British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3009 (Cy.283)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063009w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 3009 (Cy.283)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006
|
Wedi'u gwneud |
21 Tachwedd 2006 | |
|
Yn dod i rym |
30 Tachwedd 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[
2] o ran y gofyniad i gael asesiad o effaith ar yr amgylchedd o brosiectau sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd, drwy arfer y pwerau hynny, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[
3] ac sy'n arferadwy bellach o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[
4], a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at y rheoliad hwnnw yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 ("Rheoliadau 1999")[5].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau 1999
2.
Diwygir Rheoliadau 1999 yn unol â rheoliadau 3 i 19 o'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 2
3.
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) ar ôl y diffiniad o "the 1995 Act" mewnosoder —
"
"any other information" means any other substantive information relating to the environmental statement and provided by the applicant or appellant as the case may be;
"any particular person" includes any non-governmental organisation promoting environmental protection;";
(b) yn y diffiniad o "the consultation bodies", ar ôl is-baragraff (b)(iii), dileer "and" ac, ar ôl is-baragraff (b)(iv), mewnosoder—
(v) other bodies designated by statutory provision as having specific environmental responsibilities and which the local planning authority or the Secretary of State, as the case may be, considers are likely to have an interest in the application;";
(c) yn y diffiniad o "environmental information", ar ôl "further information" mewnosoder "and any other information";
(ch) yn y diffiniad o "exempt development", dileer "which comprises or forms part of a project serving national defence purposes or";
(d) ar ôl y diffiniad o "the land", mewnosoder—
"
"by local advertisement", in relation to a notice, means—
(a) by publication of the notice in a newspaper circulating in the locality in which the land to which the application or appeal relates is situated; and
(b) where the local planning authority maintains a website for the purpose of advertisement of applications, by publication of the notice on the website;".
Diwygio rheoliad 4
4.
Yn rheoliad 4 (darpariaethau cyffredinol o ran sgrinio), yn lle paragraff (4) rhodder—
Diwygio rheoliad 7
5.
Yn rheoliad 7 (gwneud cais i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
Diwygio rheoliad 8
6.
Yn rheoliad 8 (cais a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol heb ddatganiad amgylcheddol), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
Diwygio rheoliad 9
7.
Yn rheoliad 9 (apelio i'r Ysgrifennydd Gwladol heb ddatganiad amgylcheddol), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
Diwygio rheoliad 13
8.
Yn rheoliad 13 (y weithdrefn pan gyflwynir datganiad amgylcheddol i awdurdod cynllunio lleol)—
Diwygio rheoliad 14
9.
Yn rheoliad 14 (cyhoeddusrwydd pan gyflwynir datganiad amgylcheddol ar ôl y cais cynllunio), ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
Diwygio rheoliad 19
10.
Yn rheoliad 19 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddol)—
Diwygio rheoliad 20
11.
Yn rheoliad 20 (argaeledd opiniynau, cyfarwyddiadau etc. i'w harchwilio), ym mharagraff (1)(g) ar ôl "further information" mewnosoder "and any other information".
Diwygio rheoliad 21
12.
Yn rheoliad 21 (dyletswyddau i hysbysu'r cyhoedd a'r Ysgrifennydd Gwladol o benderfyniadau terfynol)—
Diwygio rheoliad 22
13.
Yn rheoliad 22 (datblygiad gan awdurdod cynllunio lleol), ym mharagraff (c) o reoliad 13(1) a amnewidiwyd gan baragraff (1)(e), yn lle "three" rhodder "two".
Diwygio rheoliad 25
14.
Yn rheoliad 25 (datblygiad nas awdurdodwyd)—
Diwygio rheoliad 27
15.
Yn rheoliad 27 (datblygiad yng Nghymru a Lloegr sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol mewn Gwladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd)—
Diwygio rheoliad 28
16.
Yn rheoliad 28 (prosiectau mewn Gwladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n debygol o gael effeithiau trawsffiniol arwyddocaol)—
Diwygio Atodlen 1
17.
