Wedi'u gwneud | 13 Mawrth 2007 | ||
Yn dod i rym | 6 Ebrill 2007 |
1. | Enwi, cymhwyso a chychwyn |
2. | Dehongli |
3. | Hysbysiad o ddaliadau |
4. | Tagiau clust |
5. | Cofrestru gwartheg |
6. | Pasbortau gwartheg |
7. | Hysbysiad o symud neu farwolaeth |
8. | Cofnodion |
9. | Codi tâl am wybodaeth |
10. | Pwerau arolygwyr |
11. | Pwerau i gyfyngu ar symudiadau |
12. | Cigydda anifeiliaid heb eu marcio |
13. | Rhwystro |
14. | Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol |
15. | Cosbau |
16. | Gorfodi |
17. | Dirymiadau |
ATODLEN 1 — | Tagiau clust |
ATODLEN 2 — | Cofrestru gwartheg |
ATODLEN 3 — | Pasbortau gwartheg |
RHAN 1 — | Pasbortau |
RHAN 2 — | Symud gan ddefnyddio pasbortau |
ATODLEN 4 — | Hysbysiad o symud neu farwolaeth |
ATODLEN 5 — | Cofnodion |
(2) Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—
fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
(2) Pan fydd yn derbyn hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi nod buches ar gyfer pob daliad.
(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.
ac yn y rheoliad hwn mae "mangre" yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.
(2) Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.
(3) Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—
Pwerau i gyfyngu ar symudiadau
11.
Yn unol ag ail baragraff Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno i geidwad anifeiliaid ar ddaliad hysbysiad yn cyfyngu symudiadau gwartheg i'r daliad ac ohono os yw wedi'i fodloni bod angen hyn er mwyn gorfodi'r Rheoliad hwnnw, y Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98, Rhif 509/1999, Rhif 911/2004 a Rhif 644/2005, a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw'n euog o dramgwydd.
Cigydda anifeiliaid heb eu marcio
12.
Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98.
Rhwystro etc
13.
—(1) Mae person sydd—
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n rhoi gwybodaeth anwir yn unrhyw hysbysiad a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
14.
—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr "cyfarwyddwr" mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Cosbau
15.
Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
Gorfodi
16.
—(1) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion yn eu gorfodi hwy ei hunan.
Dirymiadau
17.
Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[27]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
(2) Y person sy'n gyfrifol am beri bod modd adnabod gwartheg drwy osod tag clust ym mhob clust yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yw'r ceidwad.
(3) Yn unol ag Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000—
(4) Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad yn Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 i osod tag clust o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) uchod yn euog o dramgwydd.
Ffurf y tagiau clust
2.
—(1) Rhaid bod tagiau clust a osodir o dan Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004, rhaid bod gan y ddau dag clust y logo a bennir ym mharagraff 11 (yn achos tag clust deuddarn, rhaid bod y logo ar y ddau ddarn), y llythrennau "UK" a'r Rhif unigryw a ddyrennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Yn unol ag Erthygl 1(3) o'r Rheoliad hwnnw gall tag clust hefyd gael cod bar.
(4) Caniateir i'r pwer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (pwer i ddewis deunydd neu fodel gwahanol ar gyfer yr ail dag clust) cael ei arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Symudiad o ddaliad
3.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd unrhyw berson sy'n symud anifail o ddaliad gan dorri trydydd paragraff Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae unrhyw berson sy'n symud o ddaliad wartheg y dylid bod wedi'u tagio neu'u marcio o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol na chafodd eu tagio neu'u marcio'n gywir yn euog o dramgwydd.
(3) Os bydd anifail mewn marchnad heb gael ei dagio neu'i farcio'n gywir, caiff arolygydd ddyroddi trwydded i'r ceidwad yn caniatáu i'r anifail gael ei symud o'r farchnad i ddaliad a bennir yn y drwydded.
(4) Bydd unrhyw berson a fydd yn symud anifail gan dorri'r drwydded neu dorri unrhyw amod o'r drwydded yn euog o dramgwydd.
Tagiau clust o'r newydd
4.
