British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 Rhif 701 (Cy.58)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070701w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 701 (Cy.58)
CŵN, CYMRU
RHEOLI CŵN
Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵ n (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
6 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
15 Mawrth 2007 | |
O ran Cymru, y person priodol fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005[
1], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3) a (4) o'r Ddeddf honno, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
ystyr "ffordd" ("road") yw unrhyw ddarn o briffordd y caiff y cyhoedd fynd arno, ac mae'n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt;
ystyr "tir" ("land") yw unrhyw dir sydd yn agored i'r awyr ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i fynd arno (gyda thâl neu heb dâl), ac mae unrhyw dir â tho drosto i'w drin fel tir "agored i'r awyr" os yw ar agor ar un ochr o leiaf.
Tir nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddo
3.
Dynodir unrhyw dir sy'n dod o fewn disgrifiad yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen yn dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, at y dibenion a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad penodol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
ATODLENErthygl 3
TIR NAD YW PENNOD 1 O RAN 6 O'R DDEDDF YN GYMWYS IDDO
Disgrifiad o'r Tir
|
Dibenion nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt
|
Tir a osodir at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967[3] |
At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli o cŵn dan adran 55(1) o'r Ddeddf |
Tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd |
At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55(1) o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer tramgwydd mewn perthynas â'r mater a ddisgrifir yn adran 55(3)(c) (gwahardd cwn dir) |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi disgrifiadau o dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gwn) o ran 6 (cwn) o Ddeddf Cyndogaethau Glan a'r Amgylchedd 2005 ("y Ddeddf") (erthygl 3) yn gymwys iddynt at y dibenion a bennir mewn perthynas a phob un o'r disgrifiadau.
Dynodir dau ddisgrifiad o dir yn y Gorchymyn hwn. Y disgrifiadau yw—
(i) tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967; a
(ii) tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.
Mae effeithiau'r esemptiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn fel a ganlyn:
(i) mewn perthynas â'r disgrifiad cyntaf o dir, rhwystro gorchymyn rheoli cŵn, sy'n darparu ar gyfer tramgwydd neu dramgwyddau mewn perthynas â rheoli cwn mewn cysylltiad â'r tir hwnnw, rhag cael ei wneud; a
(ii) mewn perthynas â'r ail ddisgrifiad o dir, rhwystro gorchymyn rheoli cŵn, sy'n darparu ar gyfer tramgwydd neu dramgwyddau mewn perthynas â gwahardd cŵn rhag mynd ar y tir hwnnw, rhag cael ei wneud.
Notes:
[1]
2005 p. 16.back
[2]
1998 p. 38.back
[3]
1967 p. 10; diwygiwyd adran 39(1) gan O.S. 1999/1747, erthygl 3 ac Atodlen 12, Rhan II, paragraff 4(1) a (28).back
English version
ISBN
978 0 11 091531 9
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
19 March 2007
|