud taliad o'r fath o achos amgylchiadau eithriadol, wneud taliad benthyciad i fyfyriwr cymwys heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd, fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy fodd arbennig.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am gytundeb o ran y modd yr ad-delir o dan y rheoliad hwn, caiff gadw unrhyw daliad benthyciad yn ôl hyd oni fo'r person yn darparu yr hyn y gofynnwyd amdano.
Gofynion o ran gwybodaeth
58.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am wybodaeth y mae o'r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n un o'i dinasyddion neu ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennau o dan y rheoliad hwn, caiff gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd oni fydd y person yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu hyd onid yw'n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.
Talu benthyciadau at gostau byw a chostau eraill
59.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 8 mewn rhandaliadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.
(3) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf, neu pan fydd wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i'r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth y sefydliad perthnasol onid oes eithriad yn gymwys.
(5) Mae eithriad yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddo wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.
(6) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.
(7) Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i'w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(8) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr sy'n gymwys i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.
(9) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.
(10) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai'n briodol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.
(11) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (10) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r myfyriwr yn ei achosi.
(12) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.
(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yn llai na'r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall —
Gordaliadau
60.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal o grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill gordal o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid yw o'r farn nad yw'n briodol iddo wneud hynny.
(4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordal o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(7) Yr amgylchiadau yw—
(8) Os oes gordal o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
(9) Caniateir adennill unrhyw ordal o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(10) Caniateir adennill unrhyw ordal o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol —
(11) Pan fo modd adennill gordal o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —
(12) Pan na fo modd adennill gordal o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf.
(13) Yn y rheoliad hwn "y dyddiad perthnasol" ("the relevant date") yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
Taliadau — dehongli
61.
—(1) Yn y Rhan hon—
(ii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymgyflwyno yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—
(iii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—
(b) ystyr "cyfnod talu" ("payment period") yw cyfnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddai wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.
(3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys —
(b) os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.
(4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.
(5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(7) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(8) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth —
(9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).
(10) Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw —
(11) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(12) At ddibenion paragraff (11), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf —
(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(14) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(15) Y digwyddiadau yw —
(16) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (17) neu (18).
(17) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(18) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(19) Os bydd—
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(20) Os bydd—
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(21) Nid yw paragraffau (19) a (20) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
(22) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth—
Cyrsiau rhan-amser dynodedig
63.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62 —
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4) At ddibenion paragraff (1) —
(5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
(c) "myfyriwr amser-llawn safonol" ("standard full-time student") yw myfyriwr y cymerir—
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
Cyfnod cymhwystra
64.
—(1) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r "cyfnod cymhwystra".
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r "cyfnod cymhwystra" ("period of eligibility") ym mharagraff (2) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —
(5) Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5) ystyr "blwyddyn academaidd berthnasol" ("relevant academic year") yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(8) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(9) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—
caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y mae'n penderfynu arno.
Cymorth at gyrsiau rhan-amser
65.
—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw —
(b) grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.
PT | |
× 100 | |
FT |
(3) At ddibenion paragraff (2)—
yn unol â rheoliad 70.
(4) Y "grant sylfaenol" ("basic grant") yw —
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn —
(b) os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(c) os yw'r incwm perthnasol yn £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);
(ch) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £15,715 ond yn llai na £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
(d) os yw'r incwm perthnasol yn £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;
(dd) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £23,700 ond yn llai na £24,315, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);
(e) os yw'r incwm perthnasol yn £24,315 neu fwy ond yn llai na £26,260, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £2.00 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £24,315;
(f) os yw'r incwm perthnasol yn £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;
(ff) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).
(6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol —
(7) At ddibenion y rheoliad hwn —
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner —
(ff) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(8) At ddibenion y rheoliad hwn —
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(c) ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr "cwrs rhan-amser dynodedig a bennir" ("specified designated part-time course") yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwrs rhan-amser (y "cwrs cychwynnol") y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.
Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
66.
—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol —
(ch) £1,230 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
Ceisiadau am gymorth
67.
—(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani a'i chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid anfon gyda'r cais—
(3) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.
(4) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys —
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
Gwybodaeth a materion eraill
68.
—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, gwblhau'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67 (2) ar y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.
(4) Yn y Rhan hon, ystyr "datganiad" ("declaration") yw—
(b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "gwybodaeth am y cwrs" ("course information") yw—
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—
Trosglwyddo statws
69.