—(1) Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4(5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1760/2000, a bydd unrhyw berson sydd naill ai'n tynnu neu'n ailosod tag clust (neu dag clust a roed ynghlwm o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol) heb ganiatâd yn groes i'r Erthygl honno neu Erthygl 4(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.
(2) Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr ar neu ar ôl 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, ei ailosod gan dag clust arall sy'n dwyn yr un Rhif (rhaid iddo fod yn brif dag os oedd y gwreiddiol yn brif dag, neu'n brif dag neu'n ail dag oes oedd y tag gwreiddiol yn ail dag) ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
(3) Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr cyn 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, naill ai ei aildagio gan dag clust sengl arall, neu ei aildagio â thagiau dwbl yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.
(4) Os bydd anifail a anwyd y tu allan i Brydain Fawr yn colli tag clust rhaid i'r ceidwad, o fewn 28 o ddiwrnodau o ddarganfod bod y tag clust tag wedi cael ei golli, ei aildagio gan ddefnyddio tag o'r newydd—
a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.
(5) Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd ei ddefnyddio cyn hynny i ddarnodi anifail gwahanol.
(6) Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd Rhif y tag clust ei ddefnyddio eisoes ar anifail gwahanol.
(7) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy neu weithredydd marchnad.
Newid Rhif tag clust
5.
Os caiff anifail a anwyd cyn 1 Ionawr 1998 ei aildagio gan rif tag clust gwahanol, rhaid i'r ceidwad, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gosod y tag clust a beth bynnag cyn bod yr anifail yn cael ei symud oddi ar y daliad, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r Rhif tag clust newydd a dychwelyd yr hen basbort gwartheg gyda chais bod pasbort gwartheg newydd yn cael ei ddyroddi gyda'r Rhif tag clust newydd a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
Tagiau clust i anifeiliaid a gedwir at ddibenion diwylliannol neu hanesyddol
6.
—(1) Caiff person sy'n cadw gwartheg at ddibenion diwylliannol neu hanesyddol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gofrestru ei ddaliad at y diben hwn yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo daliad ar gyfer y dibenion hyn, mae'r rhanddirymiad sy'n ymwneud â thagio yn erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw yn gymwys, ar yr amod bod y gwartheg yn cael eu darnodi drwy gyfrwng darnodydd electronig sydd yn y bolws cnoi cil.
Marciau dros dro
7.
Os nad yw anifail wedi cael ei dagio yn unol â'r Rheoliadau hyn neu'n unol â deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, caiff arolygydd osod marc adnabod arno.
Masnach o fewn y Gymuned
8.
Mae'n dramgwydd i draddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned oni chafodd ei dagio ym mhob clust â thag clust a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000.
Mewnforion o drydydd gwledydd
9.
—(1) Mae unrhyw berson sy'n methu â gosod tagiau clust ar anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifail gael ei ryddhau o safle arolygu ar y ffin lle y'i mewnforiwyd, a beth bynnag cyn i'r anifail adael y daliad cyrchu, fel a bennir yn Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, yn euog o dramgwydd.
(2) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gaiff ei gyhuddo o dan y rheoliad hwn i brofi—
Addasu a storio tagiau clust
10.
—(1) Mae'n dramgwydd i addasu, difodi neu ddifwyno tag clust a osodwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 neu o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, neu farc dros dro a osodwyd gan arolygydd yn unol â pharagraff 7 (marciau dros dro).
(2) Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant dagiau clust a ddyroddwyd ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn eu cadw mewn lle diogel, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
Logo ar gyfer tagiau clust
11.
Dyma logo'r goron ar gyfer tagiau clust—
a rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
Cofrestru genedigaeth
3.
—(1) Pan enir llo rhaid i'w geidwad ei gofrestru o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y caiff ei dagio (neu, yn achos buches odro, o'r dyddiad pan osodir ail dag clust ar yr anifail).
(2) Yn achos bison, y terfyn amser ar gyfer cofrestru yw 7 niwrnod ar ôl genedigaeth y llo, p'un a yw'r llo wedi cael ei dagio ai peidio, a rhaid i'r cais ddatgan y Rhif tag y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer yr anifail.
