Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 Rhif 196 (Cy.15)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070196w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 196 (Cy.15)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
30 Ionawr 2007 | |
|
Yn dod i rym |
31 Ionawr 2007 | |
CYNNWYS
RHAN 1
Cyffredinol
RHAN 2
Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt
RHAN 3
Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned
RHAN 4
Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau
RHAN 5
Gorfodi a chosbau
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) a mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Mae wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[
3], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor[
4].
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:
RHAN 1
Cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2007.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "arolygydd" ("inspector"), mewn perthynas ag unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod arall i weithredu yng Nghymru o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;
mae i "yr awdurdod bwyd", mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â "the food authority" yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;
mae i "yr awdurdod lleol", mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol y gwneir dynodiad ar ei chyfer o dan y Rheoliadau hyn, yr un ystyr â "the local authority" yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i "deddfwriaeth berthnasol" ("relevant legislation") yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);
ystyr "mangre" ("premises") yw mangre neu eiddo arall, lle neu gyfrwng cludo;
ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd a lles anifeiliaid[5], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 776/2006 yn diwygio Atodiad VII o ran labordai cyfeirio'r Gymuned[6] ac fel y'i darllenir gyda'r canlynol—
(a) Penderfyniad y Comisiwn 2006/677 yn nodi'r canllawiau sy'n gosod meini prawf ar gyfer cynnal archwiliadau o dan Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[7];
(b) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[8];
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 yn gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004, ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004[9]; ac
(ch) Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor;
ystyr "Rheoliadau 2006" ("the 2006 Regulations") yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006[10].
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr "archwiliad" ("audit"), ac eithrio yn rheoliad 10, yw archwiliad awdurdod cymwys a gyflawnir at ddibenion Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 mewn perthynas ag un darn o ddeddfwriaeth berthnasol neu fwy ohonynt; a
(b) ystyr "archwilydd" ("auditor") yw person sy'n cynnal archwiliad o'r fath.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "deddfwriaeth berthnasol" ("relevant legislation") yw cyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd y mae Rheoliad 882/2004 yn gymwys iddynt a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, ac eithrio—
(a) "cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol" ("relevant feed law") a "cyfraith bwyd berthnasol" ("relevant food law") fel y'u diffinnir yn Rheoliadau 2006; a
(b) Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2006[11] i'r graddau y maent yn rheoleiddio ychwanegion sootechnegol a bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth.
(4) Ym mharagraff (3)(b)—
mae i "bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth" yr ystyr a roddir i "medicated feedingstuffs" yn Erthygl 1.6 o Gyfarwyddeb 2001/82/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar god y Gymuned sy'n ymwneud â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol[12] fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddeb 2004/28/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2001/82/EC ar god y Gymuned ynghylch cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol[13]; ac
ystyr "ychwanegion sootechnegol" ("zootechnical additives") yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid[14] ac eithrio'r rhai sy'n perthyn i'r grŵp swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw.
(5) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 882/2004.
(6) Oni fynnir fel arall gan y cyd-destun, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at "Erthygl" ("Article") neu "Teitl" ("Title") yn gyfeiriadau at Erthygl neu Deitl, yn ôl eu trefn, o Reoliad 882/2004.
(7) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o dro i dro.
RHAN 2
Dynodi awdurdodau cymwys a chyfnewid gwybodaeth rhyngddynt
Dibenion y dynodiadau
3.
Mae dynodiadau yn y Rhan hon yn cael eu gwneud at ddibenion Erthygl 4.1.
Dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol yn awdurdod cymwys
4.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol.
Dynodi awdurdodau lleol, etc., yn awdurdodau cymwys
5.
—(1) Mae'r awdurdod lleol wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.
(2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y mae'n eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae "yr awdurdod lleol" ac "yr awdurdod bwyd" yn cynnwys awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sy'n arfer ei swyddogaethau, sef y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) neu (2) fel "awdurdod gorfodi" o dan ddeddfwriaeth berthnasol ac o fewn ystyr "
enforcement authority" mewn deddfwriaeth o'r fath.
Cyfnewid gwybodaeth
6.
Caiff awdurdodau cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn ddatgelu gwybodaeth i'w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac i Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion Rheoliad 882/2004.