—(1) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw —
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(6) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 65(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 65.
Trosi statws
70.
—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 63(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi arno.
(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) —
(4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.
(5) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(6) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) —
Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys
71.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan reoliad 66 ac o dan reoliad 65(1)(b) a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.
(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, beidio â gwneud unrhyw daliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu'r grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 cyn i'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67(2) ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.
(4) Mae eithriad yn gymwys—
Talu grantiau at ffioedd
72.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 65(1)(a) i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y mae'n credu eu bod yn addas.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y mae'n credu eu bod yn briodol.
Gordaliadau
73.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 65(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.
(3) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —
(4) Mae taliad o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(5) Y “dyddiad perthnasol ("relevant date") yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(6) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8), ceir gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(7) Yr amgylchiadau yw—
(8) Yr amgylchiadau yw—
(9) Pan fo gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
(4) Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys —
(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(8) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.
(9) Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10) neu (11)—
(10) Yr amodau yw —
(11) Yr amodau yw —
(12) Os bydd—
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(13) Os bydd—
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau'r cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.
(15) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol —
(16) Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—
(17) Y digwyddiadau yw—
Cyrsiau ôl-radd dynodedig
75.
Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 74 —
(c) os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(ch) nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) At ddibenion paragraff (1) —
(3) At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—
(4) ystyr "myfyriwr amser-llawn safonol" ("standard full-time student") yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —
(5) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 74, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
Cyfnod cymhwystra
76.
—(1) Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.
(2) Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r "cyfnod cymhwystra" ("period of eligibility").
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys —
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y bydd yn penderfynu arnynt.
Trosglwyddo statws
77.
—(1) Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw —
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
Ceisiadau am gymorth
78.
—(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.
(2) Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd
Gwybodaeth
79.
Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
Swm grantiau
80.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.
(2) Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £5,920 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.
(3) At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r "mathau o wariant cymwys" —
Talu grantiau
81.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.
(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.
Gordaliadau
82.
—(1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.
(2) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —
(3) Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(4) Yn y rheoliad hwn, y "dyddiad perthnasol" ("relevant date") yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.
(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (6) a (7), mae gordal o grant o dan y Rhan hon onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.
(6) Yr amgylchiadau yw—
(7) Yr amgylchiadau yw—
(8) Pan fo gordal o grant o dan y Rhan hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[70]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
(b) o ran person cyflogedig o'r Swistir, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunan-gyflogedig ffin y Swistir neu berson hunan-gyflogedig o'r Swistir—
(c) o ran gwladolyn o'r Gymuned Europeaidd sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(ch) o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae "plentyn" ("child") i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod —
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(4) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn cynnwys —
(5) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —
i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r AEE.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd
(2) Person—
(3) Person—
Personau â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd
(2) Person—
(3) Person—
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o'u teulu
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn syrthio o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.
(b) sydd —
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
4.
Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch
nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
3.
Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw.
(ch) ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;
3.
Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 1 Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
5.
Y digwyddiadau yw —
6.
Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.
Talu
(4) Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes ei fod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai ei fod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i "cadarnhad o bresenoldeb" yr un ystyr ag yn rheoliad 53(20).
Gordalu
(f) mae i "myfyriwr cymwys annibynnol" ("independent eligible student") yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
(i) ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys —
(i) ystyr "rhiant" ("parent") yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir "plentyn" ("child"), "mam" ("mother") a "tad" ("father") yn unol â hynny.
Myfyriwr cymwys annibynnol
(f) lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(2) Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.
(b) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,075 yn cael ei ddidynnu —
(4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.
(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant
beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.
mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.
(9) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys
(2) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—
(3) Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,610 mewn unrhyw achos.
Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd
(2) Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £5,910.
Rhannu cyfraniadau- myfyrwyr cymwys nad ydynt yn annibynnol
y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw'r cyfryw gyfran o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall cysylltiedig yn ei hystyried yn gyfiawn o gymryd i ystyriaeth gymhwyso paragraff 7 o'r Atodlen hon i fyfyrwyr cymwys newydd a myfyrwyr presennol yn y drefn honno.
(4) Yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Grantiau Gorfodol) 2003[79] neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968[80] (a dim dyfarniad statudol arall) gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y plant sy'n dal dyfarniad statudol perthnasol.
(6) Os —
cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (7).
cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan is-baragraff (9).
