British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007 Rhif 578 (Cy.50)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070578w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 578 (Cy.50)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
27 Chwefror 2007 | |
|
Yn dod i rym |
2 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[
1] i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 2 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
Cymeradwyo cod ymarfer
2.
Gan eithrio Atodiadau 4 i 6 caiff ,
The Code of Practice for Private Retirement Housing (Wales) (ISBN 095266 9137), a gafodd ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth ar 22 Rhagfyr 2006 gan Gymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ac sydd i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH, ei gymeradwyo.
Dirymu gorchmynion a thynnu cymeradwyaethau yn ôl
3.
Dirymir Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995[
3] a Gorchmyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998[
4]; a thynnir yn ôl y cymeradwyaethau a roddwyd gan y Gorchmynion hynny.
Darpariaeth drosiannol
4.
Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn rheithdrefnau) o ran gweithred neu anweithred sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir isod, god ymarfer ynglŷn â rheoli tai ymddeol preifat gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y cod a gymeradwyir yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Tai Ymddeol Preifat (Cymru) (ISBN 095266 9137) ac mae i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH. Ni chafodd Atodiadau 4 i 6 o'r Cod eu cymeradwyo am nad ydynt yn berthnasol at ddibenion adran 87 o Ddeddf 1993.
Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth ar gyfer Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-0-2) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995 ac ar gyfer addasiadau Cod Ymarfer Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ar gyfer Rheoli Tai Cysgodol Lesddaliadol (ISBN 0-9526691-1-0) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998. Caiff y Gorchmynion hynny hefyd eu dirymu.
Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ("Deddf 1993") yn darparu nad yw methiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o god ymarfer a gymeradwywyd ynddo'i hun yn gosod person yn agored i unrhyw reithdrefn, ond mewn unrhyw reithdrefn mae'r cod ymarfer yn dderbyniol fel tystiolaeth a chaiff unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei bod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn y rheithdrefn ei chymryd i ystyriaeth.
Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli tai ymddeol preifat yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4. Mae'r Cod a gafodd ei gymeradwyo ym 1995 a'i addasu ym 1998 yn parhau'n effeithiol at ddibenion rheithdrefnau ynglŷn â gweithredoedd neu anweithredodd yr honnir eu bod wedi digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 0845 010 3300).
Notes:
[1]
1993 p.28; diwygiwyd adran 87 gan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ac Atodlen 9 iddi.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 100, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[3]
O.S. 1995/3149back
[4]
O.S. 1998/106back
[5]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11 091522 4
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
6 March 2007
|