British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1041 (Cy.101)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071041w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1041 (Cy.101)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
9 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ebrill 2007.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("
the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Symiau y mae eu hangen at anghenion personol
2.
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[
4] yw £20.88 yr wythnos.
Dirymu
3.
Mae rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006[
5] drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau
4.
Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau (Terfyn Cyfalaf — Cymru) yn lle'r ffigur "£21,500" rhodder y ffigur "£22,000".
Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau
5.
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf — Cymru)—
(a) yn lle'r ffigur "£16,000" rhodder y ffigur "£17,250" yn y ddau le y mae'n ymddangos; a
(b) yn lle'r ffigur "£21,500" rhodder y ffigur "£22,000".
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
6.
—(1) Yn lle paragraff 28A o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau rhodder y canlynol—
"
28A.
—(1) Any child benefit, except in circumstances where a resident is accompanied by the child or qualifying young person in respect of whom the child benefit is payable and accommodation is provided for that child or qualifying young person under Part 3 of the Act.
(2) In this paragraph, "child" and "qualifying young person" have the same meaning as in section 142 of the Contributions and Benefits Act.".
(2) Ym mharagraff 28H—
(a) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur "£5.05" rhodder y ffigur "£5.25" ym mhob lle y mae'n ymddangos; a
(b) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur "£7.50" rhodder y ffigur "£7.85" ym mhob lle y mae'n ymddangos.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ("y Ddeddf"), ei angen at eu hanghenion personol. O 9 Ebrill 2007 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £20.88 yr wythnos.
Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").
Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan y Ddeddf.
Mae'r diwygiadau yn darparu ar gyfer cynnydd yn y terfynau cyfalaf, cynnydd yn y swm o gredyd cynilion sydd i'w ddiystyru ac ar gyfer diwygiad i'r esemptiad sy'n gymwys o ran budd-dal plant.
Notes:
[1]
1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back
[4]
1948 p.29.back
[5]
O.S. 2006/1051.back
[6]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
978 0 11 091566 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 April 2007
|