British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3390 (Cy.310)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063390w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3390 (Cy.310)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'i wneud |
12 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 62 a 69 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[
1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995
2.
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[
3] wedi'i ddiwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
Diwygiadau sy'n ymwneud â datganiadau mynediad
3.
—(1) Ar ôl erthygl 4C (datganiadau dylunio a mynediad) rhodder—
"
4D.
Access statements:Wales
(1) This article applies to an application for planning permission which is not an application for planning permission for—
(a) engineering or mineral operations;
(b) development of an existing dwelling-house, or development within the curtilage of such a dwelling-house for any purpose incidental to the enjoyment of the dwelling-house as such; or
(c) a material change in the use of land or buildings provided that the new use:
(i) will not necessitate access by an employee, or
(ii) does not involve the provision of services to the public or to a section of the public, with or without payment.
(2) For the purposes of paragraph (1)(c)(ii) "the provision of services" includes the provision of any goods or facilities.
(3) An application for planning permission to which this article applies must be accompanied by a statement ("an access statement") explaining how issues relating to access to the development have been dealt with.
(4) An access statement must explain—
(a) the policy or approach adopted as to access and how policies relating to access in the development plan[4] have been taken into account;
(b) how any specific issues which might affect access to the development have been addressed; and
(c) how features which ensure access to the development will be maintained."
(2) In paragraph (4)(a) of article 25 (register of applications), after "thereto" insert "and of any accompanying access statement provided in accordance with article 4D".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) ("Gorchymyn 1995") yn pennu'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio, apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a materion cysylltiedig i'r graddau nad ydynt wedi'u gosod i lawr yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 neu mewn deddfwriaeth berthynol.
Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 4D yng Ngorchymyn 1995. Mae erthygl 4D newydd yn gymwys o ran Cymru ac mae'n darparu ar gyfer datganiadau mynediad y mae'n ofynnol eu bod yn mynd gyda cheisiadau penodol am ganiatâd cynllunio.
Notes:
[1]
1990 p.8. Amnewidiwyd adran 62 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 42(1). Gweler adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddedf 1990 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Gweler y cofnod ar gyfer Deddf 1990 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel yr amrywiwyd ef gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5) ac Atodlen 3 iddo ac fel y diwygiwyd ef gan adran 118(3) o Ddeddf 2004.back
[3]
O.S. 1995/419. Gwnaethpwyd diwygiadau perthnasol gan O.S. 1997/2971 a 2004/3156 (Cy.273).back
[4]
Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr "development plan" a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (p.118).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091479 1
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
22 December 2006
|