British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006 Rhif 3383 (Cy.309)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063383w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3383 (Cy.309)
PRIFFYRDD, CYMRU
Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006
|
Wedi'i wneud |
18 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
21 Rhagfyr 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod priffyrdd ar gyfer traffordd yr M4 yng Nghymru, yn gwneud y Cynllun hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16 a 19 o Ddeddf Priffyrdd 1980[
1] a phob pwer galluogi arall[
2]:—
1.
Mae'r darnau o'r ffordd arbennig bresennol a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r cynllun hwn ac a ddangosir â llinellau du trwm ar y plan a adneuwyd i ddod yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Cynllun hwn i rym.
2.
Yn y Cynllun hwn:—
(1) Mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(2) ystyr "cefnffordd" ("
trunk road") yw'r ffordd arbennig a grybwyllir yn erthygl 1 a'r Atodlen i'r Cynllun hwn;
(3) ystyr "y plan a adneuwyd" ("
the deposited plan") yw'r plan a rifwyd HA16/1 NAFW 3, a elwir "Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006", a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.
3.
Daw'r Cynllun hwn i rym ar 21 Rhagfyr 2006 a'i enw fydd Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau
S C SHOULER
Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
18 Rhagfyr 2006
YR ATODLEN
Y DARNAU O FFORDD ARBENNIG SYDD I DDOD YN GEFNFFORDD
Y darnau o ffordd arbennig sydd i ddod yn gefnffordd o dan y Cynllun hwn yw:—
(i) y slipffordd ymadael tua'r dwyrain sy'n ymestyn o'i chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r dwyrain wrth Gyffordd 30 hyd at ei chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30, sef pellter o 270 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 1 iddi ar y plan a adneuwyd.
(ii) y slipffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r dwyrain wrth Gyffordd 30, sef pellter o 370 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 2 iddi ar y plan a adneuwyd.
(iii) y slipffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30 hyd at ei chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30, sef pellter o 380 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 3 iddi ar y plan a adneuwyd.
(iv) y slipffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30, sef pellter o 270 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 4 iddi ar y plan a adneuwyd.
Notes:
[1]
1980 t.66back
[2]
Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn wedi'u rhoi bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.back
English version
ISBN
0 11 091480 5
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
22 December 2006
|