British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 1027 (Cy.94)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071027w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1027 (Cy.94)
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
28 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.
Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
Dirymiadau
2.
Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
YR ATODLENRheoliad 2
DIRYMIADAU
Yr offeryn a ddirymir
|
Y Cyfeirnod
|
Graddau'r Dirymu
|
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982 |
O.S. 1982/ 1884 |
Y cyfan o'r Rheoliadau. |
Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987 |
O.S. 1987/ 114 |
Y cyfan o'r Rheoliadau. |
Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 |
O.S. 2001/ 2682 |
Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D[3]; a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 [4]. |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen, o ganlyniad i ddisodli eu sylwedd gan Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1968 p. 34. Gweler adrannau 8(4) a 50 am y dehongliad o "the Ministers". Cafodd swyddogaethau'r Gweinidogion, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
Mewnosodwyd Atodlen 3D gan O.S. 2002/1898 (yn rheoliad 2(8)).back
[4]
Amnewidwyd Atodlen 6 gan O.S. 2003/1726 (yn rheoliad 3(4)).back
English version
ISBN
978 0 11 091565 4
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 April 2007
|