British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 3366 (Cy.308)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063366w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3366 (Cy.308)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
13 Rhagfyr 2006 | |
|
Yn dod i rym |
15 Rhagfyr 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[
1].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru[
2].
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2.
Yn Atodlen 3 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006[
3] (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyfarpar) hepgorer paragraff (i).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/491 (Cy.60)) ("Rheoliadau 2006").
Mae rheoliad 2 yn dileu'r cyfeiriad at "crowns in other materials" yn y rhestr o gyfarpar y ceir codi a chasglu ffi Band 3 ar ei gyfer yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn o'r effaith wedi'i baratoi o ran Rheoliadau 2006. Gellir cael copi o'r Arfarniad Rheoliadol gan y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1977 p.49.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 79 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf Iechyd 1999.back
[3]
O.S. 2006/491 (Cy. 60).back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091481 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
22 December 2006
|