Wedi'u gwneud | 5 Rhagfyr 2006 | ||
Yn dod i rym | 1 Ionawr 2006 |
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
25A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
25B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau .".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, eu bod yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar yn y broses pan fo'n briodol.
(8) Os bydd y weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid bod y ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cartref.
Ymdrin â Chwynion
23A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 23 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod sydd wedi trefnu i letya'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad lleol
23B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau .
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
23C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid iddo grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(4) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(5) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
23D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
3.
Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[5] fel a ganlyn —
(3) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff (2)(c)(ii) neu (4)(b) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'i rieni neu'n cadw'r cysylltiadau hynny o fewn terfynau a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar gyfathrebu at ddibenion diogelu neu hybu lles y plentyn.
(4) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
33A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
33B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref plant yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid bod y ddarpariaeth hon wedi cael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cartref.
Ymdrin â Chwynion
24A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 24 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau'r canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleoli.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad lleol
24B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i blentyn mewn cartref plant, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
24C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
(3) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid iddo grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleoli i unrhyw blentyn a gaiff ei letya yn y cartref plant.
(5) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(6) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
24D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel "cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol".
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan paragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
4.
Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[6] fel a ganlyn —
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
3B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant perthnasol.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
3C.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi i ofalu am blant perthnasol yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar y gofal a ddarperir i blant perthnasol.
Ymdrin â chwynion
14A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 14 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd yn cael ei ddarparu i blentyn perthnasol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac y neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
14B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darpariaeth i warchod plentyn neu ofal dydd i blentyn perthnasol, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
14C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darpariaeth i warchod plentyn neu ofal dydd i blentyn perthnasol.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
14D
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003
5.
Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[7] fel a ganlyn —
ar ansawdd y gofal maeth sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal maeth, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
42A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant a leolwyd ganddo.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yr asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
42B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd am y camau y mae'n rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd er mwyn sicrhau cydymffurfedd â gofynion Deddf 1989 a Deddf 2000 ac ag unrhyw reoliadau a wneir odanynt
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff(1).
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth faethu annibynnol yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth faethu annibynnol.
Ymdrin â chwynion
18A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 18 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r darparydd gwasanaethau maethu yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Caiff y darparydd gwasanaeth maethu, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
18B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y darparydd gwasanaeth maethu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo, gadarnhau datrysiad lleol cwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
18C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y darparydd gwasanaeth maethu i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi o ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person confrestig.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
18D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r darparydd gwasanaethau maethu y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r darparydd gwasanaethau maethu yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r darparydd gwasanaethau maethu yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
6.
Diwygir Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[8] fel a ganlyn —
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
23A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r preswylwyr yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
23B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi i weithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd.
Ymdrin â chwynion
20A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 20 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y preswylydd yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r preswylydd.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod sydd wedi trefnu i letya'r preswylydd yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
20B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i breswylydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
20C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i breswylydd yn y cartref preswyl i deuluoedd.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig."
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
20D
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003
7.
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[9] fel a ganlyn —
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
19A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
19B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwyno.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
Ymdrin â chwynion
18A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwyno a lunnir o dan reoliad 18 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol neu'r corff iechyd sydd wedi trefnu i wasanaethau gael eu darparu i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
18B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
18C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu i ddarparu gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
18D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004
8.
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004[10] fel a ganlyn —
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
22A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o ansawdd gweithredu'r cynllun gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal sy'n cael eu darparu i oedolion perthnasol drwy'r cynllun.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
22B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y gofalwyr lleoliad oedolion a'r staff sy'n cael eu cyflogi at ddibenion y cynllyn yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r drefn gwyno.
(6) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys —
(7) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cynllun.
Ymdrin â chwynion
21A.
—(1) Rhaid i'r drefn gwyno a lunnir o dan reoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles yr oedolyn perthnasol yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r oedolion perthnasol.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
21B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu llety i oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
21C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu lleoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
21D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
9.
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[11] fel a ganlyn —
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
23A.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
23B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno a chael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwyno.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
Ymdrin â chwynion
21A.
—(1) Rhaid i'r weithdrefn gwyno a lunnir yn unol â rheoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol neu'r corff iechyd sydd wedi trefnu i wasanaethau gael eu darparu i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
Datrysiad Lleol
21B.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu'r gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
Ystyriaeth Ffurfiol
21C.
—(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu'r gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
Cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol
21D.
—(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005
10.
—(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005[12] fel a ganlyn —
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
Asesu'r Gwasanaeth
26B.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
Hysbysu am gydymffurfedd
26C.
—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â Deddf 2000 a Deddf 2002 ac ag unrhyw reoliadau a wneir odanynt.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.".
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion a chael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac mewn cyfnod cynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.".
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.".
Diwygio Rheoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
11.
Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[13], yn lle "carry on" rhodder "manage".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[14]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006
[4] O.S. 2002/324 (Cy.37).back
[5] O.S. 2002 Rhif 327 (Cy.40).back
[6] O.S. 2002 Rhif 812 (Cy.92).back
[7] O.S. 2003 Rhif 237 (Cy.35).back
[8] O.S. 2003 Rhif 781 (Cy.92).back
[9] O.S. 2003 Rhif 2527 (Cy.242).back
[10] O.S. 2004 Rhif 1756 (Cy.188).back
[11] O.S. 2004 Rhif 219 (Cy.23).back
[12] O.S. 2005 Rhif 1514 (Cy.118).back
[13] O.S. 2002 Rhif 919 (C.107).back