Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 3101 (Cy.285)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063101w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3101 (Cy.285)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Rhagfyr 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("
the principal Regulations") yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005[
3].
Diwygio Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau
3.
Mae Rheoliad 2(1) wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (a) — (ch)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn 795/2004" mewnosoder ", fel y diwygiwyd y Rheoliad Comisiwn hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1291/2006"[4];
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn 1973/2004" mewnosoder ", fel y diwygiwyd y Rheoliad Comisiwn hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1250/2006"[5];
(c) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor" mewnosoder ", fel y diwygiwyd y Rheoliad Cyngor hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 953/2006"[6];
(ch) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004" mewnosoder "fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005"[7].
Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
4.
Yn Rheoliad 6(5) o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau "31 Ionawr" rhodder y geiriau "9 Chwefror".
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
5.
—(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (8):
(2) Ar ôl paragraff 7(3) mewnosoder—
"
(4) Ym mhob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) yn cael ei weithredu, bydd ffermwr yn rhinwedd y ddarpariaeth hon yn cael ei drin fel un sy'n esempt rhag gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn unrhyw un o'r amgylchiadau a bennir yn is-baragraffau (5) i (7).
(5) Mae'r amgylchiad cyntaf yn codi —
(a) pan fyddo'r ffermwr wedi cymryd pob cam rhesymol i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau tymor y gorchudd glas;
(b) pan fyddo'r gorchudd glas wedi methu ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac
(c) pan fyddo'r ffermwr wedi gadael y gorchudd glas a fethodd i ganiatáu aildyfiant naturiol.
(6) Mae'r ail amgylchiad yn codi pan fyddo'r ffermwr—
(a) wedi hau cnwd ar y tir hwnnw cyn 1 Hydref yn y flwyddyn flaenorol er mwyn ei gynaeafu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw;
(b) wedi cynaeafu'r cnwd hwnnw ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a chyn dechrau'r tymor gorchudd glas; ac
(c) wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(7) Mae'r trydydd amgylchiad yn codi—
(a) pan fyddo'r ffermwr wedi hau cnwd ar y tir hwnnw cyn 1 Hydref yn y flwyddyn flaenorol i'w gynaeafu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw;
(b) pan fyddo'r cnwd wedi methu gyda'r canlyniad nad oedd yn gallu dwyn cynhaeaf cyn dechrau'r tymor gorchudd glas ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac
(c) pan fo'r ffermwr wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(8) Rhaid i ffermwr, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle caniataodd aildyfiant naturiol fel y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (5) i (7), gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon sy'n ymwneud ag opsiwn yr aildyfiant naturiol.
(9) Pan fo ffermwr yn cael ei drin fel un sy'n esempt yn rhinwedd is-baragraff (4), caiff sefydlu gorchudd glas serch hynny ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas drwy hau—
(a) hadau o fath perthnasol; neu
(b) cymysgedd perthnasol o hadau.
(10) Rhaid i'r ffermwr hwnnw, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas hwnnw wedi'i sefydlu, gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud—
(a) pan fo'r hadau a heuwyd yn hadau o fath perthnasol, ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; a
(b) pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt.".
(3) Ym mharagraff 9 yn lle'r Rhif "15" , rhodder y Rhif "17".
(4) Ym mharagraff 11(2), yn lle'r gair "baragraff" rhodder y gair "is-baragraff".
(5) Ym mharagraff 12 rhodder "12(1)" yn lle "12" ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder y canlynol —
"
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Mai caiff ffermwr drin tir organig sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn.
(3) Yn y paragraff hwn —
ystyr "Compendium of UK Organic Standards" yw'r argraffiad Gorffenhaf 2005 o'r Compendium of UK Organic Standards, a gyhoeddwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;
ystyr "Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991" ("Council Regulation (EEC) No 2092/1991") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991[8] ar gynhyrchu cynhyrchion a bwydydd amaethyddol yn organig, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 780/2006[9];
ystyr "tir organig" ("organic land") yw tir sydd —
(a) yn cael ei reoli yn unol â'r dull cynhyrchu organig o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991 fel ag y mae'n ymwneud â thir sy'n hollol organig, neu dir sy'n troi'n organig o dan y Rheoliad Cyngor hwnnw, fel y'i darllenir (yn y naill achos a'r llall) gydag unrhyw ddarpariaethau ychwanegol a nodir yn y Compendium of UK Organic Standards; a
(b) yn ddarostyngedig i'r system arolygu o dan Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991.".
(6) Ym mharagraff 13, mae is-baragraff (4) wedi'i ddileu.
(7) Ym mharagraff 14(2)(a), yn lle'r geiriau "baragraffau 11(3) a 13(4)" rhodder y geiriau "baragraff 11(3)".
(8) Ar ôl paragraff 15, ychwaneger y canlynol —
"
Taenu plaleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
16.
—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 17, rhaid i ffermwr beidio â thaenu plaleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol.
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Gorffennaf caiff ffermwr daenu plaleiddiaid, ond nid plaleiddiaid sy'n fioleiddiaid, at ddibenion paratoi ar gyfer hau.
(3) Yn y paragraff hwn —
(a) ystyr "pla" ("pest") yw unrhyw organedd sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion pren neu gynhyrchion planhigion eraill, unrhyw blanhigyn nas dymunir ac unrhyw greadur niweidiol; a
(b) ystyr "plaleiddiaid" ("pesticides") yw unrhyw sylwedd, paratoad neu organedd a baratowyd neu a ddefnyddiwyd i ddifa unrhyw bla.
Taenu chwynleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
17.
—(1) Yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol caiff ffermwr daenu chwynleiddiad cyn 15 Ebrill ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y cyfnod neilltir cyfredol, caiff ffermwr daenu chwynleiddiad ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/45, Cy.4) ("y prif Reoliadau").
Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru i weinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L. 270, 21.10.2003, t.1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L. 141, 30.4.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L. 345, 20.11.2004, t.1) ynglŷn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl ar gyfer ffermwyr ("y Cynllun"). Daeth y Cynllun i rym ar 1 Ionawr 2005.
Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ran y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo o dan y Cynllun hwn, fel a ganlyn —
(i) maent yn ychwanegu esemptiadau pellach rhag y gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol (rheoliad 5(2));
(ii) maent yn ychwanegu darpariaeth sy'n caniatáu i ffermwyr drin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar neu ar ôl 1 Mai, ac sy'n dir organig, at ddibenion rheoli chwyn (rheoliad 5(5));
(iii) maent yn dileu'r cyfyngiad ar bori ar ôl y cyfnod neilltuo pan fo'r gorchudd glas wedi'i amnewid (rheoliad 5(6));
(iv) maent yn ychwanegu dau baragraff newydd sy'n gwahardd defnyddio plaleiddiaid a chwynleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir (rheoliad 5(8)).
Notes:
[1]
O.S. 2005/2766.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2005/45.back
[4]
O.J. Rhif L236, 31.08.2006, t. 20.back
[5]
O.J. Rhif L227 19.08.2006, t.23.back
[6]
O.J. Rhif L175, 29.06.2006, t.1.back
[7]
O.S. 2005/3367 (Cy.264).back
[8]
O.J. Rhif L198, 22.7.1991, t. 1 — 15.back
[9]
O.J. Rhif L137, 25.5.2006, t. 9 — 14.back
[10]
O.S. 1986/1510.back
[11]
O.S. 2005/1435.back
[12]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091454 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
30 November 2006
|