RHAN 3
Archwiliadau a rheolaethau'r Gymuned
Pwerau archwilwyr ac eithriad ar gyfer archwilwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd
7.
—(1) Caiff archwilydd arfer y pwerau yn y rheoliad hwn os yw wedi'i awdurdodi—
(a) gan awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i gynnal archwiliad o weithgareddau'r awdurdod hwnnw; neu
(b) gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad yn unol â rheoliad 8(3).
(2) At ddibenion cynnal archwiliad, caiff archwilydd fynd i mewn i fangre y mae gan arolygydd bŵer i fynd iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol ("mangre archwilio") fel petai'r archwilydd yn arolygydd sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer sicrhau mynediad o'r fath o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno.
(3) Caiff archwilydd sy'n arfer ei bŵer mynediad ddod ag unrhyw berson gydag ef y mae ar yr archwilydd angen rhesymol am ei gymorth.
(4) Caiff archwilydd ofyn i unrhyw berson yn unrhyw fangre archwilio am unrhyw wybodaeth y mae arno angen rhesymol amdani at ddibenion yr archwiliad, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt at y dibenion hynny.
(5) Caiff archwilydd wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r copïau gael eu gwneud.
(6) Wrth arfer y pwerau a roddwyd gan y rheoliad hwn, rhaid i archwilydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi o dan y Rheoliadau hyn.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.
Pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag archwiliadau awdurdodau lleol, etc.
8.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5 ddarparu gwybodaeth iddo am unrhyw archwiliadau y mae'r awdurdod cymwys hwnnw wedi'u cynnal neu wedi'u cael neu y mae'r awdurdod cymwys hwnnw yn bwriadu eu cynnal neu eu cael.
(2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan baragraff (1), rhaid iddo wneud hynny'n ysgrifenedig a rhaid iddo nodi o fewn pa derfyn amser y mae'r wybodaeth sy'n ofynnol i gael ei darparu.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol—
(a) i archwilydd gynnal archwiliad o awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 5; a
(b) i'r awdurdod cymwys sydd o dan sylw roi unrhyw gymorth i'r archwilydd hwnnw y bydd ar yr archwilydd angen rhesymol amdano er mwyn cynnal yr archwiliad.
Pwerau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n ymgymryd ag archwiliadau ar ran y Cynulliad Cenedlaethol
9.
—(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgymryd ag archwiliad mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol, bydd darpariaethau archwilio Rheoliadau 2006 yn gymwys fel petai—
(a) ymgymryd â'r archwiliad hwnnw yn ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) a 9(1) o Reoliadau 2006; a
(b) yr awdurdod cymwys o dan sylw yn awdurdod gorfodi y mae rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau 2006 yn gymwys iddo.
(2) Dyma ddarpariaethau archwilio Rheoliadau 2006—
(a) rheoliadau 8 a 9(1) i (8) a (10), fel y'i darllenir gyda rheoliad 10; a
(b) rheoliad 11.
(3) Mae rheoliadau 17(2), (4) a (5)(c), 18(2) i (9), 19 i 21, 41 i 43, 45 a 46 o Reoliadau 2006 yn gymwys pan fo paragraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys fel petai'r paragraff hwnnw'n un o ddarpariaethau Rheoliadau 2006 a oedd i'w gorfodi neu i'w gweithredu o dan Reoliadau 2006.
Rheolaethau'r Gymuned
10.
I'r graddau nad oes gan arolygydd bwerau eisoes i wneud hynny, er mwyn ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y Comisiwn yn unol ag Erthygl 45, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre y mae ganddo bŵer i gael mynediad iddo o dan ddeddfwriaeth berthnasol, ac—
(a) dod ag unrhyw arbenigwyr o'r fath gydag ef; a
(b) dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu.
RHAN 4
Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV
Dyletswyddau awdurdodau lleol, etc, o dan Deitl IV
11.
Rhaid i awdurdod lleol neu awdurdod bwyd sydd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys o dan reoliad 5 hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol os yw'n credu nad yw'n gallu cymryd camau sy'n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth a chydweithrediad gweinyddol ym meysydd bwyd anifeiliaid a bwyd) a rhaid iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn yn rhesymol amdano.
