Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 Rhif 3100 (Cy.284)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063100w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3100 (Cy.284)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2006 | |
TREFN Y RHEOLIADAU
RHAN 1
CYFFREDINOL
RHAN 2
PANELAU
RHAN 3
Y WEITHDREFN
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9 a 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[
1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol—
RHAN 1
CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006.
(2) Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "ceisydd" ("applicant")—
(a) yn achos penderfyniad ar addasrwydd, yw darpar fabwysiadydd;
(b) yn achos penderfyniad i ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr "relevant person" yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;
ystyr "cyfarfod adolygu" ("review meeting") yw cyfarfod a gynullir yn unol â rheoliad 13 at ddibenion adolygu penderfyniad cymhwysol;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr "gweithiwr cymdeithasol" ("social worker") yw person sydd wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol ar gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2] neu ar gofrestr gyfatebol sy'n cael ei chadw o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr "panel" ("panel") yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr "panel mabwysiadu" ("adoption panel") yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
ystyr "penderfyniad ar addasrwydd" ("suitability determination") yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr "penderfyniad cymhwysol" ("qualifying determination") yw penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);
ystyr "penderfyniad i ddatgelu" ("disclosure determination") yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu[3];
ystyr "y Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2005" ("the Independent Review Regulations 2005") yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadau) (Cymru) 2005[4];
ystyr "y Rheoliadau Asiantaethau" ("the Agencies Regulations") yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005[5];
ystyr "y Rheoliadau Datgelu" ("the Disclosure Regulations") yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005[6]; ac
mae "y rhestr ganolog" ("the central list") i'w dehongli yn unol â rheoliad 4.
Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.
3.
At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, mae penderfyniad cymhwysol—
RHAN 2
PANELAU
Cyfansoddi panelau
4.
—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 11, gyfansoddi panel i adolygu'r penderfyniad cymhwysol.
(2) Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y rhestr ganolog") a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o bersonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel.
(3) Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys—
(a) gweithiwr cymdeithasol o fewn ystyr "social worker" yn Rhan IV o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a hwnnw'n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwaith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd; a
(b) personau eraill y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas i fod yn aelodau gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau â phrofiad personol o fabwysiadu.
Aelodaeth o'r Panelau
5.
—(1) Mwyafswm nifer y personau y caniateir eu penodi i banel yw pump.
(2) Rhaid i banel gael ei gynghori:
(a) gan weithiwr cymdeithasol o fewn ystyr "social worker" yn Rhan IV o'r Ddeddf Safonau Gofal gyda chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol;
(b) gan ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu.
(3) Pan fo'r panel yn credu fod hynny'n briodol, caiff ei gynghori gan
(a) Cynghorydd Cyfreithiol â gwybodaeth ac arbenigedd mewn deddfwriaeth fabwysiadu;
(b) Unrhyw berson arall y mae'r panel yn ystyried fod ganddo arbenigedd perthnasol o ran y penderfyniad sy'n cael ei ystyried.
(4) Pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu'n benderfyniad i ddatgelu, mae'n rhaid i'r panel gynnwys o leiaf ddau berson sy'n dod o fewn rheoliad 4(3)(a).
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a) penodi i gadeirio panel berson a chanddo'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gadeirio panel; a
(b) yn achos panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd, penodi un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw swydd y cadeirydd yn wag.