Cofrestru gwartheg y dygir hwy i mewn o aelod-wladwriaeth arall etc.
4.
—(1) Os dygir gwartheg i mewn o aelod-wladwriaeth arall, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r ceidwad, o fewn 15 o ddiwrnodau ar ôl i anifail gyrraedd y daliad cyrchu—
(2) Os dygir gwartheg i mewn o le a bennir ym mharagraff (1) a bod y daliad cyrchu yn farchnad neu'n dir sioe, nid yw darpariaethau paragraff (1) yn gymwys nes bod yr anifail yn cyrraedd daliad nad yw'n farchnad neu'n dir sioe.
(3) Nid yw'r gofyniad i gofrestru'n gymwys o ran gwartheg mewn lladd-dy.
Gwartheg o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
5.
—(1) Yn achos gwartheg a fewnforir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd rhaid i'r ceidwad gofrestru anifail o fewn 15 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae'n rhaid tagio'r anifail yn unol â pharagraff cyntaf Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000.
(2) Nid yw'r gofyniad i gofrestru'n gymwys o ran gwartheg mewn lladd-dy.
a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn euog o dramgwydd.
(2) Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd pasbort hyd nes y mae wedi'i fodloni bod y pasbort yn disgrifio'n gywir anifail ym meddiant y ceidwad a bod cofnodion o'r symudiadau yn y pasbort yn gywir.
Anifeiliaid a gafodd eu dwyn
6.
Os collir anifail â phasbort gwartheg neu os caiff ei ddwyn, rhaid i'r ceidwad anfon y pasbort gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 7 niwrnod ar ôl dod yn ymwybodol o'r ffaith, ynghyd â manylion ysgrifenedig o'r hyn a ddigwyddodd, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
Addasiadau
7.
Mae'n dramgwydd i addasu neu ddifwyno unrhyw wybodaeth mewn pasbort gwartheg.
Camddefnyddio pasbort
8.
Mae'n dramgwydd i ddefnyddio pasbort gwartheg mewn cysylltiad ag anifail heblaw'r anifail y rhoddwyd ef ar ei gyfer.
a rhaid iddo'i lofnodi.
(3) Rhaid iddo wneud hyn o fewn 36 o oriau ar ôl i'r anifail gyrraedd.
(4) Ni chaiff neb symud yr anifail oddi ar y daliad nes bod y pasbort wedi'i gwblhau yn unol â'r paragraff hwn.
(5) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Mewnforio gwartheg
12.
—(1) Yn achos gwartheg a ddygir i Gymru o'r tu allan i Brydain Fawr, caniateir symud yr anifail o'r fan y daeth i mewn i Gymru i'r daliad lle y mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â pharagraff 4 neu 5 o Atodlen 2 gan ddefnyddio'i basbort (os oes un ganddo) neu ei ddogfen symud.
(2) Os oes ganddo basbort, rhaid i'w geidwad ei gwblhau yn unol â'r Atodlen hon, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
Allforion
13.
—(1) Pan fydd gwartheg yn cael eu hallforio i drydydd gwledydd rhaid i'r ceidwad anfon y pasbortau gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Pan fydd gwartheg yn cael eu cludo'r tu allan i Brydain Fawr i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r cludwr sicrhau bod ei basport gyda phob anifail, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
Marchnadoedd a chrynoadau anifeiliaid
14.
—(1) Mae gweithredydd marchnad neu grynhoad anifeiliaid arall yn cyflawni tramgwydd os derbynnir unrhyw wartheg heb basbort gwartheg dilys (neu, yn achos gwartheg a fewnforir, dogfennau'n caniatáu iddynt gael eu symud).
(2) Yn y paragraff hwn a'r paragraff canlynol ystyr "crynhoad anifeiliaid" yw achlysur pan fydd anifeiliaid yn cael eu casglu at ei gilydd at un neu fwy o'r dibenion canlynol—
Trwyddedau
15.
Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol (neu, yn achos anifail mewn marchnad, crynhoad anifeiliaid neu ladd-dy, caiff arolygydd) ddyroddi trwydded ar unrhyw adeg i symud gwartheg heb basbort gwartheg os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny ac nad yw'n ymarferol i gael gafael ar un.
a rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Hysbysiad o farwolaeth
2.