(11) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12), at ddiben cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir i incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant, unrhyw swm sy'n weddill —
(12) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(i) o'r Atodlen hon, cyfrifir y symiau a gaiff eu hadio at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (11) o'r paragraff hwn fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a chyfrifwyd y cyfraniad ar y sail honno mewn gwirionedd ai peidio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill —
(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.
Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —
I fod â hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn "fyfyriwr cymwys". Yn fras, mae person yn fyfyriwr cymwys os yw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig felly y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol. O ran y grantiau "newydd" at ffioedd ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd y cyfeirir atynt yn y rhestr uchod, gweler isod.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
2.
—(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs —
(a) wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru;
(c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
3.
Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
4.
—(1) Person —
(a) sy'n ffoadur;
(b) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac
(c) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;
(b) oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(c) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac
(ch) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(a) sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;
(b) ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;
(c) oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;
(ch) sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a
(d) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5.
—(1) Person—
(a) â chaniatâd I ddod i mewn neu i aros—
(b) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(c) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(a) sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;
(c) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(a) sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâ d i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;
(c) oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;
(ch) sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
6.
—(1) Person —
(a) sydd —
(i) yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunan-gyflogedig o'r EEA;
(ii) yn berson cyflogedig o'r Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig o'r Swistir;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunan-gyflogedig ffin yr EEA;
(v) yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunan-gyflogedig ffin y Swistir; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
7.
Person sydd —
(a) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud[73], fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE [74].
8.
—(1) Person —
(a) sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b) sydd wedi ymadael â'r Deyrnas Unedig ac wedi arfer hawl i breswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
(ch) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(d) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
Gwladolion o'r GE
9.
—(1) Person —
(a) sydd naill ai —
(i) yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(i) yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii) yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.
10.
—(1) Person —
(a) sy'n wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Plant gwladolion o'r Swistir
11.
Person —
(a) sy'n blentyn i wladolyn o'r Swistir y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch) mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r AEE a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
1.
Cwrs gradd gyntaf.
2.
Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.
3.
Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol —
(a) Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu
(b) Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
5.
Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.
6.
Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.
7.
Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol —
(a) yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(b) yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,
8.
Cwrs sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon —
(a) yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) uchod; ond
(b) nad yw'n uwch na safon cwrs gradd gyntaf,
1.
Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2.
Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd —
(a) ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;
(b) ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c) ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(ch) ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(d) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(dd) bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.
Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael
1.
Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.
2.
Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—
(a) ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;
(b) bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c) ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol—
(i) sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2007; neu
(ii) sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2007;
(d) ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac
(e) nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.
4.
Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 5 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(a) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(c) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(ch) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
7.
Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
Yn yr Atodlen hon ystyr "blwyddyn academaidd safonol" ("standard academic year") yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.
Swm y benthyciad at ffioedd coleg
8.
—(1) Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.
Trosglwyddo
9.
Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—
(a) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;
(b) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 11 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu sicrhau hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;
(c) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.
10.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—
(a) cyn ei fod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a
(b) cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol —
(a) os bydd y myfyriwr cymhwysol yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben; a
(b) os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
11.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.
Diffiniadau
1.
Yn yr Atodlen hon —
(a) ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;
(b) ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(c) ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;
(ch) ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;
(d) mae i "incwm aelwyd", "incwm yr aelwyd" ac "incwm sydd gan yr aelwyd", ("household income") yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;
(dd) ystyr "incwm gweddilliol" ("residual income") yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd);
(e) ystyr "incwm trethadwy" ("taxable income"), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion —
(i) y Deddfau Treth Incwm;
(ii) deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu
(iii) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5);
(g) ystyr "myfyriwr cymwys newydd" ("new eligible student") yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
(ng) ystyr "myfyriwr presennol" ("existing student") yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;
(g) ystyr "myfyriwr sy'n rhiant" ("parent student") yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;
(h) ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(i) priod rhiant myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
2.
Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos —
(a) lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(b) lle mae wedi bod yn briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;
(c) lle nad oes ganddo riant yn fyw;
(ch) lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;
(d) lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;
(dd) pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989[75] a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ("y cyfnod perthnasol") ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;
(e) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai —
(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;
(ff) lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;
(g) lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu
(ng) lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod —
(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol ("awdurdod perthnasol");
(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;
(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;
(iv) pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;
(v) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
Incwm yr aelwyd
3.
—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol —
(a) yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac —
(i) yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu
(ii) yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));
(c) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.
(a) am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu
(b) am bob plentyn heblaw'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys
4.