(6) Rhaid peidio â phenodi person i banel—
(a) os yw'r person hwnnw'n aelod o banel mabwysiadu'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol;
(b) os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud, yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd neu os yw neu os yw wedi bod yn aelod o'r awdurdod hwnnw;
(c) os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn un o gyflogeion neu ymddiriedolwyr yr asiantaeth honno, neu os yw wedi bod yn un ohonynt yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud;
(ch) os yw'r person hwnnw yn berthynas i berson sy'n dod o dan is-baragraff (a), (b) neu (c);
(d) os yw'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda'r person hwnnw o fewn y ddwy flynedd diwethaf;
(dd) os oedd y person hwnnw wedi'i gymeradwyo fel darpar fabwysiadydd o fewn y ddwy flynedd diwethaf gan yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol; neu
(e) os yw'r person hwnnw yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae "cyflogedig" ("employed") yn cynnwys bod yn gyflogedig p'un ai am daliad neu beidio a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr; a
(b) mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A—
(i) yn aelod o aelwyd person B, neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;
(ii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B; neu
(iii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person y person y mae person B yn briod ag ef neu hi neu y mae person B wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef neu hi;
Cyfarfodydd y panelau
6.
Bydd trafodion y panel yn cael eu hannilysu oni bai bod o leiaf bedwar o'i aelodau yn bresennol.
Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd
7.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad ar addasrwydd.
(2) Rhaid i banel—
(a) adolygu'r penderfyniad ar addasrwydd; a
(b) cyflwyno argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
(3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—
(a) rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau Asiantaethau;
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i ddarparu unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac
(c) caiff y panel sicrhau'r cyngor cyfreithiol y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.
Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad i ddatgelu
8.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad i ddatgelu.
(2) Rhaid i banel adolygu'r penderfyniad i ddatgelu a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad i ddatgelu argymhelliad ynghylch a ddylai'r asiantaeth fwrw ymlaen â'i phenderfyniad gwreiddiol.
(3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—
(a) rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 13A o'r Rheoliadau Datgelu;
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i roi unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac
(c) caiff y panel sicrhau cyngor cyfreithiol o'r fath neu gyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr ganolog y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos; ac
(ch) rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson mabwysiedig ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig, rhaid i les y plentyn hwnnw fod yn bwysicach na dim. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.
Gweinyddu'r Panelau
9.
Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd rhaid iddo wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.
Ffioedd aelodau panel
10.
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.
Cofnodion
11.
Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhelliad ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad y mwyafrif, yn cael ei gadw—
(a) am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad y cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno; a
(b) o dan amodau diogelwch priodol .
RHAN 3
Y WEITHDREFN
Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol
12.
—(1) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.
(2) Yn achos penderfyniad ar addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unig a gaiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.
Penodi panel a chynnal adolygiad
13.
Ar ôl cael cais sydd wedi'i wneud yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) hysbysu o fewn 5 niwrnod gwaith yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol fod y cais wedi'i wneud drwy anfon at yr asiantaeth gopi o'r cais;
(b) anfon o fewn 5 niwrnod gwaith gydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r cais at y ceisydd a'i hysbysu o'r camau a gymerwyd o dan is-baragraff (a);
(c) penodi panel o fewn 25 niwrnod gwaith yn unol â rheoliad 4 a phennu dyddiad, amser a lleoliad i'r panel gyfarfod at ddibenion cyfarfod adolygu;
(ch) Ar ôl cymryd y camau a ragnodwyd yn is-baragraff (c), a heb fod yn llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer adolygu, hysbysu'n ysgrifenedig y ceisydd a'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol—
(i) o'r ffaith bod y panel wedi'i benodi; a
(ii) o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod adolygu;
(2) Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y panel yn cael yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad cyn gynted ag y bo modd ond dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr adolygiad.
Argymhelliad y panel
14.
—(1) Pan na fydd argymhelliad y panel yn unfrydol, rhaid i'r argymhelliad fod yn argymhelliad y mwyafrif.
(2) Caniateir i'r argymhelliad gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw yn ôl.
(3) Rhaid i'r argymhelliad a'r rhesymau drosto ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad mwyafrif gael eu cofnodi'n ddi-oed mewn dogfen a gaiff ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yn ddi-oed, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r argymhelliad yn cael ei wneud, gopi o'r argymhelliad a'r rhesymau drosto at y ceisydd ac i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol.
Gorchymyn i dalu costau
15.