Hwyluso cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV
12.
—(1) At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall fel y darperir ar ei gyfer o dan Erthygl 36.3, neu alluogi awdurdod cymwys a ddynodir o dan y Rheoliadau hyn i wneud hynny, caiff arolygydd sy'n arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion—
(a) dod â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef;
(b) dangos iddynt y cofnodion y mae'n eu harolygu; ac
(c) gwneud copïau iddynt neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu gwneud iddynt o'r cofnodion y mae ganddo bwerau i'w gwneud neu i'w gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.
(2) At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu a anfonir gan y Comisiwn fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 40.3(a), caiff arolygydd ddod â chynrychiolwyr y Comisiwn gydag ef wrth arfer ei bwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i mewn i fangre neu i arolygu cofnodion.
Adennill treuliau
13.
—(1) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar fusnes bwyd anifeiliaid neu fusnes bwyd yn unol ag Erthygl 40.4 gael eu talu gan y busnes hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys o dan sylw.
(2) Rhaid i dreuliau a godir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 28 gael eu talu gan y gweithredydd hwnnw ar ôl cael archiad ysgrifenedig gan yr awdurdod cymwys dan sylw.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod cymwys" ("competent authority") yw awdurdod cymwys a ddynodir o dan reoliad 4 neu 5.
RHAN 5
Gorfodi a chosbau
Dehongli a chymhwyso Rhan 5, etc.
14.
—(1) Yn y Rhan hon—
(a) ystyr "archwilydd perthnasol" ("a relevant auditor") yw archwilydd sy'n arfer ei bwerau o dan reoliad 7;
(b) mae "arolygydd perthnasol" ("a relevant inspector") yn cynnwys unrhyw berson sy'n dod gydag arolygydd yn unol â rheoliadau 10 neu 12;
(c) nid yw "mangre" ("premises") yn cynnwys unrhyw fangre neu ran o fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig;
(ch) ystyr "swyddog gorfodi" ("enforcement officer") yn cynnwys swyddog a awdurdodir i orfodi'r Rheoliadau hyn gan yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am orfodi yn unol â rheoliad 15.
(2) Nid yw Rheoliadau 15 i 19 yn gymwys pan fo rheoliad 9 yn gymwys.
Gorfodi
15.
Mae gorfodi'r Rheoliadau hyn yn gyfrifoldeb yr awdurdod cymwys sydd, o dan unrhyw amgylchiadau penodol, yn awdurdodi bod pwerau yn cael eu harfer o dan y Rheoliadau hyn.
Pwerau swyddogion gorfodi
16.
—(1) Caiff swyddog gorfodi—
(a) mynd i mewn i fangre ar unrhyw adeg resymol;
(b) gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi unrhyw weithgaredd neu broses, a thynnu ffotograffau; ac
(c) arolygu unrhyw eitem neu gofnodion unrhyw ddosbarth sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog gorfodi at ddibenion ei ymchwiliad, ac fe gaiff wneud copïau o'r cofnodion hynny neu ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gwneud a mynd ag unrhyw gofnodion y mae arno angen rhesymol amdanynt oddi yno.
(2) Rhaid i swyddog gorfodi wneud y canlynol—
(a) dangos tystiolaeth ei fod wedi'i awdurdodi pan ofynnir iddo wneud hynny;
(b) cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, darparu i'r person y mae'n ymddangos iddo mai hwnnw sy'n gyfrifol am gofnodion y mae'r swyddog gorfodi yn mynd â hwy oddi yno o dan baragraff (1)(c) dderbynneb ysgrifenedig sy'n nodi'r cofnodion hynny; ac
(c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl iddo wneud hynny, ar ôl penderfynu nad oes angen amdanynt mwyach, dychwelyd y cofnodion hynny, ar wahân i'r rhai a ddefnyddir fel tystiolaeth mewn achos llys.
Tramgwyddau a chosbau
17.
