British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 Rhif 3108 (Cy.287)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063108w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3108 (Cy.287)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
22 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
27 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 13(1) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 1988[
1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach (Disgrifio Bwyd Cychwyn Iach) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 27 Tachwedd 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn:
ystyr "buddiolwr" ("beneficiary") yw person sydd â hawl i fudd-dal yn unol â rheoliadau 3 a 4 o'r prif reoliadau;
ystyr "bwyd Cychwyn Iach" ("Healthy Start food") yw'r bwyd a bennir yng Ngholofn 1 (categori o fwyd) yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn fel y'i goleddfir yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno;
ystyr "cynllun Cychwyn Iach" ("Healthy Start scheme") yw'r cynllun a sefydlwyd gan y prif Reoliadau;
ystyr "fitaminau Cychwyn Iach" ("Healthy Start vitamins") yw'r fitaminau a bennir yn rheoliad 3; ac
ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio) 2005[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.
Nodir bwyd Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru fel a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
3.
Tabledi neu ddiferion fitamin sy'n cynnwys fitaminau sy'n briodol i'r buddiolwr sy'n eu cael yw fitaminau Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2006
YR ATODLEN
Categori o fwyd
|
Goleddfiad
|
Llaeth |
Llaeth gwartheg hylif, gan gynnwys mathau hir-oes, pastiwreiddiedig, neu fathau a driniwyd ag uwch-wres, ond nid llaeth yr ychwanegwyd cemegion, fitaminau, cyflasau neu liwiau iddo neu laeth y'u tynnwyd oddi wrtho. |
Fformiwla babanod |
Bwyd ac iddo sylfaen o laeth gwartheg ac a fwriedir yn benodol i'w ddefnyddio'n faethol gan fabanod sydd mewn iechyd da ac sy'n diwallu ar ei ben ei hun anghenion maethol y babanod hynny. |
Ffrwythau a llysiau ffres |
Ffrwythau a llysiau ffres gan gynnwys ffrwythau a llysiau rhydd, wedi'u rhagbacio, cyfain, wedi'u tafellu, wedi'u torri, neu wedi'u cymysgu, ond nid ffrwythau na llysiau yr ychwanegwyd halen, siwgr, perlysiau neu unrhyw gyflasyn arall iddynt. |
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Yn unol ag adrannau 13(1) a (6) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 ("Deddf 1988"), mae gan y Cynulliad y pŵer i ragnodi'r bwydydd Cychwyn Iach sydd ar gael fel rhan o'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.
Mae'r diffiniad o fwyd yn adran 13(11) o Ddeddf 1988 yn cynnwys fitaminau.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y bwyd Cychwyn Iach o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru fel a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 3 yn darparu disgrifiad o fitaminau Cychwyn Iach a fydd yn gymwys o ran gweithredu'r cynllun Cychwyn Iach yng Nghymru.
Daw'r Rheoliadau i rym ar 27 Tachwedd 2006.
Mae'r cynllun Cychwyn Iach yn gynllun er budd menywod beichiog, mamau a phlant cymwys a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio) 2005, fel y'u diwygiwyd.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
1988 p.7. Amnewidiwyd adran 13 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 gan adran 185 o Ddeddf Iechyd a Gofal cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43).back
[2]
O.S. 2005/3262, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2006/589 a Rheoliadau'r Cynllun Cychwyn Iach a Bwyd Lles (Diwygio Rhif 2) 2006 (OS 2006/2818).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091455 4
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
30 November 2006
|