British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 Rhif 3103 (Cy.286)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063103w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3103 (Cy.286)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 55(4), 56(3), 57(7), (9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005[
1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
Dehongli
2.
—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr "adroddiad o arolygiad" ("inspection report") yw'r adroddiad ar arolygiad y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 57(7);
ystyr "cynllun gwaith" ("action plan") yw'r datganiad ysgrifenedig sy'n ymateb i adroddiad o arolygiad y cyfeirir ato yn adran 57(9) a rheoliad 6.
ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2],
ystyr "Deddf 2005" ("the 2005 Act") yw Deddf Addysg 2005;
ystyr "gwyl y banc" ("bank holiday") yw diwrnod sy'n wyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[3];
ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn wyl y banc;
ystyr "y Prif Arolygydd" ("the Chief Inspector") yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi ar Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru[4]; ac
mae i "service provider" a "relevant provider" yr ystyron a roddir iddynt gan adrannau 55 a 56 yn eu tro;
(2) Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at adrannau (heb fwy) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005.
Arolygiadau cyntaf
3.
—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei archwilio o'r blaen naill ai o dan adran 35 neu 35A o Ddeddf 1998[5] nac o dan adran 55 neu 56.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, mae'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol i gael ei arolygu o dan adran 55 neu 56 (yn ôl y digwydd), o fewn cyfnod o chwe blynedd o'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol gyntaf yn ddarparydd o'r fath.
Bylchau rhwng arolygiadau olynol
4.
—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, rhaid i'r Prif Arolygydd wneud arolygiad, o dan adran 55, ar bob darparydd gwasanaeth, ac o dan adran 56 ar bob darparyddperthnasol, ar ôl pob bwlch o chwe blynedd.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae bylchau yn cychwyn o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf ar y darparydd gwasanaeth (o dan adran 35 o Ddeddf 1998 neu adran 55) neu ar y darparydd perthnasol (o dan adran 35A o Ddeddf 1998 neu adran 56).
Y cyfnod ar gyfer paratoi adroddiad o arolygiad
5.
Y cyfnod y mae adroddiad o arolygiad i gael ei baratoi o'i fewn yw deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad pryd y cwblhawyd yr arolygiad arno.
Dyletswydd i baratoi cynllun gwaith
6.
Rhaid i berson sy'n cael arolygiad dan adran 55 neu 56 baratoi adroddiad ysgrifenedig sy'n ymateb i'r adroddiad o arolygiad gan osod allan y camau fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad o arolygiad neu i weithredu unrhyw argymhellion a geir yn yr adroddiad, a'r graddfeydd amser ar gyfer cymryd y camau hynny neu ar gyfer gweithredu'r argymhellion hynny (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "cynllun gwaith").
Y cyfnod ar gyfer paratoi cynllun gwaith
7.
Y cyfnod y mae'n rhaid i berson sy'n cael archwiliad dan adran 55 neu 56 baratoi cynllun gwaith o'i fewn yw hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y cafodd y person hwnnw gopi o'r adroddiad o arolygiad o dan adran 57(7)(b).
Darparu copïau o adroddiadau o arolygiadau a chynlluniau gwaith a'u cyhoeddi
8.
—(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd anfon copi o adroddiad o arolygiad at y personau a ddynodir ym mharagraff (3) (yn ychwanegol at y rheini a ddynodir yn adran 57(7)(b)(i), (ii) a (iv) o Ddeddf 2005).
(2) Rhaid i'r person sydd wedi paratoi cynllun gwaith anfon copi ohono at y personau a ddynodir ym mharagraff (3).
(3) Y personau hynny yw—
(a) y Prif Arolygydd; a
(b) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
9.
Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adrannau 55 — 57 o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu ar gyfer arolygiad o'r gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru gan y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) Mae'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau cyfyngedig â gwarantau, sy'n gweithredu ar y cyd fel Gyrfa Cymru. Mae darpariaethau Deddf 2005 yn cymryd lle'r darpariaethau a geid gynt yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r gofynion parthed arolygiad yn cael eu tynhau a'u gwneud yn fwy cyfatebol i'r rheini sy'n gymwys i ysgolion. Mae adrannau 55 — 57 yn darparu fframwaith, gan adael y manylion i gael eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny.
Mae Rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae Rheoliad 3 yn delio ag arolygiadau cyntaf. Rhaid i ddarparydd gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau eraill na chafodd ei arolygu o'r blaen gael ei arolygu o fewn cyfnod o chwe mlynedd o'r dyddiad pryd y daeth gyntaf yn ddarparydd.
Mae Rheoliad 4 yn darparu fod darparwyr presennol i gael eu harolygu bob chwe blynedd. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad o arolygiad gael ei baratoi o fewn deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad cwblhau'r arolygiad.
Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gwaith (fel a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw) gael ei baratoi yn dilyn arolygiad.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gwaith gael ei baratoi o fewn cyfnod o hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y derbyniodd y darparydd gopi o'r adroddiad o'r arolygiad.
Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer anfon copïau o adroddiadau a chynlluniau gwaith i bersonau dynodedig, ac ar gyfer eu cyhoeddi yn swyddfeydd y darparydd ac ar y rhyngrwyd.
Notes:
[1]
2005 p.18. Daw adrannau 55-57 i rym ar 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130 (C.45). Ar gyfer "prescribed" a "regulations", gweler adran 55(8).back
[2]
1998 p.30.back
[3]
1971 p.80.back
[4]
Gweler adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.back
[5]
1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091456 2
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
30 November 2006
|