British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070204w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 204 (Cy.18) (C.9)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
30 Ionawr 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79(3), 83(4), 83(5)(c), (d), (e), (f), (g) ac (8) o Ddeddf Iechyd 2006[
1].
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn —
mae i "cyrff y GIG yng Nghymru" yr ystyr a roddir i "Welsh NHS bodies" gan baragraff 2 o Atodlen 12B i Ddeddf 1977 sydd i'w mewnosod gan Atodlen 3 i'r Ddeddf;
ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2]; ac
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd 2006.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg
2.
2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym —
(a) adrannau 1 i 3, 5 i 8, 10 a 12 ac Atodlen 1 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym [3];
(b) adrannau 9 ac 11 ac Atodlen 2; ac
(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny
3.
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau gwrth-dwyll Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu â thramgwyddau mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny—
(a) adrannau 48 a 55 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym[4];
(b) adrannau 44, 45, 46, 47, 49, 50, 51, 52, 53 a 54; ac
(c) adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4.
Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n berthnasol i archwilio
4.
1 Chwefror 2007 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym, i'r graddau y maent yn ymwneud â chyrff y GIG yng Nghymru —
(a) adran 56 ac Atodlen 3;
(b) paragraffau 24(a), 43, 44 a 62 o Atodlen 8, ac adran 80(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny;
(c) yn Atodlen 9 —
(i) paragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[5];
(ii) paragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[6];
(iii) erthygl 2 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cyfrifon ac Archwilio Ymddiriedolaethau Elusennol ac Anelusennol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2005[7]; ac
(ch) adran 80(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau neu'r dirymiadau a bennir ym mharagraff (c).
Darpariaethau trosiannol sy'n berthnasol i archwilio
5.
—(1) Mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru, er gwaethaf rhoi yn lle adran 98 o Ddeddf 1977 adran 56 o'r Ddeddf bydd —
(a) adran 98 o Ddeddf 1977;
(b) adran 144(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8];
(c) adran 14 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000[9]; ac
(ch) adran 61(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[10];
fel y byddant mewn grym ar 31 Ionawr 2007 yn gymwys o ran cyfrifon a gedwir gan y cyrff a restrir yn adran 98(1) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 (yn unol â hynny, bydd y trefniadau a geir yn Atodlen 12B newydd i Ddeddf 1977 yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol ddilynol) ac o ran materion sy'n berthnasol i flynyddoedd ariannol cynharach ac nad ydynt wedi'u dirwyn i ben.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Ionawr 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym holl ddarpariaethau Ddeddf Iechyd 2006 sy'n berthnasol i:
(a) mangreoedd, mannau a cherbydau di-fwg, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) swyddogaethau gwrth-dwyll mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac
(c) cyfrifon ac archwilio mewn perthynas â chyrff y GIG yng Nghymru i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn Cychwyn a ganlyn wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd mewn perthynas â Chymru a Lloegr:
Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603).
Notes:
[1]
2006 p.28.back
[2]
1977 p.49.back
[3]
Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back
[4]
Yn rhinwedd adran 83(1)(e) o Ddeddf Iechyd 2006 daeth y darpariaethau hyn i rym ar y diwrnod y pasiwyd y Ddeddf i'r graddau y mae'r darpariaethau'n rhoi pŵer i wneud Gorchymyn neu Reoliadau, neu i ddiffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol i arfer unrhyw bŵer o'r fath.back
[5]
2002 p.17.back
[6]
2004 p.23.back
[7]
O.S.2005/1074.back
[8]
1998 p.38.back
[9]
2000 p.20.back
[10]
2004 p.23.back
[11]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091495 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
7 February 2007
|