British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007 Rhif 395 (Cy.41)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070395w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 395 (Cy.41)
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL
CYFLOGAU AMAETHYDDOL
Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
14 Chwefror 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948[
1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974
2.
Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974[
2] wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair "Wales" rhodder y geiriau "an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales";
(b) yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau "Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys"; ac
(c) yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau "Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu un pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer cyfuniad o'r holl siroedd yng Nghymru drwy wneud y diwygiadau angenrheidiol i Orchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974.
Notes:
[1]
1948 p. 47. Diwygiwyd adran 2(1) o Ddeddf 1948 gan adran 149 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (c.38). Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 2(1) o Ddeddf 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.back
[2]
O.S. 1974/515, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1981/179 ac O.S. 1989/1173.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091513 5
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
21 February 2007
|