—(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol —
(a) unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988[76] neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004[77], neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(3) Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw —
(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol [78] ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
5.
—(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir —
(a) ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu
(c) o dan is-baragraff (2).
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —
(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;
(c) yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,075.
(4) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.
(5) Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.
(6) Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm —
(a) nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu
(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
(7) Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
(8) Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd —
(a) os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu
(b) os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—
(i) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a
(ii) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol —
(a) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni yn byw gyda'i gilydd fel hyn; a
(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.
(4) Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant
7.
Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.
Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn
8.
—(1) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—
(a) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,100 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £23,100; a
(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,100, dim.
(a) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £10,755 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd yn uwch na £10,755; a
(b) mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £10,755, dim.
(4) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.
(5) Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,610.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried o dan baragraffau 5 a 7; neu
(b) os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
9.
—(1) Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw —
(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £38,810, £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £38,810; a
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £38,810 neu lai, dim.
(3) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10 neu 11.
(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £5,910.
(5) Mae'r is -baragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu
(b) os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.
10.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol.
(2) Mae is-baragraffau (3) i (7) yn gymwys pan fo'r plant sy'n fyfyrwyr cymwys i gyd naill ai'n fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn neu i gyd yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd.
(3) Am unrhyw flwyddyn pan fo gan y canlynol ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (4)—
(i) mwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr cymwys;
(ii) rhiant y myfyriwr cymwys; neu
(iii) partner rhiant y myfyriwr cymwys,
(5) Os na fyddai'r cyfraniad, o ganlyniad i'r dosrannu o dan is-baragraff (4), yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn lle hynny—
(i) yn gyntaf mewn perthynas â'r dyfarniad statudol lleiaf (neu bob un dyfarniad statudol o'r fath) y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo; a
(ii) yna, yn nhrefn gynyddol maint, mewn perthynas â phob dyfarniad statudol sy'n weddill ac y caniateir i'r cyfraniad fod yn gymwys iddo, hyd oni ellir dosrannu balans y cyfraniad yn gyfartal heb fod unrhyw ran ohono'n weddill neu hyd oni na fydd yn weddill unrhyw ran o unrhyw ddyfarniad statudol na chymhwyswyd y cyfraniad iddi.
(a) oes partner gan riant y myfyriwr cymwys yr asesir ei incwm o dan yr Atodlen hon;
(b) bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol y rhiant hwnnw'n daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i naill ai'r rhiant hwnnw neu i'w bartner; a
(c) na fydd y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath yn mhob achos,
(7) Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, mae'r cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) o is-baragraff (6) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy ac os na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniad statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys ar eu haelwyd berthnasol.
(8) Os—
(a) bydd cyfraniad yn cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn i'r rhiant hwnnw neu i bartner y rhiant hwnnw; a
(b) nad yw'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yr un fath ym mhob achos oherwydd bod rhai o'r myfyrwyr cymwys yn fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a rhai yn fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd,
(9) Pan fo is -baragraff (8) yn gymwys, bydd y cyfraniad mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn swm hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff (8) neu (9) wedi'i rannu â nifer y myfyrwyr cymwys y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) o is-baragraff (8) y mae cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â hwy a phan na ddiddymir y cyfraniad drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, cymhwysir gweddill y cyfraniad yn yr un modd ag yn is-baragraff (5) i ddyfarniadau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan yr hen drefn pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac i grantiau statudol perthnasol y myfyrwyr cymwys eraill o dan y drefn newydd pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.
(10) Pan fo cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un o blant y rhiant hwnnw neu bartner y rhiant hwnnw, os oes partner, a bod incwm gweddilliol unrhyw fyfyriwr cymwys o'r fath yn fwy na dim, cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) cyfrifir y cyfraniad mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys heb gyfeirio at baragraff 4 ond fel arall yn unol â'r Atodlen hon ac fe'i dosrennir rhwng pob myfyriwr cymwys yn unol â'r paragraff hwn;
(b) yna cymhwysir yn ychwanegol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys gyfraniad pellach o £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi'r swm a gyfrifir mewn perthynas â'r myfyriwr o dan baragraff (c) o'r is-baragraff hwn yn uwch na £23,100 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd;
(c) y swm y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn yw cyfanswm unrhyw symiau a gyfrifir o dan baragraffau 4, 5 a 7 (lle y bo'n briodol) o'r Atodlen hon gyda'r swm (os oes swm) sy'n peri bod cyfanswm y symiau a gyfrifir o dan baragraffau 5 a 7 yn uwch na £23,100 wedi'i ddidynnu pan fo'r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen system neu'n uwch na £38,810 pan fo myfyriwr yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd.
