British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 Rhif 833 (Cy.71)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070833w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 833 (Cy.71)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
13 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
|
At y diben a grybwyllir yn |
|
Rheoliad 1(1)(a) |
1 Gorffennaf 2007 | |
|
At bob diben arall |
1 Hydref 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(4), 30(6) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 a deuant i rym—
(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,
(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cyrff Priodol
2.
At ddibenion adrannau 30, 31 a 32 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y corff priodol o ran prosiect ymchwil yw pwyllgor—
(a) a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo; a
(b) a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ("y Ddeddf")(p.9) ac maent yn diffinio 'corff priodol' at ddibenion adrannau 30 i 32 o'r Ddeddf honno. Mae adran 30(1) o'r Ddeddf honno'n darparu bod ymchwil penodol a gaiff ei wneud i berson neu mewn perthynas â pherson sydd heb alluedd yn anghyfreithlon oni chaiff ei wneud yn rhan o brosiect a gymeradwywyd gan gorff priodol a'i fod yn bodloni gofynion pellach a bennir yn y Ddeddf.
Mae rheoliad 1 yn darparu byd y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran gwneud ymchwil yng Nghymru. Mae'n ychwanegol yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau am gymeradwyaeth i ymchwil gael ei wneud a phenderfynu arno o dan y Ddeddf ac i ddod i rym ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
Mae rheoliad 2 yn diffinio corff priodol fel pwyllgor a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol, mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo ac a gydnabyddir i'r diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
2005 p.9.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11091543 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
23 March 2007
|