British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 1039 (Cy.99)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071039w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1039 (Cy.99)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
29 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997
2.
Yn y diffiniad o "NHS sight test fee" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2]—
(a) yn lle "£50.77" rhodder "£52.04"; a
(b) yn lle "£18.39" rhodder "£18.85";
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.5% yn ffioedd prawf golwg y GIG.
Notes:
[1]
2006 p.42.back
[2]
O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091556 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 April 2007
|