—(1) Bydd person yn euog o dramgwydd os yw heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw un o'r personau canlynol, neu'n peri neu'n caniatáu iddo gael ei rwystro—
(a) archwilydd perthnasol;
(b) arolygydd perthnasol;
(c) unrhyw berson sy'n dod gydag archwilydd perthnasol neu arolygydd perthnasol o dan reoliadau 7(3), 10, neu 12; neu
(ch) swyddog gorfodi.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys—
(a) methu—
(i) â dangos cofnodion;
(ii) â darparu cofnodion; neu
(iii) â darparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer copïo cofnodion,
fel sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn; a—
(b) methiant gan unrhyw berson i ddarparu gwybodaeth sydd yn ei feddiant pan ofynnir iddo wneud hynny gan archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n darparu heb esgus rhesymol i archwilydd perthnasol, arolygydd perthnasol neu swyddog gorfodi, wybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys.
(4) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
18.
—(1) Pan brofir bod tramgwydd o dan reoliad 17 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) ystyr "swyddog", mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.
Terfynau amser ar gyfer erlyn
19.
Caiff erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon ddechrau heb fod yn hwyrach na diwedd—
(a) tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Diwygio Rheoliadau 2006
20.
—(1) Mae Rheoliadau 2006 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y paragraff sy'n dechrau "mae i "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002")" mewnosoder ar ôl y geiriau ""Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41")," y geiriau ""Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001")".
(3) Yn Atodlen 1, ar ôl y diffiniad o ""Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41")", mewnosoder—
“ystyr "Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol fel y'i diwygir[15] ac mae iddo'r un ystyr â'r diffiniad o "Rheoliad TSE y Gymuned" ("Community TSE Regulation") yn Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[16].
(4) Ym mharagraff (a) o Atodlen 3—
(a) ar ôl is-baragraff (vi) dileer "a";
(b) ar ddiwedd paragraff (vii)(bb) dileer "; a" ac ychwaneger—
"
, ac
(viii) y materion a reoleiddir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl, ynghyd â phwynt 2 o Ran II o Bennod A Atodiad III i Reoliad 999/2001 i'r graddau y mae'r pwynt hwnnw yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (OJ Rhif L165, 30.04.2004, t. 1) ("Rheoliad 882/2004") Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rheolau iechyd a lles anifeiliaid, a'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd a eithriwyd o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006"), sydd hefyd yn cymhwyso ac yn gorfodi Rheoliad 882/2004. Diwygiwyd testun Rheoliad 882/2004 ac mae i'w weld bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.05.2004, t. 1).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau bwyd) yn awdurdodau cymwys at ddibenion Erthygl 4.1 o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 3 i 5). Mae a wnelo'r dynodiadau â'r canlynol:
(a) rheolau iechyd a lles anifeiliaid;
(b) cyfraith bwyd sy'n ymwneud â rheolaethau ar anifeiliaid;
(c) cyfraith bwyd anifeiliaid nad yw wedi'i rhestru yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006; ac
(ch) cyfraith bwyd ynghylch rheolaethau ar fwyd neu fwyd anifeiliaid a eithriwyd o'r dynodiadau yn Rheoliadau 2006, sef:
(i) bwydydd organig, gan gynnwys cynhyrchion bwyd organig a fewnforiwyd;
(ii) cynhyrchion bwyd ag enwau a ddiogelir a chynhyrchion bwyd â chymeriad penodol;
(iii) gweddillion meddyginiaethau milfeddygol;
(iv) gweddillion plaleiddiaid;
(v) mewnforio o drydydd gwledydd gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, a'r fasnach ohonynt o fewn y Gymuned; a
(vi) labelu cig eidion.
Maent yn ymwneud hefyd ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy ("TSEs") ynglŷn â rheolaethau profi (gan gynnwys samplu) ar wartheg, defaid a geifr a gigyddir ar gyfer eu bwyta gan bobl.
Nid yw'r dynodiadau yn cynnwys bwydydd anifeiliaid â meddyginiaeth ac ychwanegion sootechnegol, a gwmpesir ym mharagraff 4 o Atodlen 5 i Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005 (O.S. 2006/2407).
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu'n bendant ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng awdurdodau cymwys yng Nghymru a mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac yn yr Undeb Ewropeaidd (rheoliad 6).
