BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006 Rhif 3257 (Cy.297) (C.117)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063257w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3257 (Cy.297) (C.117)

CEFN GWLAD, CYMRU

HAWLIAU TRAMWY, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 5 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf")[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwrnodau penodedig
    
2. 6 Rhagfyr 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—

    (a) adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith—

      (i) i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau ynghylch cynlluniau gwella hawliau tramwy a baratoir o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004[2], a

      (ii) i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (amrywiol swyddogaethau awdurdodau Parciau Cenedlaethol);

    (b) adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i'r graddau y mae'n darparu'r pŵer i ddyroddi canllawiau;

    (c) adran 102 o'r Ddeddf (diddymiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch—

      (i) adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ("Deddf 1925")[3] yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004[4], a

      (ii) paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981[5] yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf.

     3. I'r graddau nad yw eisioes mewn grym, daw adran 69 o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i rym ar 1 Ebrill 2007.

Arbed
    
4. Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr is-adran honno sydd mewn grym yn union cyn i'r erthygl honno ddod i rym yn parhau i fod yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") ac yn egluro effaith cychwyniadau blaenorol darpariaethau eraill.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn —

    (a) adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)) yn honni ei fod yn dwyn i rym baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r paragraffau hynny. Mae erthygl 2(a)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol;

    (b) adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Bydd hyn yn ymestyn swyddogaethau hawliau tramwy sy'n arferadwy gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol i gynnwys y swyddogaethau hawliau tramwy newydd y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (erthygl 2(a)(ii));

    (c) y pwerau i ddyroddi canllawiau o dan adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf cyn cychwyn gweddill yr adran honno er mwyn galluogi'r canllawiau i gael eu paratoi mewn pryd i gael eu dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") ar yr un adeg ag y dygir y darpariaethau cysylltiedig i rym (erthygl 2(b));

    (ch) adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ("Deddf 1925") a geir yn Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1489 (Cy.154) (C.59)) ("Gorchymyn Rhif 5") yn honni ei fod yn dwyn i rym y cofnod sy'n ymwneud ag adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ("Deddf 1925") a geir yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau ei bod yn rhoi effaith i'r cofnod hwnnw. Mae erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol; a

    (d) adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddiddymu paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a geir yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Peidiodd y paragraff a ddiddymwyd â chael effaith ymarferol pan gychwynnwyd paragraff 11(8) o Atodlen 5 i'r Ddeddf gan erthygl 2(a)(iii) o O.S. 2005/1314 (Cy.96) (C.58). Mae cychwyn y diddymiad hwn yn tynnu'r ddarpariaeth oddi ar y llyfr statud (erthygl 2(c)(ii)).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adran 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac i'r graddau na chychwynnir hi gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn. Mae adran 69 o'r Ddeddf yn diwygio adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i anghenion pobl sydd â phroblemau symudedd pan fydd yn awdurdodi codi camfeydd newydd, clwydi newydd neu waith newydd arall ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd Gorchymyn Rhif 5 yn cynnwys darpariaeth arbed am unrhyw weithred a gafodd ei chyflawni cyn dwyn i rym ddiddymiad o adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan y Gorchymyn hwnnw. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o ran effaith yr arbediad, mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn ailadrodd yr arbediad hwnnw.

Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007. Daw gweddill y Gorchymyn hwn i rym ar 6 Rhagfyr 2006.

Adran(nau) neu Atodlen(ni) Y dyddiad cychwyn Rhif O.S.
2 a 12 i 14 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
18, 20 a 46(1)(a) 21 Mehefin 2004 2004/148 (Cy.154) (C.59)
46(1)(b) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
47 i 50 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
51 (yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
51 (yn rhannol) 21 Tachwedd 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
51 (yn rhannol) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
57 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol) 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol) 21 Tachwedd 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
60 a 61 1 Tachwedd 2002 2002/2615 (Cy.253) (C.82)
63 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
68 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
69(2) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
70(1) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(3) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
70(4), 72 a 82 i 93 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
96 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
99 30 Ionawr 2001 2001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
102 (yn rhannol) 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
102 (yn rhannol) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (Cy.42)
Atodlen 2 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 4, paragraff 1 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 2 a 3 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 4, paragraffau 4 i 6 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 5, paragraff 1 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraff 2 21 Tachwedd 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraffau 5 a 6 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraff 8 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraff 9 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 5, paragraffau 10 a 11 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraffau 12 i 17 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 6, paragraff 1 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraffau 2 a 3 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 4 21 Tachwedd 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 6 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraff 8 (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 9(1) i (3) 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 9(5) 1 Ebrill 2004 2004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlen 6, paragraff 11 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 12, 13(1) i (4), (5)(a) i (d) a (7) i (9) a 14 (pob un yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 14(1) a (4)(a) 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 15 (yn rhannol) 21 Tachwedd 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 17 (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 18(a) (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraff 18(a) a (b) (y ddau yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 20(a) i (c) 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 20(d) ac (e), 21, 23(1), (2)(a) a (b), (3)(a) a (b), (4)(a) a (b), (5), (7) ac (8) (pob un yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 23(8) (y gweddill) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 6, pargraff 23(9)(a) a (b) (yn rhannol) 15 Gorffennaf 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 24 31 Mai 2005 2005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlenni 13 i 15 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) 21 Mehefin 2004 2004/1489 (Cy.154) (C.59)
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill) 28 Mai 2005 2005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) 11 Mai 2006 2006/1279 (Cy.124) (C.42)
Atodlen 16, Rhannau V a VI 1 Mai 2001 2001/1410 (Cy.96) (C.50)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr—

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) 2005 (O.S. 2005/827) (C.34)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8) 2005 (O.S. 2005/1901) (C.81)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9) 2005 (O.S. 2005/2459) (C.104)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 10) 2005 (O.S. 2005/2752) (C.112)

    Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 2006 (O.S. 2006/1172) (C.39)


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16).back

[3] 1925 p.20.back

[4] O.S. 2004/1489 (Cy.154) (C.59).back

[5] 1981 p.69.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091466 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 13 December 2006
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010