British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 120 (Cy.10)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070120w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 120 (Cy.10)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
|
Wedi'i wneud |
23 Ionawr 2007 | |
|
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1 |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 80(8B) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
1] ac adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007.
(2) Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Ionawr 2007.
(3) Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn a'r Atodlen iddo i rym ar 31 Ionawr 2007.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dynodi "camp berthnasol"
2.
Dynodir camp sy'n ymddangos yn y rhestr o gampau a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn "gamp berthnasol" at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
3].
Diwygio Gorchmyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006
3.
Diwygir Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion (Cymru) 2006[
4] fel a ganlyn—
(a) yn y testun Cymraeg yn y pennawd i erthygl 5 yn lle "2006" rhodder "2007";
(b) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 5 yn lle "2006" rhodder "2007";
(c) yn y testunau Cymraeg a Saesneg o'r pennawd i erthygl 6 yn lle "2006" rhodder "2007";
(ch) yn y testunau Cymraeg a Saesneg yn y geiriau agoriadol yn erthygl 6 yn lle "2006" rhodder "2007";
(d) yn y testun Cymraeg yn lle'r pennawd I erthygl 7 rhodder—
"
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw erthygl 2 o Orchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen'r Gorchymyn hwnnw i rym";
(dd) yn y testun Saesneg yn lle'r pennawd i erthygl 7 rhodder—
"
Provisions of the 2005 Act coming into force on the date on which article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007 come into force";
(e) yn y testun Cymraeg yn ngeiriau agoriadol erthygl 7 yn lle'r geiriau "Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006" rhodder "erthygl 2 o Prchymyn Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 a'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw";
(f) yn y testun Saesneg yng ngeiriau agoriadol erthygl 7 rhodder y geiriau "article 2 of, and the Schedule to, the Statutory Nuisances (Miscellaneous Provisions) (Wales) Order 2007" yn lle'r geiriau "the Statutory Nuisance (Artificial Lighting) (Designation of Relevant Sports) (Wales Order 2006";
(ff) yn y testun Cymraeg o erthygl 10(1) yn lle "â rheoliad" rhodder "ag erthygl";
(g) yn nhestun Saesneg erthygl 10(1) yn lle "regulation" rhodder "article".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007
YR ATODLENErthygl 2
Y RHESTR O GAMPAU
1.
Pêl-droed Americanaidd
2.
Saethyddiaeth
3.
Pêl-droed (Socer) (Rheolau'r Gymdeithas Bêl droed)
4.
Athletau
5.
Pêl-droed Rheolau Awstralia
6.
Badminton
7.
Pêl fas
8.
Pêl fasged
9.
Biathlon
10.
Bobsledio
11.
Bowls
12.
Camogie
13.
Canwio
14.
Criced
15.
Croquet
16.
Cwrlo
17.
Seiclo
18.
Marchogyddiaeth
19.
Pêl-droed Gwyddelig
20.
Golff
21.
Gymnasteg
22.
Pêl-law
23.
Hoci
24.
Rasio Ceffylau
25.
Chwarae hyrli
26.
Hoci Iâ
27.
Sglefrio ar Iâ
28.
Lacrosse
29.
Luge
30.
Pentathlon Modern
31.
Marchogaeth Beic Modur
32.
Campau Moduro
33.
Pêl-rwyd
34.
Wal Ddringo tu allan
35.
Polo
36.
Camp Olwynion Troed
37.
Rownderi
38.
Rhwyfo
39.
Rygbi'r Gynghrair
40.
Rygbi'r Undeb
41.
Hwylio
42.
Saethu
43.
Camp Byrddau Sgrialu
44.
Sgio
45.
Eirafyrddio
46.
Pêl feddal
47.
Nofio (gan gynnwys Deifio)
48.
Tennis
49.
Triathlon
50.
Tynnu Rhaff
51.
Pêl foli
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 103 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) ("Deddf 2005") yn diwygio adran 80(8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p. 43) ("Deddf 1990") gan roi iddi'r effaith bod yr amddiffyniad (i'r tramgwydd, o dan adran 80(4) o Ddeddf 1990, o fynd yn groes i dermau neu ofynion hysbysiad diddymu a gyflwynir o dan adran 80(1) o Ddeddf 1990 neu o fethu â chydymffurfio â hwy) sef yr amddiffyniad o fod wedi defnyddio'r dull ymarferol gorau i rwystro niwsans statudol neu i wrthbwyso'i effeithiau, ar gael o ran niwsans a achosir gan olau artiffisial ac sy'n deillio o oleuadau a ddefnyddir i oleuo cyfleuster allanol ar gyfer campau perthnasol.
Diffinnir cyfleuster ar gyfer campau perthnasol yn adran 80(8A) o Ddeddf 1990 yn ardal, gyda strwythurau neu hebddynt, a ddefnyddir i gymryd rhan mewn campau perthnasol, ac eithrio ardal o'r fath a geir mewn mangreoedd domestig.
Mae adran 80(8B) o Ddeddf 1990 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, y swyddogaeth o ddynodi camp yn "gamp berthnasol" at ddibenion adran 80(8A) o Ddeddf 1990. Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y swyddogaeth honno.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn rhoi effaith i fân ddiwygiadau i Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93)).
Notes:
[1]
1990 p. 43; mewnosodwyd adran 80(8B) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005 (p. 16).back
[2]
2005 p. 16.back
[3]
Mewnosodwyd adran 80(8A) gan adran 103(3) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.back
[4]
O.S. 2006/2797 (Cy. 236) (C. 93).back
[5]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091486 4
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
30 January 2007
|