—(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion y farwolaeth yn y pasbort a'i roi i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd ar adeg y cigydda.
(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy roi'r pasbort i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd pan fydd yr anifail yn cyrraedd y lladd-dy.
(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd, rhaid i'r ceidwad hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod.
(4) Os nad oes pasbort gwartheg gan anifail, rhaid i'r ceidwad hysbysu ei farwolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn saith niwrnod, gan gynnwys y Rhif tag clust, dyddiad y farwolaeth a'r daliad lle y bu farw.
(5) Yn y paragraff hwn ystyr "milfeddyg swyddogol" yw'r person a benodir i'r swydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(6) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth yn Erthygl 8 o 911/2004 ac, yn ychwanegol at hynny, manylion pwy yw'r fam (yn achos trosglwyddo embryo, manylion pwy yw'r fam fenthyg ac, os yw'n hysbys, y fam enetig)[29] (yn achos anifail a anwyd cyn 1 Ebrill 1995 nad oes ganddo dag clust, rhaid cofnodi'r marc adnabod yn hytrach na'r Rhif tag clust).
Darparu gwybodaeth
2.
Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 7(3) (darparu gwybodaeth) yn euog o dramgwydd.
Cadw cofnodion
3.
—(1) At ddibenion Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, rhaid cadw'r gofrestr am 10 mlynedd yn achos fferm a 3 blynedd mewn unrhyw achos arall, ac yn y ddau achos o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi; a rhaid cadw unrhyw gofnod a wnaed o dan Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 am yr un cyfnod.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
ynghyd â'r diwygiadau i'r offerynnau hynny.
Y prif newidiadau
Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:
Mae'r Rheoliadau yn awr yn caniatáu bod bison yn cael ei dagio hyd at 9 mis ar ôl ei eni (paragraff 1(3) o Atodlen 1).
Maent yn creu tramgwydd o drosglwyddo tagiau clust rhwng anifeiliaid (paragraff 4(5) o Atodlen 1).
Nid ydynt mwyach yn caniatáu'r defnydd o basbortau lloi dros dro.
Maent yn caniatáu cofrestru gwartheg yn electronig (paragraff 2(3) o Atodlen 2).
Maent yn newid y ffi o £50 am basbort o'r newydd yn lle hen un i ffi sy'n adlewyrchu gwir gost dyroddi (paragraff 4 o Atodlen 3).
Maent yn symleiddio'r darpariaethau ar gofnodion (Atodlen 5).
Y Rheoliadau
Mae'r Rheoliadau gorfodi—
Maent yn darparu ar gyfer hysbysiad o ddaliad i'r Cynulliad Cenedlaethol os cedwir gwartheg yno (rheoliad 3).
Maent yn darparu ar gyfer tagiau clust (rheoliad 4 ac Atodlen 1), cofrestru gwartheg (rheoliad 5 ac Atodlen 2), pasbortau (rheoliad 6 ac Atodlen 3) a hysbysiad o symud a marwolaeth (rheoliad 7 ac Atodlen 4).
Maent yn darparu i gofnodion gael eu cadw yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5.
Maent yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau (Rhan 4). Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 16).
Mae torri'r Rheoliadau'n dramgwydd, drwy gosb—
Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
[11] O. S. 2000/3339 (Cy.217), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/273 (Cy.29).back
[12] OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1.back
[13] OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 65.back
[14] OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18.back
[15] OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.back
[16] OJ Rhif L60, 9.3.1999, t. 53,back
[22] O. S. 2000/3339 (Cy.217).back
[23] O.S. 2002/304 (Cy. 35).back
[24] O. S. 2002/273 (Cy.29).back
[28] O. S. 2006/1293 (Cy.127).back
[29] Mae'r wybodaeth sy'n ofynnol a fformat addas ar gael yn http//defraweb/animalh/tracing/cattle/passport/records/records-index.htmback
[33] O. S. 2000/3339 (Cy.217).back
[34] OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1.back
[35] OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78.back
[36] OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 63.back
[37] OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18.back