British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 Rhif 733 (Cy.65) (C.31)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070733w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 733 (Cy.65) (C.31)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
6 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 17(3) o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 —
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig
2.
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad â hwy.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
1].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006[
2], i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[
3]. Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.
Notes:
[1]
1998 p.38.back
[2]
2006 p.20.back
[3]
2002 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091527 2
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
14 March 2007
|