British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 Rhif 1030 (Cy.97) (C.43)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071030w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1030 (Cy.97) (C.43)
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
27 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwer a roddwyd gan adran 68(3)(b) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Teitl a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Lles Anifeiliaid 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn darpariaethau
2.
—(1) Daw darpariaethau canlynol Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i rym pan wneir y Gorchymyn hwn—
(a) Adrannau 1 i 7;
(b) Adran 8(1), (2), (7) ac (8);
(c) Adrannau 9 i 12;
(ch) Adran 13 ac Atodlen 1;
(d) Adrannau 17 i 45;
(dd) Adrannau 51 a 52;
(e) Adran 53 ac Atodlen 2;
(f) Adrannau 54 i 60;
(ff) Adrannau 62 a 63;
(g) Adran 64 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 3 a bennir ym mharagraff (h);
(ng) Adran 65 i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau Atodlen 4 a bennir ym mharagraff (i);
(h) Atodlen 3 ac eithrio paragraff 3(1);
(i) Atodlen 4 ac eithrio—
(i) Adran 2 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p.35);
(ii) Adrannau 2, 3, 6, 7 ac 8 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol ) 1968 (p.34);
(iii) Adrannau 37 i 39 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) a pharagraff 8 o Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.
(j) Adran 66.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ddarpariaethau penodol yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Pennir y darpariaethau yn erthygl 2(1) a deuant i rym ar adeg gwneud y Gorchymyn hwn ar 27 Mawrth 2007.
Notes:
[1]
2006 p. 45.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091558 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 April 2007
|