Caiff y panel wneud gorchymyn i'r asiantaeth fabwysiadu y cafodd y penderfyniad cymhwysol a adolygwyd ei wneud ganddi dalu'r costau y mae'r panel yn eu hystyried yn rhesymol.
Diwygio Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005
16.
—(1) Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005[8] wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
"
mae i "asiantaeth fabwysiadu briodol" yr un ystyr ag "appropriate adoption agency" yn adran 65(1) o'r Ddeddf;" ac
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru."
(3) Ar ôl rheoliad 13 (Cofnod o sylwadau) mewnosoder y rheoliad canlynol—
"
Adolygu'n Annibynnol—
13A
(1) Mae'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (adolygu penderfyniadau'n annibynnol) —
(a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir;
(b) datgelu gwybodaeth i geisydd am berson pan fo'r person wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth;
(c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd os yw'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw —
(a) datgan y rhesymau dros y penderfyniad; a
(b) hysbysu'r person perthnasol y caiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith, gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol.
(3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y person perthnasol wedi gwneud cais am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd yr asiantaeth yr hysbysiad hwnnw, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —
(a) copi o'r cais am ddatgelu gwybodaeth;
(b) copi o'r hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2);
(c) cofnod o unrhyw sylwadau a gafwyd gan yr asiantaeth o dan adran 61(3) o'r Ddeddf; ac
(ch) unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gan y panel.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio â chymryd unrhyw gamau yn unol â'i benderfyniad gwreiddiol—
(a) cyn bod y panel adolygu annibynnol wedi cyflwyno ei argymhelliad; neu
(b) os na fydd y person wedi gwneud cais am adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 20 niwrnod gwaith, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried unrhyw argymhelliad gan y panel adolygu annibynnol wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol.
(6) Ym mharagraff (3)—
(a) mae'r cyfeiriad at banel adolygu annibynnol yn gyfeiriad at banel a gyfansoddwyd at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf; a
(b) ystyr "diwrnod gwaith" yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr "bank holiday" yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
(7) Yn y rheoliad hwn "y person perthnasol"—
(a) yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(a) neu (c), yw'r ceisydd;
(b) yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b) neu (c), yw'r person y mae'r wybodaeth a ddiogelir yn ymwneud ag ef."
Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod Penodedig
17.
—(1) O ran unrhyw gais gan ddarpar fabwysiadydd ar gyfer adolygad o benderfyniad cynhwysol a waned cyn y diwrnod Penodedig rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad a gymerwyd cyn y diwrnod Penodedig o dan ddarpariaeth o Reoliadau Adolygu Annibyynnol 2005, ar y diwrnod Penodedig neu ar ei ol, gael ei thrin neu'i drin fel pebai'n weithred neu'n benderfyniad o dan y ddardpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn y rheoliad hun ystyr "diwrnod penodedig" yw 31 Rhagfyr 2006.
Dirymu
18.
Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005[9] drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Deddf"). Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn gwneud darpariaeth i banel annibynnol adolygu mewn dau fath o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 nad yw'n bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn neu benderfyniad ar ôl adolygiad nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn. Mae penderfyniad o'r fath wedi'i bennu yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn fel penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Mae'r penderfyniadau hyn wedi'u pennu mewn rheoliad 13A newydd o'r Rheoliadau hynny fel penderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth panelau, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a gwaith cadw cofnodion y panelau sy'n cael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan geisir penderfyniad cymhwysol gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2.
Notes:
[1]
2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31).back
[2]
Deddf Safonau Gofal 2000, p.14.back
[3]
Mae Rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol, mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd pan fo'r person hwnnw wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth.back
[4]
2005/1891 (Cy.147).back
[5]
O.S. 2005/1313.back
[6]
O.S. 2005/2689.back
[7]
Gweler rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn.back
[8]
O.S. 2005/2689 (Cy. 189).back
[9]
2005/1819 (Cy.147).back
[10]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091450 3
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
5 December 2006
|