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw'n fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan y paragraff hwn.
(13) Yn y paragraff hwn, ystyr "aelwyd berthnasol" ("relevant household") yw'r holl fyfyrwyr cymwys hynny y cyfrifir cyfraniad mewn perthynas â hwy drwy gyfeirio at yr un incwm o dan baragraffau 5 a 7.
Rhannu cyfraniadau — myfyrwyr cymwys annibynnol
11.
—(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(a) am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol heblaw dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater o'r farn ei fod yn gyfiawn;
(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir ynddi mae ddyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003[81] neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968[82] (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner y myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9;
(c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr o dan y drefn newydd.
(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dosrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.
Mae'r Rheoliadau yn dirymu Rheoliadau 2006 a'r Rheoliadau diwygio. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Mae'r newidiadau sylweddol a wneir yn y Rheoliadau hyn (heblaw cyfraddau grantiau a benthyciadau) wedi'u nodi isod.
Mae'r gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd (a gyflwynwyd gan Reoliadau 2006) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn yn cael ei gadw (rheoliad 2(1)).
Mae myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —
· grant at ffioedd (Rhan 4);
· benthyciad at gyfraniad at ffioedd (rheoliad 20);
· grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);
· grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);
· grant at deithio (rheoliad 31);
· grant addysg uwch (rheoliad 35); a
· benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).
· grantiau at ffioedd newydd (rheoliad 18);
· benthyciadau at ffioedd (rheoliadau 21 a 22);
· grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);
· grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);
· grant at deithio (rheoliad 31);
· grant cynhaliaeth (rheoliad 36);
· grant cymorth arbennig (rheoliad 37); a
· benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).
Dim ond ar gyfer cyrsiau "dynodedig" o fewn ystyr rheoliadau 5, 63 ac Atodlen 2 y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.
Mae'r Rheolau ar astudio blaenorol heb eu newid (rheoliadau 6 a 7). Yn gyffredinol, mae myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys i gael cymorth at ffioedd a grantiau cynhaliaeth am hyd arferol eu cwrs ac am un flwyddyn ychwanegol. Gostyngir nifer y blynyddoedd pryd y mae cymorth ar gael ar sail nifer y blynyddoedd y rhoddwyd cymorth at addysg uwch eisoes. Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn 1 Medi 2006, bydd cymorth ar gael am hyd arferol eu cwrs. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu estyn cymhwystra os oes rhesymau personol anorchfygol dros wneud hynny mewn perthynas â'r myfyriwr o dan sylw. Mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael drwy gydol y cyfnod cymhwystra, sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn gorffen y cwrs dynodedig. Bydd myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n parhau llai na dwy flynedd yn esempt rhag y rheolau ar astudio blaenorol.
Ni fydd myfyrwyr sydd â chymhwyster gradd anrhydedd oddi wrth sefydliad addysg uwch yn y DU yn gymwys fel arfer i gael cymorth o dan y Rheoliadau, ond bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs ail radd sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirlun, dylunydd tirlun, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref yn dal yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.
Mae Pennod 1 o Ran 4 o'r Rheoliadau yn darparu i fyfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd fod â hawl i gael cymorth o dan Ran 4.
Mae Pennod 2 o Ran 4 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant at ffioedd. O 2007 ymlaen, mae grant (uwch) newydd at ffioedd yn cael ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys o dan y drefn newydd (rheoliad 18). Rhaid i fyfyrwyr, os gwladolion y DU ydynt, fod wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ers tair blynedd cyn dechrau'r cwrs, ond nid yw hyn yn gymwys i wladolion Aelod-wladwriaethau'r GE. Dim ond i fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau mewn sefydliadau a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Medi 2006 y mae'r grant yn gymwys. Mae grant llai at ffioedd yn dal ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys o dan yr hen drefn.
