British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3097 (Cy.281)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063097w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3097 (Cy.281)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
23 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[
1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno[
2]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru ynghylch cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn o beidio â chasglu perthnasol" yw cwestiwn o beidio â chasglu o dan Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ac—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005
2.
Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2005[3], mewnosoder "cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un a gyfeirir at baragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006".
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
3.
—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[4] fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,575" ym mhob man y'i gwelir rhodder "£1,625".
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, rhodder "£12,470" yn lle "£12,182".
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—
(1) Part of relevant income to which specified percentage applies
|
(2) Only assisted pupil (% )
|
(3) Each of two assisted pupils (% )
|
Each of three assisted pupils (% )
|
That part (if any) which exceeds £12,304 but does not exceed £13,380. |
9 |
6.75 |
5.25 |
That part (if any) which exceeds £13,380 but does not exceed £14,472. |
12 |
9 |
7 |
That part (if any) which exceeds £14,472 but does not exceed £16,637. |
15 |
11.25 |
8.75 |
That part (if any) which exceeds £16,637 but does not exceed £19,977. |
21 |
15.75 |
12.25 |
That part (if any) which exceeds £19,977 but does not exceed £24,331. |
24 |
18 |
14 |
That part (if any) which exceeds £24,331 |
35 |
24.75 |
19.25 |
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]
Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") ymhellach.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn o beidio â chasglu yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 fel nas cesglir oddi wrtho ffioedd sy'n daladwy am addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.
Mae'r swm sydd i'w dynnu o'r incwm perthnasol o ran perthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,575 i £1,625.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf modd ar gyfer ad-dalu ffioedd: gosodir lefel yr incwm na chesglir y ffioedd, naill ai yn gyfangwbl neu'n rhannol, arno neu islaw iddo ar £12,470 yn lle £12,182, gyda chynnydd cyfatebol yng ngraddau'r ad-daliadau pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw.
Notes:
[1]
1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).back
[2]
Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2005/2838 (Cy. 202).back
[4]
O.S. 1997/1968. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1938 (Cy. 136), O.S. 2001/2680 (Cy. 221), O.S. 2002/1879 (Cy. 188), O.S. 2003/1854 (Cy. 204), O.S. 2004/1812 (Cy. 197) ac O.S. 2005/2838 (Cy. 202).back
[5]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11 091462 7
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
4 December 2006
|