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 20 ychwaneger—
Diwygio Atodlen 2
18.
Yn Atodlen 2, ym mharagraff 13(a) yng ngholofn 1 (disgrifiad o'r datblygiad), ar ôl "in Schedule 1" mewnosoder "(other than a change or extension falling within paragraph 21 of that Schedule)".
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 ("Gorchymyn 1995")[6]
19.
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn 1995, yn lle'r diffiniad o ""environmental information" ac "environmental statement"" rhodder—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293) ("Rheoliadau 1999") drwy weithredu erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 26 Mai 2003 (OJ L 156, 25.6.2003, t.17 a honno'n ddogfen y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y Gyfarwyddeb") i'r graddau y mae'n effeithio ar gyfranogiad cyhoeddus yn y broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau ac apelau sy'n ymwneud â datblygu y mae'n ofynnol asesu ei effeithiau amgylcheddol.
Mae'r Gyfarwyddeb yn darparu i'r cyhoedd gael cyfranogi yn y broses o lunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd ac yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ L 175, 5.7.1985, t.40) (fel y'i diwygiwyd gan 97/11/EC (OJ L 73, 14.3.1997, t.5) a Chyfarwyddeb y Cyngor 96/61/EC (OJ L 257, 10.10.1996)) ynghylch cyfranogiad cyhoeddus a mynediad at gyfiawnder.
Mae rheoliad 3 yn diwygio'r diffiniadau presennol o "consultation bodies", "environmental information" ac "exempt development" yn rheoliad 2 o Reoliadau 1999 ac yn mewnosod diffiniadau newydd o "by local advertisement", "any other information" ac "any particular person" yn y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 4 yn diwygio'r gofynion o ran cyhoeddusrwydd ynglyn â phwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan reoliad 4(4) o Reoliadau 1999 i gyfarwyddo nad yw achos eithriadol ("exceptional case") i fod yn ddarostyngedig i asesiad amgylcheddol.
Mae rheoliadau 5 i 9 yn mewnosod darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r personau a'r cymdeithasau amgylcheddol sy'n debygol o gael eu heffeithio gan gais, neu sydd â diddordeb ynddo.
Mae rheoliadau 8(a), 10(ch)(ii) a 13 yn gostwng nifer copïau'r datganiad amgylcheddol y mae angen eu darparu o dri i ddau.
Mae rheoliadau 10, 11, 14 a 15 yn estyn y gofynion o ran gwybodaeth sy'n ychwanegol at unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datganiad amgylcheddol.
Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 1999 (dyletswyddau i hysbysu'r cyhoedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o'r penderfyniadau terfynol) drwy ei gwneud yn ofynnol bod hysbysu ehangach o benderfyniadau a gwybodaeth yn cael ei ddarparu ynglyn â hawliau i herio'r penderfyniad.
Mae rheoliad 14 yn gwneud mân newidiadau o ran datblygiad nas awdurdodwyd.
Mae rheoliadau 15 a 16 yn ymwneud â phrosiectau sy'n debygol o gael effeithiau trawsffiniol.
Mae rheoliadau 17 ac 18 yn gwneud mân newidiadau i Atodlenni 1 a 2 yn Rheoliadau 1999, yn eu trefn.
Mae rheoliad 19 yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) drwy ddiweddaru diffiniad sy'n gysylltiedig ag asesiad effaith amgylcheddol sydd yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwnnw.
Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at "yr Ysgrifennydd Gwladol" neu at "the Secretary of State" i'w darllen fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 2(6) o Reoliadau 1999. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer Rheoliadau 1999 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Notes:
[1]
O.S. 2000/2812, erthygl 2 ac Atodlen 1, paragraff 2.back
[2]
1972 p.68. Cafodd pwerau galluogi adran 2(2) eu hestyn yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51).back
[3]
1990 p.8. Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 15.back
[4]
Gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672), fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 2000/253) (Cy.5).back
[5]
O.S. 1999/293, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2867.back
[6]
O.S. 1995/419.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091449 X
© Crown copyright 2006
Prepared
28 November 2006