Maent yn creu pwerau annibynnol i archwilwyr awdurdod cymwys gynnal archwiliadau sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.6 o Reoliad 882/2004 (rheoliad 7). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i Gynulliad Cenedlaethol Cymru alw am wybodaeth oddi wrth awdurdod lleol am ei archwiliadau; ac iddo ei gwneud yn ofynnol i archwilydd gynnal archwiliad o reolaethau swyddogol yr awdurdod lleol hwnnw fel awdurdod cymwys (rheoliad 8).
Pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trefnu bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal archwiliad o'r ddeddfwriaeth berthnasol o dan y Rheoliadau hyn, bydd darpariaethau monitro Rheoliadau 2006 yn gymwys ynghyd â'r darpariaethau gorfodi cyfatebol yn Rheoliadau 2006 (rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn).
Mae'r Rheoliadau yn ychwanegu at bwerau presennol arolygwyr hefyd er mwyn caniatáu iddynt ddod ag arbenigwyr y Comisiwn gyda hwy at ddibenion archwiliadau'r Comisiwn ei hun (rheoliad 10). Mae darpariaethau i hwyluso cymorth a chydweithrediad rhwng Aelod-wladwriaethau sy'n ofynnol o dan Deitl IV (Erthyglau 34 i 40) o Reoliad 882/2004 (rheoliadau 11 a 12), yn enwedig i alluogi swyddogion y Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill i fod yn bresennol gydag arolygydd sy'n ymchwilio i doriadau a amheuir o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer talu ar archiad ysgrifenedig dreuliau a godir o dan Erthygl 40.4 ac Erthygl 28 o Reoliad 882/2004.
Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau, gan gynnwys pwerau swyddogion gorfodi i'r perwyl hwn (rheoliad 16). Mae'n dramgwydd o dan reoliad 17 i rwystro archwilydd, swyddog gorfodi, neu arolygydd sy'n dod â chynrychiolwyr o'r Comisiwn neu Aelod-wladwriaethau eraill gydag ef, neu i rwystro unrhyw bersonau sy'n dod gydag arolygydd neu archwilydd. Mae'n dramgwydd hefyd o dan reoliad 17 i ddarparu gwybodaeth gamarweiniol neu anwir i arolygydd neu archwilydd neu swyddog gorfodi, neu i fethu â darparu gwybodaeth y mae unrhyw un ohonynt yn gofyn amdani. Y gosb ar gollfarn ddiannod am y tramgwyddau yw dirwy ar lefel 5 o'r raddfa safonol (£5,000 ar hyn o bryd) neu dri mis yn y carchar, neu'r ddau (rheoliad 17(4)). Mae darpariaeth wedi'i gwneud i erlyn tramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol (rheoliad 18), a phennir terfynau amser ar gyfer erlyn yn rheoliad 19.
Mae rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau 2006 i dynnu o'r diffiniad o "cyfraith bwyd berthnasol", i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 ("Rheoliadau TSE") a darpariaethau penodol yn y Rheoliad UE ar TSEs (Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1)) ynghylch monitro TSEs mewn geifr a defaid a gigyddir.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglŷn â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
OS 2005/2766 mewn perthynas â'r polisi amaethyddol cyffredin (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol), ac OS 2003/1246 mewn perthynas â mesurau milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
OJ Rhif L100, 8.4.2006, t. 3.back
[5]
OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; gweler y testun sydd wedi'i gywiro yn y corigendwm i'r Rheoliad a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t. 1.back
[6]
OJ Rhif L136, 24.5.2006, t. 3.back
[7]
OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.15.back
[8]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 27.back
[9]
OJ Rhif L338, 22.12.2005, t. 83.back
[10]
OS 2006/590 (Cy.66) fel y'i diwygiwyd gan OS 2006/1704 (Cy.166), rheoliad 1(3).back
[11]
OS 2006/2407.back
[12]
OJ Rhif L311, 28.11.2001, t. 1.back
[13]
OJ Rhif L136, 30.4.2004, t. 58.back
[14]
OJ Rhif L268, 18.10.2003, t. 29.back
[15]
OJ Rhif L147, 31.5.2001, t. 1 fel y'i diwygir gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1041/2006 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglyn â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn anifeiliaid o deulu'r ddafad.back
[16]
OS 2006/1226 (Cy.117).back
[17]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091493 7
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
7 February 2007
|