Mae Pennod 3 o Ran 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at ffioedd. Mae rheoliad 22 yn cyflwyno benthyciad llai newydd at ffioedd i'r myfyrwyr hynny sydd â hawl i gael y grant (uwch) newydd at ffioedd. Uchafswm y benthyciad yw £1,225 neu £610 o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3). Mae rheoliad 20 yn parhau i ddarparu ar gyfer benthyciadau at gyfraniad at ffioedd heb fod yn fwy na £1225 am bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr sy'n gymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. £610 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3). Mae rheoliad 21 yn parhau i ddarparu ar gyfer benthyciad at ffioedd hyd at fwyafswm o £3,070 am bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael y grant newydd at ffioedd mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy ganddynt mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. £1535 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3).
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw. Mae'r grant cynhaliaeth a'r grant cymorth arbennig o dan brawf modd a gyflwynwyd gan Reoliadau 2006 yn parhau. Nid yw'r grant arbennig i fyfyrwyr sy'n ymadael â gofal ar gael mwyach. Erbyn hyn, mae'r grant at ofal plant ar gael ar gyfer unrhyw fath o ofal plant sy'n cyfrif fel gofal plant at ddibenion credydau treth o dan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Credydau Treth 2002 (gan gynnwys, yn benodol, gofal plant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon).
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth yn parhau i fod yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth a thelir hyd at £1,225 o'r grant yn lle elfen o'r benthyciad myfyriwr. Parheir i ostwng yr hawl i gael benthyciad cynhaliaeth o £1 am bob £1 o'r grant sy'n daladwy hyd at uchafswm o £1,225. Un darn bach o resymoli yw y bydd myfyriwr sy'n mynychu sefydliad dros y môr yn perthyn i "gategori 3" at ddibenion cyfrifo hawliau.
Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer "benthyciadau at ffioedd coleg" (a gyflwynwyd gan Reoliadau diwygio 2006). Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.
Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir cyfraniad gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.
Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.
Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.
Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.
Notes:
[1]
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79) a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(c56)).back
[3] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back
[4] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back
[5] Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.back
[6] OJ L158, 30.04.2004, t.77-123.back
[7] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back
[8] 1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.back
[9] O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972.back
[10] 1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.back
[11] O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6.back
[12] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back
[14] Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).back
[15] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.back
[16] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back
[18] O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.back
[19] O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912.back
[20] O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174.back
[21] O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059.back
[31] O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084.back
[34] O.S. 2006/126 (Cy.19).back
[35] O.S. 2006/1863 (Cy.196).back
[36] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back
[38] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back
[39] O.S. 1999/2263, a ddiwigiwyd gan O.S. 2001/2893.back
[40] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back
[41] Diffinnir ffioedd ("fees") yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).back
[42] Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.back
[43] Enw blaenorol Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis.back
[44] 1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), adran 1(2).back
[45] Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, paragraff 6.back
[47] Mewnosodwyd adran 16BA gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002, adran 6(1).back
[49] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back
[50] 1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56.back
[52] Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth ac Uchafsymiau) 2002 (O.S. 2002/2005, fel y'i diwygir gan O.S.2003/701, S.I. 2003/2815, S.I. 2004/762, S.I. 2004/1276, S.I. 2004/2663, S.I. 2005/769, S.I. 2005/2919, S.I. 2006/766) yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly gostau gofal plant rhagnodedig, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.back
[55] 1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p.31), adran 49 (3).back
[56] 1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981; mae yna offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back
[57] Y rheoliad perthnasol yw 48A o Reoliadau Bydd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971). Mewnosodwyd rheoliad 48A gan O.S. 1990/1549; mae O.S 1992/432, 1995/626, 1996/1510 a 1998/766 yn offerynnau diwygio perthnasol.back
[58] O.S. 1980/51, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/596 ac O.S. 1999/3177.back
[60] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back
[61] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back
[62] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr (Yr Alban) 2001 (dsa6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back
[63] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back
[64] 1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3 a'r Ddedff Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), Atodlen 24.back
[65] 1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6 and the Civil Partnership Act 2004 (c.33), Atodlen 24..back
[66] 1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'u hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. 19) gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig.back
[67] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back
[69] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back
[72] 1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).back
[73] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D-Dn 1968 (II) t.475).back
[74] ystyr "Cytundeb yr EEA" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(Cm 2073, ) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(Cm 2183);back
[76] 1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10 and the Income Tax (Trading and other Income) Act 2005, Atodlen 1. Ni ddaeth diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.back
[78] "Financial Statistics" (ISSN 0015-203X).back
[79] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038, O.S. 2004/1792, O.S. 2005/2083 ac O.S. 2005/3137.back
[80] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p.58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Glwadol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 ac 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (yr Alban) 2004 (Addasiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back